BBC Radio Cymru
Beti a'i Phobol
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Dr Caroline Turner 03.03.2024 50:13
Cyn Brif Weithredwr Cyngor Sir Powys, Dr Caroline Turner yw gwestai Beti George. Bu'n was sifil yn y Cynulliad fel roedd e arfer cael ei alw, ac fe fu'n 'Whistle Blower' unwaith hefyd pam doedd pethe ddim fel y dyle nhw fod yng Nghyngor Môn. Mae hi'n wreiddiol o Lanfachraeth, Ynys Môn. Mae'n rhannu straeon bywyd gyda Beti George ac yn dewis 4 cân sydd yn cofnodi cyfnodau mewn bywyd iddi gan gynnwy...
Adam Jones 25.02.2024 50:45
Garddwr o Ddyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin yw Adam Jones, neu Adam yn yr ardd fel mae'n cael ei adnabod. Fe gychwynnodd ei ddiddordeb mewn garddio pan oedd yn 3 blwydd oed yng ngardd tad-cu yn tyfu llysiau o bob math mewn gardd fach yng Nglanaman. Roedd ei Dad-cu yn fentor pwysig iawn iddo ac ef wnaeth gychwyn a meithrin ei sgiliau a’i wybodaeth am arddio. " Mae 'na dueddiad di bod yn y gorffennol i...
Miriam Lynn 11.02.2024 51:01
Dr Miriam Lynn sy'n arbenigo ar gydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth mewn gwahanol feysydd yw gwestai Beti a'i Phobol. Cafodd ei magu ym mhentref bach Llanfynydd ger y Wyddgrug. Ei thaid oedd yr emynydd enwog John Roberts Llanfwrog, ac mae Miriam yn sôn am ei hafau hapus yn Sir Fôn gyda Thaid a Nain. Mynychodd Brifysgol Dundee i astudio Microbioleg. Fel rhan o’i gradd cafodd flwyddyn i astudio...
Meleri Wyn James 04.02.2024 50:40
Yr awdur a golygydd Meleri Wyn James yw gwestai Beti George. Cafodd ei magu yn Llandeilo, Beulah a Aberporth, ac mae hi bellach yn byw yn Aberystwyth. Mae hi'n redwraig frwd, ac yn credu bod rhedeg yn gymorth iddi gan ei bod yn byw gydag epilepsi. Mae hi wedi mabwysiadu dwy o enethod gyda’i gwr Siôn ac wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ar gyfer plant ac oedolion gan gynnwys y gyfres boblogaidd Na, Ne...
Guto Bebb 28.01.2024 1:17:18
Mae Guto'n Brif Weithredwr Gwasanaeth Yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru ers 2020 ac yn Brif Weithredwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru yn ei gyfanrwydd ers Chwefror 2021. Cyn hynny, fe fu'n Aelod Seneddol dros Aberconwy am ddegawd gan wasanaethu fel Gweinidog yn Swyddfa Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Yn enedigol o Sir y Fflint, mae Guto wedi byw yng Nghaernarfon (ac eithrio ambell gyfnod yn crwydro) e...
clare e.potter 21.01.2024 50:22
Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi M.A. mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd o Brifysgol Mississippi. Bu’n byw yn New Orleans am ddegawd a chafodd gyllid gan Gyngor y Celfyddydau i ymateb i ddinistr Corwynt Katrina gyda phumawd jazz. Mae clare wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ac mae’n cydweithio ag artistiaid i greu gosodiadau barddoniae...
Nayema Khan Williams 14.01.2024 50:12
Nayema Khan Williams sy’n ymuno â Beti. Mae Nayema a’i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd. Cawn glywed ei hanes difyr yn mentro o fyd y gwasanaeth iechyd i fyd triniaethau anfeddygol. Cafodd ei magu yng Nghaernarfon, daeth ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn y ddau’n wreiddiol o Pacistan. Daeth ei thad draw yn y 50/60au i Gaernarfon ac fe ddilynodd ei mam wedyn . Mae...
Liz Saville Roberts 07.01.2024 51:31
Yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts ydi gwestai Beti George. Y ferch gyntaf yn hanes Plaid Cymru i ennill sedd yn Senedd San Steffan yn cynrychioli Dwyfor Meirionnydd. Cyn mentro i faes gwleidyddiaeth bu’n newyddiadura ac yn darlithio. Cafodd ei geni a’i magu yn Ne Ddwyrain Llundain. Aeth i’r Coleg yn Aberystwyth i astudio Cymraeg a Llydaweg a’r Mabinogi sy’n gyfrifol am ei denu i Gymru a chofle...
