BBC Radio Cymru

Beti a'i Phobol

Society CY ↓ 661 episodes

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Author

BBC Radio Cymru

Category

Society

Podcast website

www.bbc.co.uk

Latest episode

Jul 6, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Jeremy Turner 15.01.2017

Mae Jeremy Turner, a gafodd ei eni'n Aberdâr, yn actor profiadol ac yn adnabyddus am sefydlu Cwmni Theatr Arad Goch yn Aberystwyth. Aeth ati i sefydlu gŵyl theatr ryngwladol Agor Drysau, gan wahodd cwmnïau o Gymru ac o dramor i berfformio. Mae wedi teithio'r byd yn perfformio, ac yn hoff o gynyrchiadau sydd yn delio â materion cyfoes.

Mark Lewis Jones 21.12.2016

Yr actor Mark Lewis Jones yw gwestai Beti George mewn rhaglen wedi'i recordio ychydig ar ôl iddo ennill categori'r actor gorau yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2016 am ei bortread o Stanley yn Yr Ymadawiad. Wedi'i eni yn Rhosllannerchrugog, dechreuodd ei yrfa gyda Theatr Ieuenctid Clwyd cyn mynd ymlaen i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd. Mae ei waith diweddar yn cynnwys Stella, Byw Celwydd a National Treasure...

Ed Holden 11.12.2016

Gwers rapio? Pam ddim! Ed Holden, y rapiwr adnabyddus o Borthmadog, sy'n ymuno â Beti George i rannu hanes ei fagwraeth a'i yrfa o Genod Droog i Mr Phormula. Yn ogystal â pherfformio ar hyd a lled Cymru, mae o hefyd wedi bod i lefydd fel Yr Eidal, America, Sbaen a Ffrainc.

Huw Penallt Jones 04.12.2016

Mae Huw Penallt Jones wedi dychwelyd at ei wreiddiau ar ôl gyrfa amrywiol a llwyddiannus yn y diwydiant ffilmiau. Cafodd gwrdd â rhai o sêr Hollywood, yn ogystal â James Bond, ac mae ganddo fwy nag un stori ogleisiol am hwn a'r llall. Roedd yn byw ger y ffin â Mecsico am gyfnod, ond mae bellach yn darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ar fin newid cyfeiriad yn gyfan gwbl.

Trefor Davies 27.11.2016

Beti George yn holi'r entrepreneur cyfrifiadurol Trefor Davies. Cafodd ei eni yn Llundain cyn treulio cyfnodau yn Nolgellau, Waunfawr ac Ynys Manaw. Wedi gadael yr ysgol, aeth i'r brifysgol ym Mangor cyn symud i Lincoln i weithio i gwmni Marconi.

Awen Iorwerth 20.11.2016

Beti George yn holi Awen Iorwerth, llawfeddyg sy'n arbenigo ar yr ysgwydd a'r benelin. Yn wreiddiol o Fôn, fe dreuliodd gyfnodau yn Cape Town, Efrog Newydd a Sydney yn hyfforddi. Mae wedi bod yn ymgynghorydd trawma ac orthopedeg, a bellach yn Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant Llawfeddygon Craidd Cymru.

Brian Jones 06.11.2016

Beti George yn sgwrsio â Brian Jones, rheolwr-gyfarwyddwr Bwydydd Castell Howell. Beti George interviews Brian Jones, managing director of Castell Howell Foods.

Glenda Clwyd 30.10.2016

Beti George yn holi'r delynores a'r cyn-gyflwynydd teledu, Glenda Clwyd. Beti George interviews Glenda Clwyd, a harpist and former television presenter.

Ken Hughes 23.10.2016

Beti George yn holi Ken Hughes o Borthmadog, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Gwyl Cerdd Dant 2016. Beti George interviews Ken Hughes ahead of the 2016 Cerdd Dant Festival.

14/04/2013 - Sioned James 16.10.2016

Beti George yn sgwrsio gyda'r arweinyddes ag asiant Sioned James.

09/10/2016 09.10.2016

Beti George yn holi Kees Huysmans, gwneuthurwr waffls o Dregroes ac enillydd Rhuban Glas Eisteddfod Genedlaethol 2016. Beti George interviews waffle-maker Kees Huysmans.

Helen Kalliope Smith 02.10.2016

Beti George yn holi Helen Kalliope Smith am ei gwreiddiau yng Ngroeg a'i chariad at gathod. Beti George chats to Helen Kalliope Smith about her Greek origins and love of cats.

25/09/2016 25.09.2016

Beti George yn holi prif weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones, a dreuliodd amser yr Yr Eidal a'r Almaen. Beti George interviews Chris Jones, chief executive of Welsh Water.

18/09/2016 22.09.2016

Beti George yn holi'r ffisegydd atmosfferig, yr Athro Huw Cathan Davies. Beti George interviews atmospheric physicist Professor Huw Cathan Davies OBE.

04/09/2016 09.09.2016

Beti George yn holi Cerys Matthews ac Owen Powell o Catatonia yn 1998. Beti George's interview with Cerys Matthews and Owen Powell of Catatonia from 1998.

Stewart Jones (18/05/2008) 21.08.2016

Beti George yn holi'r actor Stewart Jones yn 2008. Beti George talks to actor Stewart Jones, originally recorded in 2008.

24/07/2016 27.07.2016

Beti George yn holi David Williams o Miami, Florida wrth iddo ymweld â Chymru. Beti George interviews Miami Welshman David Williams on one of his visits to Wales.

17/07/2016 - Elenid Jones 17.07.2016

Beti George yn holi Elenid Jones am fyw yng Ngenefa, gweithio i elusen Cymorth Cristnogol, a'i pharatoadau ar gyfer antur fawr ym Madagasgar. Beti George interviews Elenid Jones.

10/07/2016 10.07.2016

Beti George yn holi Stephen Jones - cyn-filwr sydd wedi sefydlu busnes hyfforddi awyr agored dwyieithog. Beti George interviews Stephen Jones.

03/07/2016 - Ieuan Jones 03.07.2016

Y telynor dawnus o Faldwyn, Ieuan Jones, fydd gwestai Beti George yr wythnos hon. Beti George interviews talended harpist Ieuan Jones from Montgomeryshire.

D Ben Rees 26.06.2016

Beti George yn holi D Ben Rees. Yn wreiddiol o Landdewi Brefi,mae'n adnabyddus i wrandawyr Radio Cymru fel un o Gymry Lerpwl. Beti George interviews D Ben Rees.

Gwen Ellis 16.06.2016

Beti George yn holi Gwen Ellis - actores llwyfan a theledu sydd bellach yn gweithio fel cynghorydd i elusen Relate Cymru. Beti George interviews Gwen Ellis.

Rhuanedd Richards 12.06.2016

Beti George yn holi Rhuanedd Richards wrth i'w chyfnod yn brif weithredwr Plaid Cymru ddod i ben. Beti George interviews Rhuanedd Richards.

Geraint Lovgreen 05.06.2016

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru, heddiw Geraint Lovgreen. Beti George chats to Geraint Lovgreen.

Alun Owens 29.05.2016

Beti George yn holi Alun Owens wrth i'r cyn-barchedig pop obeithio dod yn feddyg. Beti George interviews Alun Owens.

Listen to the Beti a'i Phobol podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.