BBC Radio Cymru
Beti a'i Phobol
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Não deixe de visitar o site do podcast e apoiar quem o produz: www.bbc.co.uk
Autor
BBC Radio Cymru
Categoria
Site do podcast
Último episódio
4 de out de 2026
Onde ouvir?
Podcasts no app Replaio Radio Em breveOs podcasts estão chegando ao app. Instale agora e seja o primeiro a descobrir um jeito totalmente novo de curtir podcasts
Episódios
Gav Murphy 04.10.2026 49:10
Mae Gav Murphy yn bersonoliaeth adnabyddus ym maes gemau fideo. Mae'n gyn-newyddiadurwr a chynhyrchydd cynnwys, ac yn un o wynebau mwyaf adnabyddus sianel RKG, lle mae'n cyflwyno fideos, podlediadau ac adolygiadau gemau a ffilmiau. Treuliodd ei blentyndod ym Maes y Cymer ger Caerffili, lle bu'n byw tan 2003. Yn y flwyddyn honno symudodd i Aberystwyth i astudio Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberyst...
Sharon King 20.09.2026 48:40
Mae Sharon King yn Ddarlithydd mewn Gwyddor Filfeddygol yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth. Mae ganddi gefndir helaeth mewn ymarfer milfeddygol, ar ôl graddio mewn Gwyddoniaeth Anatomegol o Brifysgol Bryste ac ennill gradd BVetMed o Goleg Milfeddygol Brenhinol Llundain. Cafodd ei chydnabod yn genedlaethol yn 2026 pan enillodd Gwobr Mentor Milfeddygol Cymdeithas Filfeddygol Prydain...
Arwel Hughes 13.09.2026 49:21
Beti George yn holi Arwel Hughes neu Arwel MAD fel mae rhai yn ei adnabod, sy'n adnabyddus fel DJ ac fel dyn busnes llwyddiannus ar Ynys Môn. Sefydlodd gwmni sain a goleuo MAD dros 25 mlynedd yn ôl, ac ers hynny mae wedi bod yn rhan allweddol o drefnu a chefnogi digwyddiadau mawr ledled Cymru. Mae wedi gweithio gyda nifer fawr o artistiaid Cymraeg ac adnabyddus dros y blynyddoedd, ac mae hefyd yn...
Nic Parry 16.08.2026 45:49
Yn ôl yn 1995, bu Nic Parry yn westai ar raglen Beti a'i Phobol. Bellach, 31 mlynedd yn ddiweddarach, gwahoddodd Beti George ef yn ôl i gadw cwmni iddi yn Eisteddfod y Garreg Las, Llantwd, 2026, a hynny o flaen cynulleidfa ym Mhabell y Cymdeithasau. Cyfreithiwr ifanc oedd Nic bryd hynny, yn sylwebu ar gemau pêl-droed ac yn dad ifanc. Ers hynny, mae wedi dringo i frig ei broffesiwn gan ddod yn Farn...
Vaughan Roderick 02.08.2026 52:25
Gyda dros 40 mlynedd o brofiad ym myd newyddiaduraeth, does neb sy’n adnabod gwleidyddiaeth Cymru yn well na Vaughan Roderick, ac ef yw gwestai Beti a’i Phobol yr wythnos hon. Mae Vaughan yn gyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru a Radio Wales, lle mae’n cyflwyno rhaglenni gwleidyddol ar fore Sul, ac mae hefyd yn cyd-gyflwyno’r podlediad poblogaidd Gwleidydda ochr yn ochr â Richard Wyn Jones. Yn y rhag...
Hedydd Hughes 26.07.2026 49:07
Hedydd Hughes yw gwestai Beti George. Mae hi wedi ymroi i ddiogelu traddodiadau ac etifeddiaeth ardal Sir Benfro. Mae wedi sefydlu gwefan sydd yn casglu cyfraniadau am hanes ardal Abergwaun ac yn mynd o gwmpas ysgolion yn cyflwyno chwedlau ac arferion yr ardal. Bu hefyd yn gweithio ar brosiect oedd yn canolbwyntio ar gyfoeth ieithyddol y Sir. Mae hi'n fam i 3 o blant ac yn byw yn Pen-caer, ac yn c...
