Cyngor Llyfrau Cymru

Sut i Ddarllen

Arts CY ↓ 15 episodes

Sut i Ddarllen, sgyrsiau gonest a dadlennol am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo. Fe fyddwn ni'n trafod pob math o agweddau ar ddarllen - o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd. Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr.

Author

Cyngor Llyfrau Cymru

Category

Arts

Podcast website

www.llyfrau.cymru

Latest episode

Apr 21, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Casi Wyn 21.04.2026

Yn cadw cwmni i Francesca Sciarrillo mae’r gantores a chyfansoddwr Casi Wyn. Yn wreiddiol o ddinas Bangor, Casi oedd Bardd Plant Cymru 2021-2023. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Cariad Yw yn 2024. Mae hi wedi perfformio ei cherddoriaeth ar lwyfannau SXSW, BBC Proms in the Park, yn yn ogystal â thaith genedlaethol gyda Sinfonia Cymru. Rhyddhawyd ei halbym newydd Plentyn yr Haul ddiwedd...

Malachy Edwards 07.04.2026

Yr awdur a cholofnydd Malachy Edwards yw gwestai Francesca Sciarrillo yn y bennod ddiweddaraf o Sut i Ddarllen. Yn enedigol o Lundain ac wedi’i fagu yn Ffynnon Taf, mae Malachy Edwards bellach yn byw ar Ynys Môn. Cyhoeddwyd cofiant ffeithiol-greadigol cyntaf yr awdur, Y Delyn Aur , gan Wasg y Bwthyn yn 2023, a chyrhaeddodd y llyfr Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Yn y gyfrol, mae Malachy yn...

Buddug Watcyn Roberts 25.03.2026

Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae Buddug Watcyn Roberts. Er yn ifanc mae Buddug iawn wedi bod ar ysgrifennu’n greadigol ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau creadigol: llwyfannwyd drama ganddi gan Gwmni Ifanc Frân Wen ac mae wedi cyhoeddi ei gwaith yn Codi Pais a rhifynnau Ffosfforws gan gyhoeddiadau’r Stamp. Yn y bennod mae Buddug yn tr...

Melanie Owen 11.03.2026

Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r comedïwr, y cyflwynydd ar awdur Melanie Owen. Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Mel bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn ysgrifennu am bron i ddegawd, gan gynnwys sgriptiau i Channel 4, BBC Cymru Wales a BBC Radio Cymru. Roedd ei chyfrol gyntaf, Oedolyn (ish!), ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025. Yn y bennod mae Mel yn trafod bod yn "Jacqueline Wi...

Geraint Iwan 25.02.2026

Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r awdur a’r cyflwynydd Geraint Iwan. Dros y blynyddoedd mae wedi dilyn nifer o yrfaoedd a gweithio i lu o gwmnïau gwahanol, gan gynnwys y BBC, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac amryw o gwmnïau teledu. Cyhoeddir ei gyfrol gyntaf, Storis Geraint Iwan , storis am yr hyn sy’n llechu dan yr wyneb, gan Wasg Carreg Gwalch, fis Mawrth. Yn y bennod mae Ger yn trafod ei...

Sioned Erin Hughes 11.02.2026

Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r bardd a'r awdur Sioned Erin Hughes. Daw Erin o Ben Llŷn. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Tregaron yn 2022 gyda'i chyfrol gyntaf i oedolion, Rhyngom . Hi oedd golygydd y gyfrol Byw yn fy Nghroen a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020, ac mae hefyd wedi golygu Iaith Heb Ffiniau a chyd-olygu Beyond/Tu Hwnt . Roedd ei chyfrol O'r Rhuddin ar restr...

Huw Stephens 28.01.2026

Yr awdur a’r darlledwr Huw Stephens sy’n cadw cwmni i Francesca Sciarrillo. Mae Huw Stephens yn darlledu’n ddyddiol ar BBC Radio 6 Music, ac yn cynnal sioeau wythnosol yn y Gymraeg a Saesneg ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru. Fe sefydlodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a Gŵyl Sŵn Caerdydd. Ef hefyd yw awdur y gyfrol, Wales - 100 Records. Yn y bennod mae Huw yn sgwrsio am gyfieithu The Twits yn ble...

