BBC Radio Cymru

Beti a'i Phobol

Society CY ↓ 661 episodes

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Author

BBC Radio Cymru

Category

Society

Podcast website

www.bbc.co.uk

Latest episode

Jul 6, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

John Grisdale 15.08.2017

Beti George yn sgwrsio gyda John Grisdale. Wedi'i eni ym Mangor a'i fagu ym Mhenisarwaun, symudodd i Gaernarfon pan oedd ond yn blentyn bach. Ar ôl gyrfa ym maes addysg, gan gynnwys dod yn bennaeth Ysgol Brynrefail yn Llanrug yn y 1990au, cafodd swydd gyda Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio ar gynllun cyswllt rhwng yr heddlu a holl ysgolion Cymru. Mae bellach wedi ymddeol, ond yn dal yn aelod gwirfo...

Tony Bianchi 13.08.2017

Beti George yn sgwrsio gyda'r llenor Tony Bianchi, enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015. Beti George interviews litterateur Tony Bianchi.

Irfon Williams 30.07.2017

Beti George yn holi Irfon Williams o Fangor wrth iddo frwydro'n erbyn canser ac ymgyrchu er mwyn helpu eraill. Beti George interviews cancer patient and campaigner Irfon Williams.

Vivian Parry Williams 23.07.2017

Beti George yn sgwrsio â Vivian Parry Willams. Yn enedigol o Benmachno, mae bellach yn byw ym Mlaenau Ffestiniog, ac yn awdur llyfrau fel Plwyf Penmachno ac Elis O'r Nant - Cynrychiolydd y Werin.

Meg Elis 17.07.2017

Beti George yn sgwrsio â Meg Elis. Yn adnabyddus fel gwleidydd, cyfieithydd ac awdur, mae gan y ddwy ddigonedd i'w drafod. Beti George chats to Meg Elis.

Sara Powys 13.07.2017

Beti George yn sgwrsio â Sara Powys. Wedi cyfnodau yn gweithio ym meysydd y diwydiant ymwelwyr a iechyd meddwl, hi yw perchennog Coffi Cwtch yng Nghaerdydd.

Dafydd Dafis 25.06.2017

Beti George yn holi Dafydd Dafis mewn rhaglen a gafodd ei darlledu'n wreiddiol yn 1985. Wedi'r sgwrs, yn deyrnged i'r diweddar actor a cherddor, mae cyfle i glywed pedair o'r caneuon a gafodd eu recordio ganddo'n ystod ei yrfa.

Marian Wyn Jones 18.06.2017

Beti George yn sgwrsio â Marian Wyn Jones, cyn-bennaeth y BBC yng ngogledd Cymru sy'n aelod o sawl corff cyhoeddus ac ymddiriedolaeth elusennol. Beti chats to Marian Wyn Jones.

Rhodri Morgan 11.06.2017

Beti George yn holi Rhodri Morgan, cyn-brif weinidog Cymru. Beti George interviews Rhodri Morgan, the former first minister of Wales.

Gwyneth Glyn 02.06.2017

Beti George yn holi'r bardd a'r gantores Gwyneth Glyn. Beti George chats to poet and and singer Gwyneth Glyn,.

Helen Greenwood 28.05.2017

Beti George yn sgwrsio â Helen Greenwood wrth iddi ymddeol o Urdd Gobaith Cymru wedi chwarter canrif o weithio i'r mudiad yn y de-ddwyrain.

Derith Rhisiart 21.05.2017

Beti George yn holi'r seicotherapydd Derith Rhisiart. Beti George chats to psychotherapist Derith Rhisiart.

Gwilym Prys-Davies 14.05.2017

Beti George yn sgwrsio â'r Arglwydd Prys-Davies, gwleidydd a chyfreithiwr a ymgyrchodd gydol ei oes dros ddatganoli. Fel aelod o'r Blaid Lafur y gwnaeth hynny'n bennaf, wedi iddo adael Plaid Cymru ar ôl methiant ymgais grŵp o bobl i ddylanwadu ar wleidyddiaeth y blaid honno. Yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi, daeth yn llefarydd yr wrthblaid ar Gymru, iechyd a Gogledd Iwerddon. Mae hon yn fersiwn fyrrach o...

