BBC Radio Cymru
Lleisiau Cymru
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A collection of Welsh language podcasts featuring interesting voices and opinions from across Wales.
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Pennod 2: Nic Parry 02.12.2025 45:17
Ymunwch efo Llŷr a Lisa wrth iddyn nhw ganu cloch Nic Parry a chael croeso mawr yn ei gartref. Yn gyn-farnwr, sylwebydd pêl-droed ac arweinydd nosweithiau cerddoriaeth bop, mae gan Nic Parry lwyth o drugareddau celfyddydol yn ei dŷ sy’n ei atgoffa o gyfnodau amrywiol yn ei fywyd!
Gwersi Dolgarrog 02.11.2025 27:50
Bu farw 16 o bobl yn nhrychineb Dolgarrog, yn 1925, pan dorrodd dau argae uwchben y pentref. Mae Hywel Griffiths yn ddarlithydd daearyddiaeth ac yn y rhaglen hon, mae'n olrhain yr hanes ofnadwy hwn, gan ofyn pa wersi a ddysgwyd o 1925? Yn sicr, cyflwynwyd mesurau diogelwch newydd yn 1930 yn sgil Dolgarrog, a ’does yr un drychineb debyg wedi digwydd ers hynny - ond mae ofn llifogydd yn parhau. Mae...
Gwen y Wrach a Fi 21.10.2025 56:00
Mae Gwenllian Ellis, neu Gwen, wastad wedi bod eisiau gwybod mwy am Gwen Ellis arall. Yn 1594 cafodd Gwen ferch Ellis o Landyrnog ei chrogi ar grocbren sgwâr Dinbych ar gyhuddiad o fod yn wrach. Hi oedd y person cyntaf i gael ei chrogi am witshgrafft yng Nghymru. Yn y podlediad, Gwen y Wrach a Fi, mae Gwenllian Ellis yn mynd ar daith i ddarganfod pwy oedd Gwen y ferch, y chwaer, y ffrind, y wraig,...
Kiri Pritchard-McLean 07.10.2025 34:58
Kiri Pritchard McLean sy’n ymuno gyda Meinir Gwilym i sgwrsio am bopeth sy'n ymwneud â garddio! Ar ôl iddi ddychwelyd yn ôl i dŷ fferm y teulu, fe ddechreuodd gymryd diddordeb mewn tyfu ei chynnyrch ei hun yn enwedig dros y cyfnod clo. Bellach, mae ganddi brosiect go arbennig ar y gweill sy’n golygu tyfu llysiau a ffrwythau ar raddfa uwch gyda’r gobaith o allu darparu bocsys i fwydo aelodau o’r gy...
Hywel Pitts 30.09.2025 30:07
Wedi haf llawn gigs, mae Hywel yn cymryd seibiant haeddianol ac yn ymuno efo Meinir Gwilym i drafod ei ardd drefol yn y bennod yma o’r Podlediad Garddio. Mae Hywel wrth ei fodd yn tyfu llysiau a pherlysiau a’i gariad o goginio yn helpu iddo gynllunio’r hyn mae o am ei dyfu yn yr ardd yn flynyddol. Anne sy’n trafod yr ardd fuodd hi’n brysur yn ei greu ar gyfer ei phlant ifanc a sut mae hynny wedi...
Y Brotest 16.09.2025 28:01
Yn 1985 gwnaeth cynlluniau dadleuol Cyngor Dosbarth Caerfyrddin i adeiladu byncer yn y dre ysgogi ar brotestiadau gan gannoedd o ymgyrchwyr heddwch. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach mae'r rheiny oedd yn ei chanol hi’n adrodd yr hanes, ac yn ystyried pa mor real yw’r bygythiad niwclear o hyd?
Y llythyren G 09.09.2025 33:46
Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren G sydd dan sylw.
Y llythyren E 02.09.2025 42:11
Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren E sydd dan sylw.
Y llythyren A 26.08.2025 36:50
Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren A sydd dan sylw.
Y llythyren R 19.08.2025 30:28
Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren R sydd dan sylw.
