BBC Radio Cymru

Lleisiau Cymru

Society CY ↓ 82 episódios

Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A collection of Welsh language podcasts featuring interesting voices and opinions from across Wales.

Não deixe de visitar o site do podcast e apoiar quem o produz: www.bbc.co.uk

Autor

BBC Radio Cymru

Categoria

Society

Site do podcast

www.bbc.co.uk

Último episódio

8 de set de 2026

Onde ouvir?

Podcasts no app Replaio Radio Em breve

Os podcasts estão chegando ao app. Instale agora e seja o primeiro a descobrir um jeito totalmente novo de curtir podcasts

Baixe no Google Play Instale grátis Android 5 mi+ downloads · nota 4,8 iOS em breve

Episódios

Ar Ôl y Llosgi 08.09.2026

Aled Hughes ynghyd â'r hanesydd Mari Wiliam ac ambell westai sy'n edrych ar hanes llosgi Ysgol Fomio Penyberth 90 mlynedd yn ôl. O edrych ar bwysigrwydd diwylliannol hen dŷ Penyberth, i graffu ar faint yn union wnaeth fynd ati i losgi ar y noson, gan osod y digwyddiad yn ei gyd-destun cenedlaethol, mae Aled a Mari yn mynd o dan groen y Tân yn Llŷn.

Beth Ddigwyddodd ar 8 Medi 1936? 08.09.2026

Aled Hughes ynghyd â'r hanesydd Mari Wiliam ac ambell westai sy'n edrych ar hanes llosgi Ysgol Fomio Penyberth 90 mlynedd yn ôl. O edrych ar bwysigrwydd diwylliannol hen dŷ Penyberth, i graffu ar faint yn union wnaeth fynd ati i losgi ar y noson, gan osod y digwyddiad yn ei gyd-destun cenedlaethol, mae Aled a Mari yn mynd o dan groen y Tân yn Llŷn.

Rhyfel Newydd ar y Gorwel 08.09.2026

Aled Hughes ynghyd â'r hanesydd Mari Wiliam ac ambell westai sy'n edrych ar hanes llosgi Ysgol Fomio Penyberth 90 mlynedd yn ôl. O edrych ar bwysigrwydd diwylliannol hen dŷ Penyberth, i graffu ar faint yn union wnaeth fynd ati i losgi ar y noson, gan osod y digwyddiad yn ei gyd-destun cenedlaethol, mae Aled a Mari yn mynd o dan groen y Tân yn Llŷn.

Croeso i Tân yn Llŷn 05.09.2026

Aled Hughes a'r hanesydd Mari Wiliam sy'n edrych ar hanes llosgi Ysgol Fomio Penyberth 90 mlynedd yn ôl, mewn cyfres newydd sy'n cyhoeddi ar Fedi'r 8fed 2026.

Mentro, Medi, Astudio, Dechrau /Cychwyn, Tymor 01.09.2026

Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â geiriau Cymraeg. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy ... ac yn y bennod hon mae nhw'n meddwl am ddechreuadau newydd ac am ail gychwyn pethau. Cynhyrchiad Cwmni Golwg i BBC Radio Cymru.

Barod am fwy o Dim Ond Geiriau? 28.08.2026

Mae Francesca a Stephen yn ôl, yn trafod mwy o eiriau. Hoff eiriau, cas eiriau, geiriau sydd â hanes diddorol, tafodiaith ... tanysgrifiwch i gael gwybod pan fydd pennod newydd yn cyhoeddi.

Cyfres 2, Pennod 3 : Gwennan Young 04.08.2026

Gwennan Young sy'n sgwrsio gyda Bethan Richards am ei gwaith yn y maes celfyddydau hygyrch a'r heriau o fyw bywyd gyda nam golwg etifeddol ar hyd ei hoes. Mae Gwennan yn trafod ei gwaith yn defnyddio'r celfyddydau i feithrin hyder ymhlith plant, pobl ifanc ac oedolion anabl, gan bwysleisio sut y gall creadigrwydd roi llais i bobl sy'n aml yn teimlo nad ydynt yn cael eu clywed. Mae hi hefyd yn rhan...

