Clera
Clera
Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)
Be sure to visit the podcast's website and support the creator: soundcloud.com
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Clera Hydref 2026 - Deng mlwyddiant y podlediad 29.10.2026 1:43:54
Mae Clera'n dathlu'r dengmlwyddiant y mis hwn! Mae gyda ni gyfraniadau arbennig gan Menna Elfyn, Ceri Wyn Jones a Myrddin ap Dafydd ynghyd â blas o rhai o benodau cynharaf Clera lle clywch chi leisiau Gwennan Evans ac Elinor Wyn Reynolds. Heb anghofio'r Delicysi gan Dylan, y darpar Archdderwydd Tudur Dylan, neb llai! Hyn oll a mwy yng nghwmni'r triawd arferol, Gruff, Nei ac Eurig.
Clera Medi 2026 29.09.2026 1:50:36
croeso i bennod mis Medi lle mae llwch llantwd yn dal i fod yn ein gwalltiau! Cawn sgwrs ddifyr a swmpus gyda Phrifardd y Gadair, Emyr Lewis ac fe gawn glywed eitem a recordiwyd yn nhrafodaeth flynyddol Cymdeithas Ceredigion am y cyfansoddiadau a'r beirniadaethau, gydag Emyr Davies a phrifardd y Goron, Martin Huws. cawn hefyd orffwysgerdd gan fardd y Mis, Radio Cymru, Hammad Rind. Hyn oll, ynghyd...
Clera Awst 2026 09.08.2026 1:02:46
Croeso i bennod fyw o Clera yn y Babell Lên gyda'n gwesteion arbennig, sef Enfys Hatcher ac Endaf Griffiths. Gyda digon o drafod, barddoni, cerddi, gemau a giamocs.
Clera Gorffennaf 2026 22.07.2026 1:36:40
Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad Clera. Dyma hi'n gynnar ar eich cyfer gan y daw pennod mis Awst yn fyw o'r Babell Lên yn ddigon buan wedi'r Brifwyl. Yn y bennod hon cawn gwmni'r Prifardd a'r cyn-fardd cenedlaethol Ifor ap Glyn, yr Archdderwydd Mererid a'r Prifardd Tudur Dylan, yn ogystal â gorffwysgerdd gan un o feirdd ardal Y Garreg Las, Steffan Phillips. Hyn oll a mwy!
Clera Mehefin 2026 30.06.2026 1:25:26
Croeso i bennod mis Mehefin o bodlediad barddol hynaf Cymru! Mae'r bennod hon yn un sydd â blas o'r Garreg Las iddi! Cawn brofi rhywfaint ar ddathliadau 850 mlwyddiant Eisteddfod Yr Arglwydd Rhys a gynhaliwyd yn 1176 yng Nghastell Aberteifi, ac fe gawn hefyd gyfle i gofio yng nghwmni'r Prifardd idris Reynolds am y diweddar brifardd, Eirwyn George, a roddod le blaenllaw i fro Eisteddfod y Garreg La...
Clera Mai 2026 26.05.2026 1:38:50
Hawddamor, glwysgor glasgoed! Croeso i bennod mis Mai o bodlediad barddol hynaf y Gymraeg. Y mis hwn cawn sgwrs am ddylanwad beirdd fel Dic Jones ar boblogrwydd y gynghanedd heddiw. Cawn hefyd orffwysgerdd hyfryd gan Nanw Maelor. A hefyd fe glywn ni wrth y tri sydd wedi eu dewis yng nghategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn, sef Carwyn Eckley, Jo Heyde a Mererid Hopwood. Hyn oll, y Delicysi gan Dyl...
Clera Ebrill 2026 29.04.2026 1:53:19
Mae'r gwanwyn wedi dod! â phennod newydd o bodlediad Clera gydag e! Yn y bennod hon cawn drafodaeth ar reol gwrth-gynganeddol Y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cawn hefyd Orffwysgerdd gan fardd ifanc cyffrous, Rebecca Rees a hefyd sgwrs gyda golygydd cyfrol hyfryd newydd o waith R. Williams Parry, Dr Elis Dafydd. Hyn a llawer iawn mwy mewn pennod swmpus o brif bodlediad barddol Cymraeg y byd!
