Mari Beard and Meilir Rhys Williams
Siarad Siop efo Mari a Meilir
Podlediad sgyrsiol arobryn || Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023
Wo hören?
Podcasts in der App Replaio Radio Bald verfügbarPodcasts kommen bald in die App. Installiere sie jetzt und erlebe als Erster einen ganz neuen Blick auf Podcasts
Folgen
80 - Taylor, Travis a Binface 09.07.2026 1:24:11
Mae Mari a Mei wyneb yn wyneb yn recordio'r bennod hon - felly byddwch yn barod am lawr o wylltineb a chyffro! Mae'r briodas gyfrinachol fwyaf enwog wedi bod, Binface ar y newyddion a Pitbull yn Blackweir. Heb sôn am ddathliadau tila'r UDA yn 250, cerddoriaeth newydd Madonnna ac Aleighcia Scott a noson allan Mei a Mari yn Aber. Dyna ddigon o ragflas - i mewn â chi...
79 - Paddleboards, Cordia a hoovers 02.07.2026 1:09:02
Mae Mari wedi am wyliau efo'r gens a Meilir wedi bod ar gefn ei paddleboard ond mae'r ddau bellach yn ôl yn y siop yn barod i drafod digwyddiadau'r wythnos dros baned ar y cownter. Mae yna hen drafod am Andy Burnham, Lizzo, sengl newydd Cordia a hoover newydd Meilir. Dewch i mewn i ymuno yn y sgwrs.
78 - Haul, Tafwyl ac hen-dŵs 25.06.2026 1:21:32
Mae'r tywydd yn boeth ond mae'r sgwrs yn boethach! Mae'r Prif Weinidog yn Llundain wedi penderfynu camu i'r neilltu, mae gŵr Katie Price bellach yn saff ac mae'r blwch ceisiadau bron a byrstio yn y gwrês. Mae'n rhy boeth i 'sgwennu mwy. I mewn â chi i'r siop, reit handi! Mae ganddom ni AC.
77 - Harry Styles, Take That a tattoos 18.06.2026 1:28:59
Mae wythnos arall wedi pasio ac mae'r siop yn ôl 'in the swing of things' ers y daith. Yr wythnos hon ,cawn glywed am drip Mari i 'Dylan's Costal Retreat' a thrip Meilir i weld Rufus Wainwright yn Llundain. Hefyd, bydd Mari a Mei yn trafod taith Take That a pherfformiadau Harry Styles cyn agor y blwch ceisiadau i ateb eich cwestiynnau. Croeso i'r Siop Siarad!
76 - Duffy, Pride a Widow's Bay 11.06.2026 1:27:57
Mae Mari a Meilir yn ôl yn y siop ar ôl trip i Galeri Caernarfon ac mae'n amser rhoi trefn ar y stoc. O drafod digwyddiadau'r pythefnos diwethaf fel cyhoeddiad Duffy, drama Queer Eye, dathliadau Pride a marwolaeth yr actor Anthony Head, i'r Silff Sobor ac wrth gwrs y Blwch Ceisiadau! Mae'n braf bod nol yn y siop. I mewn â chi...
75 - Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a Katie Price 22.05.2026 1:10:01
Sypreis! Er i ni gyhoeddi nad oedd pennod yr wythnos yma, doedd Mari na Mei methu peidio ag agor y siop i siarad non stop. Ma na sgrysiau am Eisteddfod yr Urdd, cacen benblwydd, gŵr Katie Price, Andy Burnham a chomedïau byrion S4C. Beth chi'n neud yn sefyll tu fas? Mewn â chi i wrando.
74 - Llywodraeth newydd, BAFTAs a'r daith! 14.05.2026 1:29:33
Am wythnos hanesyddol i wleidyddiaeth Cymru! Mae'r felin bupur wedi bod yn troi'n ddi-stop yma yn y siop. O gefnogaeth Plaid Cymru (a R£form), ymateb Keir Starmer a'r holl sylwebaeth ar y teledu a'r radio. A sôn am deledu, roedd gwobrau BAFTAs yr wythnos yma hefyd. A llond blwch yn geiriosen ar ben y gacen. Felly, i mewn â chi gyfeillion annwyl - mae'r siop ar agor.
73 - Met Gala, Devil Wears Prada 2 a'r Etholiad! 07.05.2026 1:25:14
Mae hi'n ddiwrnod pwysig iawn heddiw yng Nghymru wrth i'r gorsafoedd pledleisio agor. Ond peidiwch â phoeni, mae'r Siop Siarad ar agor hefyd fel yr arfer. Mae yna drafodaeth ddyrys am wisgoedd y Met Gala, adolygiadau o ail gyfres Anfamol, ffilm Devil Wears Prada 2 a mwy. Heb sôn am flwch ceisiadau mor llawn â blwch pledleisiau Plaid Cymru... I mewn â chi i'r siop.
