BBC Radio Cymru

Beti a'i Phobol

Society CY ↓ 661 episodes

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Author

BBC Radio Cymru

Category

Society

Podcast website

www.bbc.co.uk

Latest episode

Jul 6, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Richard Hughes 25.06.2023

Arbenigwr ar gyfrifiaduron a mathemateg o Gaernarfon, Richard Hughes ydi gwestai Beti George. Mae'n raglennydd cyfrifiadureg, ac wedi gweithio ar systemau gweithredu ym meysydd awyr Heathrow a Charles de Gaulle. Mae wedi dysgu 10 o ieithoedd cyfrifiadurol, ac ati ac wedi ysgrifennu sawl rhaglen gyfrifiadurol ei hun. Bu'n gyrru lori, yn gwneud cyfrifiadur ar gyfer y ffilm Billion Dollar Brain efo M...

Edward Morus Jones 18.06.2023

Edward Morus Jones yw gwestai Beti George yr wythnos hon. Mae'n trafod ei gartref fferm Eithin Fynydd yn Llanuwchllyn, ac yn hel atgofion am recordio Cwm Rhyd y Rhosyn gyda Dafydd Iwan a'r cyfnod yn canu gyda Mary Hopkin. Ers 40 mlynedd mae wedi bod yn ymwneud â Chymru a’r byd ac eleni, cafodd ei anrhydeddu gan y sefydliad Cymru gogledd America, sef medal am ei gyfraniad ar hyd y blynyddoedd. Bell...

Carwyn Graves 11.06.2023

Beti George yn sgwrsio gyda Carwyn Graves awdur a hanesydd bwyd Cymru. Carwyn yw awdur 'Afalau Cymru' a'r gyfrol o ysgrifau am fwyd 'Welsh Food Stories'. Mae Carwyn newydd gychwyn ar swydd newydd yng Nghanolfan Tir Glas, Llanbed sy'n fenter newydd sbon ar y cyd â’r Brifysgol yn Llanbed. Maent yn ceisio creu canolfan arloesol o gwmpas bwyd cynaliadwy. Ar hyn o bryd, mae’n bosib astudio bwyd os ydi...

Bethan Marlow 04.06.2023

Bethan Marlow, dramodydd sy'n sgwennu ar gyfer Theatr, Ffilm a Theledu, yw gwestai Beti George. Bethan yw'r dramodydd cyntaf i ddefnyddio arddull verbatim yn y Gymraeg, sef defnyddio geiriau go iawn pobol a'u troi yn ddramâu. Yn wreiddiol o bentref Bethel ger Caernarfon, bu Bethan yn byw yn Llundain, Caerdydd a Miami a bellach mae hi wedi ymgartrefu gyda Carolina a'r plant yn Lanzarote. Llun: Kris...

Dafydd Hywel 28.05.2023

Fel teyrnged i’r diweddar Dafydd Hywel, dyma gyfuniad o ddwy raglen wnaeth Beti a'i Phobol recordio gyda'r actor yn 1984 a 2004. Yn wreiddiol o'r Garnant ger Rhydaman, bu'n actio ers y 1960au mewn cynyrchiadau Cymraeg a Saesneg ar lwyfan, ffilm a theledu.

Wil Rowlands 21.05.2023

Artist o Ynys Môn yw gwestai Beti George. Cawn ei hanes yn cwrdd â Andy Warhol a Johnny Cash ac mae o’n sôn am ei gyfeillgarwch â R.S Thomas – mae ganddo lyfr sydd yn llawn brasluniau wnaeth o R.S Thomas wrth drafod Duw a chantorion Opera Rwsieg yn ei stiwdio yng Nghemaes.

Betty Williams 14.05.2023

Beti George yn sgwrsio gyda Betty Williams Gwleidydd Llafur. Hi oedd Aelod Senedd y Deyrnas Unedig dros etholaeth Conwy o 1997 hyd 2010. Yn wreiddiol o Dalysarn, Dyffryn Nantlle. Mae hi'n rhannu straeon difyr ei bywyd ac yn dewis ambell gân.

Sioned Lewis 07.05.2023

Sioned Lewis, sy'n gwnselydd ac yn seicotherapydd, yw gwestai Beti a'i Phobol. Yn wreiddiol o Ddolwyddelan, bu'n gweithio mewn sawl maes gwahanol: yn gwerthu tai, yn y byd teledu a gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Yn 1999 gorfu i Sioned adael ei gwaith gan fod ganddi ganser y fron a bu'n gyfnod anodd ofnadwy iddi. Rhwng 1999- 2001 bu Sioned mewn ac allan o wahanol ysbytai. Sioned yw cwnselydd rhagle...

