BBC Radio Cymru

Beti a'i Phobol

Society CY ↓ 661 episodes

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Author

BBC Radio Cymru

Category

Society

Podcast website

www.bbc.co.uk

Latest episode

Jul 6, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Aled Davies 01.12.2020

Beti George yn sgwrsio gydag Aled Davies, dyn busnes o'r Dryslwyn a sefydlodd busnes o'r enw Pruex. Mae'r busnes yn creu bacteria naturiol allan o bridd er mwyn cadw ein hanifeiliaid yn iach ac adeiladu imiwnedd naturiol ynddyn nhw, i leihau gorddibyniaeth ar feddyginiaethau gwrthfiotig, a hynny yn y pendraw hefyd yn ein helpu ni fel pobl i gadw'n iach.

Aled Roberts 01.12.2020

Cyfle i glywed sgwrs o 2020 gyda'r diweddar Aled Roberts, fu'n Gomisiynydd y Gymraeg. O hanes ei fagwraeth yn Rhosllannerchrugog, i'w waith fel cyfreithiwr cyn cael ei ddewis yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru.

Ann Griffith 01.12.2020

Beti George yn sgwrsio gyda'r ymgyrchydd Ann Griffith o Washington DC, un sydd yn wreiddiol o Aberystwyth ond wedi byw mewn mannau fel Lesotho, Sri Lanka, India a Bolifia. Mae hi'n sôn am ei magwraeth Gristnogol, ei phrofiadau yn byw yn y gwahanol wledydd, ei gwaith yn ymgyrchu, a'i barn am yr hyn sydd yn digwydd yn wleidyddol ac yn gymdeithasol yn yr Unol Daleithiau.

Tedi Millward 01.12.2020

Cyfle i wrando eto ar sgwrs rhwng Beti George a'r ysgolhaig, Yr Athro Tedi Millward a fu farw yn gynharach eleni. Yn y rhaglen mae e'n sôn am ei fagwraeth yng Nghaerdydd ac am ddylanwad yr athro Elvet Thomas arno i ddysgu'r Gymraeg. Cawn hanes dechreuad Cymdeithas yr Iaith a hefyd ei waith fel tiwtor personol i Dywysog Cymru cyn iddo gael ei Arwisgo nôl yn 1969.

Robert Llewellyn Tyler 30.11.2020

Yr hanesydd teithiol Robert Llewellyn Tyler yw gwestai Beti George yr wythnos hon, sydd erbyn hyn yn gweithio ac yn byw yn Abu Dhabi. Mae e'n sôn am ei faes arbenigol, sef y Cymry alltud mewn gwledydd fel yr Unol Daleithiau ag Awstralia, ac hefyd yn sôn am ei brofiadau mewn gwledydd fel Siapan, Saudi Arabia ac Bosnia a Herzegovina.

Sian Reese-Williams 29.11.2020

Gwestai Beti yw'r actores, Sian Reese-Williams sy'n portreadu'r Ditectif Cadi John yn y gyfres Craith. Yma mae hi'n son am ei magwraeth yn Aberhonddu, ei gyrfa wrth ymddangos mewn cyfresi fel Emmerdale a'r Gwyll ac yn trafod marwolaeth ei brawd Llŷr llynedd.

Patrick Rimes 28.11.2020

Beti George yn sgwrsio gyda'r cerddor Patrick Rimes. Mae e'n sôn am ei fagwraeth ym Methesda ac am gwrdd â'i dad am y tro cyntaf pan oedd yn dair ar ddeg oed. Cawn wybod am ei sylfeini cerddorol ac am ei ddylanwadau cerddorol ac wrth gwrs hanes sefydlu'r band gwerin Calan. Mae e hefyd yn sôn am helpu ei fam gyda'i busnes gwneud caws dafad yn ystod cyfnod Covid 19.

Robin Anderson 27.11.2020

Beti George yn holi Prif Weithredwr Cwmni Aspen Healthcare, Rob Anderson, am ei fagwraeth a'i addysg yng Nghaerdydd, gan gynnwys mai ei dad oedd un o'r meddygon cyntaf i gyrraedd y trychineb yn Aberfan. Mae Rob hefyd yn trafod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ysbytai preifat, a sut mae'r ddau yn delio gyda Cofid-19.

Matt Spry 26.11.2020

Beti George yn sgwrsio gyda Dysgwr y Flwyddyn 2018, Matt Spry, o Aberplym (Plymouth) yn wreiddiol a chawn ei hanes yn dysgu'r Gymraeg, ei waith gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac hefyd ei frwydr ag iselder meddwl.

Aneurin Rhys Hughes 20.11.2020

Yn dilyn marwolaeth Aneurin Rhys Hughes, a oedd yn ei dro yn llysgennad Yr Undeb Ewropeaidd i Norwy a hefyd i Awstralia, ym mis Mawrth, dyma gyfle i ail glywed y sgwrs gafodd e gyda Beti George yn 1991.

