Pob Lwc, Babe!

Pob Lwc, Babe!

Society CY ↓ 26 episodes

Mae lesbians yn y mainstream! Da iawn ni. So beth nesaf? Ymuna â Cat a Catrin ar soffa Pob Lwc, Babe! pob pythefnos am chats onest a doniol am eu bywydau, girlfriends, a’r diweddara o’r byd pop culture - trwy sbectol sapphic, obvs. Lesbians are in the mainstream! Well done us. So what happens now? Join Cat and Catrin every other week on the Pob Lwc, Babe! sofa for your dose of honest and funny conversations about their life woes, and the latest from the world of pop culture...through a sapphic lens, obviously.

Author

Pob Lwc, Babe!

Category

Society

Podcast website

podcasters.spotify.com

Latest episode

Dec 12, 2025

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

26. Penblwydd y Pod, Nadolig, Spotify Wrapped 12.12.2025

Yn y bennod hon, mae Cat a Catrin yn siarad am ddathlu penblwydd 1 oed fel pod, dechrau teimlo'n Nadoligaidd, ein Spotify Wrapped a dodgy intel ar perthnasoedd pel-droedwyr. In this episode, Cat and Catrin talk about celebrating one year as a podcast, starting to feel Christmasy, our Spotify Wrapped and some dodgy intel on footballer relationships.

25. Albwm Lily Allen, Penblwyddi, Llyfrau i Lesbians 13.11.2025

Yn y bennod hon, mae Cat a Catrin yn siarad am albyms newydd Lily Allen a Rosalía, mynd i therapi, llyfrau i lesbians a pha fath o gosbau cafon ni am siarad Saesneg yn ysgol. In this episode, Cat and Catrin talk about Lily Allen and Rosalía's new albums, going to therapy, books for lesbians and what kind of punishments we got for speaking English at school.

24. Calan Gaeaf, Jess Fishlock, Tatŵs 22.10.2025

Yn y bennod hon, mae Cat a Catrin yn siarad am gynlluniau penblwydd Catrin, gêm rhyngwladol olaf Jess Fishlock, gwisgoedd Calan Gaeaf, tribute acts a tatŵs. In this episode, Cat and Catrin talk about Catrin's birthday plans, Jess Fishlock's last international game, Halloween costumes, tribute acts and tattoos.

23. Celeb Traitors, Look Newydd, Clwb Rygbi 7 Sisters 11.10.2025

Yn y bennod hon, mae Cat a Catrin yn siarad am gyfres gyntaf Celebrity Traitors, Leah a Leigh o MAFS, mae Cat wedi cael makeover, a rhoi diolch i she's a they's Clwb Rygbi 7 Sisters am ddod yn eu lluoedd i noson Pob Lwc Babe yn La Pantera!

22. IVF, Catfishio, Dysgu Cymraeg 25.09.2025

Yn y bennod hon, mae Cat a Catrin yn siarad am IVF ac IUI ar gyfer perthnasoedd un-rhyw, cariad Catrin yn setlo mewn i'w bywyd newydd yng Nghymru, ac ydyn nhw byth wedi cael ei 'catfishio'? Cofiwch fod social Pob Lwc Babe nos Sadwrn 27 Medi yn La Pantera, Caerdydd! Dere lawr o 8pm am spicy margs a good vibes.

21. Lesbians ar wyliau, Teledu'r Hydref, Byw gyda partner 11.09.2025

Yn y bennod hon, mae Cat a Catrin yn siarad am ffeindio lesbians arall ar wyliau, pa sioeau teledu ni'n edrych ymlaen at dros yr Hydref, Rach yn symud mewn gyda Catrin, a digwyddiad Pob Lwc Babe ym mis Medi!

20. Las Culturistas, Eisteddfod, Symud Mewn 13.08.2025

Yn y bennod hon, mae Cat a Catrin yn siarad am wobrau Las Culturistas, Glee, Eisteddfodau'r gorffennol, a'r newyddion bod cariad Catrin o'r diwedd yn symud mewn!

19. Pub Lwc Babe, Cwrdd a Celebs, Ewros 31.07.2025

Yn y bennod hon, mae Cat a Catrin yn dadansoddi Ewros y Menywod, cwrdd a celebs a cymryd lluniau ofnadwy, ffeindio mas '3 mawr' Catrin, a lawnsio social newydd ar gyfer lesbians Caerdydd.

18. Ewros! Yn fyw o Llyn Luzern 07.07.2025

Yn y bennod hon, mae Cat a Catrin yn fyw o bedalo ar Llyn Luzern ar gyfer Ewros y Menywod 2025!

17. Mirain Iwerydd, Fletcher, Pride 18.06.2025

Yn y bennod hon, mae Mirain Iwerydd yn ymuno â Cat a Catrin i sgyrsio am Fletcher a biphobia, Pride yng Nghaerdydd, ac ydy Mirain yn datio?

16. Joyride, Queer Ultimatum, Icons Lesbiaidd 05.06.2025

Yn y bennod hon, mae Cat a Catrin yn sgyrsio am y diweddaraf am Jojo Siwa, sioeau teledu cwiar yr haf, Lesbian BNOCs Catty ac Amy, a pwy yw icons y diwylliant lesbiaidd?