Iola Ynyr 30.04.2023

Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Creadigol ac Ysgrifenwraig yw gwestai Beti a'i Phobol. Byd y ddrama yw ei byd hi ac mae hi'n cynnal gweithdai ‘Ar y Dibyn’ sydd yn herio’r stereoteip o bobol sydd â dibyniaeth. Bu Iola’n dioddef o salwch meddwl - alcoholiaeth ac iselder ac mae hi'n trafod y cyfnod yma gyda Beti George.

Robat Idris 23.04.2023

Robat Idris Davies o Ynys Môn yw gwestai Beti George. Mae'n ymgyrchydd brwd, yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, ac yn Is-Gadeirydd Cymdeithas y Cymod. Mae hefyd yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Môn, yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Morisiaid Môn, ac yn aelod o Bwyllgor Gweithredol PAWB – Pobl Atal Wylfa B. Mae'n sôn am ei waith fel Milfeddyg ac am ei gyfnod yn Japan yn dilyn dinistr Fukushima.

Al Lewis 09.04.2023

Y canwr a'r cyfansoddwr Al Lewis sydd yn gwmni i Beti George. Yn wreiddiol o Bwllheli, fe ymddangosodd Al, a’i gyfaill oes Arwel (Gildas) am y tro gyntaf ar ein sgrins teledu yn canu ‘Llosgi’ ar Cân i Gymru. Ers hynny mae wedi rhyddhau pump albwm yn y Gymraeg a dwy albwm Saesneg. Mae'n trafod galar gyda Beti a sut y gwnaeth marwolaeth ei Dad yn ifanc newid cwrs ei fywyd. Mae hefyd yn sôn am ei gyf...

Elin Angharad 02.04.2023

Crefftwraig lledr o ganolbarth Cymru yw Elin Angharad. Mae gwaith celf, dylunio a chreu wedi bod o ddiddordeb mawr iddi ers yn ifanc. Bu'n astudio cwrs 'Artist, Designer, Maker yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, ac wedyn cychwyn busnes ei hun yn dylunio a chreu cynnyrch wedi ei wneud o ledr.

Delyth Morgan 26.03.2023

Delyth Morgan - actores, cyflwynydd a hyfforddwraig tîm rygbi merched Cymru dan 18 a 20 oed - sy'n gwmni i Beti George. Mae ganddi ddwy wlad mae hi'n galw'n gartref - Cymru a Seland Newydd. Fe aeth allan yno 20 mlynedd nôl, fe gafodd waith, priodi a bu'n datblygu rygbi merched. Mae hi nôl yng Nghymru gyda'i merch Seren, a rygbi yw ei byd mewn gwirionedd. Fe chwaraeodd dros Gymru a nawr mae hi'n rh...

Berwyn Rowlands 19.03.2023

Berwyn Rowlands, y trefnydd a 'r cynhyrchydd yw gwestai Beti George, ac mae bellach yn adnabyddus am ei waith gyda Gwobrau Iris Gŵyl Ffilm LGBTQ+. Fe ddaw Berwyn yn wreiddiol o Ynys Môn, ac mae'n sôn am ddylanwad Ysgol Gynradd Llangoed ac Ysgol David Hughes, Porthaethwy arno. Mae mewn perthynas â Grant ers 34 mlynedd - a nhw oedd y cwpl cyntaf i gael partneriaeth sifil ar Ionawr 25ain 2006.

Pat Morgan 12.03.2023

Pat Morgan aelod allweddol o'r band eiconig Datblygu yw gwestai Beti a'i Phobol. "Mae'n magic fel mae hi'n gweithio" geiriau Dave Datblygu. Mae hi'n siarad am ei magwraeth yn y Ficerdy, dechrau grŵp pop Y Cymylau gyda'i chwaer, a'i chariad tuag at gerddoriaeth.

William Owen Roberts - Wil Garn 05.03.2023

Awdur nofelau Y Pla, Petrograd, Paris a Paradwys, i enwi ond rhai, yw gwestai Beti George, William Owen Roberts neu Wil Garn i lawer sydd yn ei adnabod. Mae'n trafod beth sydd yn ei ysgogi i ysgrifennu ac yn sôn am ei gyfnod yn y Coleg yn Aberystwyth lle bu'n rhannu tŷ gyda'r diweddar Iwan Llwyd. Mae hefyd yn trafod ei nofel ddiweddaraf Cymru Fydd.

Cledwyn Jones 19.02.2023

Bu farw Cledwyn Jones, oedd fwyaf adnabyddus fel aelod o Driawd y Coleg, yn Hydref 2022 ac yntau'n 99 mlwydd oed. Dyma gyfle i fwynhau plethiad o 2 raglen recordiodd Beti George gydag ef yn 2015. Un o Dal-y-sarn yn Nyffryn Nantlle oedd Cledwyn Jones, ac wedi cyfnod gyda'r awyrlu aeth i Goleg Prifysgol Bangor. Yno y cyfarfu â dau aelod arall y triawd poblogaidd - Meredydd Evans a Robin Williams - a...

