BBC Radio Cymru
Beti a'i Phobol
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Y Parchedig John Owain Jones 27.11.2022 51:30
Mae'r Parchedig John Owain Jones yn ymddeol fel Gweinidog ar Ynys Bute yn mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel Gweinidog yno. Cafodd ei eni yn Llanelwy a’i fagu yn Rhyl nes roedd yn 13 oed, cyn symud i Gaernarfon. Roedd ei Dad yn gweithio i’r Swyddfa Bost a chafodd swydd fel Post feistr yn Nghaernarfon. Mae cysylltiad Owain â'r Alban wedi bod yno bron o’r cychwyn. Wedi i’w rieni ddyweddï...
Iestyn Davies 20.11.2022 50:34
Dros y blynyddoedd mae’r cyn-dditectif a Phrif Arolygydd Iestyn Davies wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr heddlu’n cynnig gwasanaethau Cymraeg. Wedi treulio 30 mlynedd gyda Heddlu’r Gogledd, mae Iestyn bellach yn Bencampwr y Gymraeg gyda’r cwmni sy’n gyfrifol am redeg cyrsiau i’r rhai sydd wedi eu dal yn goryrru. UKROEd (UK Road Offender Education) sy’n rhoi trwyddedau i gwmnïau eraill i hy...
Ann Jones 14.11.2022 47:33
Cadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Merched, Ann Jones o Landdewi Brefi yw gwestai Beti George. Cawn wybod am ei magwraeth yng Nghwm Gwendraeth, dylanwad y Ffermwyr Ifaic arni, ac am waith Sefydliad y Merched.
Grant Peisley 14.11.2022 49:14
Grant Peisley sydd yn sgwrsio gyda Beti George, dyn o Awstralia sydd wedi setlo yn ardal Caernarfon ac yn gwneud llawer o waith gydag ynni cymunedol ac yn sefydlwr cwmnïau megis YnNi Teg a Datblygiadau Egni Gwledig (DEG).
Sioned Llywelyn Williams 14.11.2022 47:24
Beti George yn sgwrsio gyda'r fenyw busnes Sioned Llywelyn Williams o Lanuwchllyn sydd yn trafod steil a cholur ac am ei amryfal fusnesau yn ei hardal enedigol.
John Derrick, Rheolwr Gyfarwyddwr J. P. Morgan y DU 14.11.2022 46:50
Beti George yn sgwrsio gyda Rheolwr Gyfarwyddwr Banc J.P. Morgan ym Mhrydain, John Derrick. Cawn glywed am ei fagwraeth yn Llanelli cyn mynd ati i weithio yn y byd arian yn y ddinas, heb sôn am 3 mlynedd yn gwerthu gwin o gwmpas y byd.
Euros Lyn 14.11.2022 51:20
Beti George yn sgwrsio gyda'r cyfarwyddwr ffilm a theledu Euros Lyn. Mae'n son am ei blentyndod a'i fagwraeth mewn llefydd fel Guyana, Llanrug a Chwmtawe,. Hefyd, mae'n sgwrsio am ei waith yn gweithio ar gyfresi fel Dr Who, a'i gynhyrchiad diweddaraf sef y ffilm Dream Horse.
Elis James 14.11.2022 50:12
Beti George yn sgwrsio gyda'r comedïwr Elis James. Cawn glywed am ei fagwraeth yng Nghaerfyrddin a'i ddechreuad fel comedïwr, yn ogystal â thrafod ei hoffter mawr o gerddoriaeth a phêl-droed.
Meleri Davies 13.11.2022 50:35
"Cymuned, Amgylchedd, Economi - dyna ydy calon ein gwaith ni yn Partneriaeth Ogwen, Meleri Davies Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen yw gwestai Beti George. Cafodd ei magu ar y fferm Hendre yng Nghwm Prysor sydd rhyw 3 milltir o Drawsfynydd ar y ffordd i Bala a'r Fferm fynydd yn magu defaid Cymreig. Mae hi yn un o 4 o blant - y cyw melyn olaf. Dewi Prysor yr awdur ydi’r hynaf sy’n byw ym Mlaenau Ffes...
Eluned Morgan AS 06.11.2022 51:49
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol yw gwestai Beti George. “Mae 'na real cyfle i wneud gwahaniaeth pan ma' chi sydd yn gyfrifol am 50% o gyllideb Llywodraeth Cymru”. Dyna ddywed Eluned Morgan AS wrth Beti George, sy'n ei holi am ei gwaith a’i chyfrifoldebau fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Mae Eluned Morgan yn y swydd yma ers 18 mis ac mae Bet...
Mirain Iwerydd 30.10.2022 49:09
Y cyflwynydd Mirain Iwerydd yw gwestai Beti George. Mae Mirain yn dod o Grymych ac yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Hansh a Stwnsh Sadwrn, mae hi'n cyflwyno Sioe Frecwast Radio Cymru 2 ar fore Sul ac mae hi hefyd yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth newydd bob nos Fercher ar Radio Cymru. Mae'n byw yn Aberystwyth ac yn astudio Cymraeg yn y brifysgol yno. Yn ei amser hamdden mae'n mwynhau gwnïo, cymdeithasu...
Eurig Druce 23.10.2022 50:37
Eurig Druce, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni ceir Citroën yn y Deyrnas Gyfunol ydi gwestai Beti George. Yn wreiddiol o bentref Bethel ger Caernarfon, mae Eurig bellach yn gweithio o'i gartref sydd wrth droed yr Wyddfa ac yn Dad i 3 o blant. Bu Covid yn ofnadwy i lawer iawn ohonom ond i Eurig bu’n fantais mawr. Un penderfyniad gan y Bwrdd Rheoli oedd symud pawb i weithio o adref yn barhaol. Golyga hyn fo...