Catrin Ellis Williams 20.11.2020

Beti George yn sgwrsio gyda'r meddyg teulu Catrin Elis Williams, fydd yn trafod Covid 19, ei chefndir cerddorol ac hefyd yn son am awtistiaeth ei mab Daniel.

Cai Wilshaw 20.11.2020

Beti George yn sgwrsio gyda'r sylwebydd gwleidyddol Cai Wilshaw, lle mae'n sôn am ei ddyddiau ym Mhrifysgol Rhydychen, ei waith gyda "The Economist" a "Pink News", a'i gyfnod yn gweithio yn swyddfa Nancy Pelosi yn Washington DC.

Gethin Rhys 20.11.2020

Beti George yn sgwrsio gyda'r Parchedig Gethin Rhys o Gaerdydd sydd yn gweithio gyda mudiad Cytûn. Cawn hanes ei gyfnod ym Mhrifysgol Rhydychen, yn gofalu am Goleg Trefeca ac yn gweinidogaethu ym Mhen-rhys.

Owen Evans 20.11.2020

Gwestai Beti'r wythnos hon yw Prif Weithredwr S4C, Owen Evans. Mae'n sôn am ei fagwraeth yn Aberystwyth, ei ysfa i weithio o oedran ifanc ac ar wahân i helyntion S4C cawn hanes ei yrfa faith o fod yn ddarlithydd mewn Astudiaethau Busnes i werthu cotwm ar draws y byd.

22/03/2020 19.11.2020

Beti George yn sgwrsio gyda'r Dr Radha Nair Roberts sydd yn niwro-wyddonydd o Singapore yn wreiddiol, ac erbyn hyn yn dioddef o Sglerosis Ymledol. Yma mae hi'n sôn am ei chefndir diddorol, ei gwaith ymchwil mewn i'r cyflwr niwrolegol Alzheimer's ac am ei chariad tuag at ei theulu a Chymru, ei gwlad fabwysiedig.

Rhys Jones 27.04.2020

Beti George yn sgwrsio gyda'r Athro Rhys Jones o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth. Cawn wybod am y "Plynlumon Man", yr ymchwil gan y Brifysgol i mewn i borthladdoedd Cymru, a hefyd, beth yn union yw'r Fro Gymraeg?

Sian Stephen 25.04.2020

Yr ymgyrchydd gyda Gwrthryfel Difodiant Sian Stephen sy'n sgwrsio gyda Beti George am ei phryderon ynglyn â newid hinsawdd. Mae hefyd yn sôn am ei chyfnod yn gweithio ym Mrwsel, ac yna yn Guatemala a Colombia.

Lleuwen Steffan 05.03.2020

Beti George yn holi'r gantores Lleuwen Steffan am ei bywyd a'i cherddoriaeth. Mae Lleuwen hefyd yn sôn am y gyfrinach mae hi wedi ei gadw yn dawel ers amser maith ac am ei phenderfyniad i ddychwelyd i Lydaw i fyw.

Alis Hawkins 03.03.2020

Beti George yn sgwrsio'r gyda'r awdures Eingl Gymreig Alis Hawkins, gan drafod ei nofelau a'u cefndir Cymraeg, ei phlentyndod yng Nghwm Cou, ei haddysg yn Aberteifi a Rhydychen a'r broses hir o gael llyfr wedi ei gyhoeddi.

Non Williams 28.02.2020

Mae'r gantores Non Williams, yn sgwrsio gyda Beti George am ei iselder, am anhwylder ei gwr Iwan, ac am ddychwelyd i'r llwyfan gyda'r grŵp Eden.

Yr Athro Aled Rees 21.02.2020

Mae Beti George yn cael cwmni'r Athro Ddoctor Aled Rees, sy'n Athro Endocrinoleg yn yr Adran Newro Wyddorau a Sefydliad Ymchwil Iechyd Meddwl, Caerdydd. Mae'n rhannu ei amser rhwng gwaith academaidd, ymchwil a gwaith meddygol.

Lowri Gwilym (14/03/2010) 20.02.2020

Cynhyrchydd gwreiddiol Beti a'i Phobol, y diweddar Lowri Gwilym, yn sgwrsio gyda Beti George. Darlledwyd y sgwrs ar y 14eg o Fawrth 2010.

Elinor Snowsill 02.02.2020

Ar ddechrau pencampwriaeth y Chwe Gwlad ,y chwaraewraig rygbi Elinor Snowsill sydd yn cadw cwmni i Beti George yr wythnos hon.

John Gwyn Jones 26.01.2020

Prif Weithredwr grŵp o ysgolion yn y Dwyrain Canol a brodor o Frynaman Ucha, John Gwyn Jones, sy'n sgwrsio gyda Beti George.

Elinor Wyn Reynolds 19.01.2020

Yr awdur Elinor Wyn Reynolds, sydd hefyd yn gweithio i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sy'n sgwrsio gyda Beti George. Author Elinor Wyn Reynolds chats to Beti George.

Listen to the Beti a'i Phobol podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.