BBC Radio Cymru

Beti a'i Phobol

Society CY ↓ 661 episodes

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Author

BBC Radio Cymru

Category

Society

Podcast website

www.bbc.co.uk

Latest episode

Jul 6, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Mike Parker 14.10.2018

Mae naws lle yn bwysig i Mike Parker, ac mae'n dweud ei fod bob amser wedi bod eisiau byw yng Nghymru. Cafodd ei fagu yn Kidderminster, tua deugain milltir o'r ffin. Gwahanodd ei rieni pan oedd yn bedair oed, a symudodd ei fam i Ffrainc. Mae'n amau mai dyna a arweiniodd at ei hoffter o fapiau, oherwydd eu bod yn fodd iddo gael trefn ar fyd cymhleth. Astudiodd ddrama a Saesneg yn Llundain, gan droi...

Aled Rees 07.10.2018

Methiant yw peidio â mentro yn y lle cyntaf yw beth sy'n gyrru Aled Rees, “bachgen stwbwrn o Langwyryfon”, i ddatblygu syniadau a busnesau newydd. Er gwaethaf diffyg cymwysterau, aeth i weithio yn labordy Ysbyty Bronglais, gan fynd yn ei flaen i gwblhau cwrs gradd a meistr. Bu'n rhaid rhoi’r gorau i’r gwaith hwnnw yn y pen draw, i ganolbwyntio ar ei wahanol fusnesau. Penderfynodd ddysgu Sbaeneg, a...

Sarah Reynolds 30.09.2018

Wedi'i geni a'i magu yn Surrey, doedd Sarah Reynolds prin yn ymwybodol o Gymru a'r Gymraeg cyn iddi gwrdd â'i gŵr, Geraint, ar ddêt cudd yn Llundain. Yn byw yng Nghymru erbyn hyn, cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2016. Yn ifanc, ceisiodd wrthryfela trwy fod yn actores, cyn newid trywydd wedi cyfnod o iselder. Mae wedi gweithio yn y cyfryngau, ac yn un o'r criw a oedd yn dyfeisio tas...

David John 23.09.2018

Rhyddid meddwl, bywydau preifat unigolion a hawliau dynol yw'r themâu sy'n mynd â sylw'r awdur David John (D.B. John), dro ar ôl tro yn ei waith. Yn enedigol o Efail Isaf, bu'n gweithio yn adran gytundebau cwmni cyhoeddi mawr yn Llundain, cyn newid cyfeiriad a gweithio fel golygydd llyfrau i'r un cwmni. Trwy gymryd cyfnodau di-dâl o'r gwaith, cafodd gyfle i deithio yn helaeth, gan gynnwys cyfnodau...

Sian Lloyd 16.09.2018

Mae newyddiaduraeth wedi bod o ddiddordeb i Sian Lloyd ers pan oedd yn ifanc. Roedd yn rhan o griw a sefydlodd bapur newydd yn ei hysgol, ac ar gyfer ei herthygl gyntaf ymunodd â'r wasg yng ngorsaf reilffordd Wrecsam, i adrodd ar ymweliad gan y Dywysoges Diana. Wrth sgwrsio â Beti George, mae'n gweithio i wasanaeth newyddion rhwydwaith y BBC, yn gohebu ar straeon o Gymru, neu'n dod â gogwydd Cymre...

Elin Fflur 09.09.2018

Mae Elin Fflur yn gwybod ers pan oedd yn ifanc na fyddai'n medru gwneud swydd sy'n golygu gwneud yr un peth bob dydd. Roedd ei magwraeth yn ardal Dwyran yn un ddelfrydol, meddai, ac mae wedi etifeddu ei dawn greadigol gan sawl aelod o'r teulu. Ystyriodd weithio gyda'r heddlu, cyn penderfynu canolbwyntio ar yrfa fel cantores, ac erbyn hyn fel cyflwynwraig hefyd. Wrth sgwrsio gyda Beti George, mae'n...

Tuduriaid 29.07.2018

Beti George yn sgwrsio â Sion, Ffion ac Owain Tudur o Gaerdydd. O gyfrinachau'r maes carafanau i helyntion ieuenctid Maes B, mae'r tri yn sgwrsio â Beti ar achlysur Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Hefin Jones 22.07.2018

Beti George yn sgwrsio â Dr. Hefin Jones o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ogystal â bod yn uwch ddarlithydd yn y brifddinas, mae'n brysur iawn gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd, ac yn llais ac wyneb cyfarwydd ar y radio a'r teledu. Mae'n gwmni i Beti ar achlysur derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, a hynny am ei gyfraniad oes i wyddonia...

