BBC Radio Cymru
Beti a'i Phobol
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Tim Hartley 25.02.2018 49:57
Un o gyfarwyddwyr elusen Gôl Cymru, sydd wedi ei enwebu am wobr Dewi Sant, yw gwestai Beti George. Mae Tim Hartley yn gyn-newyddiadurwr ac yn gyn-gyfarwyddwr materion corfforaethol S4C ac wrth ei fodd yn teithio'r byd i wylio pêl-droed.
John Rea 18.02.2018 50:55
Aeth John Rea i Ysgol Gyfun Llanhari ac wedyn i Brifysgol Caerdydd lle bu'n astudio cwrs cyfansoddi dan oruchwyliaeth yr Athro Alun Hoddinott. Gan weithio o'i stiwdio recordio yng Nghaerdydd, mae John yn mwynhau arbrofi gydag offeryniaeth draddodiadol a thechnoleg stiwdio fel ei gilydd. Mae wedi ennill dwy wobr BAFTA yn y categori 'Cerddoriaeth Wreiddiol Orau', ac wedi cydweithio gyda sawl artist...
Judith Owen 11.02.2018 50:16
Daw Judith Owen o'r Bala'n wreiddiol, yn brifathrawes yn ers 20 mlynedd a mwy ar ôl cyfnod fel gwarchodwraig ac arweinydd Cylch Meithrin. Mae ganddi hi a'i gwr, Rhys, hefyd fusnes meithrinfa plant yn Llanwnda ers 14 mlynedd. Mae ganddynt ferch, Neli sydd yn 9 oed. Fe'i ganwyd ar ôl derbyn triniaeth IVF a gymysgodd had Rhys gydag ŵy gan chwaer Judith. Mae Judith a Rhys hefyd yn maethu plant.
Robert David 04.02.2018 49:31
Ganwyd y cynllunydd mewnol Robert David yn 1962 cyn cael ei fabwysiadu yn ychydig wythnosau oed gan Owen Morris Roberts a Mary Roberts, Penrhynydyn, Rhydyclafdy. Cafodd fagwraeth fendigedig ar fferm brysur ond celf oedd yn mynd a'i sylw, er mai dewis dilyn cwrs Celfyddydau Perfformio ym mhrifysgol Caerlŷr wnaeth Robert i ddechrau, cyn symud i Gaerdydd ac ymddangos fel actor mewn cyfresi fel Coleg...
Manon Steffan Ros 28.01.2018 44:54
Ganed Manon Steffan ym mhentref Rhiwlas ger Bangor a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Rhiwlas ac yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Fe enillodd hi Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwy flynedd yn olynol, yn 2005 ac yn 2006. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Fel Aderyn, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2010, ac fe ddaeth Manon i'r brig yn y gystadleuaeth yn 2013 gan ennill y categori...
Duncan Brown 21.01.2018 45:53
Cafodd Duncan Brown ei eni yn Buxton, Swydd Derby, ond symudodd y teulu i fyw i Waunfawr yn 1949 pan oedd yn flwydd oed. Aeth i Cheltenham i ddilyn cwrs sylfaen mewn Celf ac yno y cyfarfu a'i ddarpar wraig, Gill. Ar ddiwedd y flwyddyn yn y coleg fe symudodd ei rieni i fyw i Wiltshire, oedd yn sioc i Duncan ar ôl 20 mlynedd o fyw yn Waunfawr. Aeth wedyn i Norwich i astudio celfyddyd gain; dechreuod...
Iwan John 14.01.2018 48:00
Yr actor Iwan John yw gwestai Beti George. Ganed Iwan yn Aberdâr ond fe symudodd y teulu i Abergwaun pan oedd yn dair oed. Yn un o dri o frodyr, fe gafodd ei addysg yn ysgol gynradd Abergwaun cyn symud unwaith eto, i Mynachlog-ddu y tro hwn. Mae Iwan yn adnabyddus am bortreadu cymeriadu doniol ac mae wedi ennill ei le yn oriel yr anfarwolion am ei gyfraniadau i deledu plant Cymru, yn eu plith Bwga...
07/01/2018 07.01.2018 47:45
Yn wreiddiol o Wauncaegurwen, roedd Barry Morgan yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera cyn mynd i'r brifysgol yn Llundain i astudio hanes, ac yna i Gaergrawnt i wneud gradd mewn diwinyddiaeth. Cafodd ei ordeinio gan fynd yn giwrad i Ddinas Powys am dair blynedd a bu ar staff Coleg Mihangel Sant, Caerdydd, am ddwy flynedd yn ogystal ag yn darlithio mewn diwinyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol yng N...
