BBC Radio Cymru

Beti a'i Phobol

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Não deixe de visitar o site do podcast e apoiar quem o produz: www.bbc.co.uk

Autor

BBC Radio Cymru

Categoria

Society

Site do podcast

www.bbc.co.uk

Último episódio

4 de out de 2026

Onde ouvir?

Podcasts no app Replaio Radio Em breve

Os podcasts estão chegando ao app. Instale agora e seja o primeiro a descobrir um jeito totalmente novo de curtir podcasts

Baixe no Google Play Instale grátis Android 5 mi+ downloads · nota 4,8 iOS em breve

Episódios

Mati Roberts 22.02.2026

Beti George sydd yn cael cwmni ysbrydoledig Mati Roberts, y Nyrs o Gaerdydd sydd wedi helpu i sefydlu ysgol yn Affrica yn ei amser rhydd. Pan welodd Mati Roberts decstilau lliwgar mewn siop yn Affrica fe newidiodd llwybr ei bywyd hi a chymuned gyfan yn Ghana am byth. Deuddeg mlynedd ers disgyn mewn cariad gyda'r defnydd mae ganddi fusnes creadigol sy'n rhoi hwb i economi'r wlad ac yn helpu addysgu...

Geraint Hughes 08.02.2026

Mae'r cwmni heddiw yn barod iawn i fentro mewn byd busnes a hynny er lles yr economi leol. Bwyd ac amaeth yw ei arbenigaeth ac ymhlith ei fentrau fe blannodd lannerch o olewydd, y mwyaf gogleddol yn Ewrop. Geraint Hughes yw'r cyntaf ym Mhrydain i werthu olew Camelina, a bu'n tyfu cywarch. Ond ei lwyddiant gyda Jones Crisps yw ei fenter fwyaf adnabyddus mae'n siŵr. Mae gan Geraint ugain mlynedd o b...

Annie Maycox Walker 01.02.2026

Dyw’r cwmni heddiw ddim wedi cael bywyd hawdd ac mae hynny'n deillio o gyfnod plentyndod pan gafodd ei cham-drin yn rhywiol gan ei thaid. Mae'n teimlo'n gryf bod angen iddi ddweud ei stori am nad yw'r pwnc yn ei barn hi yn cael ei drin mor agored ac y dyle fe. Ar hyd y blynyddoedd mae Annie Maycox wedi dioddef o iselder ac roedd hi'n troi at fwyd i leddfu rhywfaint ar yr atgofion. Canlyniad hynny...

Meinir Gwilym 18.01.2026

Meinir Gwilym, y gantores sydd wedi cynhyrchu 6 albwm dros 20 mlynedd, yw gwestai Beti George. Mae hi hefyd yn gyflwynwraig radio a theledu, ac yn wyneb cyfarwydd ar gyfresi Garddio a Mwy ar S4C - ac yn aelod o'r grŵp Pedair. Cawn ei hanes ym Mhatagonia gyda Pedair a datblygiad y grŵp. Mae hi'n trafod heriau cerddorion Cymraeg a'r gostyngiad mewn breindaliadau, effaith y llwyfannau digidol a pa mo...

Iolo Williams 11.01.2026

Iolo Williams y naturiaethwr, awdur a'r cyflwynydd poblogaidd ar raglenni natur ar BBC Cymru ac ar y rhwydwaith Prydeinig yw gwestai Beti George. Mae’n adnabyddus am raglenni fel Springwatch, Autumnwatch a’i gyfres ei hun ‘Wild Wales’ ac mae wedi cyflwyno rhaglenni Radio Cymru, Galwad Cynnar a chyfres Sarn Helen. Mae'n trafod dylanwad ei Daid arno ac yn sôn am ei Dad fel ei arwr " dyn cadarn, gone...

Ani Glass 04.01.2026

Ani Glass yr artist electro-pop o Gaerdydd yw gwestai Beti George. Enillodd ei halbwm cyntaf Mirores wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn, ac mae ei hail albwm Phantasmagoria newydd ei rhyddhau. Cawn hanesion difyr ei bywyd o'r sîn gerddoriaeth, i'w chefndir mewn ffasiwn, a'i chariad tuag at Lerpwl a'r Beatles. Yn y 5 mlynedd diwethaf mae hi wedi croesawu merch fach i'r byd, ac mae hi'n fyddar. Mae Ani y...

