Cyngor Llyfrau Cymru
Sut i Ddarllen
Sut i Ddarllen, sgyrsiau gonest a dadlennol am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo. Fe fyddwn ni'n trafod pob math o agweddau ar ddarllen - o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd. Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr.
Koniecznie odwiedź stronę podcastu i wesprzyj twórcę: www.llyfrau.cymru
Autor
Cyngor Llyfrau Cymru
Kategoria
Strona podcastu
Ostatni odcinek
21 kwi 2026
Gdzie słuchać?
Podcasty w aplikacji Replaio Radio Już wkrótcePodcasty trafią do aplikacji już wkrótce. Zainstaluj teraz i jako pierwszy zobacz nowe podejście do podcastów
Odcinki
Casi Wyn 21.04.2026 30:22
Yn cadw cwmni i Francesca Sciarrillo mae’r gantores a chyfansoddwr Casi Wyn. Yn wreiddiol o ddinas Bangor, Casi oedd Bardd Plant Cymru 2021-2023. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Cariad Yw yn 2024. Mae hi wedi perfformio ei cherddoriaeth ar lwyfannau SXSW, BBC Proms in the Park, yn yn ogystal â thaith genedlaethol gyda Sinfonia Cymru. Rhyddhawyd ei halbym newydd Plentyn yr Haul ddiwedd...
Malachy Edwards 07.04.2026 32:18
Yr awdur a cholofnydd Malachy Edwards yw gwestai Francesca Sciarrillo yn y bennod ddiweddaraf o Sut i Ddarllen. Yn enedigol o Lundain ac wedi’i fagu yn Ffynnon Taf, mae Malachy Edwards bellach yn byw ar Ynys Môn. Cyhoeddwyd cofiant ffeithiol-greadigol cyntaf yr awdur, Y Delyn Aur , gan Wasg y Bwthyn yn 2023, a chyrhaeddodd y llyfr Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Yn y gyfrol, mae Malachy yn...
Buddug Watcyn Roberts 25.03.2026 31:20
Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae Buddug Watcyn Roberts. Er yn ifanc mae Buddug iawn wedi bod ar ysgrifennu’n greadigol ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau creadigol: llwyfannwyd drama ganddi gan Gwmni Ifanc Frân Wen ac mae wedi cyhoeddi ei gwaith yn Codi Pais a rhifynnau Ffosfforws gan gyhoeddiadau’r Stamp. Yn y bennod mae Buddug yn tr...
Melanie Owen 11.03.2026 32:57
Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r comedïwr, y cyflwynydd ar awdur Melanie Owen. Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Mel bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn ysgrifennu am bron i ddegawd, gan gynnwys sgriptiau i Channel 4, BBC Cymru Wales a BBC Radio Cymru. Roedd ei chyfrol gyntaf, Oedolyn (ish!), ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025. Yn y bennod mae Mel yn trafod bod yn "Jacqueline Wi...
Geraint Iwan 25.02.2026 34:29
Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r awdur a’r cyflwynydd Geraint Iwan. Dros y blynyddoedd mae wedi dilyn nifer o yrfaoedd a gweithio i lu o gwmnïau gwahanol, gan gynnwys y BBC, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac amryw o gwmnïau teledu. Cyhoeddir ei gyfrol gyntaf, Storis Geraint Iwan , storis am yr hyn sy’n llechu dan yr wyneb, gan Wasg Carreg Gwalch, fis Mawrth. Yn y bennod mae Ger yn trafod ei...
Sioned Erin Hughes 11.02.2026 30:28
Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r bardd a'r awdur Sioned Erin Hughes. Daw Erin o Ben Llŷn. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Tregaron yn 2022 gyda'i chyfrol gyntaf i oedolion, Rhyngom . Hi oedd golygydd y gyfrol Byw yn fy Nghroen a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020, ac mae hefyd wedi golygu Iaith Heb Ffiniau a chyd-olygu Beyond/Tu Hwnt . Roedd ei chyfrol O'r Rhuddin ar restr...
