BBC Radio Cymru
Lleisiau Cymru
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A collection of Welsh language podcasts featuring interesting voices and opinions from across Wales.
Be sure to visit the podcast's website and support the creator: www.bbc.co.uk
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Y Felinheli 04.04.2025 35:20
Pan nad yw’n canu ar hyd a lled y wlad fel y Welsh Whisperer, mae Andy Walton wrth ei fodd yn sefyll ar ochr cae pêl-droed. Dilynwch y gŵr sy’n wreiddiol o Gwm Felin Mynach ar daith o amgylch clybiau’r gogledd orllewin, lle mae cannoedd o bobl yr un fath ag o yn pentyrru bob penwythnos. Mae’n cyfarfod y cymeriadau sydd yn rhoi oriau o’u hamser i sicrhau bod eu timau nhw a’u cymunedau nhw’n bodoli...
Pennod 5: Iwan Roberts 01.04.2025 51:02
Fel y Cymro mwyaf poblogaidd yn Norwich, mae Iwan Roberts wedi ymgartrefu yn y ddinas ers blynyddoedd ar ôl gyrfa llawn uchafbwyntiau hoffus. Yn y bennod yma, mae Nigel yn dysgu mwy am gyfnodau anodd gyrfa Iwan, a sut ddeliodd gyda’r pwysau o fod yn ddihiryn cyn troi’n ffefryn gyda chefnogwyr Norwich. Bydd Iwan yn edrych yn ôl ar yr adegau mwyaf cofiadwy o’i yrfa, a chlywn am sut wnaeth ei ddyddia...
Yn Ôl i Midffîld! 27.03.2025 44:15
Dathlu’r gyfres eiconig ‘C’Mon Midffîld yng nghwmni John Pierce Jones, Sian Wheldon, Bryn Fôn a Llion Williams. Recordiwyd y bennod o flaen cynulleidfa yng Nghlwb Social yr Ofal, Caernarfon gyda Dylan Ebenezer yn reff! Trefnwyd y noson ar cyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archif Ddarlledu Cymru, S4C a BBC Radio Cymru.
Pennod 4: Manon Lloyd 25.03.2025 35:12
Mae Manon Lloyd wedi seiclo mewn rhai o bencampwriaethau mwyaf anodd y byd. Ers gadael y byd seiclo, mae Manon yn cael cyfleoedd anhygoel i deithio’r byd trwy ei gwaith cyfryngau cymdeithasol. Yn y bennod yma, mae Nigel yn holi Manon am gwympo mewn i’r gamp yn ifanc a’r profiadau anhygoel a chafodd hi o gynrychioli Cymru yng ngemau’r Gymanwlad. Byddwn yn dysgu sut y gall dim ond ychydig eiliadau f...
Pennod 3: Ken Owens 18.03.2025 40:47
Fel cyn-gapten Cymru, y Scarlets ac aelod o daith y Llewod i Seland Newydd, mae Ken Owens wedi profi’r pwysau mwyaf ar frig y byd chwaraeon. Clywn am ei ddyddiau cynnar yng Nghaerfyrddin, ei yrfa hirhoedlog gyda’r Scarlets, a’i brofiadau enfawr ar y llwyfan rhyngwladol. Yn ystod ei yrfa, mae Ken wedi teimlo’r pwysau o fod yn gapten, yn enwedig yn ystod cyfnod cythryblus rygbi Cymru. Bydd Nigel yn...
Pennod 2: Elinor Snowsill 11.03.2025 32:03
Mae Elinor Snowsill wedi profi pwysau mawr yn ei camp, o’r chwe gwlad i Gwpan y Byd, mae Elinor wedi bod yn rhan bwysig o chwyldro rygbi’r menywod yng Nghymru. Yn y bennod yma, mae Nigel yn dysgu am ei gobeithion cynnar o chwarae pêl-droed dros Loegr cyn cynrychioli Cymru mewn gamp hollol wahanol ar lwyfan y byd. Clywn am y disgwyliadau a’r pwysau oedd arni yn ystod ei gyrfa, yn enwedig dros gyfno...
