Pryd ar Dafod
Pryd ar Dafod
#PrydArDafod yw'ch cyfle i glywed beth yw tri hoff bryd bwyd rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Ym mhob pennod fydd y gwesteion yn dewis...- Pryd Plentyndod (pryd o fwyd sy'n eu hatgoffa o'u plentyndod)- Pryd i Ddathlu (hoff fwyty ar gyfer dathliad a hanner)- Pryd Unrhyw Bryd ('midweek meal' neu bryd sy'n 'staple' i'r gwesteion)Ymunwch â Ianto Phillips a Dewi Richards sy'n cael y cyfle i drafod bwyd a theulu a phopeth rhwng y ddau.
Koniecznie odwiedź stronę podcastu i wesprzyj twórcę: podcasters.spotify.com
Autor
Pryd ar Dafod
Kategoria
Strona podcastu
Ostatni odcinek
16 cze 2026
Gdzie słuchać?
Podcasty w aplikacji Replaio Radio Już wkrótcePodcasty trafią do aplikacji już wkrótce. Zainstaluj teraz i jako pierwszy zobacz nowe podejście do podcastów
Odcinki
Pennod 17: Heledd Cynwal 16.06.2026 1:12:52
Wel wel wel, ni mor chuffed i allu cael sgwrs gyda un o "proper enwogion" Cymru - y cyflwynydd a'r anhygoel Heledd Cynwal. Diolch yn fawr i Heledd am y sgwrs anhygoel lle naethon ni drafod bwytai, tafarndai, llyfrau, ryseitiau (a llwyth o bethau eraill yn gorffen gyda "ai/au". Mae'n sgwrs sy'n mynd â ni holl ffordd o Gaerdydd i Landeilo, via Bethlehem. Gobeithio wnewch chi fwynhau gymaint â wnaeth...
Pennod 16: Nick Yeo 13.05.2026 49:37
***RHYBUDD: IAITH GREFI*** Cyflwynydd y podlediad arobryn (ie, "award winning" yn Gymraeg, weird) 'Sgwrsio', Nick Yeo yw gwestai Dewi ac Ianto yn y bennod hon. O drafod Rome Total War i ryfela am ba ran o Gaerdydd sydd orau, ni'n trafod all things Cymraeg, ac wrth gwrs, bwyd. Mwynhewch!
Tamed i Aros Pryd: 1 23.04.2026 11:13
Reit, mae gwneud podcasts yn cymryd sbel. So dyma rhywbeth bach i chi, rhywbeth wythnosol, pallete cleanser fel petai. Jyst Dewi a Ianto yn bwyta rhywbeth, yn siarad am brydau bwyd a dod lan gyda syniadau am raglenni rybish i S4C. Bydd y penodau arferol gyda gwestai arbennig yn dod mas bob hyn a hyn wedyn hefyd! Joiwch! ***** Making a podcast is time consuming! So we've decided to give you a l...
Pennod 15: Siôn Tomos Owen 10.04.2026 57:10
Yr awdur, artist, cyflwynydd, y foodie (a'r Bardd Plant Cymru wrth gwrs) Siôn Tomos Owen yw gwestai y bennod hon. Lot o falu awyr, lot o fwyd a lot o hwyl. Mwynhewch!
Pennod 14: Efa Lois 20.03.2026 55:37
Yn y bennod hon, y dylunydd, yr artist a'r awdur Efa Lois sy'n ymuno â Ianto a Dewi a'n rhannu ei hoff brydau. Ni'n trafod Penweddig, pinafalau, priodas, partis - a lot mwy o bethau'n dechrau gyda p. Joiwch. A sori bo ni'n siarad am bethe Nadoligaidd yn aml - ga'th hwn ei recordio jyst cyn Dolig (wps!).
Pennod 13: Steffan Dafydd 12.02.2026 50:34
***Rhybudd - iaith grêfi*** Yn y bennod hon, y cerddor a'r artist Steffan Dafydd sy'n ymuno â Ianto a Dewi a'n rhannu ei hoff brydau. Ni'n trafod loads o bethe - bwyd, cerddoriaeth a Plasmawr wrth gwrs - ma llwyth ar y fwydlen yn y bennod hon. Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Jolch x
Pennod 12: Llwyd Owen 22.01.2026 1:12:08
Yr awdur, y podgastiwr a'r housewife anhygoel (diolch am y daal a'r brownies!) Llwyd Owen yw gwestai diweddara' Ianto a Dewi. O enwau canol gwirion i ryseitiau rili neis, mae llwyth i'w fwynhau ar y fwydlen!