Dr Nia Wyn Jones 05.02.2023

Darlithydd Hanes Canol Oesol a Modern ym Mhrifysgol Bangor, Dr Nia Wyn Jones yw gwesai Beti George. Daw yn wreiddiol o Abertawe ac wedi blynyddoedd lawer o anhapusrwydd fe benderfynodd gael triniaeth i newid ei rhywedd yn ddiweddar.

Rhiannon Boyle 29.01.2023

Y dramodydd Rhiannon Boyle yw'r gwestai. Mae ei drama newydd ar gyfer Radio Cymru, 'Lysh', wedi’i selio ar brofiadau personol a’i pherthynas hi gydag alcohol. Pan fyddai hi'n yfed roedd yn tueddu o yfed tipyn ar y tro, gan fynd dros ben llestri a gwneud pethau gwirion. Wedi iddi roi'r gorau i yfed am fis, teimlodd bod ei hiechyd meddwl wedi gwella, ac roedd hi'n cysgu'n well. O ganlyniad, mi bende...

Annie Walker 15.01.2023

Annie Walker yw gwestai Beti George. Mae hi’n artist, a ddaw'n wreiddiol o Fferm Blaen Halen, Castell Newydd Emlyn, ac 'roedd hi’n yr un dosbarth â Beti yn ysgol Llandysul. Bu’n astudio Celf yn Newcastle, ac yn ddiweddarach bu’n rhan o greu set 2001 Space Odyssey - Ffilm Ffuglen Wyddonol (sci-fi) Stanley Kubrick MGM, yn Boreham Wood, ar ôl gweld hysbyseb yn y Times. Mae hi’n fam i bedair merch. Ma...

Kath Morgan 08.01.2023

Kath Morgan, sylwebydd pêl droed a chyn Gapten tîm pêl droed merched Cymru, yw gwestai Beti a'i Phobol. Dechreuodd Kath chwarae pêl droed yn yr ysgol gynradd a hithau’n 7 oed; mae’n cofio diflasu chwarae gyda’r genethod a phenderfynu ei bod yn awyddus i ymuno efo’r bechgyn. Bu'n gwylio'r bechgyn yn chwarae am flynyddoedd i ddysgu sgiliau. Mae hi newydd ddychwelyd o Qatar lle bu'n sylwebu yno gyda...

Rhian Morgan 01.01.2023

Yr actores Rhian Morgan yw gwestai Beti George. Yn ddiweddar mae hi wedi cymryd llwybr newydd yn ei bywyd ac yn hyfforddi i fod yn Offeiriad. Mae Rhian newydd gychwyn cwrs 2 flynedd gyda’r Eglwys yng Nghymru yng Ngholeg San Padarn; mae’n ddatblygiad annisgwyl iawn yn ei bywyd meddai hi, a hynny yn dilyn profiad anhygoel a ddigwyddodd iddi yn yr Eglwys yn Llandeilo. Cafodd Rhian ei geni yn Ysbyty T...

Marc Howells 18.12.2022

Marc Howells, Pennaeth Datblygu Pobl a Thalent AstraZeneca, yw gwestai Beti George Mae’n gyfrifol am 100 mil o bobol ar draws y byd, gan weithio rhwng Caergrawnt a’i gartref yng Ngresffordd. Bu’n gweithio gyda’r cwmni yn China, Awstralia a Philadelphia. Ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda Llywodraethau Sweden, Portiwgal yr Almaen a'r Eidal ar ddatblygu sgiliau 5 miliwn o bobol ar gyfer y dyfodol.

Shan Jamil Ashton 11.12.2022

Shan Jamil Ashton yw gwestai Beti George. Mae Shan yn gyn darlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn Gymdeithasegydd. Mae hi'n arwain gwaith Cymunedau ac yn byw yn Capel Curig – yn chwaer i Caradog Jones y Cymro 1af aeth i fyny Everest. Cafodd ei geni ym Mhontrhydyfen De Cymru. Ei henw canol ydi Jamil - pan oedd ei thad yn ifanc bu’n aelod o’r Palestine Mountain Police ac mae ei chwaer wedi ei henwi’n...

Sylvia Davies 04.12.2022

Sylvia Davies, amgylchedd wraig a sefydlodd ei chwmni ei hun Eto Eto yw gwestai Beti George. Mae hi'n creu bagiau ac ategolion allan o wastraff fyddai fel arall yn mynd i'r domen sbwriel. Roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn gwnïo a dysgodd wnïo pan oedd hi’n 4 oed - roedd ei Mam yn arfer gwnïo dillad iddi hi a’i chwaer. Fe wnïodd Sylvia ei ffrog briodas ei hun. Roedd gwnïo felly yn rhywbeth oedd yn...

Listen to the Beti a'i Phobol podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.