Clera
Clera
Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)
No dejes de visitar la web del podcast y apoyar a su creador: soundcloud.com
¿Dónde escuchar?
Podcasts en la app Replaio Radio Muy prontoLos podcasts llegarán muy pronto a la app. Instálala ahora y sé el primero en descubrir una forma totalmente nueva de vivir los podcasts
Episodios
Clera'n Fyw o Steddfod Tregaron 2022 07.08.2022 1:09:51
Clera'n fyw o Lwyfan y Llannerch yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 yn Nhregaron. Diolch i'r gwesteion gwych, Buddug Roberts, Jo Heyde a Llio Maddocks am eu cyfraniadau difyr a doeth i bennod a recordiwyd ar sadwrn ola'r Eisteddfod yng nghwmni Gruffudd Antur ac Aneurig.
Clera Gorffennaf 2022 29.07.2022 1:06:32
Croeso i rifyn rhagflas y Brifwyl! Gyda chyfraniadau difyr a doeth gan Jo Heyde (trafod llyfrau barddol llyfr y flwyddyn), Anwen Pierce (Cywydd Croeso yr Eisteddfod), Gruffudd Eifion Owen a Iestyn Tyne yn ymateb i sylwadau gan Eifion Wyn a llawer mwy.
Clera Mehefin 2022 29.06.2022 1:34:22
Croeso i bennod mis Mehefin o Clera! Cawn sgwrs gyda Phrifardd yr Urdd, Ciaran Eynon am ei gerdd arobryn ar y testun 'Diolch' yn ogystal â sgwrs gyda'n Posfeistr, Gruffudd Antur am y gyfrol fawreddog newydd, 'A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes gan Daniel Huws. Hefyd, mae llinell gynganeddol ddamweiniol y mis yn ei hôl! Hyn oll yn ogystal â Delicassy gan Dylan a Diweddgan gan Jo Heyde, se...
Clera Mai 2022 - Huw Morys, 'Eos Ceiriog' 25.05.2022 1:20:01
Croeso i rifyn mis Mai o Clera. Rhifyn arbennig yw hwn sy'n trafod a dathlu bywyd a gwaith y Bardd o Ddyffryn Ceiriog, Huw Morys. Mwynhewch
Clera Ebrill 2022 28.04.2022 1:23:04
Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad barddol Clera. Cawn gip-wrandawiad ar lansiad cyfrol newydd Menna Elfyn wrth i Elinor WYn Reynolds holi;r bardd yng Nghaerfyrddin. Ifor ap Glyn sy'n trafod ei brosiect olaf fel Bardd Cenedlaethol Cymru, 'Sudoku Iaith' ac Emyr 'Y Graig' Davies sy'n cynnig Gorffwysgerdd i ddiolch am Sgwîdji! Hyn, a llawer iawn mwy, heb anghofio cerdd yn Almaeneg gan Dani Schlic...
Clera Mawrth 2022 30.03.2022 1:11:15
Mae'r gwanwyn wedi dod â phennod newydd o Clera yn ei sgil. Cyfrniadau gwych a difyr gan Kate Wheeler yn ein heitem newydd sef, 'Gwrando Awen ein Gwradawyr', dwy orffwysgerdd deimladwy gan y Prifardd Dafydd John Pritchard, Delicassy gan (Tudur) Dylan, y Pos a llawer mwy gan Gruffudd Antur ac Aneurig.
Clera Chwefror 2022 28.02.2022 1:21:07
Mae eisiau beirdd ar y mis bach! (Mererid Hopwood a'i cant). Croeso i bennod mis Chwefror o Clera lle cawn gwmni Gwilym Bowen Rhys, Twm Morys a Gwyneth Glyn gyda chyfraniadau hefyd gan Sian Northey (Cerdd o'r gyfrol a olygwyd ganddi a Ness Owen, A470), Tudur Dylan a'n Posfeistr hollwybodus Gruffudd Antur. Mwynhewch!
Clera Ionawr 2022 31.01.2022 1:08:43
Blwyddyn newydd ddaa chroeso i bennod gyntaf Clera yn 2022! Y mis hwn, yng nhgwmni Aneurig a Gruffudd Antur cawn Orffwysgerdd gan Jo Heyde, cyfraniadau am eu troion cyntaf yn cystadlu ar y Talwrn fel aelodau o dimau newydd (nid o reidrwyd yr ymddangosiadau cyntaf ar y Talwrn) gan Megan Elenid Lewis, Matthew Tucker a Manon Wyn Davies. Y Delicassy gan Dylan, Llinell Gynganeddol Dddamweiniol y Mis a...
