Marged.berry
Sgribls
Podlediad yn trafod ysgrifennu, y broses cyhoeddi a llyfrau gyda awduron Cymraeg a aelodau o fyd llyfrau Cymru. A Welsh language podcast discussing writing, the journey to publication and books with Welsh authors.
Koniecznie odwiedź stronę podcastu i wesprzyj twórcę: podcasters.spotify.com
Autor
Marged.berry
Kategoria
Strona podcastu
Ostatni odcinek
23 cze 2026
Gdzie słuchać?
Podcasty w aplikacji Replaio Radio Już wkrótcePodcasty trafią do aplikacji już wkrótce. Zainstaluj teraz i jako pierwszy zobacz nowe podejście do podcastów
Odcinki
Sgribls Pennod 17: Rhian Siôn 23.06.2026 40:22
Mae Marged yn sgwrsio gyda Rhian Siôn am ei phrofiadau yn cyhoeddi ei nofel cyntaf, Gyda’n Gilydd, ac yn trafod siwrne Rhian i fod yn awdur, y pethau sy’n ei hysbrydoli a’i chyngor ar gyfer awduron newydd.
Sgribls Pennod 16: Gwenno Gwilym 04.05.2026 30:53
Gwestai pennod cyntaf y drydedd gyfres o Sgribls yw Gwenno Gwilym, enillydd Gwobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn 2025 a Gwobr Barn y Bobl 2025 gyda'i nofel cyntaf, dwyieithog - V + Fo.
Sgribls Pennod 15: Rhiannon Lewis 15.07.2025 47:41
Mae Marged yn sgwrsio gyda Rhiannon Lewis am ei nofel diweddaraf, The Significance of Swans, ei gyrfa fel awdur a sut mae ei dull ysgrifennu yn amrywio gyda bob llyfr.
Sgribls Pennod 14: Simon Chandler 07.11.2024 58:45
Mae Marged yn sgwrsio gyda'r awdur Simon Chandler am ei nofel gyntaf, Llygad Dieithryn, ei siwrne'n dysgu'r Gymraeg a heriau ysgrifennu nofel, ei angerdd a'i waith er mwyn diwylliant Cymru, a'r pethau sy'n ei ysbrydoli.
Sgribls Pennod 13: Meinir Pierce Jones 04.10.2024 32:21
Gwestai'r bennod hon yw Meinir Pierce Jones, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2022 efo'i nofel hanesyddol, Capten, a golygydd yng Ngwasg y Bwthyn. Ceir trafodaeth am ddyletswydd awdur tra'n ysgrifennu am gymeriadau hanesyddol, pwysigrwydd dyfalbarhau, a beth sy'n gwneud stori arbennig o safbwynt golygydd.
Sgribls Pennod 12: Sioned Erin Hughes 09.09.2024 1:06:31
Gwestai pennod cynta'r ail gyfres o Sgribls yw Sioned Erin Hughes, enillydd y Fedal Ryddiaith 2022 gyda'i chyfrol Rhyngom . Mae Erin eisioes wedi cyhoeddi O'r Rhuddin , casgliad o gerddi a myfyrdodau, a wedi curadu a golygu Iaith Heb Ffiniau , cyfrol am fagu'r Gymraeg dramor.
Sgribls Pennod Bonws: Mari George 08.08.2024 27:22
Mae Marged yn holi Mari George, awdur Sut i Ddofi Corryn ac enillydd Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2024 am ei llwyddiant, ei siwrne i gyhoeddi, a'i phroses ysgrifennu.
Sgribls Pennod 10: Bethan Gwanas 13.06.2024 51:08
Mae Marged yn sgwrsio gyda Bethan Gwanas am ei nofel diweddaraf, y pethau sy’n ei hysbrydoli, sut mae’n ymdopi efo cyfnodau pan nad yw’r geiriau’n llifo, a’i chyngor gwerthfawr i awduron newydd.
Sgribls Pennod 9: Rebecca Thomas 10.05.2024 34:11
Mae Marged yn sgwrsio gyda'r awdur Rebecca Thomas am ei llyfrau, ei chyfnod fel awdur preswyl Parc Genedlaethol Bannau Brycheiniog, ymchwilio hanes cyfoethog Cymru, a heriau penodol ysgrifennu ar gyfer oedolion ifanc.
Sgribls Pennod 8: Llyfrau Melin Bapur 15.04.2024 46:13
Mae Marged yn sgwrsio gyda Adam Pearce am ei gwmni cyhoeddi, Llyfrau Melin Bapur. Ceir trafodaeth am gyhoeddi'n annibynnol, heriau sefydlu busnes newydd, a ymroddiad y cwmni i gyhoeddi llenyddiaeth Cymraeg o'r 19eg ganrif, a fyddai fel arall ar goll.
