BBC Radio Cymru

Beti a'i Phobol

Society CY ↓ 661 episodes

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Author

BBC Radio Cymru

Category

Society

Podcast website

www.bbc.co.uk

Latest episode

Jul 6, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Laura Karadog 05.12.2021

Laura Karadog ydi'r cwmni, ac fe gawn glywed am ei magwraeth yn Nhal-y-bont ger Bangor, a'i chyfnod hapus yn Ysgol Llanllechid ac Ysgol Dyffryn Ogwen - a'i thaith yn 12eg mlwydd oed i Czechoslovakia. Mae hi'n sôn am y profiad o fyw yn Tokyo, gweithio yn San Steffan a'i chyfnod yn Philadelphia yn dysgu mwy am y Crynwyr. Fe fu'n brwydro'r clefyd anorecsia yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol yn Aberys...

Dr Robin Parry 28.11.2021

Dr Robin Parry, meddyg teulu yn Llanberis am dros 30 mlynedd ydi gwestai Beti George. Ei gariad cyntaf yw pysgota ac mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y Torgoch sy'n byw yn Llyn Padarn. Mae newydd ymddeol ac yn sôn am ei gyfnod yn hyfforddi ym Manceinion ac yn trafod yr heriau mae meddygon wedi ei wynebu yn ystod y pandenig. Mae'n rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i g...

Steffan Huws 21.11.2021

Beti George yn sgwrsio gyda pherchennog Poblado Coffi, Steffan Huws. Cawn glywed am ei fagwraeth ym Mhontypridd, ei hanes yn dysgu Saesneg yn Nhaiwan a Colombia lle bu yng nghanol achos hunllefus o herwgipio a'i fusnes yn Ddyffryn Nantlle sydd yn rhostio coffi. Mae Steffan hefyd yn rhannu straeon rif y gwlith ac yn dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.

Elin Llwyd Morgan 07.11.2021

Mae Beti George yn sgwrsio gydag Elin Llwyd Morgan am ei gyrfa fel newyddiadurwraig, cyfarfod Peris ei chymar a sut wnaeth ei bywyd newid pam symudodd i Glyn Ceiriog i fyw a phan ddaeth ei mab Joel i'r byd. Mae hi'n sôn am ei magwraeth, ei hoffter o nofio yn y môr ac yn rhannu ei phrofiadau personol o fagu mab sydd ag awtistiaeth. Mae hi hefyd yn dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.

Dr Paula Roberts 31.10.2021

Beti George yn sgwrsio gydag Dr Paula Roberts sydd wedi treulio amser yn yr Arctig ac Antartica, ac wedi seiclo yn yr Himalayas a Uzbekistan.

Philippa Gibson 24.10.2021

Philippa Gibson sydd yn sgwrsio gyda Beti George, merch o Fryste sydd wedi setlo yn Llanrgannog ac yn gwneud llawer o waith yn ei chymuned. Mae hi hefyd yn fardd yn diwtor iaith ac yn blymar ac yn ymgyrchu dros newid hinsawdd.

Yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd. 13.09.2021

Cyn i'r Eisteddfod AmGen ddechrau, mae Beti George yn sgwrsio gyda'r Archdderwydd Myrddin Ap Dafydd am ei gefndir a'i ddylanwadau cynnar yn Llanrwst, ac am ei natur o fentergarwch.

Dylan Rhys Jones 12.09.2021

Beti George yn sgwrsio gyda'r cyn-gyfreithiwr troseddol, Dylan Rhys Jones. Dylan yw awdur y llyfr "The Man in Black" sydd yn sôn am brofiadau Dylan o fod yn gyfreithiwr amddiffynnol i'r llofrudd Peter Moore ynghanol nawdegau'r ganrif ddiwethaf.

Andria Doherty 11.09.2021

Gwestai Beti George yw'r actores Andria Doherty, ddaeth i'r amlwg yn y gyfres "It's a Sin" fel y cymeriad Eileen Morris-Jones. Cawn ei hanes cynnar yng Nghwm Tawe ac am ei gwaith fel nyrs cyn i salwch ei tharo a golygu bod hi'n newid cyfeiriad o ran gyrfa.

D. L. Davies 10.09.2021

Beti George yn sgwrsio gydag un o frodorion Cwm Cynon, yr hanesydd a'r athro Cymraeg, D. L. Davies. Cawn hanes ei blentyndod fel un o blant cyntaf yr Ysgol Gymraeg yn Aberdâr, a hefyd ei brofiad fel athro Cymraeg Ail Iaith am dros chwarter canrif yn Ysgol Uwchradd Afon Taf.

Llinos Medi Huws 10.09.2021

Gwestai Beti George yw Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Y Cynghorydd Llinos Medi Huws. Cawn gyfle i glywed am ei magwraeth ar fferm fach Ffleicws ger Llanddona, ac am gyfnodau heriol wrth iddi dyfu fyny.

