Tsgol Llanhari
Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Croeso i bodlediad llwybrau Llanhari, Dathlu’r Aur. Ydych chi’n cyn disgybl yn Ysgol Lanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennoch chi ddiddordeb mewn addysg Cymraeg? Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau o deulu Llanhari.
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Rhian Griffiths 06.10.2025 56:02
Bu Ms Rhian Wyn Griffiths yn aelod o’r Adran Gymraeg rhwng 1990 ac 2000 yn Bennaeth Adran am 8 o’r rheiny. Bu hefyd yn Bennaeth Chweched am flwyddyn cyn ymuno â thîm o athrawon a fu’n sefydlu ysgol Gymraeg newydd ym Mro Morgannwg. Mi fydd ei llais yn gyfarwydd iawn i filoedd o gyn-ddisgyblion felly dyma gyfle i ni ddod i'w hadnabod yn well a hel atgofion am Lanhari a mwy. Alffi ac Ellis sy’n arw...
Llion Jones 22.09.2025 54:16
Un a’i wreiddiau’n ddwfn yn ardal Y Parc ger y Bala yw gwestai’r bennod hon, ond bu Mr Llion Jones yn aelod o’r Adran Gymraeg yn Llanhari ers 1997 a bydd nifer yn ei gofio fel Pennaeth Blwyddyn am gyfnod o 10 mlynedd. Mae’n siwr ei fod wedi dysgu miloedd o ddisgyblion erbyn hyn ac eleni fe gafodd y tri sy’n ei holi, Eve, Owain ac Huw, brofi ei angerdd am y Gymraeg tra’n astudio ar gyfer eu Lefe...
Aidan Mumford, Samuel Carpenter and Joseph Danter 08.09.2025 32:55
To borrow a phrase, the dragon has two tongues. In this special edition of the school’s podcast to celebrate Ysgol Llanhari turning 50 we ask three of our current pupils as they complete their journey at the school following their A-level exams about the value of their Welsh medium education. We also hear of their parents' early fears, their support and their joy as they witnessed them develop and...
Aidan Mumford, Samuel Carpenter a Joseph Danter 01.09.2025 47:35
Ymunwch â ni am sgwrs yng nghwmni lleisiau sydd yn gyfarwydd i wrandawyr y podlediad, ond â hwythau newydd orffen eu harholiadau ym Ml.13 dyma droi’r meicroffon. Mr Iolo Roberts sydd yn mwynhau sgwrsio gyda’r tri disgybl am eu taith a’u profiadau ac yn eu holi am eu rhieni - am y ffydd a’r fenter i gyflwyno’u plant i addysg Gymraeg. Bu Aidan i Ysgol Gynradd Dolau, Samuel i Ysgol Gynradd Gymr...
Kathryn Thomas a Rhys Williams 14.07.2025 49:26
Brawd a chwaer o ardal Corneli yn Sir Pen y bont ar Ogwr sydd yn ymuno â ni heddiw ar gyfer y bennod hon o Lwybrau Llanhari, sef Kathryn Thomas a Rhys Williams. Mae chwaraeon yn eu gwaed. Ynghyd â’u brawd James, maen nhw wedi serennu ym myd y campau ers eu cyfnod yn Llanhari. Mae ganddyn nhw lu o wobrau cenedlaethol rhyngddynt ac fe lwyddodd un ohonynt i gipio medalau ar lefel Ewropeaidd a’n cy...
Colin Pari (Ail bennod) 30.06.2025 56:43
Mr Pari Llanhari! Ail bennod yng nghwmni Mr Pari wrth i ni glywed am ei daith o Lundain i Lanhari a cheisio crynhoi deng mlynedd ar hugain o atgofion mewn pennod! Cawn hefyd glywed am ei yrfa newydd a’i ddiddordebau a mwynhau mwy o lwybrau storïol unigryw Mr Pari. Dafydd, yng nghwmni Eve y tro hwn, sy’n mwynhau’r sgwrs a’r hel atgofion. Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50....
