Clera

Clera

Arts EN ↓ 118 episodios

Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)

Autor

Clera

Categoría

Arts

Web del podcast

soundcloud.com

Último episodio

30 de jun. de 2026

¿Dónde escuchar?

Podcasts en la app Replaio Radio Muy pronto

Los podcasts llegarán muy pronto a la app. Instálala ahora y sé el primero en descubrir una forma totalmente nueva de vivir los podcasts

Descárgala en Google Play Instálala gratis Android 5 M+ de descargas · valoración de 4,8 iOS muy pronto

Episodios

Clera Mehefin 2026 30.06.2026

Croeso i bennod mis Mehefin o bodlediad barddol hynaf Cymru! Mae'r bennod hon yn un sydd â blas o'r Garreg Las iddi! Cawn brofi rhywfaint ar ddathliadau 850 mlwyddiant Eisteddfod Yr Arglwydd Rhys a gynhaliwyd yn 1176 yng Nghastell Aberteifi, ac fe gawn hefyd gyfle i gofio yng nghwmni'r Prifardd idris Reynolds am y diweddar brifardd, Eirwyn George, a roddod le blaenllaw i fro Eisteddfod y Garreg La...

Clera Mai 2026 26.05.2026

Hawddamor, glwysgor glasgoed! Croeso i bennod mis Mai o bodlediad barddol hynaf y Gymraeg. Y mis hwn cawn sgwrs am ddylanwad beirdd fel Dic Jones ar boblogrwydd y gynghanedd heddiw. Cawn hefyd orffwysgerdd hyfryd gan Nanw Maelor. A hefyd fe glywn ni wrth y tri sydd wedi eu dewis yng nghategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn, sef Carwyn Eckley, Jo Heyde a Mererid Hopwood. Hyn oll, y Delicysi gan Dyl...

Clera Ebrill 2026 29.04.2026

Mae'r gwanwyn wedi dod! â phennod newydd o bodlediad Clera gydag e! Yn y bennod hon cawn drafodaeth ar reol gwrth-gynganeddol Y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cawn hefyd Orffwysgerdd gan fardd ifanc cyffrous, Rebecca Rees a hefyd sgwrs gyda golygydd cyfrol hyfryd newydd o waith R. Williams Parry, Dr Elis Dafydd. Hyn a llawer iawn mwy mewn pennod swmpus o brif bodlediad barddol Cymraeg y byd!

Clera Mawrth 2026 27.03.2026

Croeso i bennod mis Mawrth, 2026 o bidlediad Clera. Y tro hwn cawn gwmni dau Fardd Plant, sef cyn-fardd Blant Cymru, Nia Morais, sy'n darllen cerdd o'i chyfrol gyntaf o gerddi 'Yn y Freuddwyd' a chawn hefyd sgwrs gyda'r bardd plant cyfredol, Siôn Tomos Owen. Mae Gruffudd Antur hefyd yn pwnco gyda ni am fardd sy'n haeddu mwy o sylw, Gutun Owain, ac fe gewn hefyd drafod llinell gynganeddol y mis, ym...

Clera Chwefror 2026 28.02.2026

Clera Chwefror 2026 by Clera

Clera Ionawr 2026 31.01.2026

Blwyddyn newydd dda i chi gyd! Croeso i bennod blygeiniol o bodlediad Clera. Y mis hwn cawn sgwrs ddifyr gydag Arfon Gwilym, beirniadaeth finiog arall gan Gruffudd Antur yn Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y mis a cherdd Ddwynwenaidd hyfryd gan Fardd Tref Aberystwyth, y Prifardd Hywel Griffiths. Mwynhewch!

Clera Rhagfyr 2025 15.12.2025

Clera Rhagfyr 2025 by Clera

Clera Tachwedd 2025 21.11.2025

Croeso i bennod y mis du o bodlediad Clera. Mae tachwedd wedi oeri yn sydyn, felly dyma'r cydymaith perffaith i chi wrth gadw'n dwym ac yn glyd neu wrth fynd mas am dro a theimlo'r oerfel ar eich wyneb a gwres yn eich clustiau! Cawn ddwy sgwrs ddifyr a swmpus yng nghwmni Prifardd Coron Eisteddfod genedlaqethol Wrecsam, Owain Rhys. A hefyd cawn gwmni'r prifardd a'r cyn-Archerwydd Jim Parc Nest. Gan...