Meic Birtwistle 15.07.2018

Beti George yn sgwrsio â'r newyddiadurwr a chyn-swyddog undebol Meic Birtwistle am ei fagwraeth yn Surrey, a'r penderfyniad i ddysgu Cymraeg o ddifrif yn 13 oed. Enillodd ysgoloriaeth i Sandhurst, ond fe drodd ei gefn ar y fyddin wedi iddo gael ei radicaleiddio'n wleidyddol yn y coleg yn Abertawe. Bu'n cynorthwyo Jeremy Corbyn yn ystod ei ymgyrch i ddod yn arweinydd y Blaid Lafur, ac mae'n angerdd...

Alaw Griffiths 08.07.2018

Beti George yn sgwrsio gydag Alaw Griffiths. Beti George chats with Alaw Griffiths.

Hefin Jones-Roberts 01.07.2018

Beti George yn sgwrsio gyda Hefin Jones-Roberts. Beti George chats with Hefin Jones-Roberts.

Siriol Burford 24.06.2018

Beti George yn sgwrsio â Siriol Burford, enillydd un o wobrau elusen Chwarae Teg yn 2017, sy'n cydnabod pob agwedd ar fywydau menywod. Beti George chats with Siriol Burford.

Deri Tomos 18.06.2018

Er bod Deri Tomos wedi ymddeol o'i waith bob dydd ym Mhrifysgol Bangor, mae ei frwdfrydedd dros wyddoniaeth a thros annog pobl i astudio a thrafod gwyddoniaeth yn Gymraeg yr un mor heintus â phan oedd yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt. Treuliodd Deri ei flynyddoedd cynnar yn Gillingham, cyn i'r teulu symud i Gaerdydd. Dysgodd Gymraeg, ond mae'n difaru iddo beidio â chael cyfle i ddysgu tafodiaith Gwenh...

Eleri Twynog Davies 12.06.2018

Mae syniad da, sy'n cydio yn nychymyg pobl, yn medru mynd yn bell iawn, a dyna sydd wedi gyrru Eleri Twynog Davies trwy gydol ei gyrfa ym myd marchnata. Mae wedi hyrwyddo gwyliau fferm i'r Bwrdd Croeso, ac arwain gwaith marchnata'r Eisteddfod mewn cyfnod pan oedd y syniad hwnnw'n un newydd. Bu hefyd yn bennaeth marchnata yn S4C, gan reoli cyllideb o £3 miliwn, a chyflwyno'r syniad o sioeau Cyw. Ca...

Bleddyn Jones 27.05.2018

Rygbi, crefydd ac addysg yw conglfeini bywyd Bleddyn Jones. Wedi ei fagu ym Mrynaman, symudodd i Gaerlŷr i fod yn athro ysgol gynradd, gan ymuno â thîm rygbi'r Leicester Tigers ar ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd. Er bod sawl un wedi dweud wrtho nad oedd yn ddigon tal na chryf i chwarae rygbi, bu'n faswr i Gaerlŷr 333 gwaith, ac mae nawr yn sylwebu ar eu gemau i orsaf leol y BBC ers deng mlynedd ar h...

David Williams 25.05.2018

Yn wreiddiol o Drawsfynydd, fe symudodd David Williams i'r Ganllwyd pan benodwyd ei dad yn brifathro yno. Symudodd y teulu i Seland Newydd pan oedd yn blentyn gan fod galw mawr am athrawon yno. Golygai hyn siwrnai 6 wythnos ar long. Pan oedd David Williams yn ei arddegau fe ddaeth y teulu yn ôl i Gymru ac fe aeth David ati i astudio newyddiaduraeth. Bu'n gweithio fel is-olygydd newyddion yn Swanse...

Arfon Jones 20.05.2018

Beti George yn sgwrsio gydag Arfon Jones, Swyddog Maes Gobaith i Gymru, am gerddoriaeth Stravinsky, cyfnodau yn y carchar dros y Gymraeg, iachâd gwyrthiol ac argyfyngau ffydd. Ar ôl rhoi'r gorau i'w freuddwyd o fod yn chwaraewr ac athro soddgrwth oherwydd salwch, astudiodd am radd mewn diwinyddiaeth. Ers hynny, mae wedi gweithio i hybu'r ffydd Gristnogol, yn enwedig ymysg pobol ifanc. Mae'n angerd...