Pennod 11: Rhodri Davies 23.12.2025 55:40
Ho, ho, ho. Nadolig Llawen! Ein "Christmas Special" cynta' a sgwrs digon sbeshal gyda'r cogydd Rhodri Davies . Gaethon ni groeso cynnes ym mecws Alex Gooch, ar leoliad ei pop-yp, Sôs (@Sos_with_a_hat ar Instagram) a joio trafod bwyd, Cymraeg Plasmawr, ac ambell i gyfrinach am hoff a chas gogyddion Rhodri. Joiwch, bwytewch a byddwch lawen (a sori am safon y sain!) x
Pennod 10: Gareth Potter 15.12.2025 1:03:00
Y DJ, yr actor, y tywysydd, y sgwennwr, y canwr, y gwr bonheddig Gareth Potter sy'n gwmni i Ianto a Dewi tro 'ma. Chat lyfli a doniol am fwyd, cerddoriaeth, celfyddydau a'r Cymoedd. Gwrandewch, rhannwch a joiwch!
Pennod 9: Katie Hall 11.11.2025 44:00
***Rhybudd - iaith grêfi*** Yn y bennod hon, yr amryddawn, yr anhygoel, yr Aberdâr lej, Katie Hall o'r band Chroma sy'n ymuno gyda ni i drafod popeth o fiwsig i fwyd, tyfu lan a chillo mas. Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Diolch!
Pennod 8: Daniel Glyn 28.10.2025 43:44
***Rhybudd - iaith grefi*** Comedïwr, ysgrifennwr... stuntman? Daniel Glyn sy'n ymuno 'da ni tro 'ma. Doniol, dirdynnol, diddorol a llwyth o eiriau eraill yn dechrau gyda d. Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Blydi Lyfli.
Pennod 7: Gwion Ifan 09.10.2025 48:53
***Rhybudd - iaith grefi*** "Y boi 'na o'r gorllewin sydd ar Hansh", Gwion Ifan sydd gyda ni wythnos 'ma. Y drydedd bennod yn fyw o'r 'Steddfod (ond y gynta' i gael ei recordio). Llwyth o hwyl a siarad am 'chydig o fwyd blasus. Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Tasty butt.
Pennod 6: Mari Elen 03.10.2025 38:21
***Rhybudd - iaith grefi*** Y perfformiwr, y dramodydd a'r PodledWrach Mari Elen sydd gyda ni tro' 'ma. Yr ail bennod yn fyw o'r 'Steddfod yn Wrecsam. Lot o hwyl, llwyth o smut - be well? Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Hapus. Blasus.
Pennod 5: Morgan Elwy 16.09.2025 40:17
***Rhybudd - iaith gref*** Y cerddor, y gwyddonydd a'r bach o bach o foodie (sori) Morgan Elwy yw'r gwestai tro 'ma. Yn fyw o Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Joiwch. Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.
Pennod 4: Siôn Owens 29.08.2025 58:49
Siôn Owens - y comedïwr, y Cofi a basydd (de Cymru) Bwncath - yw ein gwestai tro 'ma. Boi doniol a diddorol sydd â dewisiadau bwyd digon...ym...diddorol. Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Joiwch!
Pennod 3: Hanna Jarman 01.08.2025 54:52
***Rhybudd - iaith gref*** Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Yr actor, awdur a'r dramodydd (a'r foodie) Hanna Jarman sy'n ymuno â nhw yn y bennod hon. Bone apple teeth!
Pennod 2: Emyr Siôn 08.07.2025 47:28
***Rhybudd - iaith gref*** Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Yn yr ail bennod, y cerddor a'r all-round funny guy Emyr Siôn yw'r gwestai. Dyma'ch cyfle i glywed os yw Emyr wir yn ddosbarth canol adeg 'Dolig. Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Diolch!
Pennod 1: Jac Llwyd Northfield 24.06.2025 1:02:11
***Rhybudd - iaith gref*** Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Yn y bennod gyntaf, Jac Llwyd Northfield sy'n ymuno â Dewi ac Ianto. Boi doniol sy'n hoff o goginio, bwyta a rhannu ryseitiau. Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Diolch!
Podobne podcasty
Replaio nie jest wydawcą podcastów; nazwy audycji, okładki i audio należą do ich autorów i są rozpowszechniane przez publiczne kanały RSS