Y Pod Cyf
Colli'r Plot
Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros. Pedwar awdur sy'n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi. Fe fydd yna lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.
Koniecznie odwiedź stronę podcastu i wesprzyj twórcę: linktr.ee
Gdzie słuchać?
Podcasty w aplikacji Replaio Radio Już wkrótcePodcasty trafią do aplikacji już wkrótce. Zainstaluj teraz i jako pierwszy zobacz nowe podejście do podcastów
Odcinki
Y Storm 04.06.2026 1:05:22
Dydy recordio Colli'r Plot yng nghanol tywydd gwyllt ddim yn syniad da wrth i un o'r criw darganfod ffobia am fellt a tharanau. Llongyfarchiadau Manon (unwaith eto!) ar ennill Gwobr Dewis y Darllenwyr (categori Uwchradd) ar gyfer Y Cae Ras yn Gwobrau Tir na n-Og 2026. Mae 'na a digon o drafod llyfrau wrth i ni rannu beth sydd wedi bod ar ein byrddau darllen yn ddiweddar. Dyma restr ddarllen o'r c...
Gŵyl Lên Llandeilo 06.05.2026 58:32
Recordiwyd Colli'r Plot o flaen gynulleidfa yng Ngŵyl Lên Llandeilo. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: To kill a mockingbird - Harper Lee Nest ferch Rhys - Marged Berry Storis Geraint Iwan - Geraint Iwan A New Welsh Tapestry - gol. Nici Beech Storïau’r Henllys Fawr - W J Griffith Y Dyn a Blannai Goed - Jean Giono (cyf. Martin Davis) Of Mice and Men - John Steinbeck La Salam...
Amdani! 23.04.2026 1:03:40
Croeso i rifyn arall o Colli'r Plot, mae'r chwaden allan o'r botel ac mae Bethan yn gwingo wrth wylio cyfres 1af Amdani. Trafod y Salt Path a chwrs yn Nhŷ Newydd. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Llyfr Agored - Ant Evans To - Meinir Pierce Jones Sacrifice - Lynda La Plante Hwyr i’r parti - Nerys Rees Bowen Straeon Hynod yn Ein Hanes - Melfyn Hopkins Ready Player One - Erne...
Sgwrs Ant Evans 16.04.2026 47:37
Pennod arbennig o Colli'r Plot wrth i Dafydd Llywelyn yn sgwrsio gyda Ant Evans am ei hunangofiant "Llyfr Agored". Mae Llyfr Agored gan Ant Evans ar gael o'ch siop lyfr lleol.
Y Rhifyn Rhechaidd 26.03.2026 1:08:23
Teyrnged i ddau o fawrion y byd ysgrifennu. Y llenor a'r prifardd, Eigra Lewis Roberts, a'r nofelydd a bardd Lloyd Jones. Ydych chi'n poeni am yr hyn ydych chi'n ysgrifennu neu'n creu a sut mae ymateb i sylwadau hyll? Hefyd mae Bethan yn teimlo'n rhechaidd! Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Whose Song to Sing - Ben Wildsmith The Year of the Flood - Margaret Atwood Chronic W...
Pennod llawn drama 26.02.2026 55:20
Yn y bennod hon da ni'n Croesi Cyfandir Ar Ddwy Olwyn, mae DJ Manon bellach dim ond yn sgwennu 4 mil a hanner o eiriau'r diwrnod, tra bod Dafydd a Bethan yn mynd i wylio'r dramâu diweddaraf. Gallwn ddweud bod y bennod hon llawn drama! Mae 'na lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: O law i law - T Rowland Hughes T...
Pennod Gyntaf 2026 29.01.2026 1:12:56
Dyma bennod hir ar gyfer y mis hir, ac mae'n llawn llyfrau ar gyfer diwrnodau gwlyb. Bethan sy'n datgelu faint o gynllunio mae'n gwneud ac yr ydym yn clywed geiriau annisgwyl, "Diolch Dafydd, Mae’n werth gwrando arnat ti weithiau". Mae 'na lot o chwerthin, dipyn o falu awyr, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Clear - Carys Da...
Llyfrau'r Flwyddyn 2025 09.12.2025 47:49
Trafod y llyfrau wnaethon ni mwynhau yn ystod y flwyddyn dyma lyfrau'r flwyddyn 2025. Siân V a Fo - Gwenno Gwilym Politics on the edge - Rory Stewart Dafydd Cylch Cyfrin - Derfel Williams Clear - Carys Davies Bethan Raaarrr! - Rolant Tomos Strange Weather In Tokyo - Hiromi Kawakami Aled The Glutton - A.K. Blackmore Anfarwol - Peredur Glyn Manon My Childhood - Maxim Gorky Lan Stâr - Anthony Shapl...