Dr Simon Brooks 19.07.2026 52:19
Mae Dr Simon Brooks yr ysgolhaig, awdur a hanesydd o Gymru a anwyd yn 1971, sy’n gweithio fel Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn arbenigo mewn meysydd fel hanes, theori wleidyddol, aml-ddiwylliannedd a pholisi cyhoeddus. Mae wedi cyfrannu’n sylweddol at fywyd deallusol Cymru fel cyn-olygydd cylchgrawn Barn ac fel awdur llyfrau dylanwadol megis Pam na fu Cymru a Hanes Cymry. Yn ogystal â...
Emyr Gibson 12.07.2026 48:33
Emyr Gibson yw gwestai Beti a'i Phobol, mae'n actor a thenor, yn DJ ac yn Ymarferydd Creadigol o Ddeiniolen, Gwynedd, sy’n adnabyddus hefyd am chwarae rhan Meical yn Rownd a Rownd rhwng 2000 a 2018. Yn ogystal â’i waith actio, mae’n perfformio fel canwr ledled Cymru ac wedi bod yn aelod o'r grŵp Trio ers 2013. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn dementia drwy ei waith mewn cartref gofal, lle mae’n...
Phyllis Kinney 06.07.2026 35:04
Rhaglen o'r archif lle mae Beti George yn holi y diweddar Phyllis Kinney, nôl yn 1997. Roedd y gantores Phyllis Kinney, a'i diweddar ŵr, Dr Meredydd Evans, yn cael eu hystyried yn ddau o ffigyrau pwysicaf a mwyaf dylanwadol cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Er iddi ddechrau ei gyrfa fel cantores opera yn yr Unol Daleithiau, daeth cerddoriaeth werin yn ganolog i fywyd a gwaith Phyllis. Yng Mangor y...
Lili Mai Jones 05.07.2026 44:15
Gwestai Beti George yw y pêl-droediwr Lili Jones o Wrecsam. Fe dreuliodd 4 tymor yn chwarae i Everton gan ddechrau yn 12 mlwydd oed, yna fe ymunodd a thîm merched Wrecsam ble mae hi'n byw ac yn paratoi i chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf. Fe gafodd ei derbyn i'r Orsedd llynedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, ac mae hi hefyd yn ymddangos yn y gyfres ffilm boblogaidd 'Welcome to Wrexham' gy...
Eurig Wyn Jones 28.06.2026 49:42
Eurig Wyn Jones sydd yn wreiddiol o'r Fali, Ynys Môn, yw gwestai Beti George. Dechreuodd Eurig ei yrfa gyda chwmni Barcud Cyf ynystod y 1990au, gan weithio ar raglenni fel Noson Lawen, Slot Sadwrn a Noc Noc yn yr adran sain. Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, treuliodd bum mlynedd yn Llundain fel dadansoddwr patentau, cyn gweithio i Sony yn yr Almaen fel peiriannydd patent. Yn ddiweddarach, bu’n...
Hannah Parr 21.06.2026 49:55
Beti George sydd yn cael cwmni Hannah Parr sydd yn sylwebu ar S4C yn y Sioe Frenhinol yng Nghymru ac yn Horse of the year. Mae Hannah hefyd yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan; yn fridwraig ceffylau yn Llangeitho; ac mae ganddi siop ddillad yn Aberaeron sydd yn apelio at bobol sy'n byw yng nghefn gwlad, ac mae hi'n cael cymorth ei rhieni i redeg y busnes ac i ofalu am y ce...
