BBC Radio Cymru
Lleisiau Cymru
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A collection of Welsh language podcasts featuring interesting voices and opinions from across Wales.
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Nathan Gill a chysgod y Kremlin 30.06.2026 35:37
Cyfres sy’n ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Yng nghwmni’r bobl oedd yno – ar wyneb y graig, yn ymchwilio ac yn adrodd ar yr achosion – mae’r cyn-farnwr Nic Parry yn ail-fyw digwyddiadau a gafodd effaith ddofn ar gymunedau ac ar y system gyfiawnder. Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r...
Y Brodyr Darvell - Carcharu ar gam 23.06.2026 27:45
Cyfres sy’n craffu ar rai o achosion troseddol fwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Y cyn-farnwr Nic Parry sy’n cael cwmni’r bobol oedd yn rhan o’r achosion ac sydd yn cofio’r effaith ddofn gafwyd ar gymunedau Cymru, ac yn trafod y penderfyniadau allweddol a’r digwyddiadau dramatig newidiodd fyd yr unigolion ynghlwm â’r achosion. Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cw...
Trywanu Yn Ysgol Dyffryn Aman 16.06.2026 27:37
Cyfres sy’n craffu ar rai o achosion troseddol fwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Y cyn-farnwr Nic Parry sy’n cael cwmni’r bobol oedd yn rhan o’r achosion ac sydd yn cofio’r effaith ddofn gafwyd ar gymunedau Cymru, ac yn trafod y penderfyniadau allweddol a’r digwyddiadau dramatig newidiodd fyd yr unigolion ynghlwm â’r achosion. Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cw...
Marwolaeth Julie Clarke 09.06.2026 27:40
Cyfres sy’n ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Yng nghwmni’r bobl oedd yno – ar wyneb y graig, yn ymchwilio ac yn adrodd ar yr achosion – mae’r cyn-farnwr Nic Parry yn ail-fyw digwyddiadau a gafodd effaith ddofn ar gymunedau ac ar y system gyfiawnder. Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r...
Cyflwyno cyfres newydd - Y Podlediad Trosedd 04.06.2026 1:37
Yn Y Podlediad Trosedd mae'r cyn-farnwr Nic Parry yn ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf cymhleth a dadleuol Cymru, gan ail-fyw’r hanes, y gyfraith a’r cwestiynau sy’n parhau. I gael gwybod pan fydd pennod newydd yn cyhoeddi chwiliwch am bodlediad Lleisiau Cymru a thanysgrifiwch.
Cyfres 2, Pennod 6: Canser plant 19.05.2026 53:36
Canser plant sy'n cael sylw ym mhennod olaf y gyfres. Yn cadw cwmni i Mari mae Dr Celyn Kenny, meddyg sy'n arbenigo mewn canser plant ac yn gweithio yn Ysbyty Arch Noa, Caerdydd, a Gwennan Eleri sy'n fam i Megan a gafodd ddiagnosis o Acute Lymphoblastic Leukaemia (ALL) yn 2024.
Cyfres 2, Pennod 5: Byw gyda chanser cam 4 12.05.2026 41:34
Yn y bennod hon, mae Mari'n cael cwmni Tudur Hallam, enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025, sydd yn rhannu ei brofiad o fyw gyda chanser cam 4.
Cyfres 2, Pennod 4: Partneriaid 05.05.2026 51:42
Yn y bennod hon, partneriaid sy'n cael sylw, ac mae Mari'n cael cwmni Catrin Jenkins sy'n wraig i Robert a gafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2018, a Gwyn Loader sy'n ŵr i Lowri a gafodd ddiagnosis o ganser y fron yn 2022.
Cyfres 2, Pennod 3: Dynion 28.04.2026 40:12
Yn ymuno â Mari yn y bennod hon mae Meirion Davies, ffermwr o ardal Caerfyrddin a gafodd ganser y prostad bedair blynedd ar ddeg yn ôl, a Dr Harri Pritchard o Ynys Môn, a gafodd ganser y coluddyn yn 2024. Mae’r ddau yn rhannu eu profiadau ac yn pwysleisio pa mor bwysig yw siarad yn agored.
Cyfres 2, Pennod 2: Tair o'r un teulu 21.04.2026 58:43
Yn fuan wedi diagnosis Mari, cafodd Elan ei chyfnither a Lisa ei chwaer hefyd ddiagnosis o ganser y fron. Mae'r dair yn trafod y profiad swreal o fod yn cael triniaeth am ganser ar yr un pryd ac yn cymharu profiadau.
Cyfres 2, Pennod 1: Mari 14.04.2026 48:17
Ddwy flynedd ers y gyfres gyntaf, Dr Llinos Roberts sy'n cadw cwmni i Mari wrth iddi rannu'r diweddaraf am ei siwrne hi â chanser.
Lisa Fearn 24.03.2026 30:06
Y cogydd Lisa Fearn sy’n ymuno efo Meinir Gwilym i drafod tyfu cynnyrch ei hun a’i ddefnyddio yn ei choginio. Mae hi hefyd yn trafod yr ysgol goginio a sut mae tyfu a choginio yn ddylanwad positif nid yn unig ar blant ifanc ond oedolion hefyd. Cawn hefyd glywed gan Kim a drodd at arddio yn ystod cyfnod anodd yn ei bywyd. Ei llwyddiant mwyaf oedd tyfu blodau’r haul yn ei gardd yng Nghaernarfon a bl...