Raaarrr 18.11.2025 1:09:35
Dyma bennod sy'n rhuo mewn i'ch clustiau. Mae Bethan Byth Di Bod i Japan, Manon mor ysgafn â phluen ar ôl enwebiad Carnegie, ac mae 'na lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Mae 'na fwy o olygu yn y bennod hon na phennod o Panorama. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Strange weather in Tokyo - Hiromi Kawakami Anfarwol - Rebecca Roberts Raaarrr -...
O ble daw syniadau? 23.10.2025 1:08:44
Syniadau neu o ble mae ein syniadau yn dod yw trafodaeth y podlediad mis yma. Lot o chwerthin, 'chydig o bethau dadleuol, ambell i sgwrs ddwys, ac ambell ddarn lle nad yw Bethan yn siarad! Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: The This - Adam Roberts The Tomorrow Project - H. Critchlow Croesi'r Paith - R Bryn Williams 'Rwy'n Cofio - "Yr Hen Was" Bechgyn Drwg Am Byth - Llwyd Owe...
Sgwennu 5 Mil O Eiriau Y Diwrnod 25.09.2025 1:03:58
Mae un o'r criw wedi bod yn brysur yn sgwennu 5 mil o eiriau y diwrnod, tra bod y gweddill wedi bod wrthi'n darllen llwyth o lyfrau, gydag ambell lyfr o Siapan. Lot o chwerthin, 'chydig o bethau dadleuol, ambell i sgwrs ddwys, a thipyn o olygu i gadw Aled yn brysur! Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Kate - Cofiant Kate Roberts 1891-1985 - Alan Llwyd Doppelganger - Naomi Kle...
Y Babell Lên , Eisteddfod Wrecsam 2025 19.08.2025 52:09
Rhifyn arbennig a recordiwyd o flaen gynulleidfa yn Y Babell Lên , Eisteddfod Wrecsam 2025. Yn ôl rhaglen yr Eisteddfod dyma oedd disgwyl... Criw podlediad 'Colli'r Plot', Aled Jones, Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Manon Steffan Ros a Sian Northey, yn trafod llyfrau a malu awyr yn gyffredinol, yn ôl eu harfer. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Hiraeth Neifion - Simon Chand...
Maes D - Eisteddfod Wrecsam 2025 06.08.2025 49:17
Sesiwn arbennig yn fyw o Maes D ar faes Eisteddfod Wrecsam 2025. Trafod llyfrau i ddysgwyr, sgwennu ar gyfer dysgwyr a phob dim dan haul.
Gŵyl Arall 18.07.2025 53:18
Pennod yn fyw o Gŵyl Arall Caernarfon. Ymddiheuriadau am ansawdd y sain yn y bennod hon. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Mae - Mererid Hopwood Cynefin - Pete Jones Invisible Women - Caroline Criado Perez Y Castell ar y Dŵr - Rebecca Thomas Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni - Iestyn Tyne Cyfrolau barddoniaeth Nesta Wyn Jones e.e. Ffenest Ddu Living the Vanlife -n Naomi J Grevemberg...
Awduron di-dâl 12.06.2025 1:16:17
Mae Siân mewn penbleth ac mae'n gofyn am gymorth gan y pedwar... sydd yn fawr o help! Pryd mae'n iawn i ofyn am daliad a pham fod gymaint o ddigwyddiadau yn disgwyl i awduron cynnal noson yn ddi-dâl? Iaith ddiniwed Bethan, ymwelydd o ben draw'r byd, a llwyth o lyfrau. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Do Not Call The Tortoise - Gareth Howell-Jones With The End In Mind - Kat...
Dim byd, ond llyfrau 02.05.2025 1:09:48
Dim thema, dim trafodaeth ddwys, dim byd, ond llyfrau. Ie, mae'r bennod hon llawn llyfrau. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Wythnos yng Nghymru Fydd - Islwyn Ffowc Elis Cysgod y Cryman - Islwyn Ffowc Elis Yn Ôl i Leifior - Islwyn Ffowc Elis The Conspiracy Tourist - Dom Joly The Twat Files - Dawn French Lula Dean's Little Library of Banned Books - Kirsten Miller The Burning...
Sesiwn Holi ac Ateb Llanrwst 11.04.2025 30:06
Dyma bennod arbennig o Colli’r Plot a recordiwyd yn Llanrwst. Noson wych a threfnwyd gan Bys a Bawd Pawb - menter gymunedol i achub Siop Lyfrau Cymraeg yn Llanrwst. I wneud y rhifyn yma bach yn wahanol na’r arfer da ni wedi rhyddhau y sesiwn cwestiwn ac ateb gan y gynulleidfa, o’dd mor ddiddorol. Mwynhewch!