Rhai o uchafbwyntiau Beti a'i Phobol 2025 28.12.2025

Rhaglen wahanol i'r arfer i nodi diwedd blwyddyn arall. Pytiau o rai o sgyrsiau Beti a'i Phobol 2025, gan ddechrau gyda dwy bennod gynta’r flwyddyn - tad a merch yn sôn am y hunlle brofon nhw fel teulu oherwydd ymddygiad anfaddeuol y Swyddfa Bost. Cawn glywed stori Siân Thomas a Noel Thomas. Fe awn wedyn i China i sgwrsio a Teleri Wyn Davies. Mae hi yn byw yn Shenzen, yn ne-ddwyrain y wlad, a'i gw...

Gwerfyl Eidda 21.12.2025

Mae'r gwestai heddiw, sydd ychydig dros ei phedwar deg mlwydd oed, ar ei pumed swydd. Bu Gwerfyl Eidda yn gweithio gyda Mentrau Iaith yn annog busnesau i ddefnyddio'r Gymraeg. Am 5 mlynedd bu'n diddanu teithwyr ar longau pleser yn canu. Mae wedi cynghori pobol sydd am ddechrau busnes, bu'n gweithio i Ferched y Wawr, ac fe ysgrifennodd lyfr coginio poblogaidd yn seiliedig ar ryseitiau a rannwyd yn...

Edwin Humphreys 07.12.2025

Beti George yn holi y cerddor a'r cyn nyrs Edwin Humphreys. Nid yn aml mae Beti yn cael gwestai sydd wedi cael gyrfa mor amrywiol â hynny mewn meysydd mor wahanol i'w gilydd. Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 mlwydd oed fe aeth Edwin Humphreys i'r fyddin a bu'n aelod o Fand Pres Catrawd Hussars. Yna bu'n gerddor yn chwarae gyda sawl band Cymraeg ac wedyn fe aeth i'r Brifysgol yn 30 mlwydd oed i astudio...

Sioned Fôn Jones 30.11.2025

Sioned Fôn Jones, gwyddonwraig ifanc o bentref Waunfawr, Gwynedd yw gwestai Beti George. Mae wedi creu cwmni Booby Biome yn Llundain. " Ni oedd y cwmni cyntaf o'i fath yn y maes yma" meddai Sioned. Maen nhw'n creu llaeth sydd yn debyg i laeth y fron, "mae'n cocktail o facteria perffaith i fabi" tebyg i probiotic sydd wedi ei ddylunio o laeth y fron gan griw o wyddonwyr ifanc. Y gobaith ydi y bydd...

Dr Brython Hywel. 23.11.2025

Beti George yn holi Dr Brython Hywel. Bod yn ddeintydd oedd ei uchelgais cyntaf ond ar ôl profiad gwaith yn ysbyty Glan Clwyd fe newidiodd ei feddwl, er bod meddyg ifanc yn fanno wedi dweud wrtho beidio mynd yn feddyg. Ond tydi o ddim wedi difaru anwybyddu cyngor y doctor ifanc ac erbyn hyn wedi blynyddoedd lawer o astudio a hyfforddi mae wedi cyrraedd y brig ac yn arbenigo mewn maes Niwroleg a Ni...

Jâms Powys 16.11.2025

Beti George sydd yn holi'r peilot Jâms Powys. Ar hyn o bryd mae'n gweithio i gwmni awyrennau British Airways ac mae'n cyfarch y teithwyr yn Gymraeg. Ers yn blentyn bach doedd dim byd arall yn apelio fel gyrfa, ac fe ddechreuodd hedfan cyn iddo yrru car. Cawn glywed ei hanesion yn hedfan i Efrog Newydd, Nigeria a Mecsico. Mae'n sôn am gyfnod Covid ac effaith hynny ar y diwydiant, ac am newidiadau s...

Jane Richardson 02.11.2025

Beti George sy'n holi Jane Richardson - Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru. Fe gafodd Jane ei geni a'i magu yn Lloegr. Cymraes oedd ei mam, ac i Gymru y bydden nhw'n dod fel teulu ar eu gwyliau. Wedi graddio yn Rhydychen ac yna priodi, fe ddaeth i Ben Llŷn i fyw, a chael gwaith gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac fe ddysgodd Gymraeg. Ddwy flynedd yn ôl fe'i penodwyd yn Brif Weithredwr yr Amgueddf...