Clera Hydref 2025 31.10.2025

Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad Clera. Yn y rhifyn hwn byddwn ni'n dathlu bywyd a gwaith Dic yr Hendre wrth inni fynd ar daith o gwmpas cynefin y Prifardd ac Archdderwydd o Flaenannerch. Cawn hefyd orffwysgerdd gan Tomos Rees a Diweddgan gan Sioned Erin Hughes o'i chyfrol newydd.

Clera Medi 2025 28.09.2025

Croeso i bennod mis Medi, 2025 o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn sgwrs gydag enillydd Cadair Wrecsam, y Prifardd Tudur Hallam, cerdd gan y Prifardd Carwyn Eckley o'i gyfrol newydd, 'Trochi (Gwasg Carreg Gwalch) yn ogystal â'r Delicysi gan Dylan, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a llawer mwy.

Clera Awst 2025 01.08.2025

Croeso i bennod arbennig o Clera wrth inni edrych ymlaen at Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Y tro hwn, rydyn ni'n pwnco am draddodiad 'y cyff clêr' gyda'r Prif Lenor Eurig Salisbury yn y gornel las ac Yr Islwyn yn Ymryson y Beirdd, Gruffudd Antur yn ei wynebu yn y gornel goch!

Clera Gorffennaf 2025 14.07.2025

Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad Clera, lle mae barddoniaeth Gymraeg yn cael sylw haeddiannol! Y mis hwn, byddwn yn pwnco ynglŷn â'r traddodiad o ganu ffug-farwnadau. Cawn hefyd gerdd newydd sbon gan yr Archdderwydd Mererid Hopwood o'i chyfrol newydd, 'Mae' (Cyhoeddiadau Barddas) ac fe fyddwn ni hefyd yn holi'r Prifardd Llŷr Gwyn lewis am ei gyfrol newydd yntau, 'Holl Lawenydd Gwyllt' (C...

Clera Mehefin 2025 30.06.2025

Croeso i bennod mis Mehefin o bodlediad Barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod orlawn hon, mae gennym eitem arbennig ar eich cyfer, wedi ei recordio yn ddiweddar gan Meirion Jones o Bentre-cwrt, pentre genediol T Llew Jones lle bu taith dywys yn olrhain ei lwybrau. Cawn hefyd orffwysgerdd gan y Prifardd Hywel Griffiths a Diweddgan o waith y Prifardd Tudur Dylan Jones. Hefyd, cawn glywed gan fwy o...

Clera Mai 2025 30.05.2025

Duw gwyddiad mae da gweddai Dechreuad mwyn dyfiad Mai. Fel gwedodd Dafydd ap Gwilym, mae'n braf gweld mis Mai (ond fe'i gwedodd yn well!). Croeso i bennod newydd o Clera, sef podlediad barddol Cymraeg yn trafod agweddau o bob math ar farddoni yng Nghymru. Cawn Orffwysgerdd gan fardd y gadair yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid, Iwan Morgan, sgyrsiau gyda'r artist Marian Haf a Siôn Tomos Owen, y Delicy...

Clera Ebrill 2025 30.04.2025

Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad Clera. Y mis hwn rydyn ni'n trafod yr hyn sydd ar dân ar wefusau pawb ledled Cymru....teitlau cerddi! Yn ogystal â hynny, cawn Orffwysgerdd hyfryd gan Haf Llewelyn, cerdd o'r flodeugerdd newydd, 'O ffrwyth y Gangen Hon'.. Hefyd rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y fraint o gael cynnwys nid dim ond un Ebenezer, ond dau! Diolch i Dylan Ebz am fynd â holi ei dad, Lyn...

Clera Mawrth 2025 29.03.2025

Clera Mawrth 2025 by Clera

Clera Chwefror 2025 27.02.2025

Croeso i bennod y mis bach o bodlediad barddol Clera. Y tro hwn cawn gwmni difyr Y Prifardd Rhys Iorwerth a Gruff Davies sy'n trafod y ffilm newydd Bardd Gwlad, yn ogystal â cherdd yn egsliwsif o gyfrol newydd Jo Heyde. Ar ben hynny, cawn hefyd gerdd newydd sbon gan Fardd Tref Caernarfon, Iestyn Tyne. Hyn, a llawer mwy!

