Mari Beard and Meilir Rhys Williams

Siarad Siop efo Mari a Meilir

Arts CY ↓ 149 episodes

Podlediad sgyrsiol arobryn || Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023

Be sure to visit the podcast's website and support the creator: rss.com

Author

Mari Beard and Meilir Rhys Williams

Category

Arts

Podcast website

rss.com

Latest episode

Nov 19, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 10M+ downloads · 4.7+ rating iOS soon

Episodes

96 - Bond, Steps a Six the Musical 19.11.2026

Yr enw ydi Siop...Siarad Siop...a da ni yma unwaith eto'r wythnos hon efo llond pennod o straeon, gossip a hwyl i chi. O daith aduniad Steps yn 30 oed, Real Housewives of London, adolygiad o Six the Musical, drama halen Maldon ac wrth gwrs, y newyddion am bwy sydd wedi cael ei gastio fel y James Bond newydd. Felly mas â chi o'r glaw a mewn a chi i'r siop.

95 - Owain Wyn Evans, Skims a Fanny Talbot 12.11.2026

*RHYBUDD CYNNWYS* Mae'r bennod hon yn cynnwys trafodaeth am achos llys Russell Brand, trais ac ymosodiadau rhyw. Mae Mari bellach wedi dychwelyd o gynnal ei chynhadledd i'r wâsg ar fod yn prepper, mae'r Unol Daleithiau yn las ac mae Owain Wyn Evans wedi cychwyn ar gefn ei feic o amgylch yr Alban, Gogledd Iwerddon, Lloegr a Chymru. Ar ben hynny, mae Kim Kardashian wedi gorfod ad-dalu ei chwsmeriaid...

94 - Bala's Got Talent, tân gwyllt ac Heidi Klum 05.11.2026

Mae hi bellach yn Dachwedd ac mae Mariah wedi ei dadmer o'r bloc iâ. Rhy gynnar i roi'r addurniadau i fyny? Beth fydd ar eich bwydlen Dolig chi? Dyma rai o'r cwestiynnau yn y blwch yr wythnos hon. Heb sôn am drafodaeth am ffeinal y Traitors, enwebiadau BIFA ac Heidi Klum fel llaw... Mewn â chi!

93 - Pobol y Cwm, Pwyll ar Netflix a Cardigans Paisley 29.10.2026

Dydi'r stormydd na'r bwganod methu cadw Mari a Meilir draw o'r siop. Yr wythnos hon, mae yna drafodaeth am ymadawiad Anita o'r gyfres Pobol y Cwm, gêm beldroed rhwng Llanuwchllyn a'r Bala, a mynach weddol enwog ar Ynys Byr... Jesd cliciwch play a dewch mewn o'r glaw. Chi'n gadael drafft mewn!

92 - Sioeau byw, archarwyr Cymraeg a Kelly Clarkson 22.10.2026

Wedi wythnos o seibiant ar ôl y sioeau byw yn y Bala ac Aberystwyth, mae Mari a Meilir yn ôl gyda sioe llawn dop i chi o holl ddigwyddiadau a straeon y pythefnos diwethaf. O saga Kelly Clarkson a'r tegan, sêr Cymru mewn cynhyrchiadau comics mwya'r byd a'r protestiadau yn Ffrainc. Mewn â chi i'r siop, mae hi'n oer tu allan!

91 - BAFTA Cymru, Jonathan Bailey a 'manspreadio' 08.10.2026

Mae hi'n wythnos y sioeau byw yn y Bala ac Aberystwyth ac mae'r siop yn llawn bwrlwm yr wythnos hon wrth i Mari a Meilir baratoi ar gyfer y penwythnos. Ond hefyd rhaid trafod gwobrau'r BAFTAs Cymru, recordiad Dracula newydd Jonathan Bailey a chreision blâs cyw iâr...! Dewch i mewn, mae'r siop ar agor.

90 - Traitors, VMAs a'r Cornell 7 01.10.2026

Gofynnwch a chwi a gewch - ma hi'n bennod swmpus arall yr wythnos hon wrth i ni drafod holl ddigwyddiadau'r wythnos, gan gynnwys gwobrau'r VMAs, cerddoriaeth newydd Taylor Swift ac achos y Cornell 7. Dewch i mewn i'r siop am sgwrs! Rhybudd Cynnwys: Mae'r bennod hon yn cynnwys trafodaeth am drais.