Gwion Hallam 17.12.2017 49:24
Y Prifardd Gwion Hallam yw gwestai Beti George yr wythnos yma. Magwyd Gwion yn Rhydaman yn un o 3 o frodyr, ond mae'n byw bellach yn y Felinheli gyda'i wraig a'u pedwar mab. Aeth i Ysgol Gynradd Gymraeg Rhydman, Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa ac yna i Goleg Prifysgol Aberystwyth, gan raddio mewn drama. Cafodd Gwion fagwraeth Gristnogol gref ond nid yw'n arddel unrhyw enwad na chrefydd bellach. Mae'n gwe...
Lowri Ann Richards 10.12.2017 49:43
Magwyd Lowri ar fferm Glanllynau ger Chwilog. Aeth i'r ysgol yng Nghricieth ac yna i ysgol breswyl Howell's yn Ninbych cyn mynd i'r coleg yn Llundain. Ar ôl gadel y coleg bu'n aelod o'r grwpiau pop Visage a Pleasure & the Beast. Mi sefydlodd y grŵp Shock gyda Gary Numan ac mi berfformiodd yn Wembley hefyd, cyn cyrraedd y 10 uchaf yn y siartiau Prydeinig gyda'r grŵp Tight Fit. Bu Lowri mewn saw...
Helgard Krause 05.12.2017 48:37
Beti George yn sgwrsio gyda'r Almaenes Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru. Ar ôl cael gradd mewn gwleidyddiaeth yn Berlin, aeth i Brighton i astudio llenyddiaeth Saesneg, a dyna ddechrau ar yrfa ym maes cyhoeddi. Roedd ei swydd gyntaf gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn 2002, ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach daeth cyfle i ddysgu Cymraeg. Mae hi hefyd yn siarad Almaeneg, Ffrangeg...
Ieuan Edwards 03.12.2017 52:10
Cafodd Ieuan Edwards brentisiaeth gyda chigydd yn Llanrwst ar ôl gadael yr ysgol, a sylweddolodd ei fod yn mwynhau delio â chig o safon, a chyfathrebu gyda chwsmeriaid. Pan yn 20 oed, gwelodd hysbyseb mewn papur lleol bod siop ar werth yng Nghonwy. Fe'i prynodd, ac mae'n dal yno hyd heddiw, yn cyflogi nifer o bobl leol. Heblaw am y busnes a'r teulu, ceir yw ei gariad pennaf.
Rhydian Bowen Phillips 16.11.2017 46:03
Cyflwynydd a chyn-aelod o'r band Mega yw gwestai Beti George yn y rhaglen hon. Cafodd Rhydian Bowen Phillips ei eni yn Aberdâr, ond symudodd y teulu i'r Rhondda, ac yno y bu ei dad yn weinidog. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Llwyncelyn, ac roedd ymysg y cyntaf o ddisgyblion Ysgol Gyfun y Cymer, sydd yn destun balchder iddo. Aeth i Goleg y Drindod i astudio Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau, a gweld hysbyseb yn...
Eryl Besse 12.11.2017 48:36
Beti George yn sgwrsio gydag Eryl Besse, aelod o Fwrdd y Comisiwn Elusennau. Cafodd ei geni yn Keele, ond ei magu yn Aberystwyth a Comins Coch, ac ar ôl graddio bu'n gweithio i'r cwmni cyfreithiol hynaf yn y byd. Bu'n llwyddiannus yn ei gyrfa yn Llundain a Paris, ac ym mhrifddinas Ffrainc y magodd ei theulu.
Sel Williams 05.11.2017 49:54
Beti George yn holi Sel Williams o Ffestiniog. Wedi cyfnod o ansicrwydd ynghylch beth i'w wneud ar ôl graddio, i fyd addysg yr aeth yn y pen draw, gan dreulio blynyddoedd lawer ym Mhrifysgol Bangor. Yno, bu'n gweithio ar gyrsiau newydd, gan gynnwys rhai'n ymwneud â datblygiad cymunedol. Does ryfedd, felly, mai'r gymuned leol yw un o'r pethau pwysicaf yn ei fywyd ar ôl ymddeol. Mae tua dwsin o fent...
Catharine Huws Nagashima 29.10.2017 47:43
Beti George yn sgwrsio gyda Catharine Huws Nagashima. Wedi'i geni yn Llundain, symudodd y teulu i Sir Fôn pan oedd ond yn bum mis oed. Peiriannydd a oedd wedi astudio cerfluniaeth yn Fienna oedd ei thad, ac artist a bardd oedd ei mham. Does ryfedd, felly, i Catharine ei hun deithio'r byd. Ar ôl cael ysgoloriaeth gan Lywodraeth Ffrainc i astudio yno, aeth ar ei beic modur bob cam o Lundain i Wlad G...
David Sinclair 22.10.2017 47:02
Beti George yn sgwrsio gyda'r Albanwr David Sinclair. Yn wreiddiol o Sterling, aeth i Brifysgol Aberdeen, ond gyda'i ddarpar wraig yn byw yng Nghaerdydd, daeth i Gymru i fyw am gyfnod. Ar ôl dysgu'r iaith, mae bellach yn siarad Cymraeg ers degawdau. Wedi cyfnod o fod yn weithiwr cymdeithasol, hyfforddodd i ddod yn weinidog, ac wrth sgwrsio gyda Beti mae ar fin dechrau ar gyfnod newydd yn ei fywyd....