72 - I'm a Celeb, ffeinal Y Llais a Helena Bonham Carter 30.04.2026 1:42:15
Mae teledu yn cael dipyn o sylw yn y siop yr wythnos yma - ffeinal Y Llais, drama aduniad I'm a Celeb, Helena Bonham Carter yn gadael cyfres 4 White Lotus, Russell Brand ar raglen Piers Morgan a llawer mwy. Gyda blwch gorlawn, mae hon yn bennod go swmpus, felly i mewn â chi i'r siop a mwynhewch.
71 - Lerpwl, Y Llais a Llanuwchllyn 23.04.2026 51:21
Yn y bennod hon, mae Mari wedi mentro i Lanuwchllyn - sy'n golgygu fod Mari a Meilir wedi recordio y bennod hon wyneb yn wyneb. A ma pethau wastad yn mynd braidd yn wirion pan mae'r ddau yn yr un ystafell, Mae 'na sgwrsio am drip penblwydd Meilir, pennod ddiweddaraf Y Llais a llawer mwy. Mewn â chi i wrando!
70 - Penblwyddi, SheUltra a Coachella 16.04.2026 1:37:54
Sypreis! A hithau'n wythnos benblwydd ar Mari a Meilir, dyma benderfynu recordio pennod arbennig er i ni ddweud na fyddai na un yr wythnos hon. Da ni'n cael clywed am ddathliadau Mari, Meilir yn ffilmio efo Cabarela yn ogystal â holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys Coachella, SheUltra ac amser Meilir yn gweini ar y teulu brenhinol...! Mewn â chi i glywed yr hanes. Mae'r siop ar agor!
69 - Y Pasg, Kanye a'r W.I. 09.04.2026 1:27:13
Mae'r Gwanwyn wedi cyrraedd o'r diwedd ac mae'r Pasg bellach wedi pasio. Gawsoch chi ŵy? Gawsoch chi wyliau? Wel, mae Mari a Meilir yn y siop fel yr arfer yn barod i drafod holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys gwaharddiad Kanye West rhag dod i'r D.U., drama'r ddylanwadwraig Mikayla ar Tiktok ac ymweliad Meilir â W.I. Llanuwchllyn. Dewch i mewn, mae'r siop ar agor!
68 - Poliameri, pigiadau colli pwysau a Scott Mills 02.04.2026 1:50:41
Pasg hapus i chi gyd! Gobeithio'ch bod chi gyd yn mwynhau'r tymor Aries hyd yma ac yn barod i fwyta llond boliaid o wyau siocled dros y penwythnos. Mae yna lond trol o destunau i'w trafod eto'r wythnos yma - o ymadawiad Scott Mills o'r BBC, tocynnau Celine Dion, Ant a Dec a Bethan a rhaglenni S4C ar poliamori a phigiadau colli pwysau. Ewch i nol ŵy pasg arall, gwnewch baned a dewch i mewn i'r siop...
67 - Louis Theroux, SNL a Claudia Winkleman 26.03.2026 1:40:26
Llawer o raglenni teledu i'w trafod yr wythnos hon - o 'Power: The Downfall of Huw Edwards', 'Saturday Night Live UK', 'Louis Theroux: Inside the Manosphere', 'Last One Laughing' a 'The Claudia Winkleman Show'. Hefyd, rhaid i ni drafod trip Mari i wylio Lily Allen yng Nghaerdyddna'r fideo anffodus yna o Justin Timberlake. Ewch i nol paned a mwynhewch!
66 - Yr Oscars, Chappell Roan a Syr Bryn 19.03.2026 47:50
Mae seremoni wobrwyo fwya'r byd newydd ddigwydd yn Hollywood sy'n golygu fod na lwyth o glecs i'w trafod yn y siop yr wythnos hon. Ar ben hynny, mae'n blwch yn gorlifo gyda negeseuon am daith Siarad Siop ac mae'r cynllunio wedi dechrau. I mewn â chi, mae'r siop ar agor.
65 - Taith Siarad Siop, Timothée Chalamet ac Y Llais 12.03.2026 1:34:16
Daeth y dydd! Mae tocynnau taith fyw Siarad Siop nawr ar werth ac ar gael drwy glicio ein linktree neu drwy ymweld â gwefannau Clwb Ifor Bach a Galeri. Yn y cyfamser, dyma bennod arferol i chi o gossipio, honni ffeithiau hynod o amheus a lot o fawr o chwerthin. Mewn â chi! Mae'r siop ar agor.