Ifan Phillips 31.12.2023 50:22
Y cyn chwaraewr Rygbi Ifan Phillips ydi gwestai Beti a’i Phobol. Un sydd wedi chwarae Rygbi dros Gymru i’r tîm dan ugain yn y flwyddyn enillon nhw bencampwriaeth y chwe gwlad am y tro cyntaf. Mae wedi chwarae efo’r Gweilch yn safle’r Bachwr ond daeth hynny i gyd i ben ar ôl iddo gael damwain erchyll ar ei fotobeic. Mae o bellach yn hyfforddi tîm Crymych ac yn sylwebu ar y gêm.
Yws Gwynedd 24.12.2023 59:21
Y cerddor a Rheolwr Cwmni Recordiau Cosh, Yws Gwynedd ydi gwestai Beti a’i Phobol. Mae’n sôn am ei fywyd, algorithmau cerddorol, chwarae pêl droed, ei pum sied, tyfu llysiau, a'i deulu gan gynnwys hanes colli ei dad yn ystod cyfnod Cofid.
Cleif Harpwood 10.12.2023 51:38
Prif leisydd y band arloesol Edward H. Dafis, Cleif Harpwood yw gwestai Beti a’i Phobol, ond yn y rhifyn yma mae’n trafod mwy am hanes ei fywyd na’i gerddoriaeth. Bu’n hel atgofion gyda Beti George am ei fagwraeth yng Nghwmafan ac yn sôn am siop bapur newydd ei Dad, ac effaith y ffordd osgoi ar gymunedau’r ardal. Mae’n sôn am iselder sydd wedi ei lethu ar brydiau a hynny mae’n credu wedi deillio o...
Rory Francis 03.12.2023 50:20
Rory Francis yr amgylcheddwr, ymgyrchydd a chyfathrebwr sy'n gweithio dros Gymru wyrddach mewn byd mwy cynaliadwy yw gwestai Beti George. Mae'n siarad 9 iaith ac fe ddechreuodd yr awch i ddysgu ieithoedd yn 6 mlwydd oed ym Mhenbedw. Rhyw 6 mlynedd nôl fe ddechreuodd ddysgu Rwsieg, ac mae'n weddol rhugl bellach yn yr iaith yna hefyd.
Tomos Parry 19.11.2023 49:30
Beti George yn sgwrsio gyda'r cogydd, Tomos Parry o Ynys Môn sydd wedi ennill ei seren Michelin gyntaf am ei fwyty yn Llundain. Agorodd Tomos fwyty Brat yn Shoreditch ym mis Mawrth 2018 ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Cafodd y seren ei gwobrwyo i Tomos gan Michelin am "goginio rhagorol dros dân agored". Dros gyfnod COVID agorodd Tomos dŷ bwyta Brats Outdoors lle roedd cwsmeriaid yn gallu eistedd...
Bronwen Lewis 12.11.2023 50:20
Y gantores Bronwen Lewis sydd yn cadw cwmni gyda Beti George. Fe ddaeth i amlygrwydd yn ystod y cyfnod clo gan iddi rannu ei chaneuon ar y gwefannau cymdeithasol. Fe gafodd brofiad diflas ar sioe dalent The Voice, ond fe agorodd drysau eraill, bu'n canu ar y ffilm Pride ac mae hi bellach yn cyflwyno ar Radio Wales. Mae'r gantores ifanc o Gwm Dulais yn trafod pam mor allweddol mae'r Gymraeg wedi bo...
Guto Harri 05.11.2023 1:12:25
Y newyddiadurwr a'r ymgynghorydd cyfathrebu Guto Harri yw gwestai Beti George. Mae'n trafod ei gyfnod yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu i'r Prif Weinidog Boris Johnson, ac yn rhannu straeon am y cyfnod y bu'n gweithio wrth galon yr hyn oedd yn digwydd yn San Steffan, mewn cyfnod cythryblus yn hanes y lle. Bu'n gweithio i geisio adfer enw da papurau newydd Rupert Murdoch yn ystod cyfnod y 'pho...
Mali Ann Rees 29.10.2023 49:00
Yr actores Mali Ann Rees ydi gwestai Beti a’i Phobol. A hithau ond yn 17 oed bu’n ddisgybl mewn Coleg yn India am ddwy flynedd yn astudio bagloriaeth ryngwladol. Bu ddigon ffodus wedyn i gael ei derbyn i goleg drama yn Llundain ond yn anffodus ni wnaeth hi fwynhau ei chyfnod yno gan i’r coleg gnocio ei hyder yn llwyr. Serch hynny, mae Mali yn un o’r actoresau amlycaf ac wedi actio mewn nifer o gyn...
Felicity Roberts 23.10.2023 48:18
Mae Felicity Roberts yn Diwtor a Chydlynydd Cymraeg i Oedolion yn Dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi bod yn diwtor Cymraeg am dros hanner can mlynedd. Yn 2023 enillodd wobr am fod yn diwtor Cymraeg Ysbrydoledig gyda ‘Inspire Awards’ dan nawdd Llywodraeth Cymru. Magwyd Felicity ar aelwyd llawn cariad yn Chwilog a bu ei magwraeth yno yn ysbrydoliaeth iddi ar hyd ei hoes. Cafodd ei...
