BBC Radio Cymru

Beti a'i Phobol

Society CY ↓ 661 episodes

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Author

BBC Radio Cymru

Category

Society

Podcast website

www.bbc.co.uk

Latest episode

Jul 6, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Geraint Davies 12.06.2022

Wrth iddo ymddeol fel Cynghorydd Sir dros ardal Treherbert yng Nghwm Rhondda ar ôl 30 mlynedd yn y swydd, mae Beti yn sgwrsio gyda Geraint Davies. Cawn glywed am ei gyfnod fel Aelod Cynulliad, fferyllydd lleol, a'i rôl flaenllaw yn ei glwb tennis lleol.

Ceri Isfryn 05.06.2022

Ceri Isfryn , cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell yw gwestai Beti George. Fe ddechreuodd ei gyrfa ar The One Show, ac yna bu’n gweithio ar gyfresi i’r BBC fel Watchdog Rogue Traders, a Panorama. Mynychodd Ysgol Gynradd Llandegfan ac Ysgol David Hughes Porthaethwy, a bu’n perfformio yn sioeau’r ysgol – profiad gwerthfawr yn ôl Ceri. Mae hi hefyd yn falch ei bod wedi mynychu ysgol lle'r oedd y dis...

Siân Eirian 29.05.2022

"Arbrofi ac arloesi i'r dyfodol". Dyna eiriau Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a chyn Bennaeth Gwasanaeth Plant gyda S4C. Fe ddechreuodd ei gyfra fel clerc mewn cymdeithas adeiladu, wedyn ymunodd gyda'r Urdd, ac fe enillodd gwobr Cymraes y Flwyddyn yn 2006. Yn 2007 fe gafodd Siân ei phenodi yn Bennaeth Gwasanaeth Plant S4C am 6 blynedd. Rhan o friff y swydd oedd creu gwasanaeth ar gyfer...

Russell Isaac 22.05.2022

Russell Isaac yw gwestai Beti George - cyn-newyddiadurwr, sydd bellach yn gweithio gyda'r Cenhedloedd Unedig ac i gorff yn Asia sydd yn paratoi'r gwledydd rhag y trychinebau sydd yn debygol o ddigwydd oherwydd newid hinsawdd.

Dr Sara Louise Wheeler 15.05.2022

Beti George yn sgwrsio gyda'r bardd, llenor ac artist llawrydd Dr Sara Louise Wheeler. Yn wreiddiol o Wrecsam, mae hi’n falch iawn o’i acen Rhos. Mae ganddi gyflwr genetig prin, sef Syndrom Waardenburg Math 1, sy'n golygu fod ganddi ddadbigmentiad yn y croen, gwallt, llygaid a chochlea - ac sydd yn golygu ei bod yn colli clyw. Mae hi’n fardd ac yn llenor ac yn artist llawrydd. Ar hyn o bryd mae hi...

Catrin Ellis Jones 08.05.2022

Catrin Ellis Jones yw gwestai Beti ai Phobol, ac mae ei stori yn mynd a ni o Sling, Tregarth i Folivia a Chile a nôl i’r Fenni lle mae hi’n byw bellach gyda’i theulu. Mae hi’n gweithio gydag un o gwmnïau gwerthu ynni mwyaf Ewrop, Vattenfall fel Pennaeth Ymrwymiad Rhanddeiliaid a Chymunedau ac yn trafod gyda chymunedau sut y gall ynni gwynt fod o fantais iddynt. Bu’n byw ac yn gweithio ym Molivia a...

Meleri Tudur 01.05.2022

Y gyfraith yw maes gwestai Beti ai Phobol a hynny gyda’r Tribiwnlysoedd. Mae’n Farnwr yn Ddirprwy Lywydd y Siambr, mae ganddi sedd yn yr Uchel Lys a hi yw’r Barnwr sydd yn arwain ar foderneiddio’r llysoedd, ac mae hi’n fam i 5 o ferched. Meleri Tudur sydd yn cadw cwmni gyda Beti George.

Dyfed Edwards 24.04.2022

Y nofelydd Dyfed Edwards, ydi gwestai Beti George. Enillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddod Genedlaethol ddwy waith yn olynol., ac mae hefyd yn awdur toreithog yn Saesneg gan ysgrifennu dan yr enw Thomas Emson. Cafodd ei fagu ym mhentref Rhosmeirch ger Llangefni, ac fe aeth i Ysgol Gynradd Llangefni ac wedyn symud i Ysgol Gyfun Llangefni. Roedd wrth ei fodd yn darllen comics a llyfrau, dechreuodd y...

