BBC Radio Cymru

Lleisiau Cymru

Society CY ↓ 82 episódios

Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A collection of Welsh language podcasts featuring interesting voices and opinions from across Wales.

Não deixe de visitar o site do podcast e apoiar quem o produz: www.bbc.co.uk

Autor

BBC Radio Cymru

Categoria

Society

Site do podcast

www.bbc.co.uk

Último episódio

8 de set de 2026

Onde ouvir?

Podcasts no app Replaio Radio Em breve

Os podcasts estão chegando ao app. Instale agora e seja o primeiro a descobrir um jeito totalmente novo de curtir podcasts

Baixe no Google Play Instale grátis Android 5 mi+ downloads · nota 4,8 iOS em breve

Episódios

Pennod 4: Eleri Siôn 01.03.2026

Ymunwch efo Llŷr a Lisa wrth iddyn nhw ganu cloch Eleri Siôn a chael croeso mawr yn ei chartref. O’r Ewros i bianos, a phobi bara yn y Barri – mae’r oll sydd yn ei thŷ yn sbardun am stori!

Pennod 2 01.03.2026

Stori am frwydr, dewrder, brad a gwladgarwch; Aled Hughes sy’n holi pwy oedd Llywelyn Ein Llyw Olaf a beth yn union ddigwyddodd iddo? Yr hanesydd Euryn Roberts sy’n cyflwyno’r cyd-destun hanesyddol a gwleidyddol a arweiniodd at frwydr Cilmeri a marwolaeth Tywysog olaf Cymru yn 1282.

Pennod 1 01.03.2026

Stori am frwydr, dewrder, brad a gwladgarwch; Aled Hughes sy’n holi pwy oedd Llywelyn Ein Llyw Olaf a beth yn union ddigwyddodd iddo? Yr hanesydd Euryn Roberts sy’n cyflwyno’r cyd-destun hanesyddol a’r llinell amser gan ddechrau yn y degawdau cyn marwolaeth Tywysog olaf Cymru yn 1282.

Nantlle Vale 25.02.2026

Kim, Sue a Sara sy'n cadw cwmni i Andy Walton yn Maes Dulyn, Penygroes.

Richard Jones, Bont F.C. 17.02.2026

Richard Jones, neu 'Dicky Mint' sy'n sgwrsio hefo Andy am glwb Bont FC, Pontrhydfendigaid

Enlli a Chadwraeth 03.02.2026

Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl? Siân Stacey ac Elinor Gwynn sy'n cadw cwmni i Dylan ac yn trafod sawl Beth Petai? sy'n gysylltiedig gydag Ynys Enlli a chadwraeth yn gyffredinol.

Papur Newydd Dyddiol Cymraeg 27.01.2026

Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl? Aled Gruffydd Jones sy'n cadw cwmni i Dylan ac yn trafod y wasg Gymraeg a'r syniad o bapur newydd dyddiol yn y Gymraeg.

Porthladdoedd a Phrifddinasoedd 20.01.2026

Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl? Elin Haf Gruffydd Jones a Rhys Jones sy'n trafod rhai o ddinasoedd a threfi Cymru gyda Dylan Iorwerth: Beth Petai Caerdydd ddim yn brifddinas? Beth petai Porthdinllaen yn brif borthladd i Ogledd Cymru yn lle Caergybi? Beth petai'r Llyfrgell Genedlaethol mewn tref arall?

Chwaraeon 13.01.2026

Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl? Mei Emrys a Ffion Owen sy'n ymuno gyda Dylan Iorwerth i drafod sawl "Beth Petai?" o'r byd chwaraeon.

Pennod 3: Mari Lovgreen 09.12.2025

Ymunwch efo Llŷr a Lisa wrth iddyn nhw ganu cloch Mari Lovgreen a chael croeso mawr yn ei chartref. Mae’r trugareddau celfyddydol yn ei thŷ yn llawn hanesion am ei bywyd - o delynau i doiledau, a phob dim yn y canol!

Pennod 2: Nic Parry 02.12.2025

Ymunwch efo Llŷr a Lisa wrth iddyn nhw ganu cloch Nic Parry a chael croeso mawr yn ei gartref. Yn gyn-farnwr, sylwebydd pêl-droed ac arweinydd nosweithiau cerddoriaeth bop, mae gan Nic Parry lwyth o drugareddau celfyddydol yn ei dŷ sy’n ei atgoffa o gyfnodau amrywiol yn ei fywyd!

Gwersi Dolgarrog 02.11.2025

Bu farw 16 o bobl yn nhrychineb Dolgarrog, yn 1925, pan dorrodd dau argae uwchben y pentref. Mae Hywel Griffiths yn ddarlithydd daearyddiaeth ac yn y rhaglen hon, mae'n olrhain yr hanes ofnadwy hwn, gan ofyn pa wersi a ddysgwyd o 1925? Yn sicr, cyflwynwyd mesurau diogelwch newydd yn 1930 yn sgil Dolgarrog, a ’does yr un drychineb debyg wedi digwydd ers hynny - ond mae ofn llifogydd yn parhau. Mae...