Aled Hall 14.06.2026 49:12
Mae’r tenor o Gymru Aled Hall wedi perfformio repertoire sy’n ymestyn o Mozart i Wagner gyda chwmnïau opera a cherddorfeydd ledled y byd. Fe’i ganwyd yn 1968 ym Mhencader, Sir Gaerfyrddin yn fab fferm. Doedd dim pwysau arno i aros adref i ffermio, ac fe aeth i'r brifysgol i Aberystwyth i ddechrau i astudio cerdd. Mae bellach yn canu mewn tŷ opera yn Covent Garden, Llundain ers dros 11 mlynedd, ac...
Ann Davies AS 24.05.2026 49:01
Etholwyd Ann Davies yn AS Caerfyrddin yn 2024. Cafodd ei geni a’i magu yn Sir Gâr, ac mae Ann wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Sir dros Landdarog ers 2017, ac fel Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio ers 2021. Yn gyn-ddarlithydd mewn addysg blynyddoedd cynnar ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn gyn-athrawes gerdd peripatetig, mae Ann yn gydberchenn...
Iwan Teifion Davies 17.05.2026 49:18
Beti George sydd yn holi Iwan Teifion Davies, arweinydd cerddorol a phianydd o Gymru sy’n ffigwr amlwg ym myd cerddoriaeth glasurol a’r opera yng Nghymru a thu hwnt. Fe ddaw yn wreiddiol o Landudoch a fe oedd y cyntaf yn ei deulu i fynd i'r Brifysgol. Fe aeth i Goleg Emmanuel yng Nghaergrawnt i astudio gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg. Mae bellach yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Prifysgol Aberystwyth e...
Owain Richards 10.05.2026 50:21
Owain Richards Pennaeth yr Heddlu yn Gibraltar yw gwestai Beti George, ac mae'n cael ei alw yn " Geidwad y Graig". Fe gafodd ei fagu ar fferm Cae’r Defaid ger Trimsaran yng Nghwm Gwendraeth, ac roedd o wrth ei fodd gyda rhaglenni am yr heddlu fel 'The Bill' ac fe benderfynodd yn fachgen ifanc mai plismon oedd ef am fod wedi tyfu fyny. Fe ddechreuodd ei yrfa yn Aberystwyth, aeth ymlaen i'r "Met" yn...
Heledd Williams 03.05.2026 49:02
Beti George sydd yn sgwrsio gyda Heledd Williams o Drefdraeth, Sir Benfro. Mae Heledd yn un o Ferched y Môr a groesodd Fôr yr Iwerydd taith o 3,000 o filltiroedd mewn 50 diwrnod, 14 awr a 43 munud fel rhan o World’s Toughest Row. Fe ddechreuodd Merched y Môr - y criw benywaidd cyntaf o Gymru i gymryd rhan yn y ras - rwyfo o San Sebastián de La Gomera, ger Tenerife, ar 14 Rhagfyr 2025. Er gwaethaf...
Dr Gareth Hallett Davis 26.04.2026 48:41
Gareth Hallet Davis yw gwestai Beti George. Fe ddaw yn wreiddiol o bentref bach Pant y Brad, sydd rhwng Tonyrefail a Llantrisant. Mae wedi treulio 20 mlynedd yn teithio'r byd gan iddo weithio i gwmni Americanaidd oedd yn cynhyrchu rhaglenni teithio. Mae wedi hwylio'r afon Nîl dair gwaith ac wedi cysgu allan yn yr anialwch yng ngwlad yr Iorddonen. Ar ôl ymweliad â'r Tŷ Gwyn yn Washington fe benderf...
Lauren Salter 19.04.2026 48:54
Mae Lauren Salter, sy’n fwy adnabyddus yn broffesiynol fel Lauren Jenkins, yn un o brif wynebau darlledu rygbi yng Nghymru. Mae hi wedi gweithio i BBC Sport, S4C, Prime Video a Premier Sports ac yn cyflwyno a sylwebu ar ein sgriniau’n wythnosol. Cafodd cryn dipyn o sylw yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad am iddi gyfweld chwaraewr rygbi o Ffrainc yn Ffrangeg a chyfieithu ei atebion yn syth i'r Gy...