Dai Jones 17.04.2022

Fel teyrnged i’r diweddar Dai Jones Llanilar, dyma gyfle eto i wrando ar ei sgwrs gyda Beti George o 2002 , rhaglen arbennig a recordiwyd gyda chynulleidfa yn Neuadd Rhydypennau, Aberystwyth.

Carren Lewis 10.04.2022

Carren Lewis yw gwestai Beti George ac mae ei stori yn mynd a ni o Penrhyndeudraeth i Dwrci a nôl i Sir Benfro. Yn ganolog i'r stori mae hanes ei mab bach mabwysiedig gafodd ei adael mewn bocs ar y ffin rhwng Syria a Thwrci. Merch o Benrhyndeudraeth ydi Carren, bu'n byw ym Mhwllheli am gyfnod ac wedyn fe aeth draw i Dwrci i weithio yn Marmaris. Yno cyfarfu â'i gwr, ac ar ôl cyfnod anodd yn derbyn...

Beks - Rebekah James 03.04.2022

Beks - Rebekah James yw gwestai Beti George, cyn-gyflwynydd ar Radio Cymru, sydd bellach yn byw yn Hong Kong. Ganwyd Beks yng Nghaerdydd cyn i'r teulu symud i Abertawe pan oedd yn ei harddegau. 20 mlynedd nol roedd hi'n un o sêr Radio Cymru, ac ond wedi iddi gyfarfod a'i gwr, Rhodri fe symudodd i fwy gydag ef i Hong Kong. Eleni fe fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 50, mae hi'n sôn am ei theulu, ei...

Tegryn Jones 27.03.2022

Tegryn Jones Prifweithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw gwestai Beti George. Mae'r Parc yn dathlu 70 mlynedd eleni, ac mae'n trafod yr heriau fu yn 1952 i sefydlu'r Parc a'r heriau gwahanol y maent yn eu hwynebu heddiw. Mae Tegryn wedi gwneud amrywiol swyddi ac mae'n rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.

Elin Mai 20.03.2022

Elin Mai, Perchennog y cwmni Style Doctors sydd yn cadw cwmni gyda Beti George. Fe dreuliodd y rhan fwyaf o’i phlentyndod yn Llangristiolus, Ynys Môn a dyma le wnaeth hi ddechrau ei chwmni cyn symud i Lundain, Efrog Newydd, Miami, Dubai... Mae Elin yn cyflogi dros 50 o staff ac maen nhw’n cynnig gwasanaeth steilo dillad i bwy bynnag sydd yn dymuno. Mae hi wedi steilio Malala Yousafzai, Amanda Hold...

Gwenan Roberts 13.03.2022

Gwenan Roberts ydi gwestai Beti a'i Phobol - mae hi wedi bod yn gweithio am flynyddoedd fel Therapydd iaith a lleferydd, ond bellach yn Athro meddylgarwch. Mae hi’n sôn am ei gwaith a’r amrywiaeth o swyddi gwahanol mae hi wedi ei wneud o weithio gyda throseddwyr ifanc i dreulio blwyddyn yn Calcutta. Yn wreiddiol o bentref Dinmael ger Corwen mae hi'n siarad am ddylanwad y fagwraeth glos yna arni. C...

Siân Elen Tomos 07.03.2022

Beti George yn sgwrsio gyda Siân Elen Tomos. Fel Prif Weithredwr GISDA mae Siân yn rheoli ac arwain GISDA ers Hydref 2011 i sicrhau gwasanaeth o ansawdd i bobl ifanc bregus yng Ngogledd Cymru. Law yn llaw gyda hynny mae Siân yn ceisio sicrhau parhad mewn gwahanol wasanaethau drwy geisio am grantiau a thendro am arian. Cyn ymuno a’r tîm yn GISDA roedd Siân yn gweithio fel gweithiwr Cymdeithasol yng...

Wyn Thomas 20.02.2022

Wyn Thomas, mab fferm o Geredigion, sydd yn weinidog ac yn gweithio gydag elusen Tir Dewi yw gwestai Beti George. Mae yn byw bellach yn Drefach Felindre gyda'i ŵr Mathew ac yn bridio peunod a chadw asynod ar eu tyddyn. Mae wedi wynebu sawl her, ac mae'n siarad am ei fywyd ac yn dewis ambell gân.

Edward Keith Jones 13.02.2022

Edward Keith Jones yw gwestai Beti George. Mae'n Brif Ymgynghorydd Newid Hinsawdd gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mynydda yw ei ddiléit pennaf, ac fe ddringodd pob mynydd yng Nghymru, 183 ohonynt, i ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant. Yn yr 8 mis diwethaf fe gafodd salwch difrifol a olygodd wythnosau lawer yn yr ysbyty yn ymladd am ei fywyd.