Sgribls Pennod 7: Joanna Davies 15.03.2024 38:08
Mae Marged yn sgwrsio gyda Joanna Davies, awdur y gyfres Bwci-Bo, am ei gyrfa, y broses o ysgrifennu llyfrau stori a llun, y profiad golygyddol, a'r her o farchnata a hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.
Sgribls Pennod 6: Meleri Wyn James 12.02.2024 44:11
Gwestai'r bennod hon yw Meleri Wyn James, enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 efo'i nofel diweddaraf, Hallt. Mae Marged a Meleri'n trafod llwyddiant, sut i ymdopi efo methiant, sut mae Meleri'n magu syniadau a mynd ati i ysgrifennu, a'i gwaith fel golygydd creadigol. Y llyfrau a awgrymir gan Meleri yw Yr Apel/The Appeal gan Mererid Hopwood a Jenny Mathers, a Yellowface gan R...
Sgribls Pennod 5: Elidir Jones 12.01.2024 39:40
Gwestai'r bennod yma yw'r sgriptiwr a'r awdur Elidir Jones, enillydd Llyfr y Flwyddyn 2020 Categori Plant a Phobl Ifanc efo'i nofel ffantasi Yr Horwth . Ceir trafodaeth am greu bydoedd ffantasi, ymchwilio chwedlau gwerin er mwyn ysgrifennu straeon arswyd, sut mae ysgrifennu sgriptiau yn cymharu a 'sgwennu nofelau, a llawer mwy yn y bennod hon!
Sgribls: Rhagflas/ Trailer 09.01.2024 0:47
Blas byr o Sgribls - y bodlediad i unrhyw un sydd a diddordeb mewn ysgrifennu, llyfrau a diwydiant cyhoeddi Cymru. An introduction to Sgribls - the podcast for anyone with an interest in writing, books and the publishing industry in Wales.
Sgribls Pennod 4: Rachel Lloyd 11.12.2023 42:58
Yn y bennod hwn mae Marged yn sgwrsio efo Rachel Lloyd, Pennaeth Cyhoeddi a Golygydd Creadigol yn Atebol. Mae'r bennod yma yn llawn gwybodaeth am y diwydiant cyhoeddi a'r broses golygu, a mae Rachel yn rhannu cyngor gwerthfawr i bawb sydd a diddordeb mewn gyrfa yn y maes cyhoeddi, ac i awduron sy'n cysidro cyflwyno eu llawysgrifau i gyhoeddwyr. Y llyfr a awgrymir gan Rachel yn y bennod yma yw The...
Sgribls Pennod 3: Nicola Edwards 15.11.2023 41:44
Mae Marged yn sgwrsio efo'r awdur Nicola Edwards am ei nofel cyntaf, This Thing of Darkness, a thrafod ymchwilio'r nofel, y broses ysgrifennu, yr her o 'sgwennu stori gwreiddiol o fewn cyfyngiadau llenyddol, a'i phrosiect cyffrous nesaf. Y llyfr a awgrymir gan Nicola yn y bennod hon yw Demon Copperhead gan Barbara Kingsolver.
Sgribls Pennod 2: Gwenllian Ellis 13.10.2023 38:46
Mae Marged yn sgwrsio efo Gwenllian Ellis, enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 2023 am ei llyfr cyntaf, Sgen i'm Syniad: Snogs, Secs, Sens a thrafod y rhesymau pam mae Gwenllian yn 'sgwennu, yr ymateb i'w llyfr, gwthio ffiniau cymdeithasol drwy ysgrifennu a be' sy'n dod nesaf. Y llyfr a awgrymir gan Gwenllian yn y bennod hon yw Tomorrow, and Tomorrow, and Tomorrow gan Gabrielle Zevin.
Sgribls Pennod 1: Rebecca Roberts 21.09.2023 43:38
Mae Marged yn sgwrsio gyda Rebecca Roberts, enillydd gwobr Tir-Na-Nog 2021 a Llyfr y Flwyddyn 2021 categori Plant a Phobl Ifanc, am 'sgwennu yn y Gymraeg a'r Saesneg, ei siwrne at gyhoeddiad a jyglo teulu a gyrfa. Y llyfrau a awgrymir gan Rebecca yn y bennod hon yw:The Short Knife gan Elen CaldecottRepublic gan Nerys WilliamsSugar and Slate gan Charlotte WilliamsPaid a Bod Ofn gan Non ParryGirl, W...
Podobne podcasty
Replaio nie jest wydawcą podcastów; nazwy audycji, okładki i audio należą do ich autorów i są rozpowszechniane przez publiczne kanały RSS