Cyfres 2, Pennod 2 : Hollie Crooke 28.07.2026

Yn enedigol o Sir Y Fflint, mae Hollie bellach yn byw gyda'i gŵr Ben ym Mro Morgannwg. Un o'r ffyrdd mae Hollie yn ceisio ymlacio a lleddfu ei phryderon yw creu clust-dlysau arbennig sy'n addurno ei chymhorthion clywed. Mae taith anabledd Hollie yn un anodd, gyda dirywiad ei chlyw wedi bod yn frwydr gyson. Er hyn mae ei gonestrwydd am y realiti o fod yn berson byddar, a phopeth a ddaw yn ei sgil,...

Cyfres 2, Pennod 1 : Paul Davies 21.07.2026

Yr actor a pherfformiwr Paul Davies yw gwestai Bethan Richards. Wedi ei eni gyda dim ond un o'i ddwylo, mae agwedd Paul tuag at ei wahaniaeth corfforol wedi newid droeon dros y blynyddoedd, ac yma mae'n esbonio sut y dysgodd i dderbyn ei hun a bod yn hyderus yn ei hunaniaeth. Cafodd ei fagu yn y Rhondda gan fwynhau profiadau cadarnhaol o fewn y gymuned glos. Tra yn ddisgybl ysgol defnyddiodd hiwmo...

Mae cyfres 2 ar y ffordd! 16.07.2026

Ymunwch gyda Bethan Richards ar gyfer cyfres 2 Meddwl yn Wahanol, wrth iddi sgwrsio gyda Paul Davies, Hollie Crooke a Gwennan Young.

Nathan Gill a chysgod y Kremlin 30.06.2026

Cyfres sy’n ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Yng nghwmni’r bobl oedd yno – ar wyneb y graig, yn ymchwilio ac yn adrodd ar yr achosion – mae’r cyn-farnwr Nic Parry yn ail-fyw digwyddiadau a gafodd effaith ddofn ar gymunedau ac ar y system gyfiawnder. Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r...

Y Brodyr Darvell - Carcharu ar gam 23.06.2026

Cyfres sy’n craffu ar rai o achosion troseddol fwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Y cyn-farnwr Nic Parry sy’n cael cwmni’r bobol oedd yn rhan o’r achosion ac sydd yn cofio’r effaith ddofn gafwyd ar gymunedau Cymru, ac yn trafod y penderfyniadau allweddol a’r digwyddiadau dramatig newidiodd fyd yr unigolion ynghlwm â’r achosion. Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cw...

Trywanu Yn Ysgol Dyffryn Aman 16.06.2026

Marwolaeth Julie Clarke 09.06.2026

Cyfres sy’n ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Yng nghwmni’r bobl oedd yno – ar wyneb y graig, yn ymchwilio ac yn adrodd ar yr achosion – mae’r cyn-farnwr Nic Parry yn ail-fyw digwyddiadau a gafodd effaith ddofn ar gymunedau ac ar y system gyfiawnder. Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r...

Cyflwyno cyfres newydd - Y Podlediad Trosedd 04.06.2026

Yn Y Podlediad Trosedd mae'r cyn-farnwr Nic Parry yn ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf cymhleth a dadleuol Cymru, gan ail-fyw’r hanes, y gyfraith a’r cwestiynau sy’n parhau. I gael gwybod pan fydd pennod newydd yn cyhoeddi chwiliwch am bodlediad Lleisiau Cymru a thanysgrifiwch.

Cyfres 2, Pennod 6: Canser plant 19.05.2026

Canser plant sy'n cael sylw ym mhennod olaf y gyfres. Yn cadw cwmni i Mari mae Dr Celyn Kenny, meddyg sy'n arbenigo mewn canser plant ac yn gweithio yn Ysbyty Arch Noa, Caerdydd, a Gwennan Eleri sy'n fam i Megan a gafodd ddiagnosis o Acute Lymphoblastic Leukaemia (ALL) yn 2024.

Cyfres 2, Pennod 5: Byw gyda chanser cam 4 12.05.2026

Yn y bennod hon, mae Mari'n cael cwmni Tudur Hallam, enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025, sydd yn rhannu ei brofiad o fyw gyda chanser cam 4.