89 - Channing Tatum, Ms Rachel a Misteeq 24.09.2026

Mae'r Hydref wedi cyrraedd ac mae Mari'n swp sâl - ond dydi hynny ddim yn ei rhwystro rhag agor y Siop efo Meilir yr wythnos hon. Mae dyletswydd ganddynt i drafod a gwyntyllu gossip yr wythnos. O burner account honedig Channing Tatum, canslo taith Misteeq i gynhyrchiad newydd yr RSC o As You Like It. Gwnewch baned a swatiwch, mae'r Siop ar agor!

88 - Matthew Rhys, Ed Sheeran a Gwagle 17.09.2026

Rhag-rybudd: roedd Mari a Meilir yn teimlo'n siaradus IAWN yr wythnos hon felly mae hon yn bennod hirach fyth na'r arfer. Ond yr ôll ddigwyddodd dros yr wythnos ddiwethaf, gallwch chi ddeall pam. O daith ddadleuol Ed Sheeran, drama ym mhlaid R€form Cymru i lwyddiant hanesyddol Matthew Rhys yn ngwobrau yr Emmy's - mae yna gymaint i'w drafod. Felly strap in, folks - dewch i mewn i'r siop!

87 - Tom Jones, P!nk a ghostio 10.09.2026

Mae yna lwyth o bethau wedi digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos yma. O ymddiswyddiad Tom Jones o The Voice, P!nk yn beirniadu Macklemore a thrafferthion sioe gerdd Burlesque - mae'r silffoedd yn llawn! Felly dewch i mewn i'r siop i wrando ar y clebran. Mae Mari a Meilir yn barod wrth y cownter!

86 - Dolly, Gwyl Llan a BAFTA Cymru 03.09.2026

Wedi'r holl newyddion trist am golli arwyr yr wythnos yma, mae Mari a Meilir yn falch o ddod nol i'r siop i gael het atgofion am Dolly Parton, Tim Curry ac i glywed am holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys Gŵyl Llanuwchllyn ac enwebiadau BAFTA Cymru. Mae'r tywydd wedi troi felly swatiwch ar y soffa efo paned a pwyswch play.

85 - Calon, Waitress a Calendar Girls 26.08.2026

Mae'r siop yr wythnos hon yn fyw o westy yng Nghaerdydd ac mae Mari a Meilir yn cael y cyfle i hel clecs wyneb yn wyneb am change! Mae yna ambell i drip theatr wedi bod gan gynnwys ymweliad ag ymarferion sioe newydd sbon Cwmni Theatr yr Urdd sef 'Calon'. Dewch i mewn i glywed ymateb Meilir i'r sioe a llawer mwy...

84 - Dic coll, Mariah Poppins a'r eclipse 20.08.2026

Mae Mari a Meilir wedi bod ar eu travels ac mae nhw'n falch iawn i fod nol yn y siop i ddadbacio'r holl glecs ma nhw di'w casglu dros yr wythnos. O Mariah Poppins, i The Odyssey i'r Dic coll i albwm newydd Aleighcia Scott. Felly dewch i mewn i ymuno yn y sgwrs!

83 - Post-Eisteddfod y Garreg Las blues! 13.08.2026

Mae'r Eisteddfod wedi bod ac mae'r felan (blues) yn drwm! Ond dim ots, achos mae'r siop ar agor i ddadbacio holl gossip, drama a phob cam ddigwyddodd yn ystod yr Ŵyl. Felly swatiwch ar y soffa neu'ch lounger, estynwch am eich paned neu aperol a mwynhewch. Mae'r siop ar agor unwaith eto!

82 - Cwis Eisteddfod, Sesiwn Fawr a Cwpan y Byd 23.07.2026

Wrth i'r Brifwyl agosau, pa ffordd well i baratoi ati na chael cwis ysgafn a hwyliog?! Hefyd bydd M&M yn trafod Sesiwn Fawr Dolgellau, y gossip diweddaraf am Ariana Grande a'r ffaith nad ydi pel-droed yn dod adref...diolch byth! Mewn â chi i'r siop.

81 - Effi o Blaenau, Gwobrau Podlediadau a paratoi at Steddfod 16.07.2026

Mae Mari a Mei yn brysur baratoi at yr Eisteddfod tra'n cadw golwg barcud ar bopeth sy'n gyfredol ar y cyfryngau cymdeithasol a'r newyddion. O'r ffilm Effi o Blaenau i Ŵyl Natur Aberystwyth. Rhywbeth at ddant pawb! Dewch i mewn am browse bach.

80 - Taylor, Travis a Binface 09.07.2026

Mae Mari a Mei wyneb yn wyneb yn recordio'r bennod hon - felly byddwch yn barod am lawr o wylltineb a chyffro! Mae'r briodas gyfrinachol fwyaf enwog wedi bod, Binface ar y newyddion a Pitbull yn Blackweir. Heb sôn am ddathliadau tila'r UDA yn 250, cerddoriaeth newydd Madonnna ac Aleighcia Scott a noson allan Mei a Mari yn Aber. Dyna ddigon o ragflas - i mewn â chi...