Gladys Pritchard 13.05.2018

Monwysyn i'r carn yw Gladys Pritchard. Wedi ei geni a'i magu yng Nghaergybi, mae'n parhau i fyw yn yr ardal, a hi yw Trysorydd a Meistres y Gwisgoedd Eisteddfod Môn. Er na chafodd Gladys erioed 10 allan o 10 mewn gwersi mathemateg, cadw cyfrifon a llaw fer oedd yn mynd â'i bryd yn yr ysgol. Pan adawodd yr ysgol, aeth i weithio fel clerc i gyfrifydd yng Nghaergybi, a dyna sydd wedi llunio cyfeiriad...

Siân Lewis 29.04.2018

Beti George yn sgwrsio â Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru. Dychwelyd at yr Urdd wnaeth Siân, wedi cyfnod yn gweithio gyda'r mudiad ar ddechrau'r 90au, ac mae'n disgrifio'r rôl fel swydd ei breuddwydion, er bod dychwelyd i Wersyll Glan-llyn fel aelod o staff yn hytrach na disgybl ysgol yn brofiad rhyfedd. Cafodd ei magu yng Nghaerdydd, a dyw hi ddim wedi crwydro'n bell iawn o'r brifdd...

Meirion Davies 22.04.2018

Yn actor ac yn ysgrifennwr, treuliodd Meirion Davies bron i ugain mlynedd yn gweithio mewn gwahanol swyddi yn S4C. Erbyn hyn, fe yw Pennaeth Cyhoeddi Gwasg Gomer, ond yr hyn sy'n rhoi'r mwynhad mwyaf iddo yw rhedeg Bridfa Heniarth yn Sir Gaerfyrddin. Etifeddodd Merion ei ddiddordeb mewn ceffylau gan ei rieni, ac fe etifeddodd hefyd ddawn artistig ei fam. Celf oedd ei fyd pan oedd yn ifanc, gan dde...

Lena Charles 15.04.2018

Hel atgofion am ganrif o fywyd mae gwestai Beti George yn y rhaglen hon. Cafodd Lena Charles ei magu ym Mlaengarw, wedi i'r teulu symud yno o Benmachno i weithio'n y pyllau glo. Yr olaf ond un o dri ar ddeg o blant, bu farw ei thad pan oedd hi'n ddyflwydd oed, ond fe ailbriododd ei mam. Roedd ei llysdad, Dafydd Hughes, yn ddylanwad pwysig. Diolch iddo fe, mae Lena yn adroddwraig o fri, fel y clywn...

Mari Williams 08.04.2018

Beti George yn sgwrsio â'r steilydd bwyd a'r cogydd, Mari Williams. Yn un o bedwar o blant, cafodd ei magu ar fferm ger Llannefydd. Aeth i Ysgol Glan Clwyd, ac ymlaen wedyn i Brifysgol Caerdydd i astudio bwyd a maetheg. Ar ôl graddio, aeth i Efrog Newydd i weithio fel nani i deulu gyda chysylltiadau Cymreig. Dychwelodd i Brydain, gan weithio gyda rhai o'r archfarchnadoedd mwyaf fel steilydd bwyd,...

Roger Williams 25.03.2018

Dramodydd ac awdur yw gwestai Beti, Roger Williams. Ganwyd Roger yng Nghasnewydd ond ei fagu yng Nghaerfyrddin. Roedd yn ysgrifennu'n greadigol tra yn yr ysgol, cyn mynd i Brifysgol Warwick i astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Americanaidd. Mae Roger Williams wedi creu dramâu Cymraeg a Saesneg ac mae ei waith wedi ennyn sylw a chlod, gan gynnwys enwebiad BAFTA. Mae cyfres arall o "Bang" ar y gweill a...

Mair Jones, Dinbych 18.03.2018

Mair Jones o Ddinbych yw gwestai Beti'r wythnos hon. Mae'n un o sefydlwyr Ymddiriedolaeth Mary Dei sy'n cynnig cefnogaeth i ofalwyr yr ardal. Mae'n credu yn angerddol bod angen gwell darpariaeth ddiwedd oes i'r henoed ac i'r sawl sydd â Dementia, yn enwedig ar ôl gofalu am ei rhieni. Mae hi hefyd yn gwybod pa mor ysgytwol yw colli aelod o'r teulu yn ddisymwth. Mae hi'n treulio ei amser heddiw yn r...

Roger Scully 08.03.2018

Yr Athro Roger Scully, Athro Gwyddor Gwleidyddiaeth, yw gwestai Beti George. Cafodd ei eni a'i fagu yn Luton, a'i addysgu ym Mhrifysgolion Caerhirfryn a Thalaith Ohio. Ymunodd â Chanolfan Llywodraethiant Cymru yn 2012, a chyn hynny Roger oedd Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n hoff iawn o gerddoriaeth jazz, yn aelod o Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol ac yn...

Listen to the Beti a'i Phobol podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.