Clera Mawrth 2026 27.03.2026 1:29:57
Croeso i bennod mis Mawrth, 2026 o bidlediad Clera. Y tro hwn cawn gwmni dau Fardd Plant, sef cyn-fardd Blant Cymru, Nia Morais, sy'n darllen cerdd o'i chyfrol gyntaf o gerddi 'Yn y Freuddwyd' a chawn hefyd sgwrs gyda'r bardd plant cyfredol, Siôn Tomos Owen. Mae Gruffudd Antur hefyd yn pwnco gyda ni am fardd sy'n haeddu mwy o sylw, Gutun Owain, ac fe gewn hefyd drafod llinell gynganeddol y mis, ym...
Clera Chwefror 2026 28.02.2026 1:15:20
Clera Chwefror 2026 by Clera
Clera Ionawr 2026 31.01.2026 1:21:15
Blwyddyn newydd dda i chi gyd! Croeso i bennod blygeiniol o bodlediad Clera. Y mis hwn cawn sgwrs ddifyr gydag Arfon Gwilym, beirniadaeth finiog arall gan Gruffudd Antur yn Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y mis a cherdd Ddwynwenaidd hyfryd gan Fardd Tref Aberystwyth, y Prifardd Hywel Griffiths. Mwynhewch!
Clera Rhagfyr 2025 15.12.2025 59:08
Clera Rhagfyr 2025 by Clera
Clera Tachwedd 2025 21.11.2025 2:23:48
Croeso i bennod y mis du o bodlediad Clera. Mae tachwedd wedi oeri yn sydyn, felly dyma'r cydymaith perffaith i chi wrth gadw'n dwym ac yn glyd neu wrth fynd mas am dro a theimlo'r oerfel ar eich wyneb a gwres yn eich clustiau! Cawn ddwy sgwrs ddifyr a swmpus yng nghwmni Prifardd Coron Eisteddfod genedlaqethol Wrecsam, Owain Rhys. A hefyd cawn gwmni'r prifardd a'r cyn-Archerwydd Jim Parc Nest. Gan...
Clera Hydref 2025 31.10.2025 1:22:05
Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad Clera. Yn y rhifyn hwn byddwn ni'n dathlu bywyd a gwaith Dic yr Hendre wrth inni fynd ar daith o gwmpas cynefin y Prifardd ac Archdderwydd o Flaenannerch. Cawn hefyd orffwysgerdd gan Tomos Rees a Diweddgan gan Sioned Erin Hughes o'i chyfrol newydd.
Clera Medi 2025 28.09.2025 1:25:02
Croeso i bennod mis Medi, 2025 o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn sgwrs gydag enillydd Cadair Wrecsam, y Prifardd Tudur Hallam, cerdd gan y Prifardd Carwyn Eckley o'i gyfrol newydd, 'Trochi (Gwasg Carreg Gwalch) yn ogystal â'r Delicysi gan Dylan, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a llawer mwy.
Clera Awst 2025 01.08.2025 43:47
Croeso i bennod arbennig o Clera wrth inni edrych ymlaen at Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Y tro hwn, rydyn ni'n pwnco am draddodiad 'y cyff clêr' gyda'r Prif Lenor Eurig Salisbury yn y gornel las ac Yr Islwyn yn Ymryson y Beirdd, Gruffudd Antur yn ei wynebu yn y gornel goch!
Clera Gorffennaf 2025 14.07.2025 1:36:19
Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad Clera, lle mae barddoniaeth Gymraeg yn cael sylw haeddiannol! Y mis hwn, byddwn yn pwnco ynglŷn â'r traddodiad o ganu ffug-farwnadau. Cawn hefyd gerdd newydd sbon gan yr Archdderwydd Mererid Hopwood o'i chyfrol newydd, 'Mae' (Cyhoeddiadau Barddas) ac fe fyddwn ni hefyd yn holi'r Prifardd Llŷr Gwyn lewis am ei gyfrol newydd yntau, 'Holl Lawenydd Gwyllt' (C...