Colin Pari 23.06.2025 40:53
Mr Pari. Does dim angen mwy o gyflwyniad ar y dyn arbennig hwn. Bu’n athro yma am ddeng mlynedd ar hugain. Mae’n Gymro i'r carn, yn ddyn haearn a bellach mae wedi arall-gyfeirio'n dechnegydd ambiwlans. Doedd dim posib gwasgu holl straeon Mr Pari i un bennod ar gyfer y podlediad, felly ymlaciwch a mwynhewch bennod 1 wrth i Mr Pari ein tywys ni o’i atgofion cynharaf, drwy’i goeden deulu, hyd a...
Rhys Thomas 12.06.2025 1:30:24
Un o ardal Pontyclun yw’n gwestai ni heddiw ac er gadael yr ardal am gyfnod i fynd i'r Brifysgol a chrwydro’r byd gyda’i waith, dyn ei filltir sgwar ydyw. Dychwelodd i'r ardal i fagu’i deulu ac i sefydlu busnes. Mae’n gerddor ac yn grefftwr a chawn glywed sut y bu iddo droi diddordeb a dawn yn yrfa. Cofia’n arbennig am ddylanwad rhai athrawon a’r gwersi sy’n canu hyd heddiw yn ei feddwl wrth wneu...
Rhodri Bwye 29.04.2025 46:27
Un o ardal Maesteg yw’n gwestai yn y bennod hon a bu’n ddisgybl yn Llanhari dros droad y Mileniwm. Manteisiodd ar gyfleoedd allgyrsiol drwy bob Adran – ar lwyfan, ar faes chwarae a thrwy deithiau niferus. Mae’n gymeriad a hanner a chawn glywed sawl stori dda ganddo am ei gyfnod yn yr ysgol, atgofion cynnes am athrawon dylanwadol a chawn glywed sut y bu i Lanhari ennill lle arbennig yn ei galon hy...
Ifan Jenkin 08.04.2025 55:25
Croeso i bennod ryngwladol gyntaf Llwybrau Llanhari! Cawn deithio i Unol Daleithiau’r Amerig, i Stanford, er mwyn cynnal y sgwrs hon. Serch hynny, mae yna sawl tro difyr ac amrywiol ar lwybr a phin ar fap ein gwestai amryddawn heddiw. Yn feddyg, yn ymchwilydd ac yn gerddor o fri, estynnwn groeso cynnes iawn i Ifan Jenkin. Roedd Ifan yn un o’r disgyblion olaf i deithio i Lanhari o ardal Pen-y-...
Lauren Davies 18.03.2025 44:19
Miss Davies Daearyddiaeth neu Miss Davies ein Harweinydd Cynnydd yw hi i ni, ond, bydd rhai yma yn ei chofio fel cyn-ddisgybl yn Llanhari rhwng 2007 a 2014. Mae eraill yn ei hadnabod fel cyd aelod o staff a heddiw cawn gyfle i ddod i adnabod un o gymeriadau Teulu Llanhari, Miss Lauren Davies. Un o brif ddisgyblion Llanhari a chriw Daear Bl.13 Miss Davies eleni, Betsan, sy’n mwynhau’r sgwrs hon. E...
Nia Davies ac Owain Williams 05.03.2025 41:39
Cyfle i fwrw golwg yn ôl dros hanner canrif o addysg Gymraeg yma yn Llanhari yw’r gyfres hon a heddiw cawn ddod i adnabod dau a oedd yn ddisgyblion yn ystod cyfnod a fu'n arwain at ddathlu'r deng mlwyddiant yng nghanol yr 80au. Yn y bennod hon rydyn ni’n estyn croeso cynnes iawn i Nia Davies ac Owain Williams. Dau a fu’n dathlu ar lwyfan Eisteddfod yr ysgol a dau y bu i Lanhari chwarae rhan bwysi...