Cyfres 2, Pennod 4: Partneriaid 05.05.2026

Yn y bennod hon, partneriaid sy'n cael sylw, ac mae Mari'n cael cwmni Catrin Jenkins sy'n wraig i Robert a gafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2018, a Gwyn Loader sy'n ŵr i Lowri a gafodd ddiagnosis o ganser y fron yn 2022.

Cyfres 2, Pennod 3: Dynion 28.04.2026

Yn ymuno â Mari yn y bennod hon mae Meirion Davies, ffermwr o ardal Caerfyrddin a gafodd ganser y prostad bedair blynedd ar ddeg yn ôl, a Dr Harri Pritchard o Ynys Môn, a gafodd ganser y coluddyn yn 2024. Mae’r ddau yn rhannu eu profiadau ac yn pwysleisio pa mor bwysig yw siarad yn agored.

Cyfres 2, Pennod 2: Tair o'r un teulu 21.04.2026

Yn fuan wedi diagnosis Mari, cafodd Elan ei chyfnither a Lisa ei chwaer hefyd ddiagnosis o ganser y fron. Mae'r dair yn trafod y profiad swreal o fod yn cael triniaeth am ganser ar yr un pryd ac yn cymharu profiadau.

Cyfres 2, Pennod 1: Mari 14.04.2026

Ddwy flynedd ers y gyfres gyntaf, Dr Llinos Roberts sy'n cadw cwmni i Mari wrth iddi rannu'r diweddaraf am ei siwrne hi â chanser.

Lisa Fearn 24.03.2026

Y cogydd Lisa Fearn sy’n ymuno efo Meinir Gwilym i drafod tyfu cynnyrch ei hun a’i ddefnyddio yn ei choginio. Mae hi hefyd yn trafod yr ysgol goginio a sut mae tyfu a choginio yn ddylanwad positif nid yn unig ar blant ifanc ond oedolion hefyd. Cawn hefyd glywed gan Kim a drodd at arddio yn ystod cyfnod anodd yn ei bywyd. Ei llwyddiant mwyaf oedd tyfu blodau’r haul yn ei gardd yng Nghaernarfon a bl...

Al Lewis 17.03.2026

Y canwr a’r cyfansoddwr Al Lewis sy’n ymuno efo Meinir Gwilym i drafod ei gyfnod yn tyfu ar randir, y pwysigrwydd o ddangos i’w blant o ble mae bwyd yn dod a’i ardd ddinesig yng Nghaerdydd. Cawn hefyd glywed gan Mari sydd wedi bod yn byw a’n gweithio fel warden ar Ynys Enlli. Yn fuan ar ôl cyrraedd, fe adeiladodd Mari dwnnel tyfu ar yr ynys heb brofiad o dyfu cynnyrch ei hun cyn hynny. Bellach, ma...

Eilir Evans, CPD Felinfach 10.03.2026

Pan nad yw'n canu ar hyd a lled y wlad fel y Welsh Whisperer, mae Andy Walton wrth ei fodd yn sefyll ar ochr cae pêl-droed. Dilynwch y gŵr sy'n wreiddiol o Gwm Felin Mynach ar daith o amgylch clybiau'r gogledd orllewin, lle mae cannoedd o bobl yr un fath ag o yn pentyrru bob penwythnos. Mae'n cyfarfod y cymeriadau sydd yn rhoi oriau o'u hamser i sicrhau bod eu timau nhw a'u cymunedau nhw'n bodoli...

Merched Caernarfon 03.03.2026

Mae tîm merched Caernarfon bellach yn rhan swyddogol o'r clwb. Andy sy'n cael clywed mwy. Andy visits his beloved Oval in Caernarfon.

Ouça o podcast Lleisiau Cymru no Replaio

Rádio e podcasts em um só app - grátis e sem cadastro. Instale hoje e não perca o lançamento

Baixe no Google Play

O Replaio não é o publicador dos podcasts; os nomes dos programas, as capas e o áudio pertencem aos seus autores e são distribuídos por feeds RSS públicos