Gwen y Wrach a Fi 21.10.2025

Mae Gwenllian Ellis, neu Gwen, wastad wedi bod eisiau gwybod mwy am Gwen Ellis arall. Yn 1594 cafodd Gwen ferch Ellis o Landyrnog ei chrogi ar grocbren sgwâr Dinbych ar gyhuddiad o fod yn wrach. Hi oedd y person cyntaf i gael ei chrogi am witshgrafft yng Nghymru. Yn y podlediad, Gwen y Wrach a Fi, mae Gwenllian Ellis yn mynd ar daith i ddarganfod pwy oedd Gwen y ferch, y chwaer, y ffrind, y wraig,...

Kiri Pritchard-McLean 07.10.2025

Kiri Pritchard McLean sy’n ymuno gyda Meinir Gwilym i sgwrsio am bopeth sy'n ymwneud â garddio! Ar ôl iddi ddychwelyd yn ôl i dŷ fferm y teulu, fe ddechreuodd gymryd diddordeb mewn tyfu ei chynnyrch ei hun yn enwedig dros y cyfnod clo. Bellach, mae ganddi brosiect go arbennig ar y gweill sy’n golygu tyfu llysiau a ffrwythau ar raddfa uwch gyda’r gobaith o allu darparu bocsys i fwydo aelodau o’r gy...

Hywel Pitts 30.09.2025

Wedi haf llawn gigs, mae Hywel yn cymryd seibiant haeddianol ac yn ymuno efo Meinir Gwilym i drafod ei ardd drefol yn y bennod yma o’r Podlediad Garddio. Mae Hywel wrth ei fodd yn tyfu llysiau a pherlysiau a’i gariad o goginio yn helpu iddo gynllunio’r hyn mae o am ei dyfu yn yr ardd yn flynyddol.  Anne sy’n trafod yr ardd fuodd hi’n brysur yn ei greu ar gyfer ei phlant ifanc a sut mae hynny wedi...

Y Brotest 16.09.2025

Yn 1985 gwnaeth cynlluniau dadleuol Cyngor Dosbarth Caerfyrddin i adeiladu byncer yn y dre ysgogi ar brotestiadau gan gannoedd o ymgyrchwyr heddwch. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach mae'r rheiny oedd yn ei chanol hi’n adrodd yr hanes, ac yn ystyried pa mor real yw’r bygythiad niwclear o hyd?

Y llythyren G 09.09.2025

Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren G sydd dan sylw.

Y llythyren E 02.09.2025

Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren E sydd dan sylw.

Y llythyren A 26.08.2025

Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren A sydd dan sylw.

Y llythyren R 19.08.2025

Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren R sydd dan sylw.

Y llythyren M 12.08.2025

Ymunwch gyda Francesca Sciarillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud a’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy ... ac yn y bennod hon y llythyren M sydd dan sylw.

Y llythyren Y 05.08.2025

Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren Y sydd dan sylw.

Y llythyren C 29.07.2025

Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren C sydd dan sylw.

Mandy Watkins 15.07.2025

Y cynllunydd tai, Mandy Watkins sy’n ymuno gyda Meinir Gwilym i drafod gwaith adnewyddu ar ei thŷ fferm a’r ardd lle mae hi wedi bod yn byw dros y ddeng mlynedd diwethaf ar Ynys Môn. Mae hi’n galw ei hun yn ‘reluctant gardener’ ar ôl sylweddoli’r holl waith oedden nhw’n ymgymryd unwaith i’r teulu gychwyn adnewyddu Rallt. Yn y bennod yma, mae Mandy yn hel atgofion o’i chymdogion oedd yn garddio yn...

Dafydd Iwan 08.07.2025

Dafydd Iwan sy’n ymuno gyda Meinir i drafod tyfu llysiau yn yr ardd. Yn ddiddordeb sydd wedi dod yn fwy amlwg iddo dros y deng mlynedd diwethaf, mae’n cael boddhad o ailgysylltu gyda natur. Mae codi yn y bore i weld be sydd wedi egino yn un o bleserau mawr bywyd bellach. Yn y bennod yma, mi fydd Dafydd yn hel atgofion am ei blentyndod ac am ei ddiweddar frawd, Huw a’r rôl oedd garddio yn ei gymryd...

Ouça o podcast Lleisiau Cymru no Replaio

Rádio e podcasts em um só app - grátis e sem cadastro. Instale hoje e não perca o lançamento

Baixe no Google Play

O Replaio não é o publicador dos podcasts; os nomes dos programas, as capas e o áudio pertencem aos seus autores e são distribuídos por feeds RSS públicos