Clera Mehefin 2025 30.06.2025 1:37:55
Croeso i bennod mis Mehefin o bodlediad Barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod orlawn hon, mae gennym eitem arbennig ar eich cyfer, wedi ei recordio yn ddiweddar gan Meirion Jones o Bentre-cwrt, pentre genediol T Llew Jones lle bu taith dywys yn olrhain ei lwybrau. Cawn hefyd orffwysgerdd gan y Prifardd Hywel Griffiths a Diweddgan o waith y Prifardd Tudur Dylan Jones. Hefyd, cawn glywed gan fwy o...
Clera Mai 2025 30.05.2025 1:21:55
Duw gwyddiad mae da gweddai Dechreuad mwyn dyfiad Mai. Fel gwedodd Dafydd ap Gwilym, mae'n braf gweld mis Mai (ond fe'i gwedodd yn well!). Croeso i bennod newydd o Clera, sef podlediad barddol Cymraeg yn trafod agweddau o bob math ar farddoni yng Nghymru. Cawn Orffwysgerdd gan fardd y gadair yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid, Iwan Morgan, sgyrsiau gyda'r artist Marian Haf a Siôn Tomos Owen, y Delicy...
Clera Ebrill 2025 30.04.2025 1:23:03
Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad Clera. Y mis hwn rydyn ni'n trafod yr hyn sydd ar dân ar wefusau pawb ledled Cymru....teitlau cerddi! Yn ogystal â hynny, cawn Orffwysgerdd hyfryd gan Haf Llewelyn, cerdd o'r flodeugerdd newydd, 'O ffrwyth y Gangen Hon'.. Hefyd rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y fraint o gael cynnwys nid dim ond un Ebenezer, ond dau! Diolch i Dylan Ebz am fynd â holi ei dad, Lyn...
Clera Mawrth 2025 29.03.2025 1:44:43
Clera Mawrth 2025 by Clera
Clera Chwefror 2025 27.02.2025 1:33:15
Croeso i bennod y mis bach o bodlediad barddol Clera. Y tro hwn cawn gwmni difyr Y Prifardd Rhys Iorwerth a Gruff Davies sy'n trafod y ffilm newydd Bardd Gwlad, yn ogystal â cherdd yn egsliwsif o gyfrol newydd Jo Heyde. Ar ben hynny, cawn hefyd gerdd newydd sbon gan Fardd Tref Caernarfon, Iestyn Tyne. Hyn, a llawer mwy!
Clera Ionawr 2025 31.01.2025 1:37:03
Clera Ionawr 2025 by Clera
Clera Rhagfyr 2024 20.12.2024 1:52:46
Gyda chyfarchion yr Ŵyl, croeso mawr i chi i bennod mis Rhagfyr, 2024 o Clera. Mae gyda ni wledd o lyfrau a sgyrsiau â'r beirdd a'u saerniodd ar eich cyfer. Cawn gwmni felly, Christine James, Daniel Huws, Meleri Davies a Dafydd John Pritchard, sydd oll newydd gyhoeddi cyfrolau newyd sbon. Ewch ati i'w prynu fel anrhegion Nadolig, neu jyst fel llyfrau gwerth eu cael. Hefyd cawn glywed y Delicysi ga...
Clera Tachwedd 2024 30.11.2024 1:36:17
Croeso i bennod y mis Du o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn glywed cerdd arobryn Mared Fflur Jones a enillodd Gadair Eisgteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc. Cawn hefyd glywed darlith Gruffudd Antur o Wyl Gerallt yn cofio y Prifardd Feuryn ei hun, y diweddar Gerallt Lloyd Owen, ddeng mlynedd wedi inni ei golli. Hyn a llawer mwy.
Clera Hydref 2024 31.10.2024 1:32:41
Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn y fraint o sgwrsio gyda Phrifardd y Goron, Gwynfor Dafydd, i drafod pob math o bethau am y byd barddol, gan gynnwys ei gerddi gwych a gipiodd Goron yr Hen Bont iddo. Cawn hefyd gerdd gan enillydd Llyfr y Flwyddyn, Mari George, o'i phamffled newydd hi o gerddi. Cawn hefyd gwmni sawl un arall gan gynnwys, Elinor Wyn Reynolds, Jo Heyde, Tud...
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.