64 - Cân i Gymru, gin a Premier Inn 05.03.2026 36:13
Mae Mari a Meilir wedi mentro allan o'r siop ac yn recordio'r bennod yma mewn gwesty. Pam, medde chi? Wel clicio play ac fe gewch chi'r hanes i gyd am eu travels.
63 - Tyra Banks, Our Town a 'dod allan' 19.02.2026 1:21:06
Wedi wythnos o'r siop, mae hi'n braf bod nol gyda llond blwch o geisiadau a llond trol y straeon, gossip a sgwrsio, gan gynnwys rhaglen ddogfen newydd am America's Next Top Model, y twyll cyrlio yn yr Olympics a thaith sioe Welsh National Theatre o gynhyrchiad 'Our Town'. Digon o ragflas - mewn â chi i'r siop!
62 - Entrée, Catherine O'Hara a'r Grammys 05.02.2026 1:23:11
Mae hi'n wythnos brysur draw ym myd Siarad Siop - Entrée Amour a Mynydd ar S4C, ymddangosiad ar Heno a recordio penodau cyntaf Après Amour a Mynydd. Ond wrth gwrs, mae wastad amser i recordio pennod arferol o Siarad Siop ac mae digon i'w drafod fel yr arfer: o'r seremonïau gwobrwyo, marwolaeth yr anhygoel Catherine O'Hara ac ymddygiad diweddaraf N!ck! M!naj... Dewch i mewn!
61 - Santes Dwynwen, ffeinal Traitors a Harry Styles 29.01.2026 1:34:34
Gafodd pawb rosyn neu anrheg dros y penwythnos? Wnaethoch chi seremoni i losgi eitemau eich cyn-gariad? Dim ots os oedd eich diwrnod Santes Dwynwen yn llawn cariad neu'n oer fel bloc o rew, mae yna groeso cynnes i chi yn y siop. Rhaid trafod ffeinal y Traitors, cyfres ddogfen newydd Tyra Banks a phwy gafodd eu hanwybyddu yn enwebiadau'r Oscars eleni. Wfftio'r cariadon - dewch mewni'r siop. M&M...
60 - Brooklyn, Karamo a Heated Rivalry 22.01.2026 1:51:12
Mae'r Siop yn gorlifo'r wythnos yma efo hanesion - o straeon insta Brooklyn, absenoldeb Karamo o lansiad cyfres Queer Eye, glambot enwog JLo, cyfresi Heated Rivalry a Traitors i Charlie's Aberystwyth yn cau. Mae angen tebot mawr i wrando ar yr holl dê chwilboeth. Eistedd yn gyfforddus? Mewn â chi!
59 - Golden Globes, Miss Saigon a therapi 15.01.2026 1:22:33
Wythnos arall wedi pasio ac mae mis Ionawr yn prysur ddiflannu ond peidiwch â phoeni, mae'r siop mor llawn ag erioed. O gossip y Golden Globes, ansawdd lleisiol Lily Allen i ddeallusrwydd artifisial. Digon i lenwi'ch basged. Mewn â chi!
58 - Eira, Traitors a'r ffliw 08.01.2026 1:21:08
Gan ein bod ni i gyd yn sownd yn ein tai, pa amser gwell i bicio i'r siop i glywed am hanes wythnos gyntaf y flwyddyn newydd, y gyfres newydd o Traitors a llond blwch o gyfaddefiadau jiwsi! Dewch i mewn o'r oerfel - mae'r siop ar agor.
57 - Blwyddyn Newydd Dda! 31.12.2025 1:24:32
Mae 2025 bron ar ben ac mae'n amser i ni hel atgofion a thrafod uchafbwyntiau'r flwyddyn ddiwethaf cyn i ni edrych ymlaen at 2026... Mae hi am fod yn flwyddyn gyffrous i'r Siop, felly dewch i mewn i glywed y newyddion.
56 - Nadolig Llawen! 25.12.2025 1:09:06
Mae'r Nadolig wedi cyrraedd felly dyma bennod arbennig i chi wrando arni drod gyfnod yr Ŵyl i roi hoe fach i chi o'r prysurdeb neu i wrando arno tra'n paratoi eich twrcis a'ch llysiau. Gobeithio y daeth Sion Corn draw! Cofiwch rannu eich hanesion efo ni ar gyfer dadbacio holl hwyl y Nadolig yn y bennod nesaf. Ho ho ho!
Ähnliche Podcasts
Replaio ist kein Herausgeber von Podcasts; die Namen der Sendungen, Cover und Audioinhalte gehören ihren Autoren und werden über öffentliche RSS-Feeds verbreitet