Tomos Grace 10.09.2021

Beti George yn sgwrsio â Tomos Grace, Pennaeth cynnwys Chwaraeon Youtube yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica.

Owain Fôn Williams 10.09.2021

Gwestai Beti George ar ddechrau Cystadleuaeth yr Ewro's yw'r gôl-geidwad ac un o garfan tîm llwyddiannus Cymru yn Ewros 2016, Owain Fôn Williams.

Tom Evans 10.09.2021

Gwestai Beti George yw'r Parch. Tom Evans a fu'n gweithio i Gymorth Cristnogol am nifer o flynyddoedd cyn troi at gaplaniaeth gwirfoddol gyda Heddlu Dyfed Powys.

Paul Sambrook 10.09.2021

Gwestai Beti yr wythnos hon yw'r archeolegydd Paul Sambrook o Gastell-Nedd sydd yn sôn am ei fagwraeth yn y dre ac am gyfnod yng Nghanada, cyn darganfod y Gymraeg yn ei arddegau hwyr.

Maxine Hughes 10.09.2021

Gwestai Beti George yw'r newyddiadurwraig Maxine Hughes, o Gonwy yn wreiddiol ond nawr yn byw yn Washington DC. Cawn glywed am ei phrofiadau fel newyddiadurwraig yn Nhwrci ac yn gohebu ar farwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau.

Sara Yassine 10.09.2021

Fel rhan o Tafwyl, mae Beti George yn holi'r ferch ifanc o Gaerdydd Sara Yassine lle mae hi'n sôn am dyfu fyny fel merch Mwslemaidd Gymraeg yn y brifddinas.

Llinos Elin Owen 10.09.2021

Gwestai Beti yw'r baswnydd Llinos Elin Owen, sydd yn Brif Faswnydd i Symffonia'r Ballet Brenhinol yn Birmingham. Mae hi'n sôn am y ddamwain cafodd hi yn 2009 a newidiodd ei bywyd yn llwyr. Erbyn hyn mae hi'n ceufadu (kayaking) i dîm Paralympaidd Prydain.

Jên Angharad 27.05.2021

Y ddawnswraig egniol Jên Angharad yw gwestai Beti George. Mae hi'n son am ei chyflwyniad i'r iaith Gymraeg ac am ddylanwad anferthol ei hathrawes yn Ysgol Morgan Llwyd, Gwawr Davies tuag at y gyrfa mae hi'n dilyn heddiw.

Jeremy Vaughan, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru 26.05.2021

Beti George yn sgwrsio gyda Phrif Gwnstabl Heddlu De Cymru Jeremy Vaughan am ei fagwraeth yn Nolgellau, a'i yrfa yn yr heddlu. Mae hefyd yn trafod y gwaith mae wedi ei wneud yn hybu'r iaith Gymraeg gyda Heddlu De Cymru.

Rhys Patchell 25.05.2021

Beti George yn sgwrsio gyda'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Rhys Patchell, sy'n trafod ei ddylanwadau cynnar, a'i ddyfalbarhad a'i alluogodd i wireddu ei freuddwyd o gynrychioli ei wlad ar y maes rygbi.

Gerallt Pennant 24.05.2021

Un o leisiau cyfarwydd Radio Cymru, Gerallt Pennant sy'n cadw cwmni i Beti George. Mae'n sôn am farwolaeth ei dad pan oedd e'n fachgen ifanc ac effaith hynny arno, yn ogystal â'i fagwraeth ym Mryncir, ble roedd ei rieni yn "cadw fisitors".

Y Parchedig John Gillibrand 24.05.2021

Y gwestai yw'r Parchedig John Gillibrand, ficer yn ardal Pontarddulais sydd wedi bod yn brwydro yn ddiweddar dros gael y brechlyn i'w fab Adam sydd yn awtistig. Mae John yn wreiddiol o ardal Manceinion ac yn sôn am ei gyfnod ym Mhrifysgol Rhydychen yn astudio Hanes cyn troi ei olygon at Gymru, Y Gymraeg a'r Eglwys.

Dr. Meinir Jones 24.05.2021

Beti George yn sgwrsio gyda'r Dr. Meinir Jones sydd wedi bod yn brysur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn gyfrifol am yr holl ysbytai maes ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae hi'n trafod ei magwraeth yn ardal Pontardawe, yn ogystal â'i phrofiadau fel meddyg yn Awstralia ac Ynysoedd Arran.

Mared Gwyn 24.05.2021

Yn cadw cwmni i Beti George mae'r Ymgynghorydd Cyfathrebu gyda chwmni BCW ym Mrwsel, Mared Gwyn. Mae hi'n sôn am ei chyfnod anodd ym Mhrifysgol Caergrawnt, ei hoffter o ddysgu ieithoedd ac o deithio, a sut mae ei gwaith fel ymgynghorydd cyfathrebu wedi newid yn ystod y Cyfnod Clo.

Listen to the Beti a'i Phobol podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.