Clera
Clera
Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)
¿Dónde escuchar?
Podcasts en la app Replaio Radio Muy prontoLos podcasts llegarán muy pronto a la app. Instálala ahora y sé el primero en descubrir una forma totalmente nueva de vivir los podcasts
Episodios
Clera Ebrill 2020 30.04.2020 1:06:18
Croeso i'r ail bennod o bodlediad Clera yn ystod y Meudwyo Mawr. Mwynhewch, cadwch eich pellter, parchwch eraill yn y siopau a chefnogwch ein gweithwyr iechyd a gweithwyr allweddol a chadwch yn ddiogel.
Clera Mawrth 2020 30.03.2020 56:55
Podlediad cyntaf Clera yn y lockdown.
Clera Chwefror 2020 28.02.2020 1:00:35
Croeso i bennod mis Chwefror o bodlediad Clera. Yn rhifyn y mis bach rydyn ni'n pwnco am feirniadu eisteddfodol, yn cael gorffwsgerdd arbennig gan goilad o feirdd sy'n canu am Frecsit ac yn clywed unwaith eto gan ein Posfeistr doeth a hollwybodus, Gruffudd Antur. Mwynhewch!
Clera Ionawr 2020 21.01.2020 1:08:42
Croeso i'r bennod gyntaf o Clera yn y ddegawd newydd! Yn y bennod hon, mae gennym yr orchwyl drom o gofio Dai Rees Davies a gollwyd cyn Nadolig. Bardd, cynganeddwr, diddanwr, cefnogwr y pethe. Yn ogystal, cawn rai o'r eitemau arferol, y Pwnco, y Pos, y Newyddion a llinell gynganeddol ddamweiniol y mis. Cawn hefyd gerdd gan Eurig ei hun o'i gyfrol llyfr Gwyrdd Ystwyth. Diolch i Tudur Dylan am y llu...
Clera Rhagfyr 2019 15.12.2019 1:17:09
Croeso i bennod y gaeaf noethlwm a'r Nadolig. Fel arfer, mae llwyth o ddanteithion barddol yn eich disgwyl, o Orffwysgerdd newydd sbon gan Geraint Lovgreen i lu o leisiau amrywiol yn trafod cyfrolau a chyhoeddiadau newydd sy'n eich disgwyl yn y siopau. Hyn oll, a chymaint mwy, o Dalwrn y Beirdd Ifanc a'r Pos gan gruffud Antur i eitem gsan Eurig o daith ddiweddar i India!
Clera Tachwedd 2019 27.11.2019 1:13:28
Croeso i bennod y Mis Du! Yn y rhifyn hwn mae gyda ni sgwrs rhwng y ddau Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd a Jim Parc Nest, Gorffwysgerdd Farfog gan Iwan Rhys, Talwrn y Beirdd Ifanc, Pos Gurffydd a'i obennydd miniog a llawer mwy!
Clera Hydref 2019 31.10.2019 54:14
Yn y bennod hon o Clera cawn sgwrs rhwng Philippa Gibson a Thudur Dylan Jones yn fyw o Wyl Gerallt, Llanrwst(sef cynhadledd flynyddol Barddas). Hefyd, rhan 1 o gyfres newydd sbon Talwrn y Beirdd Ifanc a cherdd yr Orffwysfa arbennig awn wedi ei datgan gan Rhys Iorwerth a Karen Owen. Hyn oll a llawer mwy!
Clera Medi 2019 28.09.2019 1:14:15
Rhifyn adladd Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst gyda'n gwesteion arbennig Richard Owen a Phil Davies. Hefyd mae'r Posfeistr, Gruffudd Antur yn camu i'r adwy yn sgil absenoldeb Nei. Daw cerdd yr Orffwysfa gan y Prifardd Tudur Hallam. Hefyd, Talwrn y Beirdd Ifanc - detholiad o ornest arbennig rhwng Bwystfilod Bro Myrddin a Piwmas y Preseli, gyda'r Meuryn ei hun, Ceri WYn Jones yn tafoli'r tasgau. Hyn...