Joe Healy 16.10.2022 50:37
Joe Healy, enillydd Dysgwr y flwyddyn yw gwestai Beti George wrth i ni ddathlu Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg. O Wimbledon yn Ne Llundain y daw Joe Healy ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers degawd. Fe ddaeth i'r brifddinas i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros. Fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac mae'n trafod sut wnaeth o ddysgu'r iaith. Mae'n rhannu hanesion ei gyfnod yn Peru ac yn dew...
Bethan Wyn Jones 09.10.2022 51:35
Botanegwraig, darlledwraig, cyfieithydd, awdur, darlithydd, a cholofnydd yn y Daily Post Cymraeg ydy gwestai Beti George yr wythnos hon, sef Bethan Wyn Jones. Mae hi hefyd yn Swyddog Addysg Cyfeillion Gwiwerod Cochion Môn. Cafodd ei magu ym mhentref Talwrn ger Llangefni ac mae Bethan yn dal i fyw yn yr un tŷ. Mae hi'n rhannu hanesion bywyd ac yn trafod galar gyda Beti ac yn credu nad ydym ni'n sia...
Rhiannon Evans 02.10.2022 49:48
Ers pum degawd, mae Gemwaith Rhiannon wedi bod yn ganolbwynt i dwristiaid a phobl leol fel ei gilydd yn nhref Tregaron. Sŵoleg oedd ei phwnc gradd ac mae ganddi ddoethur hefyd. Hi oedd y cyntaf erioed i wneud PhD yn y Gymraeg a hynny ar bwnc ymbortheg anifeiliaid, ond yn hytrach na dilyn y trywydd yma, fe drodd at fyd busnes ac agor siop grefftau yn Nhregaron. Roedd hi’n un o dri gafodd brynu aur...
Karl Davies 25.09.2022 52:02
Wedi ei fagu yn Abergele ac yn gyn ddisgybl Ysgol Glan Clwyd, mae Karl Davies yn ymuno a Beti i drafod ei fywyd yr wythos yma. Dychwelodd Karl nôl i Gaerdydd ddiwedd mis Mehefin eleni o China, ar ôl bod yn dysgu Saesneg i oedolion yno am 4 blynedd. Hanes China gaiff y sylw heddiw, gan ei fod yn credu bod anwybodaeth y gorllewin am y wlad yn broblem enfawr. Bu Karl yn gweithio yn y byd gwleidyddol...
Hefin Wyn 18.09.2022 51:14
Awdur a'r newyddiadurwr Hefin Wyn yw gwestai Beti. Mae wedi ysgrifennu'n helaeth am gerddoriaeth Cymraeg, am Meic Stevens, Waldo a Niclas y Glais ac yn gyn newyddiadurwr gyda'r BBC a HTV. Bu hefyd yn Ohebydd adloniant Y Cymro, ac fe ddisgrifiodd Beti ef fel 'Llysgennad dros Sir Benfro'. Mae'n rhannu straeon ei fywyd ac yn dewis ambell gân.
Hywel Gwynfryn 28.08.2022 52:38
Hywel Gwynfryn sydd yn sgwrsio gyda Beti George.
Seren Morgan Jones 21.08.2022 50:14
Seren Morgan Jones sydd yn gwmni i Beti George.
Ann Catrin Evans 15.08.2022 45:09
Ann Catrin Evans sydd yn gwmni i Beti George.
Ifan Jones Evans 07.08.2022 48:14
Beti George sydd yn sgwrsio gyda'r cyflwynydd Ifan Jones Evans
Dr Delyth Badder 24.07.2022 48:19
Beti sydd yn sgwrsio gyda Dr Delyth Badder
Nicola Davies 10.07.2022 51:46
Cobiau Cymreig yw diléit gwestai Beti George, Nicola Davies, Cadeirydd Cyngor y Sioe Frenhinol. Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Abertawe, nol aeth hi i’w chartref yng Ngheredigion fel ei bod yn medru helpu gyda’r busnes bridio cobiau, Bridfa Maesmynach. Mae hi’n weithgar yn y gymuned amaethyddol, yn y Ffermwyr Ifanc a gyda’r Sioe Frenhinol, ac yn ddiweddar fe ddaeth y fenyw gyntaf i fod yn Gadeirydd C...
Meirion Jones 03.07.2022 50:32
Yr artist Meirion Jones yw gwestai Beti ai Phobol. Cafodd ei fagu yn Aberteifi a bu'n cyd weithio mewn stiwdio gyda'i Dad, y diweddar Aneurin Jones. Astudiodd Lefel A mewn Arlunio, Hanes a Cymraeg. Yna aeth i Goleg Celf Dyfed Caerfyrddin i astudio Celf am ddwy flynedd a dysgu llawer. Aeth Meirion ymlaen wedyn i astudio Cwrs Cyfathebu yn y Coleg Normal Bangor cyn mynd yn athro am 10 mlynedd, yn dys...
Catrin Atkins 19.06.2022 51:33
Catrin Atkins ydi'r cwmni yr wythnos hon. Cafodd ei geni gyda Spina Bifida a hydrocephalus, ac mae hi’n sôn am y cyflyrau yma a sut maen nhw wedi effeithio arni. Mae hi bellach yn Coach - Y Coach Cymraeg, ac yn siarad gyda chleientiaid ar draws y byd. Mae hi’n sôn nad oes enw Cymraeg am Coach - sydd yn esbonio yn union beth ydi'r gwaith. Mae'n chwaer i Barry Griffiths, fu'n reslo yn y WWE, ond syd...
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.