Iolo Roberts 17.02.2025 53:54
Bu Mr Iolo Roberts yn aelod o staff yn yr Adran Ymarfer Corff yma yn Ysgol Llanhari ers 1991, yn Bennaeth Blwyddyn am 7 mlynedd ac yn Bennaeth Adran ers 2009. Bu’n hyfforddi timau mewn amryw o gampau ac yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion wella’u ffitrwydd drwy chwaraeon o bob math. Mae’n siŵr ei fod wedi dysgu miloedd o ddisgyblion erbyn hyn! O’r maes rygbi a’r cae pêl-droed, i drac athletau, o...
Anwen Carlisle 03.02.2025 46:52
Actores, cyfarwyddwraig a pherson creadigol iawn yw’r cwmni ar gyfer y bennod hon, sef yr amryddawn Anwen Carlisle. Dychwelodd Anwen i Lanhari yn nhymor yr Hydref eleni i weithio ar brosiect creadigol yng nghwmni disgyblion Bl.7 Adran y Gymraeg, felly, dyma fanteisio ar gyfle i ddod i'w hadnabod ac i glywed am ei hatgofion am yr ysgol. Efa-Grug a Meira o Fl.7 sy’n holi Anwen wedi iddyn nhw gyd-w...
Rhian Phillips 24.01.2025 49:34
Sgwrs yng nghwmni cyn bennaeth Ysgol Llanhari, Rhian Phillips, sy’n agor penodau 2025 podlediad Llwybrau Llanhari. Daeth Mrs Phillips i Lanhari yn 2003 fel Dirprwy ac yna yn 2014, wrth i'r ysgol ddathlu’r 40, penodwyd Mrs Phillips yn Bennaeth ar yr ysgol yn ystod cyfnod cyffrous o newid sylweddol yma’n Llanhari wrth sefydlu a thyfu’r Adran Gynradd. Braf yw cael croesawi Mrs Phillips yn ôl i'r...
Dathlu’r 50 - drwy'r degawdau 02.01.2025 44:51
Rhifyn arbennig ar ddechrau 2025 o bodlediad Llwybrau Llanhari. Dyma gyfle i chi glywed sesiwn a gynhaliwyd ym mhabell y Cymdeithasau yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 ym Mharc Ynysangharad, sef lansiad dathliadau’r 50. Oeddech chi yno? Hyfryd oedd gweld cymaint o wynebau ddoe a heddiw’r ysgol yn y gynulleidfa a’r lle dan ei sang. Dwy o’n cyn-ddisgyblion dawnus sy’n arwain...
Carwyn Eckley 16.12.2024 33:22
Aelod anrhydeddus o Deulu Llanhari yw’r Prifardd Carwyn Eckley. Enillodd y Gadair a noddwyd gennym yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 am gasgliad o gerddi ar y testun ‘Cadwyn’. Cawsom fore braf yng nghwmni Carwyn yn rhannu ein taith i noddi’r Gadair ar gweithgareddau fu’n rhan o’r profiad. Huw ac Owain sy’n mwynhau sgwrs a diolch iddynt am roi’r byd yn ei le gyda’r newyddiadurwr, bardd a’r cef...
Mari George 02.12.2024 45:27
Bardd, awdures, golygydd...mae doniau geiriol di-ri gan ein gwestai yr wythnos hon. A glywsoch chi am ei nofel ‘Sut i Ddofi Corryn?’ Hon oedd nofel gyntaf ein gwestai yn y bennod hon ac fe gipiodd deitl Llyfr y Flwyddyn iddi yn 2024! Eleni, yn ogystal mae hi wedi rhyddhau pamffled o gerddi, ‘Rhaff’, a golygu cyfrol o gerddi sy’n ein tywys ar hyd Lwybr Arfordir Cymru - Cerddi’r Arfordir. Mari Geo...
Gwynfor Dafydd 22.11.2024 32:17
Ar ddydd Llun y 5ed o Awst 2024 fe enillodd ein gwestai ni heddiw Goron Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf a hynny yn ei filltir sgwâr. Cipiodd ei Gadair gyntaf, Cadair yr Urdd, tra’n ddisgybl yn yr ysgol yn 2016 ac ail Gadair y flwyddyn ganlynol pan ddaeth Eisteddfod yr Urdd i’n bro yn 2017. Dychwelodd i’r ysgol droeon i gefnogi’r disgyblion presennol a’r haf hwn bu’n mentora’n beirdd if...