Bryn Fôn 13.05.2017

Beti George yn holi Bryn Fôn, un o actorion a chantorion mwyaf poblogaidd Cymru. Beti George chats to Bryn Fôn, one of Wales's most popular actors and singers.

Beti a'i Phobol: Bryn Fôn - 29/01/1991 10.04.2017

Cyfle i wrando eto ar Beti George yn sgwrsio gyda Bryn Fôn nôl yn 1991.

Rosa Hunt 06.04.2017

Beti George yn holi'r Parchedig Rosa Hunt, gweinidog ym Mhentre'r Eglwys a gafodd ei geni a'i magu yn Malta. Mae'n trafod ei chefndir teuluol, ei dyddiau yng Nghaergrawnt a Ffrainc, a nawr Cymru.

Kevin 'Kev Bach' Williams 30.03.2017

Beti George yn holi Kevin 'Kev Bach' Williams, DJ radio masnachol yng ngogledd Cymru. Beti George chats to Kevin 'Kev Bach' Williams, a commercial radio DJ in north Wales.

Dennis Davies 23.03.2017

Beti George yn holi Dennis Davies, un o hoelion wyth ardal Llanrwst sy'n gyfaill yr eisteddfodau bychain a'r gwyliau cenedlaethol. Beti George chats to Dennis Davies from Llanrwst.

Richard Huws 13.03.2017

Beti George yn sgwrsio â Richard Huws o fferm Pant Du ym Mhenygroes. Mae'r busnes llewyrchus hwn yn gwerthu gwin, seidr, sudd afal, a dŵr ffynnon.

Siân Gwenllian 07.03.2017

Beti George yn holi'r gwleidydd Siân Gwenllian o Blaid Cymru. Ar ôl gweithio fel newyddiadurwr, daeth yn swyddog cyfathrebu i Gyngor Gwynedd, cyn cael ei hethol i gynrychioli'r Felinheli ar y cyngor hwnnw. Newidiodd ei bywyd yn llwyr ym mis Mai 2016, pan gafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad Arfon. Yn fam i bedwar o blant, mae'n parhau i fyw yn yr ardal ble cafodd ei magu.

Prydwen Elfed-Owens 26.02.2017

Beti George yn sgwrsio â Prydwen Elfed-Owens. Beti George chats to Prydwen Elfed-Owens.

Emyr Glyn Williams 19.02.2017

Mae Emyr Glyn Williams yn rhan annatod o ddiwylliant cerddorol Cymru. Yn un o sefydlwyr label recordio Ankst, fe weithiodd gyda rhai o grwpiau mwyaf poblogaidd y wlad fel Gorky's Zygotic Mynci, Catatonia a Super Furry Animals. Mae ei ddiddordeb mewn ffilmiau yr un mor heintus, ag yntau'n gyfarwyddwr ffilm ac awdur llyfr ar y pwnc. Mae bellach yn byw ar Ynys Môn, gan gyfuno bod yn gyfrifol am ragle...

Bethan Rhys Roberts 12.02.2017

Mae Bethan Rhys Roberts wedi teithio'r byd yn sgîl ei gwaith fel newyddiadurwraig, yn ogystal â gweithio yn San Steffan am gyfnod. Yn wreiddiol o Fangor, mae'n siarad pedair iaith, ac i'w gweld yn gyson yn cyflwyno Newyddion 9 ar S4C.

Mari Griffith 29.01.2017

Cafodd Mari Griffith ei magu ym Maesteg, ond fe deithiodd y byd yn gweithio ar raglenni adloniant a cherddoriaeth. Dyna yw ei byd, ac roedd ei wyneb a'i llais yn gyfarwydd iawn i wylwyr Disc a Dawn. Ar ôl gyrfa faith, mae hi bellach wedi troi ei llaw at ysgrifennu.

Dewi Tudur 22.01.2017

Dewi Tudur, yr artist o'r Wyddgrug, yw gwestai Beti George. Fo oedd y cyntaf un i sefyll arholiad Lefel A celf drwy gyfrwng y Gymraeg. Bu'n athro mewn sawl ysgol uwchradd, ond newidiodd ei fywyd yn sgîl gwyliau arbennig yn yr Eidal. Oherwydd hynny, mae bellach yn byw ger Fflorens gyda'i deulu.

Listen to the Beti a'i Phobol podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.