Llyfrau Gwaharddedig 28.03.2025 1:13:17
Llyfrau Gwaharddedig... neu lyfrau sydd wedi cael eu banio! Pam wahardd llyfrau a pha wledydd sydd yn wahardd y mwyaf? Fel arfer yr ydyn yn trafod pob dim dan haul ac yn mynd lawr ambell i lwybr. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Hunangofiant Dyn Positif - Bywyd a Gwaith, Wayne Howard Diwedd y Gân - Rebecca Roberts Nightshade Mother - Gwyneth Lewis Cry of the Kalahari - Mar...
Y Bennod Hyfryd 20.02.2025 1:07:06
Colli hyder wrth sgwennu neu ddiffyg hyder wrth sgwennu yw thema’r podlediad. Fel arfer mi ydyn ni’n mynd lawr llwybrau arall ac yn trafod pob dim dan haul. Rhybudd: Mae’r bennod hon llawn hyfrydwch! Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau hyfryd a drafodwyd yn y bennod: Nelan a Bo - Angharad Price V a Fo - Gwenno Gwilym Casglu Llwch - Georgia Ruth Remarkable Creatures Tracy Chevalier Tir Dial - Dyfed E...
Pwy sy'n gwrando? 23.01.2025 1:10:23
Pennod gyntaf 2025 o'ch hoff bodlediad llyfrau, mae'n bennod gyntaf Colli'r Plot hefyd ac yr ydym yn barod i drafod llwyth o lyfrau a phob dim arall dan haul. Mae'n dod i'r amlwg pwy sy'n gwrando ar bwy ar bodlediad Colli'r Plot. Diffyg hyder neu golli hyder wrth sgwennu yw pwnc y bennod yma, ond unwaith eto da ni'n rhedeg allan o amser. Wnewn ni trafod y tro nesaf. Mae'r rhegfeydd gan Bethan a M...
Y Sioe Frenhinol 13.12.2024 1:05:58
Y Sioe Frenhinol a llyfrau'r flwyddyn. Hanes Bethan yn beicio yn Ne Affrica a chawn glywed am HRH Manon yn dal i fyny a'i ffrindiau newydd Cam a Brigitte Macron. Mae'r 5 ohonnom yn datgelu'n hoff lyfrau o 2024. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: O Ddawns i Ddawns - Gareth F. Williams Orbital - Samantha Harvey Yellowface - Rebecca Kuang Life and Times of Michael K - JM Coetze...
Argyfwng Y Byd Llyfrau 21.11.2024 1:08:06
Croeso i bennod arall o Colli'r Plot. Yn y rhifyn yma da ni'n trafod yr argyfwng yn y diwydiant cyhoeddi Cymraeg, pa mor hyfryd ydy Cymdeithas Gymraeg y Bermo a'r gyrfa ddisglair sydd o flaen yr awdur Kate Roberts, sydd wirioneddol yn anhygoel. Mae 'na lot o chwerthin, 'chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Lwmp - Rhian Wyn Grif...
Yr amser gorau i ddarllen llyfr 16.10.2024 1:03:03
Llongyfarchiadau Bethan Gwanas ar ennill Gwobr Mary Vaughan Jones 2024, sydd yn dathlu cyfraniad arbennig at lenyddiaeth i blant a phobl ifanc. Trafod darllen llyfrau ar yr amser cywir, beth mae tylluanod yn ei wybod, cerddoriaeth a chyfrolau, a lansiad llyfr sy'n cynnwys stripper. Mae hwn i fod yn bodlediad am lyfrau! Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Y Daith ydi Adra - Jo...
Dominatrix 17.09.2024 55:00
Llyfr newydd Bethan Gwanas, trafod meddiannu diwylliannol (cultural appropriation), a ble mae'r lle gorau i wrando ar bodlediad Colli'r Plot? Ymddiheuriadau Heledd Cynwal! Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: The Glutton - A.K Blakemore Ysgrifau Llenorion - gol. John Lasarus Williams The Story Spinner - Barbara Erskine Hi-Hon - gol. Catrin Beard ac Esyllt Angharad Lewis Nice R...
Yn Fyw o Babell Lên Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 10.08.2024 46:52
Rhifyn arbennig o Colli'r Plot yn fyw o Babell Lên Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024. Trafod hanes ein 'Steddfod, gwychder Pontypridd, y fedal Daniel Owen, llyfrau da ni wedi darllen a mwy. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Doppelganger - Naomi Klein Hi/Hon - gol Catrin Beard ac Esyllt Angharad Lewis Cân y Croesi - Jo Heyde How to ADHD - Jessica McCabe Th...
Podobne podcasty
Replaio nie jest wydawcą podcastów; nazwy audycji, okładki i audio należą do ich autorów i są rozpowszechniane przez publiczne kanały RSS