Clera Yn Fyw o'r Eisteddfod 19.08.2019 51:17
Pennod fyw o'r Babell Lên gyda'n gwesteion arbennig, Lleucu Siencyn(Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru), Ein Posfeistr Gruffudd Antur a'r Prifardd-Plant Gruff Sol. Diolch i Sion Tomos Owen am y llun o Aneurig ar y clawr.
Clera Gorffennaf 2019 31.07.2019 1:05:25
Pennod Fyrddinaidd!
Clera Mehefin 2018 28.06.2019 1:14:06
Sgwrs gyda Bardd Plant Cymru - Gruff Sol. Sgwrs fyw o noson Cicio'r Bar yn Aberystwyth rhwng Gruffudd Antur ac Iwan Huws sydd newydd gyhoeddi ei gyfrol gyntaf o gerddi. Gorffwysgerdd gan Iwan Huws hefyd! Sgwrs hefyd o seremoni llyfr y flwyddyn gyda Sion Tomos Owen a hynt a helynt Gouel Broadel ar Brezhoneg, sef Eisteddfod y Llydawyr. Hyn oll, y pos a mwy!
Clera Mai 2019 30.05.2019 1:15:37
Yn y bennod hon rydyn ni'n pwnco am y ffenomen hynod Gymraeg a Chymreig o ddiffyg teilyngdod mewn eisteddfodau. Cawn orffwysgerdd gan Judith Musker-Turner. Awn i Lydaw i drafod cynganeddu yn
Clera Ebrill 2019 26.04.2019 1:12:46
Croeso i bennod mis Ebrill o Clera! Y tro hyn rydyn ni'n dathlu pen-blwydd arbennig y prifardd-archdderwydd Jim Parc Nest, yn parhau i drafod y Stomp gyda rhai o drefnwyr y nosweithi poblogaidd dros y blynyddoedd, Ceri Anwen James a Leusa Llewelyn, ry'n ni hefyd yn fyw yn lansiad cyfrol y Prifardd Idris Reynolds, yn cyfweld a chynganeddwr o Sheffield yn Llydaw sef Felix Parker Price, y pos a llawe...
Clera Mawrth 2019 29.03.2019 1:12:25
Trafofaeth bwnco ar y Stomp, ymddeoliad y Prifardd Llion Jones o Twitter, teyrnged i'r canwr Llydwaeg Yann-Fanch Kemener a llawer llawer mwy o'r eitemau barddol arferol er eich difyrrwch.
Clera Chwefror 2019 23.02.2019 1:08:22
Croeso i bennod y mis bach! Y tro hwn rydyn ni'n pwnco am y Talwrn a'r Ymryson, gyda chyfraniadau gan yr archdderwydd Myrddin ap Dafydd a'r Meuryn Ceri Wyn Jones(sori am ansawdd y sain!). Caryl Bryn sy'n datgan cerdd yr orffwysfa a phan awn draw i Lydaw a'r podlediad cawn wybod mwy am dairth ryfeddol Kervarker i Eisteddfod y Fenni, 1838. Hyn a llawer mwy!
Clera Ionawr 2019 29.01.2019 1:10:34
Blwyddyn newydd dda! Dyma gamennig barddol i'ch paratoi chi at flwyddyn ddifyr arall. Ein Postfeistr, Gruffudd Antur yw bardd yr Orffwysfa y ,is hwn ac fe gawn hefyd galennig gan Grug Muse wrth iddi hi edrych ymlaen at y flwyddyn farddol. Hyn, Pwnco gydag Eurig am y bardd Huw Morys, Englynion Gwyddonol gan y Prifardd Hywel Griffiths, dysgu am y bardd Llydaweg Anjela Duval a llawer mwy.
Clera Rhagfyr 2018 23.12.2018 1:09:48
Nadolig llawen i chi gyd! Pennod lawn dop arall, gydag eitem arbennig am holl gyfrolau barddol y flwyddyn yng nghwmni'r bardd, yr artist a'r cerddor Iestyn Tyne. Sgwrs gydag Eurig ar ei awdl a ddaeth mor agos at gipio Cadair Caerdydd, eitem arall am farddoni yn Llydaweg, Cerdd yr Orffwysfa gan y Prifardd Idris Reynolds, Pos Gruffudd a'i ymennydd miniog a llond sach Santa o bethau difyr eraill.