Huw Stephens 28.01.2026 32:25
Yr awdur a’r darlledwr Huw Stephens sy’n cadw cwmni i Francesca Sciarrillo. Mae Huw Stephens yn darlledu’n ddyddiol ar BBC Radio 6 Music, ac yn cynnal sioeau wythnosol yn y Gymraeg a Saesneg ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru. Fe sefydlodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a Gŵyl Sŵn Caerdydd. Ef hefyd yw awdur y gyfrol, Wales - 100 Records. Yn y bennod mae Huw yn sgwrsio am gyfieithu The Twits yn ble...
Cyfres newydd o Sut i Ddarllen 23.01.2026 0:33
Cyfres newydd o Sut i Ddarllen ar gael yn fuan. Mwy o sgyrsiau difyr am lyfrau a darllen gyda Francesca Scarrillo.
Eirini Sanoudaki 17.03.2025 32:05
Darllenydd mewn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor yw Dr Eirini Sanoudaki. Yn wreiddiol o Groeg, mae ei hymchwil yn archwilio iaith mewn pobl uniaith a dwyieithog. Bu Francesca ac Eirini yn trafod sut mae llyfrau yn gallu mynd a ni nôl, pwysigrwydd darllen efo plant, a mawredd Llyfr Glas Nebo . Recordiwyd y bennod yn Shed, Y Felinheli Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled Hughes Rhestr Ddarl...
Joe Healy 10.03.2025 28:50
Yn wreiddiol o Wimbledon, fe enillodd Joe Healy wobr Dysgwr y Flwyddyn yn 2022. Bellach mae’n diwtor Cymraeg yng Nghaerdydd ac yn cyflwyno rhaglen Y Sin ar S4C gyda Francesca. Bu’r ddau yn trafod darllen llyfrau Cymraeg am y tro cyntaf, dod yn nol at ddarllen, a pheidio bod ofn barddoniaeth. Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, Caerdydd. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled Hughes Rhestr D...
Manon Steffan Ros 03.03.2025 28:21
Manon Steffan Ros yw un o’n hawduron mwyaf poblogaidd. Mae ei nofel Llyfr Glas Nebo wedi swyno darllenwyr ym mhell ac agos. Mae hi hefyd yn caru darllen. Bu Francesca a Manon yn sgwrsio am sut mae darllen yn gwneud i ni deimlo, pam cadw copi o waith T.H. Parry-Williams yn y car, a sut i fynd i’r arfer o ddarllen. Recordiwyd y bennod yn Y Shed, Y Felinheli Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain:...
Sara Yassine 24.02.2025 31:22
Mae Sara Yassine yn byw yng Nghaerdydd, ac wedi bod yn un o feirniaid gwobrau llyfrau plant a phobl ifanc Tir na n-Og. Bu Francesca a Sara yn sgwrsio am adolygu llyfrau Enid Blyton, dychwelyd at ddarllen llyfrau Cymraeg a manteision ac anfanteision gosod nod darllen i ti dy hun. Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, Caerdydd Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled Hughes Rhestr ddarllen Llyfrau...
Kayley Roberts 17.02.2025 31:26
Mae Kayley Roberts yn gwnselydd ac yn llenor sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon. Yn aelod o Glwb Darllen Llyfrau Lliwgar, soniodd Kayley am y pleser o drafod llyfrau efo criw, Islwyn Ffowc Elis y versatile king , a thrio peidio sbïo ar dy ffôn pam ti’n darllen. Recordiwyd y bennod yn Y Shed, Felinheli. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled Hughes Rhestr Ddarllen The Illustrated Mum...
Siôn Tomos Owen 10.02.2025 25:25
Mae Siôn Tomos Owen yn fardd, artist a chyflwynydd radio a theledu. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Pethau Sy’n Digwydd nôl yn haf 2024. Bu Francesca a Siôn yn sgwrsio am ddarllen pedwar llyfr ar yr un pryd, agweddau snobyddlyd at gomics a chariad at lyfrgelloedd. Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, Caerdydd. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled Hughes Rhestr Ddarllen Penbwl...
Sut i Ddarllen 03.02.2025 0:27
Sut i Ddarllen, sgyrsiau onest a dadlennol am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo. Fe fyddwn ni’n trafod pob math o agweddau ar ddarllen, o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd. Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr. Ymunwch â ni. Sut i Ddarllen, podlediad newydd, ar gael yn fuan.
Podobne podcasty
Replaio nie jest wydawcą podcastów; nazwy audycji, okładki i audio należą do ich autorów i są rozpowszechniane przez publiczne kanały RSS