Richard Holt 08.10.2023 50:04
Mae stori Richard Holt y cogydd a'r gŵr busnes o Ynys Môn yn llawn troeon annisgwyl. Gradd mewn technoleg cerdd sydd ganddo o Brifysgol Caerdydd, ond ar ôl gweithio mewn tai bwyta yn Ynys Môn ac i'r cogydd enwog Marcus Wareing yn Llundain fe gafodd ei ddadrithio a rhwng swyddi coginio fe aeth at y Llu Awyr i fod yn beilot, ond doedd ganddo ddim yr arian i dalu am yr hyfforddiant i hedfan awyren. Y...
Dr Dewi Evans 01.10.2023 48:42
Pediatrydd yw gwestai Beti George a dreuliodd ei yrfa fel ymgynghorydd gofal plant yn Abertawe. Wedyn fe aeth i faes y gyfraith gan roi tystiolaeth mewn achosion Llys yn ymwneud a phlant. Yn y 30 mlynedd ers iddo ddechrau yn y maes yma mae wedi rhoi tystiolaeth mewn llysoedd ar draws gweledydd Prydain ac yn Iwerddon, ond achos Lucy Letby a garcharwyd am oes am lofruddio babanod bach oedd yn ei gof...
Meinir Howells 03.09.2023 56:30
Meinir Howells yw gwestai Beti George, ac mae ei angerdd tuag at y byd amaeth yn fawr. Mae hi’n gyflwynwraig teledu ac yn cyfuno hynny gyda ffermio gyda’i gŵr Gary ar fferm Shadog, sydd ym mhentre’ Cwrt, Llandysul. Mae hi hefyd yn fam i ddau fach, Sioned a Dafydd. Breuddwyd ers pan yn blentyn oedd bod yn gyflwynydd teledu a'i harwr mawr oedd Dai Jones Llanilar, feddyliodd hi erioed y byddai'n cael...
Elin Maher 27.08.2023 50:04
Elin Maher yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae hi'n gweithio fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg, ac yn ymgynghorydd iaith ac addysg lawrydd ers nifer o flynyddoedd bellach - ac wedi bod yn gweithio yn y byd addysg ac o fewn maes datblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol trwy gydol ei gyrfa, gyda’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn graidd i’w gwaith. Yn enedigol o Gwm Tawe, ond yn byw yn...
Dr Eilir Hughes 11.08.2023 50:44
Meddyg teulu a ddaeth i amlygrwydd reit o ddechrau’r pandemig gan iddo chwarae rhan mor bwysig wrth geisio rheoli'r Covid-19 yw gwestai Beti a'i Phobol, ac fe gafodd ei enwebu am ei waith ar gyfer un o wobrau Dewi Sant. Mae Dr Eilir Hughes yn gweithio fel meddyg teulu yn Nefyn, Gogledd Cymru. Mae'n gwerthuso meddygon teulu yn yr ardal a newydd ddechrau fel Cyfarwyddwr Meddygol gyda Bwrdd Iechyd Be...
Mared Rand Jones 23.07.2023 50:13
Gwestai Beti George yw Mared Rand Jones sydd wedi cychwyn ar ei rôl newydd fel Prif Weithredwr Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Cymru ers Ionawr 2023. Magwyd Mared ar fferm laeth, Llanfair Fach, Llanfair Clydogau, Llanbedr Pont Steffan. Mynychodd Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan ac yna Coleg y Drindod lle enillodd radd yn y Gymraeg ac Astudiaethau Theatr. Mae Mared yn mwynhau actio ac yn aelod o gwmni...
Cerys Hafana 09.07.2023 50:50
Mae Cerys Hafana yn gyfansoddwr ac aml-offerynnwr sy’n manglo a thrawsnewid cerddoriaeth draddodiadol. Mae ei cherddoriaeth yn chwarae efo posibiliadau unigryw’r delyn deires, gan gymryd ysbrydoliaeth o ddeunydd archifol a phrosesu electronig. Mae'n byw ym Machynlleth ac yn rhannu straeon am ei phlentyndod, ei dylanwadau cerddorol megis Nansi Richards, a Siân James. Mae'n trafod cerddoriaeth gweri...
Dr Owain Rhys Hughes 02.07.2023 50:16
Gwestai Beti George ydi Dr Owain Rhys Hughes - llawfeddyg a pherchennog cwmni Cinapsis, meddalwedd sydd yn rhoi cymorth i feddygon a chleifion i gael diagnosis yn gynt. Wedi ei fagu ym Mhenmynydd ger Porthaethwy, aeth i Gaerdydd i astudio meddygaeth, a dewisodd fynd yn llawfeddyg gan ei fod yn mwynhau anatomi pan yn y Coleg. Yn ystod ei flwyddyn olaf yn y coleg cafodd y cyfle i fynd i weithio i Bo...
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.