Al Lewis 17.03.2026 27:18
Y canwr a’r cyfansoddwr Al Lewis sy’n ymuno efo Meinir Gwilym i drafod ei gyfnod yn tyfu ar randir, y pwysigrwydd o ddangos i’w blant o ble mae bwyd yn dod a’i ardd ddinesig yng Nghaerdydd. Cawn hefyd glywed gan Mari sydd wedi bod yn byw a’n gweithio fel warden ar Ynys Enlli. Yn fuan ar ôl cyrraedd, fe adeiladodd Mari dwnnel tyfu ar yr ynys heb brofiad o dyfu cynnyrch ei hun cyn hynny. Bellach, ma...
Eilir Evans, CPD Felinfach 10.03.2026 19:18
Pan nad yw'n canu ar hyd a lled y wlad fel y Welsh Whisperer, mae Andy Walton wrth ei fodd yn sefyll ar ochr cae pêl-droed. Dilynwch y gŵr sy'n wreiddiol o Gwm Felin Mynach ar daith o amgylch clybiau'r gogledd orllewin, lle mae cannoedd o bobl yr un fath ag o yn pentyrru bob penwythnos. Mae'n cyfarfod y cymeriadau sydd yn rhoi oriau o'u hamser i sicrhau bod eu timau nhw a'u cymunedau nhw'n bodoli...
Merched Caernarfon 03.03.2026 19:14
Mae tîm merched Caernarfon bellach yn rhan swyddogol o'r clwb. Andy sy'n cael clywed mwy. Andy visits his beloved Oval in Caernarfon.
Pennod 4: Eleri Siôn 01.03.2026 45:58
Ymunwch efo Llŷr a Lisa wrth iddyn nhw ganu cloch Eleri Siôn a chael croeso mawr yn ei chartref. O’r Ewros i bianos, a phobi bara yn y Barri – mae’r oll sydd yn ei thŷ yn sbardun am stori!
Pennod 2 01.03.2026 24:34
Stori am frwydr, dewrder, brad a gwladgarwch; Aled Hughes sy’n holi pwy oedd Llywelyn Ein Llyw Olaf a beth yn union ddigwyddodd iddo? Yr hanesydd Euryn Roberts sy’n cyflwyno’r cyd-destun hanesyddol a gwleidyddol a arweiniodd at frwydr Cilmeri a marwolaeth Tywysog olaf Cymru yn 1282.
Pennod 1 01.03.2026 21:17
Stori am frwydr, dewrder, brad a gwladgarwch; Aled Hughes sy’n holi pwy oedd Llywelyn Ein Llyw Olaf a beth yn union ddigwyddodd iddo? Yr hanesydd Euryn Roberts sy’n cyflwyno’r cyd-destun hanesyddol a’r llinell amser gan ddechrau yn y degawdau cyn marwolaeth Tywysog olaf Cymru yn 1282.
Nantlle Vale 25.02.2026 18:30
Kim, Sue a Sara sy'n cadw cwmni i Andy Walton yn Maes Dulyn, Penygroes.
Richard Jones, Bont F.C. 17.02.2026 26:59
Richard Jones, neu 'Dicky Mint' sy'n sgwrsio hefo Andy am glwb Bont FC, Pontrhydfendigaid
Enlli a Chadwraeth 03.02.2026 34:38
Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl? Siân Stacey ac Elinor Gwynn sy'n cadw cwmni i Dylan ac yn trafod sawl Beth Petai? sy'n gysylltiedig gydag Ynys Enlli a chadwraeth yn gyffredinol.
Papur Newydd Dyddiol Cymraeg 27.01.2026 30:56
Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl? Aled Gruffydd Jones sy'n cadw cwmni i Dylan ac yn trafod y wasg Gymraeg a'r syniad o bapur newydd dyddiol yn y Gymraeg.
Porthladdoedd a Phrifddinasoedd 20.01.2026 38:58
Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl? Elin Haf Gruffydd Jones a Rhys Jones sy'n trafod rhai o ddinasoedd a threfi Cymru gyda Dylan Iorwerth: Beth Petai Caerdydd ddim yn brifddinas? Beth petai Porthdinllaen yn brif borthladd i Ogledd Cymru yn lle Caergybi? Beth petai'r Llyfrgell Genedlaethol mewn tref arall?
Chwaraeon 13.01.2026 36:29
Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl? Mei Emrys a Ffion Owen sy'n ymuno gyda Dylan Iorwerth i drafod sawl "Beth Petai?" o'r byd chwaraeon.
Pennod 3: Mari Lovgreen 09.12.2025 44:40
Ymunwch efo Llŷr a Lisa wrth iddyn nhw ganu cloch Mari Lovgreen a chael croeso mawr yn ei chartref. Mae’r trugareddau celfyddydol yn ei thŷ yn llawn hanesion am ei bywyd - o delynau i doiledau, a phob dim yn y canol!
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.