Andrew Tamplin 15.10.2017 49:08
Beti George yn sgwrsio gydag Andrew Tamplin. Yn wreiddiol o Lanelli, cafodd ei fagu ar aelwyd ddwyieithog, a roedd y capel yn rhan bwysig o'r fagwraeth honno. Bu'n canu'r organ yno o oedran ifanc iawn, a daeth i arwain côr merched yn y dref, yn ogystal ag arwain cymanfaoedd canu yn yr ardal. Dod yn athro oedd y nod wrth fynd i Goleg y Drindod, ond newidiodd ei feddwl a mynd i fyd bancio. Aeth hynn...
Elin Jones 08.10.2017 50:17
Beti George yn sgwrsio gydag Elin Jones. Ar ôl cael ei magu ar fferm yn Llanwnnen, aeth i Gaerdydd i astudio economeg. Doedd gwleidyddiaeth ddim o ddiddordeb mawr iddi pan yn ifanc, ond roedd buddugoliaeth Cynog Dafis yn etholiad cyffredinol 1992 yn ysbrydoliaeth. Ddwy flynedd wedi refferendwm 1997 o blaid datganoli, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad Ceredigion, a hynny yn enw Plaid Cymru. Mae u...
Hywel Davies 01.10.2017 50:40
Beti George yn holi Hywel Davies. Wedi'i eni ym Mhontarddulais, symudodd y teulu i'r gogledd-ddwyrain pan oedd ond yn 18 mis oed, cyn symud yn ôl i'r de flynyddoedd yn ddiweddarach. Ar ôl blynyddoedd o fod yn newyddiadurwr yng Nghymru, gan gynnwys gweithio i HTV yng Nghaerdydd, symudodd i America. O'r wlad honno y daw ei wraig, Charlotte, ond roedd hi wedi dysgu Cymraeg cyn i'r ddau gwrdd. Yn ôl y...
Eleri Fôn Roberts 24.09.2017 50:35
Beti George yn sgwrsio gydag Eleri Fôn Roberts o Lanfairpwll. Yn blentyn swil dros ben, cafodd ei hanfon i ysgol breifat i fagu hyder, ac mae'n diolch i'w rhieni am y penderfyniad hwnnw. Ar ôl colli ei thad, ei brawd a'i darpar ŵr o fewn ychydig flynyddoedd i'w gilydd, aeth i Henffordd i ddechrau o'r newydd. Bu'n gweithio fel nyrs yng Nghaeredin hefyd, ond daeth yn ôl i ogledd Cymru a dechrau cano...
Ian Cottrell 17.09.2017 49:49
Beti George yn holi Ian Cottrell. Ar ôl dechrau ei yrfa fel athro yn Aberdâr, daeth yn adnabyddus fel cyflwynydd teledu ac aelod o'r grŵp Diffiniad. Mae cerddoriaeth yn dal yn rhan bwysig iawn o'i fywyd, a does ond angen mynd i Glwb Ifor Bach yng Nghaerdydd am brawf o hynny. Yno, mae'n un o DJs Dirty Pop pob nos Sadwrn.
Sian Northey 10.09.2017 47:36
Beti George yn sgwrsio gyda Sian Northey. Wedi'i magu yn Nhrawsfynydd, mae bellach yn byw ym Mhenrhyndeudraeth. Dod yn filfeddyg oedd ei nod ar un adeg, er bod athrawon Cymraeg a Saesneg yn anhapus iddi ddewis dilyn y gwyddorau, ond gydag amser daeth llenyddiaeth yn ôl i'w bywyd. Wedi sawl swydd, gan gynnwys cyfnodau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Gwasg y Bwthyn, penderfynodd weithio ar ei...
Wyn Bowen Harries 03.09.2017 50:01
Beti George yn sgwrsio gyda'r actor Wyn Bowen Harries. Wrth astudio biocemeg yn Aberystwyth, roedd yn treulio llawer iawn o'i amser yn Theatr y Werin, ac aeth i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd i ddilyn cwrs ôl-radd. Gyda dyfodiad S4C, daeth yn wyneb cyfarwydd i wylwyr y sianel. Mae ei waith ar hyd y blynyddoedd yn cynnwys rhannau yn Dinas, Rownd a Rownd, Pengelli a 35 Diwrnod, ond y ffilm Gad...
Albert Francis 27.08.2017 34:44
Beti George yn holi Albert Francis, cyn-ofalwr ym Mharc yr Arfau a Gerddi Soffia. Beti George chats to Albert Francis, former groundsman at Cardiff Arms Park and Sophia Gardens.
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.