Pennod 1: Syr Bryn Terfel 10.03.2025 44:11
Ymunwch efo Llŷr a Lisa wrth iddyn nhw ganu cloch Syr Bryn Terfel a chael croeso mawr yn ei gartref. Cawn ddysgu mwy am y canwr opera byd enwog drwy drafod y trugareddau celfyddydol sydd o fewn muriau ei dŷ - o gaséts a sgôrs operâu i Kyffins a wisgis! Wrth i Bryn agor y drws ar ei fywyd, dewch i mewn i gael clywed yr hanes.
Pennod 1: Brett Johns 04.03.2025 45:22
Mae Brett Johns wedi cyrraedd brig un o gampau mwyaf ffyrnig y byd. Bellach yn rhiant, mae Brett yn cydbwyso bywyd teulu gyda gofynion gyrfa athletwr proffesiynol. Yn y bennod yma, mae Nigel yn dysgu am blentyndod Brett a'r profiadau wnaeth ei arwain i fyd chwaraeon. Yn blentyn swil, fe wynebodd gyfnodau o gael ei fwlio yn yr ysgol cyn darganfod hyder yn y cylch ymladd. Mae Brett wedi tyfu'n ffigw...
Pennod 5: Dot Davies 28.01.2025 46:20
Mae cymaint o atgofion gyda ni i gyd am wahanol fwydydd ac am wahanol brydau bwyd. Ac mae gan bawb ohonom ni fwydydd rydyn ni’n eu caru ac yn eu casáu. Yn y gyfres hon mae Colleen Ramsey yn cael bod yn fusneslyd, ac yn holi pobol am hoff fwydydd a’r atgofion sydd gyda nhw am y bwydydd hynny.
Pennod 6: Rhys ap William 28.01.2025 40:24
Mae cymaint o atgofion gyda ni i gyd am wahanol fwydydd ac am wahanol brydau bwyd. Ac mae gan bawb ohonom ni fwydydd rydyn ni’n eu caru ac yn eu casáu. Yn y gyfres hon mae Colleen Ramsey yn cael bod yn fusneslyd, ac yn holi pobol am hoff fwydydd a’r atgofion sydd gyda nhw am y bwydydd hynny.
Pennod 3: Stifyn Parri 21.01.2025 38:39
Mae cymaint o atgofion gyda ni i gyd am wahanol fwydydd ac am wahanol brydau bwyd. Ac mae gan bawb ohonom ni fwydydd rydyn ni’n eu caru ac yn eu casáu. Yn y gyfres hon mae Colleen Ramsey yn cael bod yn fusneslyd, ac yn holi pobol am hoff fwydydd a’r atgofion sydd gyda nhw am y bwydydd hynny.
Pennod 4: Aled Siôn Davies 21.01.2025 42:42
Mae cymaint o atgofion gyda ni i gyd am wahanol fwydydd ac am wahanol brydau bwyd. Ac mae gan bawb ohonom ni fwydydd rydyn ni’n eu caru ac yn eu casáu. Yn y gyfres hon mae Colleen Ramsey yn cael bod yn fusneslyd, ac yn holi pobol am hoff fwydydd a’r atgofion sydd gyda nhw am y bwydydd hynny.
Pennod 1: Rachael Solomon 14.01.2025 50:03
Mae cymaint o atgofion gyda ni i gyd am wahanol fwydydd ac am wahanol brydau bwyd. Ac mae gan bawb ohonom ni fwydydd rydyn ni’n eu caru ac yn eu casáu. Yn y gyfres hon mae Colleen Ramsey yn cael bod yn fusneslyd, ac yn holi pobol am hoff fwydydd a’r atgofion sydd gyda nhw am y bwydydd hynny.