Clera Rhagfyr 2021 20.12.2021 1:13:47
Nadolig llawen i chi gyd gan griw Clera. Mwynhewch y bennod ola o'r flwyddyn hon, sy'n cynnwys sgyrsiau difyr gyda Bardd Plant Cymru 2021-23, Casi Wyn a'r Prifardd Rhys Iorwerth am ei gyfrol newydd, Cawod Lwch. Hefyd, cerddi hyfryd gan Ana Chiabrando Rees a Geraldine Macburney Jones o Batagonia.
Clera Tachwedd 2021 29.11.2021 1:34:45
Croeso i bennod y Mis Du o Clera. Y tro hwn cawn longyfarch Carwyn Eckley ar ei gamp yn ennill Cadair yr Urdd Dinbych 2020, gan hefyd lognyfarch Ianto Jones ac An Chabrando Rees ar gipio Cadair y ffermwyr Ifanc a Chadair Eisteddvod Trevelin. Cawn hefyd gyfraniad gwych iawn gan Gruffudd Eifion Owen am y vers libre cyngaenddol a chwmni ein Posfeistr hoff, Gruffudd Antur. Heb sôn am ddiweddgan gan Ll...
Clera Hydref 2021 - Pennod y Pum Mlwyddiant! 29.10.2021 1:19:39
Croeso i bennod sy'n dathlu pum mlwyddiant Clera! Diolch o galon i'n holl wrandawyr selog am barhau i'n cefnogi dros y pum mlynedd. Yn y bennod hon mae gyda ni sgwrs gyda'n noddwr, Llŷr Hael. Blas o Ymryson Gwyl Gerallt a thrafodaeth Cymdeithas Ceredigion ar y cyfansoddiadau AmGen, cerdd arbennig gan y Prifardd Osian Rhys Jones a llawer mwy, Diolch i Alaw Griffiths am y llun ar glawr y bennod.
Clera Medi 2021 30.09.2021 1:40:50
Croeso i'r bennod hiraf yn ein hanes! Ond gyda chymaint i'w gynnwys, dyna'r unig ffordd i wneud teilyngdod â chyfraniadau Anwen pierce, Alaw Mai Edwards, Hywel Griffiths, Sara Louise Wheeler, Gruffudd Antur ac Osian Bonc! Cawn felly adolygiad o Gyfansoddiadau Amgen 2021, Sgwrs ddifyr gyda Sara ac Osian am lwyfaniad arbennig sydd ar y gweill o waith barddol a llawer llawer mwy! Mwynhewch.
Clera Awst 2021 - Cadwyn o Orffwysgerddi 21.08.2021 1:15:24
Pennod wahanol o Clera sy'n cynnwys blwyddyn gron o Orffwysgerddi o'r pum mlynedd diwethaf, ers inni sefydlu Clera ym mis Hydref 2016. Mwynhewch!
Clera Gorffennaf 2021 20.07.2021 1:35:23
Ym mhennod Mis Gorffennaf mae gennym deyrnged i'r diweddar David R. Edwards, neu Dave Datblygu. Hefyd cawn gerdd deyrnged iddo gan Ifor ap Glyn a chyfraniadau arbennig gan Lleucu Siencyn a Nerys Williams. Cawn sgwrs yn ogystal gyda Nia Morais a chwmni ein Posfeistr Gruffudd Antur. Hyn a llawer mwy.
Clera Mehefin 2021 23.06.2021 1:30:32
Recordiwyd y bennod hon ar Alban Hefin, cyn inni glywed am golli David R Edwards. Bydd teyrnged i Dave Datblygu, felly, ym mhennod mis Gorffennaf. Yn y cyfamser, mae pennod orlawn yn eich disgwyl a'r haf yn ei anterth.
Clera Mai 2021 28.05.2021 1:28:52
Croeso i Glera mis Mai! Cawn orffwysgerdd ddwbwl gan y tad a'r mab, John Gwilym Jones a Tudur Dylan Jones, pos ac eitem swmpus gan Gruffudd a'i Lawysgriffau a chyfle i glywed llais newydd, sef Anne Phillips. Hyn a chymaint mwy! Mwynhewch
Clera Ebrill 2021 29.04.2021 1:30:48
Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad Clera. Y mis hyn cawn gwmni'r Prifeirdd Gwenallt Llwyd Ifan ac Ifor ap Glyn ac fe gawn sgwrs gyda Phrifweithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses. Hyn a chymaint mwy, mwynhewch!