15. Yr Ap Paired, Tarot, Tîm Kath Ebbs 30.04.2025

Yn y bennod hon, mae Cat a Catrin yn sgyrsio am y ddrama diweddaraf rhwng Jojo Siwa, Chris Hughes a Kath Ebbs, am yr ap 'Paired', ac mae'n lleuad newydd felly mae Cat yn darllen Tarot Catrin.

14. Huns y Gofod, Jojo Siwa, Hawliau Pobl Traws 22.04.2025

Yn y bennod hon, mae Catrin a Cat yn sgwrsio am y drama gyda Jojo Siwa ar Celebrity Big Brother, penderfyniad diweddar y goruchaf lys ar hawliau pobl traws, hyder corff menywod a phwy byse ni moyn mynd i'r gofod gyda.

13. Kayleigh Rose Amstutz, Cwpan y Byd 2035, Jojo Siwa yn CBB 04.04.2025

Yn y bennod hon, mae Catrin a Cat yn sgwrsio am Chappell Roan ar bodlediad 'Call Her Daddy', trio cadw mewn siâp yn eich 30au, a bydd Jojo Siwa yn mynd mewn i tŷ Big Brother yn fuan a ni methu aros am y cringe.

12. Parti Plu, U-Haul, Brownies a Scouts 21.03.2025

Yn y bennod hon, mae Catrin a Cat yn sgwrsio am yr ap Strava, beth mae 'U-Haul' yn golygu mewn perthynas lesbiaid, partïon plu, a'n hatgofion o fod yn Brownies a Scouts.

11. Brits, Theori 'Let Them', Y Cyfnod Clo 07.03.2025

Yn y bennod hon, mae Catrin a Cat yn sgwrsio am y Brits, theori 'Let Them' Mel Robbins, quests dyngarol Catrin, a trafod 5 mlynedd ers cynfod clo Covid-19.

10. Mr Urdd, Ffair Gaeaf Aber, Top Trumps Lesbiaidd 27.02.2025

Yn y bennod hon, mae Catrin a Cat yn sgwrsio am eu obsesiwn gyda Mr Urdd, ffair gaeaf enwog Aberystwyth, chwarae gêm Top Trumps lesbiaidd, a trafod os yw Kelly Clarkson wedi kind-of-falle dod allan?

9. Cwis Lesbiaidd, BAFTAs, Apple Cider Vinegar 20.02.2025

Yn y bennod hon, mae Catrin a Cat yn sgwrsio am Americanwyr yn gynulleidfa'r BAFTA's, rhaglenni newydd ar Netflix fel Apple Cider Vinegar a Love is Blind, a chymryd cwis ar-lein 'pa fath o lesbian wyt ti'.

8. Grammy's, Cyswllt Argyfwng, Biphobia 13.02.2025

Yn y bennod hon, mae Catrin a Cat yn sgwrsio am gwyliau sgïo Catrin, y Grammy's, trend 'cyswllt argyfwng' TikTok, biphobiba a chynlluniau Dydd Sant Ffolant.

7. Anifeiliaid Anwes, Merchandise PLB, Gwyliau Gaeaf 31.01.2025

Yn y bennod hon, mae Catrin a Cat yn sgwrsio am anifeiliaid anwes, merchandise newydd y podcast yn enw Claudio Winkleman, gwyliau Gaeaf Catrin, a chwarae gêm 'Gay or not Gay'.

6. Amour a Mynydd, Therapi Cyferbyniad, Lesbian Types 23.01.2025

Yn y bennod hon, mae Catrin a Cat yn sgwrsio am parti ecsgliwsif Amour a Mynydd, trio therapi cyferbyniad, girlie days, a trio dyfalu pa celeb yw teip ein gilydd.

5. Scorpios, Dêts Ofnadwy, Angladd £5k 15.01.2025

Yn y bennod hon, mae Catrin a Cat yn sgwrsio am beth sydd yn y sêr i'n perthnasoedd, lle i gymryd eich dêt allan am fwyd, gwahodd Eden i'n angladdau, ac ein rhagfynegiadau Traitors.

4. Addunedau, Ghosting, Traitors, Huns Cymru 07.01.2025

Helo 2025! Yn y bennod hon, mae Catrin a Cat yn sgwrsio am addunedau'r flwyddyn newydd, rhagfynegiadau pop culture ar gyfer 2025, cyfres newydd o'r Traitors, a'n hoff cyfrif Insta ni - Huns Cymru, obvs.

3. Uchafbwyntiau 2024, Gig Ideal, Lesbian Renaissance 31.12.2024

Hwyl fawr 2024! Yn y bennod hon, mae Catrin a Cat yn sgwrsio am uchafbwyntiau personol a pop culture y flwyddyn, gan gynnwys cwrdd â'n partneriaid, ein hoff pop girlies, a'r Lesbian Renaissance.

2. Nadolig, Chat GPT, Cwrdd â teulu partner 24.12.2024

Nadolig Llawen! Yn y bennod hon, mae Catrin a Cat yn teimlo'n Nadoligaidd! Sgwrsio am lyrics hoyw caneuon Nadolig, Chat GPT, nasal strips, a'r cwestiwn i'r grwp Whatsapp wythnos hon - top tips i rywun sy'n cwrdd â teulu partner am y tro gyntaf?

Listen to the Pob Lwc, Babe! podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.