BBC Radio Cymru
Beti a'i Phobol
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Mared Lewis 12.05.2021 50:40
Gwestai Beti George yw'r awdures o Sir Fôn, Mared Lewis. Mae'n awdures llyfrau megis Esgid Wag, Y Maison Du Soleil a Mîn y Môr a chawn glywed am ei magwraeth ac am ei chariad amlwg tuag at ysgrifennu.
Llinos Rowlands 12.05.2021 49:34
Yn cadw cwmni i Beti George mae Llinos Rowlands o Gwmni Gwin Dylanwad yn Nolgellau. Cawn hanes ei phlentyndod yn ardal Arthog, sefydlu'r busnes a sut mae'r busnes wedi ymdopi yn y cyfnod yma.
David T C Davies 08.05.2021 46:04
Gwestai Beti George yw Aelod Seneddol Mynwy David T C Davies, lle cawn wybod am ei yrfa fel gwleidydd, ac am ei gefndir a'i berthnasau diddorol.
Eric Jones 07.05.2021 49:34
Beti George yn sgwrsio gydag Eric Jones, cyfansoddwr y darn corawl "Y Tangnefeddwyr". Mae'n sôn am ei yrfa fel athro a phrifathro, ei gyfnod fel cyfeilydd Côr Meibion Pontarddulais a hefyd am gydweithio gyda'r band Pink Floyd.
10/01/2021 07.05.2021 48:02
Prif Weithredwr Green Finance Institute yn Llundain, Dr Rhian-Mari Thomas yw'r cwmni. Yn wreiddiol o Gaerdydd, aeth hi ymlaen i astudio Ffiseg yng Nghaerfaddon a Dulyn cyn troi i'r byd arian, ac erbyn hyn yn arwain y Chwyldro Gwyrdd ar yr ochr ariannol.
Paul Carey Jones 07.05.2021 51:49
Y canwr opera Paul Carey Jones yw'r cwmni, ac mae'n sôn am ei blentyndod yng Nghaerdydd, astudio Ffiseg yn Rhydychen a mynd i ddysgu cyn newid gyrfa a throi at ganu Opera. Mae Paul hefyd wedi cyhoeddi blog am ei brofiadau fel canwr yn ystod y cyfnod clo, ac am ei brofiad o gael ei daro gan Covid 19 ym mis Ebrill.
Anna Aleko Skalistira Bakratseva 26.04.2021 49:18
Beti George yn sgwrsio efo Anna Aleko Skalistira Bakratseva, sy'n wreiddiol o Fwlgaria. Mae'n trafod y profiad o symud ei theulu cyfan i Gymru ac wedyn yr her o ddysgu Cymraeg, ac yn sgwrsio am ei magwraeth yn Sofia ac am wreiddiau ei theulu yng Ngwlad Groeg.
Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford 31.12.2020 50:36
Beti George yn sgwrsio gyda Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ar amser anodd iawn i bawb yn ystod y pandemig. Cawn hefyd wybod am ei fagwraeth yng Nghaerfyrddin, ei waith fel Swyddog Prawf a darlithydd, cyn troi at wleidyddiaeth.
Geraint Talfan Davies 24.12.2020 50:10
Beti George yn sgwrsio gyda chyn-bennaeth y BBC yng Nghymru, Geraint Talfan Davies am ei linach enwog ac am ei blentyndod yn Abertawe, Y Barri a Chaerdydd. Cawn wybod am ei waith fel newyddiadurwr gyda'r Western Mail ac am yr hyn sydd yn ei gadw'n brysur nawr sef ceisio datblygu Castell Cyfarthfa ym Merthyr yn ganolfan dreftadaeth ddiwydiannol i Gymru.
Gwenllian Lansdown Davies 24.12.2020 50:03
Prif Weithredwr y Mudiad Meithrin, Gwenllian Lansdown Davies ydi'r cwmni. Mae'n trafod yr heriau mae hi wedi gorfod wynebu yn arwain y Mudiad Meithrin yn ystod y cyfnod diweddar.
06/12/2020 24.12.2020 49:05
Beti George yn sgwrsio gyda'r cerddor Dulais Rhys, sydd o Gaerfyrddin yn wreiddiol ond bellach yn byw yn nhalaith Montana yn yr Unol Daleithiau. Cawn wybod am ei arbenigedd yng ngwaith y cerddor Joseph Parry a hefyd am ei farn ynglŷn â'r etholiad diweddar yn ei wlad.
22/11/2020 23.12.2020 47:03
Gwestai Beti George yr wythnos hon yw'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies sef Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych. Cawn ddarganfod am ei blentyndod trist pan gollodd ei fam, ei frawd a'i chwaer mewn amser byr. Mae e hefyd yn sôn am ei gariad tuag at ei ardal, ei deulu ac at y Gymraeg.
Robert Joseph Jones 23.12.2020 48:23
Un o drigolion yr Unol Daleithiau sef Robert Joseph Jones yw'r gwestai - mae o dras Gymreig ac yn enedigol o Pennsylvania, ond yn byw nawr yn nhalaith Efrog Newydd. Mae'n sôn am ddysgu Cymraeg pan oedd yn unarddeg oed ac am ei hoffter o ieithoedd yn gyffredinol. Mae hefyd yn trafod yr etholiad arlywyddol diweddar ac am ei anfodlonrwydd gyda Donald Trump.