Elin Prydderch 06.02.2022

Elin Prydderch yw gwestai Beti George, merch sydd yn wreiddiol o Nasareth yn Nyffryn Nantlle. Mae hi'n Faethegydd ac yn Adweithegydd, yn Fam i 3 a bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae ganddi ddiddordeb mawr yn y corff ac mewn bwyta bwyd iach sydd yn gwneud i ni deimlo'n well. Fe gafodd ddiagnosis o Ddyslecsia'n oedolyn ac mae hi'n rhannu profiadau bywyd ac yn dewis ambell i gan sydd yn agos...

Theo Davies-Lewis 30.01.2022

Beti George yn sgwrsio gyda Theo Davies-Lewis y sylwebydd gwleidyddol am ei fagwraeth yn Llanelli, ei gyfnod yn Coleg Llanymddyfri, a Phrifysgol Rhydychen. Yn 24 mlwydd oed mae'n ysgrifennu colofnau i'r cylchgrawn The Spectator ac yn cyfrannu i'r Times ac fe yw prif sylwebydd gwleidyddol y National Wales. Mae'n rhannu profiadau ac yn dewis darnau o gerddoriaeth sydd yn agos at ei galon.

Rebecca Elizabeth Roberts 23.01.2022

Beti George yn sgwrsio gyda'r nofelydd Rebecca Roberts o Brestatyn. Mae hi wedi ysgrifennu pedair nofel ac wedi ennill gwobr Tir na n-Og a Llyfr y Flwyddyn i bobol ifanc, ac yn un o'i llyfrau mae'r prif gymeriad gydag anabledd ac yn gwisgo coesau prosthetig yn union fel mae merch yr awdur. Mae hi hefyd yn Weinydd Dyneiddiol ac yn rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gâ...

Geraint Jones 16.01.2022

Yr Athro Geraint Jones, Pennaeth Gwyddoniaeth y Planedau, UCL Llundain yw gwestai Beti George. Mae ganddo asteroid sydd wedi ei enwi ar ei ôl a hefyd mae ganddo record yn y Guinness Book of Records gan iddo ddarganfod cynffon comed hiraf erioed ar y pryd. Mab fferm Bryn Hyrddin, Pentraeth Ynys Môn ydi Geraint, fe aeth i Ysgol Gynradd Pentraeth. Roedd ganddo ddiddordeb yn y gofod bryd hynny ond doe...

Samuel Kurtz 09.01.2022

Beti George yn sgwrsio gyda Samuel Kurtz Aelod Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn ein Senedd ni yn y Bae. Mae'n weithgar iawn gyda'r Ffermwyr Ifanc ac yn cefnogi elusen DPJ, sefydliad ac elusen iechyd meddwl yng Nghymru sydd yn cefnogi’r rheini mewn cymunedau gwledig ac mewn amaethyddiaeth sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae'n dewis ambell gân sydd wedi creu argraff gan gynnwys Da...

Kristoffer Hughes 02.01.2022

Kristoffer Hughes, Pennaeth Derwyddon Ynys Môn ac awdur toreithiog llyfrau am fytholeg a chwedlau Cymru, yw gwestai Beti George. Mae newydd ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant ac wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w waith fel 'anatomical pathology technologist'- technegydd patholegol mewn marwdy. Fe fydd hefyd yn gyfarwydd i lawer fel Maggi Noggi, ac mae Kris yn sôn ei fod angen Maggi yn ei fywyd. Ma...

Mei Jones 19.12.2021

Rhaglen deyrnged i'r diweddar Mei Jones yr actor, sgriptiwr ac awdur wnaeth greu rhai o gymeriadau comedi mwyaf hoffus a chofiadwy yn y Gymraeg, Fe recordiodd Beti George ddwy raglen gydag ef yn 2004 ac fe'i darlledwyd ar ddau Sul yn olynol - a dyma gyfle i chi eu clywed.

John Alwyn Griffiths 12.12.2021

Awdur nofelau Ditectif a cyn Ditectif Arolygydd yn yr Adran dwyll yng Ngogledd Cymru John Alwyn Griffiths yw gwestai Beti George. Cawn glywed am ei fagwraeth ym Mangor a'i waith fel plismon, ditectif ac fe ddaeth yn Bennaeth yr Adran Dwyll. Pan oedd John yn fachgen ifanc yn yr ysgol doedd gan yr athrawon ddim llawer o hyder ynddo, medda fo. Feddyliodd neb y byddai’r bachgen hwnnw rhyw ddiwrnod yn...

Listen to the Beti a'i Phobol podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.