Cyfres newydd o Sut i Ddarllen 23.01.2026

Cyfres newydd o Sut i Ddarllen ar gael yn fuan. Mwy o sgyrsiau difyr am lyfrau a darllen gyda Francesca Scarrillo.

Eirini Sanoudaki 17.03.2025

Darllenydd mewn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor yw Dr Eirini Sanoudaki. Yn wreiddiol o Groeg, mae ei hymchwil yn archwilio iaith mewn pobl uniaith a dwyieithog.  Bu Francesca ac Eirini yn trafod sut mae llyfrau yn gallu mynd a ni nôl, pwysigrwydd darllen efo plant, a mawredd Llyfr Glas Nebo . Recordiwyd y bennod yn Shed, Y Felinheli Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled Hughes Rhestr Ddarl...

Joe Healy 10.03.2025

Yn wreiddiol o Wimbledon, fe enillodd Joe Healy wobr Dysgwr y Flwyddyn yn 2022.  Bellach mae’n diwtor Cymraeg yng Nghaerdydd ac yn cyflwyno rhaglen Y Sin ar S4C gyda Francesca. Bu’r ddau yn trafod darllen llyfrau Cymraeg am y tro cyntaf, dod yn nol at ddarllen, a pheidio bod ofn barddoniaeth. Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, Caerdydd. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled Hughes Rhestr D...

Manon Steffan Ros 03.03.2025

Manon Steffan Ros yw un o’n hawduron mwyaf poblogaidd.  Mae ei nofel Llyfr Glas Nebo wedi swyno darllenwyr ym mhell ac agos.    Mae hi hefyd yn caru darllen. Bu Francesca a Manon yn sgwrsio am sut mae darllen yn gwneud i ni deimlo, pam cadw copi o waith T.H. Parry-Williams yn y car, a sut i fynd i’r arfer o ddarllen. Recordiwyd y bennod yn Y Shed, Y Felinheli Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain:...

Sara Yassine 24.02.2025

Mae Sara Yassine yn byw yng Nghaerdydd, ac wedi bod yn un o feirniaid gwobrau llyfrau plant a phobl ifanc Tir na n-Og. Bu Francesca a Sara yn sgwrsio am adolygu llyfrau Enid Blyton, dychwelyd at ddarllen llyfrau Cymraeg a manteision ac anfanteision gosod nod darllen i ti dy hun. Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, Caerdydd Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled Hughes Rhestr ddarllen Llyfrau...

Kayley Roberts 17.02.2025

Mae Kayley Roberts yn gwnselydd ac yn llenor sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon. Yn aelod o Glwb Darllen Llyfrau Lliwgar, soniodd Kayley am y pleser o drafod llyfrau efo criw, Islwyn Ffowc Elis y versatile king , a thrio peidio sbïo ar dy ffôn pam ti’n darllen.  Recordiwyd y bennod yn Y Shed, Felinheli. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled Hughes Rhestr Ddarllen The Illustrated Mum...

Siôn Tomos Owen 10.02.2025

Mae Siôn Tomos Owen yn fardd, artist a chyflwynydd radio a theledu. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Pethau Sy’n Digwydd nôl yn haf 2024. Bu Francesca a Siôn yn sgwrsio am ddarllen pedwar llyfr ar yr un pryd, agweddau snobyddlyd at gomics a chariad at lyfrgelloedd. Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, Caerdydd. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled Hughes   Rhestr Ddarllen Penbwl...

Sut i Ddarllen 03.02.2025

Sut i Ddarllen, sgyrsiau onest a dadlennol am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo. Fe fyddwn ni’n trafod pob math o agweddau ar ddarllen, o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd.  Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr. Ymunwch â ni. Sut i Ddarllen, podlediad newydd, ar gael yn fuan.

Listen to the Sut i Ddarllen podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.