Clera Mawrth 2021 27.03.2021 1:27:07
Croeso i bennod mis Mawrth o bodlediad mwyaf barddol y byd. Yn ogystal â chlywed am dwf garlleg Eurig cawn sgwrs gyda’r Arthro-Brifardd Tudur Hallam am ddehongliad R.M. ‘Bobi’ Jones o’r gynghanedd. Cawn orffwysgerdd o gywydd hyfryd gan Les Barker a bydd y Posfeistr, Gruffudd Antur, nid yn unig yn cynnig atebion i’r poas diwethaf ac yn gosod pos newydd ond mi fydd e hefyd yn cynnig eitem newydd inn...
Talwrn Y Beirdd Ifanc 01.03.2021 58:39
Yr Ornest Goll. Tarfodd y pandemig ar yr ornest hon ac felly, trwy gyfrwng technoleg, casglwyd y cyfraniadau gan y beirdd a'r beirniadaethau gan Ceri Wyn y Meuryn, ynghyd er mwyn ichi allu mwynhau'r ornest ddifyr hon rhwng y timau canlynol: Piwmas y Preseli v Llwyngod Llangefni v Ceiliogod Glan Clwyd
Clera Chwefror 2021 24.02.2021 1:21:34
Croeso i bennod fawr y mis bach. Y tro hwn cawn gw,mni Bardd Plant Cymru, gruffudd Eifion Owen, yn ogystal a'n Posfeistr hollwybodus. Cerdd arbennig ac egsliwsif yn yr orffwysfa gan Rufus Mufasa. Eitem bryfoclyd am y gynghanedd gan Simon Chandler a rhagflas o traglen arbennig fydd gan Clera ar eich cyfer sef y Talwrn Ifanc.
Clera Ionawr 2021 30.01.2021 1:18:55
Blwyddyn newydd gaeth i chi gyd! Cawn gwmni ein Posfeistr hollwybodus, Gruffudd Antur, drwy gydol y bennod hon o Clera. Yn ogystal a hynny, cawn gerdd gan Megan Haf Davies, bardd ifanc o Rydaman a'r bardd sydd yn y bath y tro hwn yw'r Prifardd Osian Rhys Jones.
Clera Rhagfyr 2020 20.12.2020 1:26:07
Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i chi! Ar ddiweddblwyddyn rhyfeddol a rhyfedd, dyma bennod lawn o bethau difyr i gnoi cul arnyn nhw. O Olygyddion y Stamp, Esyllt Lewis a Grug Muse i Orffwysgerdd yn gan Aron Pritchard. Nad anghofier am bo Gruffudd Antur sy'n wych fel arfer ac fe gawn ddiweddglo teilwng i'r tymor gan blant ysgol sul Caersalem, Pontyberem.
Clera Tachwedd 2020 28.11.2020 1:31:19
Croeso i benniod y Mis Du. Yn ogystal a'r gorchwyl anodd o goffau Jan Morris a Mari Lisa, gyda theyrnged arbennig i Mari gan y Prifardd Tudur Dylan, mae'r bennod hon yn cynnwys cerdd yn yr Orffwysfa gan Marged Tudur o'i chyfrol newydd, 'Mynd', pwnco, pos a llawer o ddifyrrwch.
Clera Hydref 2020 29.10.2020 1:08:39
Croeso i bennod mis Hydref 2020 o bodlediad Clera. Cawn orffwysgerdd arbennig sy'n cynnwys holl feirdd plant Cymru wrth ddathlu 20 mlwyddiant y cynllun. Mari George yw'r Bardd yn y Bath, gruffudd a'i ymennydd Amheus sy'n cynnig y pos yn ol ei arfer ac mae'r pwnco yn mynd a ni i Lydaw. Mwynhewch
Clera Medi 2020 30.09.2020 1:16:09
Croeso i bennod mis Medi o bodlediad Clera. Yn y bennod hon cawn gerdd o gyfrol newydd sbon Casia Wiliam, 'Eiliad ac Einioes' (Cyhoeddiadau Barddas), fe glywn gan Alaw Griffiths sy'n dechrau swydd newydd fel Cydlynydd Barddas ac fe gawn hefyd y pos gan yr hollwybodus Bosfeistr, Gruffudd Antur a Phwnco am Huw Morys a beirdd 'y dirywiad', gan holi ydy'r cyfnod modern cynnar o ran y traddodiad barddo...
Podcasts similares
Replaio no es editor de podcasts; los nombres de los programas, las portadas y el audio pertenecen a sus autores y se distribuyen a través de canales RSS públicos