Y llythyren M 12.08.2025 25:43
Ymunwch gyda Francesca Sciarillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud a’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy ... ac yn y bennod hon y llythyren M sydd dan sylw.
Y llythyren Y 05.08.2025 33:13
Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren Y sydd dan sylw.
Y llythyren C 29.07.2025 37:25
Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren C sydd dan sylw.
Mandy Watkins 15.07.2025 34:19
Y cynllunydd tai, Mandy Watkins sy’n ymuno gyda Meinir Gwilym i drafod gwaith adnewyddu ar ei thŷ fferm a’r ardd lle mae hi wedi bod yn byw dros y ddeng mlynedd diwethaf ar Ynys Môn. Mae hi’n galw ei hun yn ‘reluctant gardener’ ar ôl sylweddoli’r holl waith oedden nhw’n ymgymryd unwaith i’r teulu gychwyn adnewyddu Rallt. Yn y bennod yma, mae Mandy yn hel atgofion o’i chymdogion oedd yn garddio yn...
Dafydd Iwan 08.07.2025 33:34
Dafydd Iwan sy’n ymuno gyda Meinir i drafod tyfu llysiau yn yr ardd. Yn ddiddordeb sydd wedi dod yn fwy amlwg iddo dros y deng mlynedd diwethaf, mae’n cael boddhad o ailgysylltu gyda natur. Mae codi yn y bore i weld be sydd wedi egino yn un o bleserau mawr bywyd bellach. Yn y bennod yma, mi fydd Dafydd yn hel atgofion am ei blentyndod ac am ei ddiweddar frawd, Huw a’r rôl oedd garddio yn ei gymryd...
Ffion Emyr 01.07.2025 33:07
Ffion Emyr sy’n ymuno â Meinir i drafod ei gardd fodern yng nghanol tref Caernarfon. Yn brosiect ddaru Ffion ymgymryd yn ystod 2020 tra oedd Ffion a’i phartner adref, pa ffordd well i wario’r cyfnod clo nac i weithio ar yr ardd? Elfen bwysig oedd datblygu mannau er mwyn adlonni ffrindiau a theulu ac i gael rhywle addas (a gwahanol) i fwyta brecwast, cinio a swper yn yr ardd. Mae’r ardd hyd yn oed...
Yws Gwynedd 24.06.2025 34:07
Yws Gwynedd sy’n ymuno â Meinir Gwilym i drafod tyfu llysiau yn y bennod hon. Yn weithgaredd y dechreuodd ychydig flynyddoedd yn ôl er mwyn ceisio byw bywyd iachach, mae angerdd amlwg Yws am arddio wedi mynd cam ymhellach ar ôl iddo benderfynu adeiladu tŷ newydd yn agosach at y patsh llysiau! Wrth fyw bywyd prysur, sut mae treulio amser yn yr ardd yn helpu Yws o ddydd i ddydd ac ydi hynny’n ysbryd...
Un Cam gydag Elin Fflur 29.05.2025 28:40
Elin Fflur sydd yn ceisio dod i ddeall pam bod yna gynnydd mawr mewn merched yn rhedeg. Mae merched o bob oed, bob cefndir, a phob lefel ffitrwydd yn penderfynu rhoi'r esgidiau rhedeg ymlaen a chamu allan o'r tŷ, yn aml i'r tywyllwch neu'r glaw. Ai ffitrwydd yn unig yw’r rheswm dros hyn? Mae Elin yn siarad efo grwpiau rhedeg Môn Girls Run, Mae Hi'n Rhedeg, Smiles and Miles, Genod Gelert ac Anwen J...
Rhys Miles Thomas 27.05.2025 47:42
Mae Rhys Miles Thomas wastad wedi eisiau gwneud pethau'n wahanol. Ers pan yn fachgen o Alma, yn Sir Gaerfyrddin, fe ymdrechodd i roi gogwydd gwahanol ar y traddodiadol a herio drwy rannu ei neges ei hun. Gyda gyrfa lwyddiannus fel actor, cynhyrchydd, cyfarwyddwr, coreograffydd ac awdur, roedd ei ddyfodol yn ddisglair ar lwyfan byd-eang. Er hyn fe ddaeth diagnosis o Sglerosis Ymledol, i'w herio yn...