Clera Tachwedd 2018 28.11.2018 1:06:39
Ym mhennod y mis Du mae gyda ni gerdd newydd sbon gan y bardd a'r artist Manon Awst wedi ei recordio ym Marclodiad y Gawres. Sgwrs ddifyr gyda Phrifardd Cadeiriol Eisteddfod Caerdydd, Gruff Sol, eitem ar gynganeddu Llydaweg, pos Gruffudd Antur a llawer mwy!
Clera Hydref 2018 31.10.2018 1:06:40
Yn hwyr iawn yn ystod mis Hydref, ar ddiwrnod Calan Gaeaf, dyma bennod newydd o Clera. Y tro hwn mae gyda ni westai arbennig, sef y bardd Ifan Prys a hefyd adolygiad o'r Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau Eisteddofd Genedlaethol Caerdyddgyd gyda'r Prifardd Hywel Griffiths ac Elena Gruffudd. Mwynhewch!
Medi 2018 20.09.2018 53:16
Dyma bennod gyntaf Clera ers i Nei ffoi i Lydaw a gadael i Eurig wynebu Brexit ar ei ben ei hun...ond tybed a fydd Eurig yn gorfod podledu ar ei ben ei hun yn ogystal...? Uchafbwynt arall y bennod yw sgwrs ddifyr gyda'r Prifardd Catrin Dafydd. Mwynhewch!
Clera Awst 2018 17.08.2018 48:25
Pennod fyw o’r Babell Lên gyda’n gwesteion arbennig, prifweithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, prifardd y Gadair Gruffudd Eifion Owen, y gomediwraig Beth Jones, ein posfeistr Gruffudd Antur a bardd yr orffwysfa y prifardd Rhys Iorwerth. Sgyrsiau, gemau a giamocs!
Clera Gorffennaf 2018 17.07.2018 1:05:29
Ffarwel i Ffostrasol! Dros y misoedd diwethaf bu Aneurig yn cwrdd yn Nhafarn Ffostrasol er mwyn recordio Clera. Gyda Nei yn mynd i fyw yn Llydaw am flwyddyn o fis Awst ymlaen, dyma'r cyfarfyddiad olaf yn Ffostrasol am sbel. Dyma, felly, bennod arbennig o Clera yn Nhafarn FFostrasol, yng nghwmni rhai o feirdd Tim Talwrn Ffostrasol, heb anghofio'r pos, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a mwy.
Clera Mehefin 2018 18.06.2018 50:30
Pennod hafaidd ei naws gyda cherdd gan y Prifardd mererid Hopwood, sgwrs bwnco yn trafod beirdd cymraeg oddi cartref, holi enillydd Cadair yr Urdd Osian Owen sgwrs gyda'r bardd Morgan Owen, pos Gruffudd Antur, llinell gynganeddol ddamweiniol gynganeddol y mis, newyddion a mwy
Clera Mai 2018 25.05.2018 1:14:12
Pennod wirioneddol lawn dop! Y mis hyn rydyn ni'n clywed gan un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn, Beti George, yn holi'r Prifardd Alan LLwyd, yn cael cerdd newydd sbon yn Yr Orffwysfa gan y Prifardd a'r Bardd Cenedlaethol Ifor ap Glyn, hefyd yn holi Elis Dafydd am waddol Gwyn Thomas, heb son am bos Griffin a'i Ymennyn Miniog, llinell gynganeddol y mis, hanes cyfrol dobarth barddoni Idris Reynolds a ll...
Clera Ebrill 2018 29.04.2018 58:48
Pennod arbennig am ei bod yn cynnwys cyfraniad gan rai o leisiau ac enwau enwocaf y byd canu Cymraeg: Huw Chiswell, Rhys Meirion, Elin Fflur, Twm Morys, Gwyneth Glyn a Cleif Harpwood. Hefyd, mae cerdd yr orffwysfa yn un newydd sbon gan y Prifardd dwbwl Alan Llwyd. Hyn oll, y pos gan Gruffudd Antur, llinell gynganeddol ddamwiniol y mis, y newyddion a mwy!
Podcasts similares
Replaio no es editor de podcasts; los nombres de los programas, las portadas y el audio pertenecen a sus autores y se distribuyen a través de canales RSS públicos