Clera Ionawr 2025 31.01.2025

Clera Ionawr 2025 by Clera

Clera Rhagfyr 2024 20.12.2024

Gyda chyfarchion yr Ŵyl, croeso mawr i chi i bennod mis Rhagfyr, 2024 o Clera. Mae gyda ni wledd o lyfrau a sgyrsiau â'r beirdd a'u saerniodd ar eich cyfer. Cawn gwmni felly, Christine James, Daniel Huws, Meleri Davies a Dafydd John Pritchard, sydd oll newydd gyhoeddi cyfrolau newyd sbon. Ewch ati i'w prynu fel anrhegion Nadolig, neu jyst fel llyfrau gwerth eu cael. Hefyd cawn glywed y Delicysi ga...

Clera Tachwedd 2024 30.11.2024

Croeso i bennod y mis Du o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn glywed cerdd arobryn Mared Fflur Jones a enillodd Gadair Eisgteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc. Cawn hefyd glywed darlith Gruffudd Antur o Wyl Gerallt yn cofio y Prifardd Feuryn ei hun, y diweddar Gerallt Lloyd Owen, ddeng mlynedd wedi inni ei golli. Hyn a llawer mwy.

Clera Hydref 2024 31.10.2024

Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn y fraint o sgwrsio gyda Phrifardd y Goron, Gwynfor Dafydd, i drafod pob math o bethau am y byd barddol, gan gynnwys ei gerddi gwych a gipiodd Goron yr Hen Bont iddo. Cawn hefyd gerdd gan enillydd Llyfr y Flwyddyn, Mari George, o'i phamffled newydd hi o gerddi. Cawn hefyd gwmni sawl un arall gan gynnwys, Elinor Wyn Reynolds, Jo Heyde, Tud...

Clera Medi 2024 28.09.2024

Croeso i bennod hynod o swmpus o bodlediad Clera. Yn rhifyn mis Medi cawn nid yn unig glywed llais yr Archdderwydd, Mererid Hopwood yn trafod gwaith arobryn Cadair Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, ond cawn hefyd sgwrs hynod ddifyr yng nghwmni enillydd y Gadair honno, Y Prifardd Carwyn Eckley. Cawn hefyd y fraint o roi llwyfan i gerdd Gymraeg gyntaf yr awdur Mike Parker ynghyd a llawer mwy o'r dwli ar...

Clera Awst 2024 - Yn Fyw o'r Babell Lên 16.08.2024

Croeso i bennod arbennig o Clera - yn fyw o'r Babell Lên. Ar sadwrn ola'r brifwyl wych a gynhaliwyd ym Mhontypridd, cawsom gwmni gwesteion ffraeth a difyr, sef Llio Maddocks, Siôn Tomos Owen, Gruffudd Antur a'r Prifardd Gwynfor Dafydd.

Clera Gorffennaf 2024 31.07.2024

Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y rhifyn hwn, cawn sgwrs ddifyr gyda Bardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd eleni, Lois Medi Wiliam. Cawn hefyd sgwrs ddifyr am bamffledi gyda dau fardd sy'n cyhoeddi pamffledi newydd, sef Mari George a Jo Heyde. Cawn hefyd flas o gerddi arobryn Cadair Gŵyl Fawr Aberteifi, gan yr enillydd, Lowri Lloyd. Hyn a llawer mwy. Mwynhe...

Clera Mehefin 2024 28.06.2024

Croeso i bennod Mis Mehefin o bodlediad barddol Clera. Y Mis hwn, Elinor Wyn Reynolds sy'n tafoli cyfrolau barddol Llyfr y Flwyddyn ac yn rhoi ei phen ar y bloc. Ond pa gyfrol mae Elinor yn tybio ddylsai ennill o blith y tair cyfrol wych sy'n y categori barddol eleni? Gwrandwch i gael gwybod. Cawn hefyd gerdd gan yr hyfryd Jo Heyde sydd wedi cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o gerddi drwy Gyhoeddiadau'...

Escucha el podcast Clera en Replaio

Radio y podcasts en una sola app - gratis y sin registro. Instálala hoy y no te pierdas el estreno

Descárgala en Google Play

Replaio no es editor de podcasts; los nombres de los programas, las portadas y el audio pertenecen a sus autores y se distribuyen a través de canales RSS públicos