Pennod 2: Bronwen Lewis 14.01.2025 51:11
Mae cymaint o atgofion gyda ni i gyd am wahanol fwydydd ac am wahanol brydau bwyd. Ac mae gan bawb ohonom ni fwydydd rydyn ni’n eu caru ac yn eu casáu. Yn y gyfres hon mae Colleen Ramsey yn cael bod yn fusneslyd, ac yn holi pobol am hoff fwydydd a’r atgofion sydd gyda nhw am y bwydydd hynny.
Pennod 1 - Mirain Iwerydd a Liam Reardon 14.01.2025 29:35
Podlediad gan S4C gyda Meilir Rhys a Mari Beard yn dadansoddi cyfres Amour & Mynydd. Mirain Iwerydd a Liam Reardon sy’n galw heibio’r chalet! Cawn yr ymateb i holl ddigwyddiadau’r bennod gyntaf, ac argraff gyntaf Mirain a Liam am gystadleuwyr Amour & Mynydd.
Cyfres 1, Pennod 6: Byw gyda chanser 05.08.2024 46:47
Mari Grug a’i gwesteion sy’n trafod clefyd sy’n effeithio 1 mewn 2 ohonom, sef canser. Yn y bennod olaf, mae Mari yn cael cwmni Jill Lewis o Langlydwen a Lowri Davies o Flaendulais i drafod y profiad o fyw gyda chanser.
Cyfres 1, Pennod 5: Llawdriniaeth 22.07.2024 1:02:29
Mari Grug a’i gwesteion sy’n trafod clefyd sy’n effeithio 1 mewn 2 ohonom, sef canser. Llawdriniaeth sy'n cael sylw yn y bennod hon ac yn cadw cwmni i Mari mae Lowri Mai Williams o Lanfyllin a Lowri Davies o Abertawe; y ddwy wedi cael llawdriniaethau yn dilyn diagnosis o ganser y fron.
Cyfres 1, Pennod 4: Iechyd Meddwl 08.07.2024 50:49
Mari Grug a’i gwesteion sy’n trafod clefyd sy’n effeithio 1 mewn 2 ohonom, sef canser. Yn y bennod hon, effaith canser ar iechyd meddwl sy'n cael sylw, ac yn ymuno i sgwrsio gyda Mari mae Caryl Davies o Dregaron a Wil Beynon o Landdarog.
Cyfres 1, Pennod 3: Rhannu'r newyddion gyda'r teulu 24.06.2024 44:46
Mari Grug a’i gwesteion sy’n trafod clefyd sy’n effeithio 1 mewn 2 ohonom, sef canser. Yn y drydedd bennod mae Mari yn trafod rhannu'r newyddion gyda'r teulu, ac yn sgwrsio a rhannu profiadau gyda'i mam, Ann Davies a gafodd ddiagnosis o ganser yn y 1990au.
Cyfres 1, Pennod 2: Chemotherapi 10.06.2024 47:03
Mari Grug a'i gwesteion sy'n trafod clefyd sy'n effeithio 1 mewn 2 ohonom, sef canser. Yn yr ail bennod, chemotherapi sy'n cael sylw, ac yn cadw cwmni i Mari mae Karina Williams o San Clêr a fu'n derbyn triniaeth ar yr un adeg â Mari a Catrin Chapple, sy'n fferyllydd yng Nghanolfan Ganser Felindre.
Cyfres 1, Pennod 1: Diagnosis 27.05.2024 49:39
Mari Grug a’i gwesteion sy’n trafod clefyd sy’n effeithio 1 mewn 2 ohonom, sef canser. Ym mhennod cyntaf 1 mewn 2 mae Mari yn canolbwyntio ar ddiagnosis ac yn cael cwmni Lindsey Ellis o Gerrigydrudion a gafodd ddiagnosis o ganser colorectal ym mis Ebrill 2021 a Dr Llinos Roberts, meddyg teulu o Gaerfyrddin.
Lleisiau Cymru 20.05.2024 1:05
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A collection of Welsh language podcasts featuring interesting voices and opinions from across Wales.
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.