79 - Paddleboards, Cordia a hoovers 02.07.2026

Mae Mari wedi am wyliau efo'r gens a Meilir wedi bod ar gefn ei paddleboard ond mae'r ddau bellach yn ôl yn y siop yn barod i drafod digwyddiadau'r wythnos dros baned ar y cownter. Mae yna hen drafod am Andy Burnham, Lizzo, sengl newydd Cordia a hoover newydd Meilir. Dewch i mewn i ymuno yn y sgwrs.

78 - Haul, Tafwyl ac hen-dŵs 25.06.2026

Mae'r tywydd yn boeth ond mae'r sgwrs yn boethach! Mae'r Prif Weinidog yn Llundain wedi penderfynu camu i'r neilltu, mae gŵr Katie Price bellach yn saff ac mae'r blwch ceisiadau bron a byrstio yn y gwrês. Mae'n rhy boeth i 'sgwennu mwy. I mewn â chi i'r siop, reit handi! Mae ganddom ni AC.

77 - Harry Styles, Take That a tattoos 18.06.2026

Mae wythnos arall wedi pasio ac mae'r siop yn ôl 'in the swing of things' ers y daith. Yr wythnos hon ,cawn glywed am drip Mari i 'Dylan's Costal Retreat' a thrip Meilir i weld Rufus Wainwright yn Llundain. Hefyd, bydd Mari a Mei yn trafod taith Take That a pherfformiadau Harry Styles cyn agor y blwch ceisiadau i ateb eich cwestiynnau. Croeso i'r Siop Siarad!

76 - Duffy, Pride a Widow's Bay 11.06.2026

Mae Mari a Meilir yn ôl yn y siop ar ôl trip i Galeri Caernarfon ac mae'n amser rhoi trefn ar y stoc. O drafod digwyddiadau'r pythefnos diwethaf fel cyhoeddiad Duffy, drama Queer Eye, dathliadau Pride a marwolaeth yr actor Anthony Head, i'r Silff Sobor ac wrth gwrs y Blwch Ceisiadau! Mae'n braf bod nol yn y siop. I mewn â chi...

75 - Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a Katie Price 22.05.2026

Sypreis! Er i ni gyhoeddi nad oedd pennod yr wythnos yma, doedd Mari na Mei methu peidio ag agor y siop i siarad non stop. Ma na sgrysiau am Eisteddfod yr Urdd, cacen benblwydd, gŵr Katie Price, Andy Burnham a chomedïau byrion S4C. Beth chi'n neud yn sefyll tu fas? Mewn â chi i wrando.

74 - Llywodraeth newydd, BAFTAs a'r daith! 14.05.2026

Am wythnos hanesyddol i wleidyddiaeth Cymru! Mae'r felin bupur wedi bod yn troi'n ddi-stop yma yn y siop. O gefnogaeth Plaid Cymru (a R£form), ymateb Keir Starmer a'r holl sylwebaeth ar y teledu a'r radio. A sôn am deledu, roedd gwobrau BAFTAs yr wythnos yma hefyd. A llond blwch yn geiriosen ar ben y gacen. Felly, i mewn â chi gyfeillion annwyl - mae'r siop ar agor.

73 - Met Gala, Devil Wears Prada 2 a'r Etholiad! 07.05.2026

Mae hi'n ddiwrnod pwysig iawn heddiw yng Nghymru wrth i'r gorsafoedd pledleisio agor. Ond peidiwch â phoeni, mae'r Siop Siarad ar agor hefyd fel yr arfer. Mae yna drafodaeth ddyrys am wisgoedd y Met Gala, adolygiadau o ail gyfres Anfamol, ffilm Devil Wears Prada 2 a mwy. Heb sôn am flwch ceisiadau mor llawn â blwch pledleisiau Plaid Cymru... I mewn â chi i'r siop.

72 - I'm a Celeb, ffeinal Y Llais a Helena Bonham Carter 30.04.2026

Mae teledu yn cael dipyn o sylw yn y siop yr wythnos yma - ffeinal Y Llais, drama aduniad I'm a Celeb, Helena Bonham Carter yn gadael cyfres 4 White Lotus, Russell Brand ar raglen Piers Morgan a llawer mwy. Gyda blwch gorlawn, mae hon yn bennod go swmpus, felly i mewn â chi i'r siop a mwynhewch.

Listen to the Siarad Siop efo Mari a Meilir podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.