Shelley Rees-Owen 07.11.2024 46:57
Stacey, Shirley...ond, ein Shelley ni! Bydd rhai yn ei hadnabod fel Stacey o’r gyfres boblogaidd Pobol y Cwm, bydd eraill wedi’i gweld yn ddiweddar ar lwyfannau Cymru yn y ddrama Shirley Valentine, bydd nifer ohonom yn gwrando arni ar Radio Cymru ar fore Sadwrn...gwestai’r bennod hon yw'r actores, y cyflwynydd, y cynghorydd a’r cynhyrchydd Shelley Rees. Diolch i Ava a Mali am y sgwrsio a’r holi...
Jordan Morgan-Hughes 21.10.2024 42:24
Ein Mr Urdd a llawer mwy! Un o wynebau cyfarwydd ddoe a heddiw Llanhari yw gwestai’r bennod hon. Yn wreiddiol o ardal Pen-y-bont, bu’n ddisgybl yma rhwng 1994 a 2001. Am gyfnod, bu’n gweithio i Fenter Iaith Bro Ogwr, cyn dechrau gweithio i Urdd Gobaith Cymru yn 2009 fel Swyddog Datblygu. Yn 2016 symudodd swyddfa’r Urdd ar gyfer y rhanbarth i Lanhari a bu’n cyd-fyw yn hapus yng nghoridor yr Adran...
Peter Griffiths 07.10.2024 21:55
‘I’r Gad!’ Tybed faint ohonoch chi sy’n cofio clywed y gri hon ar hyd coridorau Llanhari? Dyma gyfle i ddod i adnabod un o gyn-benaethiaid Ysgol Llanhari, Mr Peter Griffiths. Ymunodd Mr Griffiths â theulu Llanhari ym 1988 a bu’n bennaeth ar yr ysgol wrth iddi gamu i’r mileniwm. Yn Gymro i’r carn, yn gefnogwr rygbi brwd ac yn addysgwr ysbrydoledig. Diolch i Elen ac Esmay am yr holi gofalus ac i M...
Rhian Rapsey 20.09.2024 26:28
Ai Mrs Rhian Rapsey yw aelod ffyddlonaf Teulu Llanhari? Dyma gyfle i ddod i adnabod un o wynebau cyfarwydd swyddfa’r ysgol. Dechreuodd Mrs Rhian Rapsey yn ddisgybl yn Llanhari ym 1983 ac roedd ymysg y criw cyntaf i sefyll yr arholiadau TGAU ym Ml.11 ym 1988. Wedi cyfnod byr yn y Coleg, dychwelodd i Lanhari ym mis Hydref 1989 ac ymunodd â thîm y swyddfa ac mae hi yma o hyd! Mrs Rapsey - nyrs yr...
Geraint Rees 07.09.2024 35:42
50 mlynedd yn ôl i'r wythnos hon, fe agorwyd y giatiau ac fe ddechreuodd Ysgol Gyfun Llanhari ddarparu addysg Gymraeg i ddisgyblion. Mr Geraint Rees yw gwestai'r bennod hon. Un o ddisgyblion y criw cyntaf o ddisgyblion i dderbyn eu haddysg ar y safle ac yn yr ysgol newydd ym 1974 yw Geraint a chawn glywed hanes y diwrnod cyntaf a'i atgofion am ei addysg yn yr ysgol cyn iddo ddychwelyd yn athro am...
Mererid Hopwood 09.08.2024 21:22
Sgwrs gyda'r Archdderwydd a chyn ddisgybl Ysgol Llanhari, Mererid Hopwood. Ydych chi’n cyn disgybl yn Ysgol Lanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennoch chi ddiddordeb mewn addysg Cymraeg? Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaeth...
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.