Alun Llwyd 05.04.2026 49:27
Dywed rhai bod twf a datblygiad y sîn cerddorol Gymraeg i'w briodoli i waith a dygnwch Alun Llwyd. Mae'n un o'r ddau a sefydlodd label ANKST yn 1988, ac 8 mlynedd nôl fe sefydlodd PYST sy'n cynnig gwasanaethau i helpu hyrwyddo recordiau ac Am sydd yn hyrwyddo'r celfyddydau trwy gyfrwng digidol. Mae'n hoff iawn o wylio adar yn ei amser hamdden, ac yn brysur fel aelod o fwrdd Disability Arts Cymru a...
Rhys Jones 29.03.2026 49:12
Datblygwr eiddo o’r Sarnau ger y Bala yw gwestai Beti George, ond sydd erbyn hyn yn rhannu ei amser rhwng Gwlad Pwyl a Norwy. Doedd Rhys ddim yn rhy hoff o’r Ysgol, ond yn mwynhau gweithio allan yn yr awyr agored gyda’I Dad ar y fferm, ac yn helpu gyda’i fusnes adeiladu. Fe aeth i’r coleg yn Llundain a chymhwyso fel syrfeiwr siartredig. Mae wedi treulio rhanfwyaf o’i fywyd yng ngwlad Pwyl lle mae...
Annie Morgan Suganami 22.03.2026 49:22
Celf yw diddordeb ein gwestai Annie Morgan Suganami, a hynny ers yn blentyn bach - ond fe aeth hi i'r Academi Frenhinol yn Llundain yn 15 mlwydd oed i gael ei hyfforddi i chwarae'r ffliwt, a dyna oedd yr offeryn roddodd fywoliaeth iddi a hynny fwy neu lai ar draws y byd. Yna yn 60 mlwydd oed penderfynodd wireddu breuddwyd a mynd nôl i'r coleg a chael gradd mewn celfyddyd gain. Erbyn hyn mae hi'n a...
Bethan Rees Roberts 15.03.2026 49:06
Bethan Rees Roberts yw gwestai Beti George. Yn wreiddiol o'r Wyddgrug, mae Bethan bellach yn rhannu ei hamser rhwng Llundain a Caerdydd. Mae'n Beirianydd Cemegol, ac wedi gweithio efo'r Tiwb yn Llundain (London Underground), a chwmni Shell. Ei swydd olaf oedd fel Prif Swyddog Data Shell, lle bu’n gweithio am 18 mlynedd. Collodd ei swydd wrth i’r cwmni dynnu’n ôl o ddatblygu Ynni Gwyrdd, ac mae’n s...
Peredur Glyn 08.03.2026 49:03
Yr awdur a darlithydd Peredur Glyn yw gwestai Beti George. Fe enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn 2025 am ei nofel Anfarwol sy’n dilyn bywyd yr actor enwog o’r ddeunawfed ganrif, Theophilus Cibber. Daw Peredur Glyn o Ynys Môn, ac yno mae'n byw heddiw gyda'i deulu ym Mhorthaethwy. Aeth i Ysgol Gymuned Bodffordd ac Ysgol Gyfun Llangefni, cyn graddio ym Mhrifysgol Caergrawnt. Cwblhaodd ddoethuriaeth m...
Stephen Rule - Doctor Cymraeg 01.03.2026 49:07
Mae Stephen yn cael ei adnabod fel y ‘Doctor Cymraeg’ ac yn adnabyddus fel athro Cymraeg, awdur a chrëwr cynnwys. Mae’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol (Instagram, TikTok a Youtube) er mwyn gwneud dysgu Cymraeg yn hwyl ac yn annog a helpu dysgwyr yr iaith i ennill hyder. Fel rhywun a ddysgodd Cymraeg yn hwyrach ymlaen yn ei fywyd, mae eraill sydd yn wynebu heriau tebyg iddo yn medru uniaethu gy...
Podcasts parecidos
O Replaio não é o publicador dos podcasts; os nomes dos programas, as capas e o áudio pertencem aos seus autores e são distribuídos por feeds RSS públicos