Kristy Hopkins 20.05.2025 34:59
Yr athrawes Kristy Hopkins, sy’n westai ar bennod 2 o ‘Meddwl yn Wahanol’. Cardi yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i theulu, mae Kristy yn gweithio’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o fyddardod a’r heriau mae plant a phobl fyddar yn eu hwynebu. Darganfu Kristy ei bod yn fyddar pan oedd yn 8 oed, pan nad oedd yn canolbwyntio yn yr ysgol. Er iddi gael y diagnosis, roedd ffordd hir o’...
Beth Frazer 13.05.2025 33:30
Y gantores Beth Frazer o Ynys Môn yw gwestai pennod gyntaf Meddwl yn Wahanol. Ar ôl rhyddhau ei senglau pop cyntaf yn 16 oed, fe wnaeth Beth fwynhau cyfnod prysur o berfformio ar hyd Cymru a Lloegr. Ond ymhen ychydig iawn o amser fe newidiodd ei bywyd yn llwyr. Ar ôl dioddef poenau yn ei llygad, fe gychwynnodd cyfnod hir o driniaeth a arweiniodd at ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd. Mae Beth yn t...
Porthmadog 25.04.2025 22:13
Pan nad yw’n canu ar hyd a lled y wlad fel y Welsh Whisperer, mae Andy Walton wrth ei fodd yn sefyll ar ochr cae pêl-droed. Dilynwch y gŵr sy’n wreiddiol o Gwm Felin Mynach ar daith o amgylch clybiau’r gogledd orllewin, lle mae cannoedd o bobl yr un fath ag o yn pentyrru bob penwythnos. Mae’n cyfarfod y cymeriadau sydd yn rhoi oriau o’u hamser i sicrhau bod eu timau nhw a’u cymunedau nhw’n bodoli...
Llanberis a Llanrug 18.04.2025 30:41
Pan nad yw’n canu ar hyd a lled y wlad fel y Welsh Whisperer, mae Andy Walton wrth ei fodd yn sefyll ar ochr cae pêl-droed. Dilynwch y gŵr sy’n wreiddiol o Gwm Felin Mynach ar daith o amgylch clybiau’r gogledd orllewin, lle mae cannoedd o bobl yr un fath ag o yn pentyrru bob penwythnos. Mae’n cyfarfod y cymeriadau sydd yn rhoi oriau o’u hamser i sicrhau bod eu timau nhw a’u cymunedau nhw’n bodoli...
Mynydd Llandegai 11.04.2025 29:04
Pan nad yw’n canu ar hyd a lled y wlad fel y Welsh Whisperer, mae Andy Walton wrth ei fodd yn sefyll ar ochr cae pêl-droed. Dilynwch y gŵr sy’n wreiddiol o Gwm Felin Mynach ar daith o amgylch clybiau’r gogledd orllewin, lle mae cannoedd o bobl yr un fath ag o yn pentyrru bob penwythnos. Mae’n cyfarfod y cymeriadau sydd yn rhoi oriau o’u hamser i sicrhau bod eu timau nhw a’u cymunedau nhw’n bodoli...
Pennod 6: Aled Siôn Davies 08.04.2025 50:34
Fel un o athletwyr mwyaf adnabyddus Cymru, mae Aled Siôn Davies wedi ennill medalau aur mewn gemau Paralympaidd a gemau’r Gymanwlad ar draws ei yrfa anhygoel. Yn y bennod yma, bydd Nigel yn dysgu am y pwysau enfawr o fod ar y brig dros gyfnod hir a’r effeithiau mae hyn yn cael ar y corff a’r meddwl. Fel plentyn, buodd Aled drwy nifer o lawdriniaethau i helpu ei anabledd ac mae e’n dal i ymladd drw...
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.