Anna Jane Evans 23.12.2020 46:48
Y Parchedig Anna Jane Evans yw gwestai Beti George. Cawn gyfle i ddysgu am ei phrofiad o weithio i elusen Cymorth Cristnogol am dros ugain mlynedd, lle cafodd hi'r cyfle i ymweld â gwledydd fel Bangladesh a Sierra Leone. Mae hi hefyd yn sôn am ei phrofiad o gael ei hordeinio yn weinidog yn ystod y Cyfnod Clo.
Tegwen Ellis 23.12.2020 48:17
Gwestai Beti George yw Prif Weithredwr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, Tegwen Ellis. Yn wreiddiol o'r Barri cafodd ei phenodi yn bennaeth Ysgol Cynwyd Sant, Maesteg cyn symud mlaen i'w swydd newydd yn cynghori penaethiaid yn y byd addysg.
Aran Jones 23.12.2020 49:32
Gwestai Beti George yw sylfaenydd Say Something in Welsh sef Aran Jones. Mae'n sôn am ei blentyndod yn teithio'r byd gyda'i deulu, ei addysg mewn ysgolion preswyl ac am gyfnod anodd yn ei fywyd. Mae e hefyd yn sôn am ei ddeffroad ieithyddol, ei wreiddiau Cymraeg ac am lwyddiant Say Something In Welsh.
Carl Morris 23.12.2020 47:35
Beti George yn sgwrsio gyda Carl Morris sydd yn arbenigwr ar y We ac yn ymgyrchydd dros yr iaith Gymraeg, ac sydd am weld Cymru yn symud ymlaen yn yr oes ddigidol. Wedi ei eni yn Slough, mae e'n sôn am ei gefndir Tseiniaidd, ei gariad at gerddoriaeth ac am ei waith fel DJ.
Dr Bleddyn Bowen 23.12.2020 49:09
Gwestai Beti George yw'r arbenigwr ar Wleidyddiaeth y Gofod, Dr Bleddyn Bowen o Brifysgol Caerlŷr. Yn wreiddiol o Landysul mae'n son am sylfeini ei ddiddordeb yn ei bwnc, pwy yw'r pwerau mawr yng ngwleidyddiaeth y Gofod a lle mae rôl Cymru yn hyn. Cawn hefyd glywed rhai o ddarnau cerddorol ei hoff gemau cyfrifiadurol.
Dr Nia Williams 23.12.2020 49:02
Beti George yn sgwrsio gyda'r seicolegydd plant Dr Nia Williams o Brifysgol Bangor. Mae'r sgwrs yn sôn am ei magwraeth fel "How Get" ym Methesda, ei phrofiad yn byw gyda dyslecsia, teithio'r byd a nofio gydag Orcas yn y gwyllt.
Jeremy Miles 04.12.2020 49:27
Beti yn sgwrsio gyda Chwnsler Cyffredinol Cymru a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles. Cawn hanes ei fagwraeth ym Mhontarddulais, ei gyfnod ym Mhrifysgol Rhydychen a'i waith fel cyfreithiwr cyn troi at wleidyddiaeth.
Ena Thomas 04.12.2020 37:35
Yn dilyn marwolaeth y gogyddes Ena Thomas yn gynharach eleni, cyfle arall i wrando ar ei chyfweliad gyda Beti George yn 1996.
Andrew 'Tommo' Thomas 04.12.2020 46:54
Yn dilyn marwolaeth yr unigryw Andrew "Tommo" Thomas cyfle arall i wrando ar ei gyfweliad gyda Beti George yn 2016. Mae Tommo'n sôn am ei blentyndod yn Aberteifi ac am ei yrfa fel DJ a darlledwr. Cewch glywed am ei frwydr yn erbyn salwch ond hefyd am ei gred bod angen edrych ar yr ochr bositif trwy'r amser.
Chris Needs a Margaret Rose 04.12.2020 33:43
Yn dilyn marwolaeth y darlledwr Chris Needs fis dwetha, dyma gyfle i ail glywed sgwrs rhyngddo fe, ei fam Margaret Rose a Beti George nol yn 1997 ar ol i Chris ddechrau fel cyflwynydd gyda Radio Cymru. Cawn glywed am ei fagwraeth yng Nghwmafan, ei yrfa fel pianydd llwyddiannus yn chwarae gyda chantorion enwog fel Bonnie Tyler a Shirley Bassey ac hefyd am ei lwyddiant fel darlledwr poblogaidd.
Siôn Eirian 04.12.2020 33:16
Beti George yn sgwrsio gyda'r Prifardd a'r dramodydd Sïon Eirian a fu farw yn gynharach eleni. Yn fab i'r Parchedig Eirian Davies a'i wraig Jennie Eirian Davies, mae'n sôn am ei fagwraeth, ei dueddiad i fod yn rebel, ac wrth gwrs ei waith anhygoel fel dramodydd a bardd. Fe ddarlledwyd y rhaglen gynta yn1991.
Manon Williams 01.12.2020 47:19
Gwestai Beti George yw Manon Williams sydd yn fetron yn Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd a hefyd yn Adran Gancr Ysbyty Glan Clwyd. Cawn glywed am ei phrofiadau ers iddi ddechrau fel nyrs yn 1984, ac wrth gwrs am ei phrofiadau ers cychwyn Covid 19.
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.