Mari Huws 26.10.2025

Beti George yn holi Mari Huws - warden ar Ynys Enlli. Fe gafodd Mari ei magu yng Nghaernarfon a Phenygroes, ac fe gafodd brofiad yn ifanc o deithio hefo'r teulu, gan gynnwys mynd i Ynys Enlli. Treuliodd gyfnodau yn gwirfoddoli a gweithio yn Costa Rica, Nicaragua, Siapan ac Indonesia. Mae hi wedi cynhyrchu ffilmiau dogfen, a Mari oedd yn gyfrifol am y prosiect 'Olew Drwg' sy'n trafod y diwydiant ol...

Nolwenn Korbell 19.10.2025

Beti George yn holi Nolwenn Korbell. Llydawes wnaeth syrthio mewn cariad hefo'r Gymraeg ydi Nolwenn, a hynny ers pan oedd hi'n blentyn yn mynd gyda'i mam bob blwyddyn i'r Gyngres Geltaidd. Fe dreuliodd gyfnod yng Nghymru, a bu'n canu gyda Bob Delyn a'r Ebillion. Ar ôl mynd yn ôl i Lydaw aeth ei gyrfa fel cantores o nerth i nerth gan gyrraedd y brig. Mae hi wedi rhyddhau saith albym hyd yn hyn.

Marcus Whitfield 12.10.2025

A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae Beti George yn holi Marcus Whitfield. Mae Marcus yn siaradwr newydd sydd mor frwd dros yr iaith nes iddo fynd ati i agor canolfan yn Llanbedr Pont Steffan i ddod â dysgwyr at ei gilydd i ymarfer yr iaith, a chodi eu hyder. Wedi sawl ymdrech ar ddysgu'r iaith, yr ysgogiad mawr i Marcus ail afael ynddi oedd mynd i Euro 2016 a glanio yng nghanol cymaint o...

Dafydd Roberts 05.10.2025

Dafydd Roberts yw gwestai Beti George. Mae'n gerddor ac yn gynhyrchydd, ac yn aelod o'r grwp gwerin poblogaidd Ar Log, sy'n hanner cant oed flwyddyn nesaf. Pan yn ifanc, roedd Dafydd a'i fryd ar fod yn feddyg, ond Seicoleg oedd ei bwnc ym Mhrifysgol Bangor. Mae wedi protestio ac ymgyrchu dros yr iaith, ac yn ddiweddarach dros chwarae teg i gerddorion. Bu'n gynhyrchydd teledu ac yn brif weithredwr...

Dr Celyn Kenny 28.09.2025

A hithau'n Fis Ymwybyddiaeth Canser Plant, mae Beti George yn holi Dr Celyn Kenny. Meddyg sydd yn gweithio gyda phlant sy'n dioddef o ganser yw Celyn. Doedd hi ddim yn hawdd iddi gael lle ar y cwrs Oncoleg Plant gan fod 'na gyfyngu ar y nifer, ond llwyddodd i ddod yn gyntaf drwy Brydain. Mae hi newydd dreulio chwe mis yn Ysbyty Great Ormond Street, a bellach mae hi'n ôl yn gweithio ar Ward Arch No...

Dr Gareth Evans-Jones 21.09.2025

Beti George yn holi Dr Gareth Evans-Jones. Mae Gareth yn awdur, bardd a dramodydd ac wedi ennill Y Fedal Ddrama ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe gafodd fagwraeth gymhleth, ac fe wahanodd ei rieni pan oedd yn bump oed. Aeth i Brifysgol Bangor, a chael gradd meistr a doethuriaeth, ac ennill sawl gwobr hefyd. Mae Gareth bellach yn gweithio fel darlithydd yn Adran Grefydd ac Athroniaeth Pri...

Beth Winter 14.09.2025

Beth Winter cyn aelod seneddol dros Gwm Cynon yw cwmni Beti George. Fe dreuliodd ei phlentyndod yn Aberdâr, ac roedd ymgyrchu dros achosion gwahanol yn ganolog i'r teulu. Fe gafodd ei hethol i Senedd San Steffan yn 2019 wedi Ann Clwyd benderfynu peidio sefyll. Fe unwyd Cwm Cynon a Merthyr Tudful ac o ddau aelod seneddol, hi gollodd y dydd yn etholiad 2024. Fe aeth Beth i’r brifysgol ym Mryste i as...

Ffrancon Williams 24.08.2025

Beti George sydd yn holi Ffrancon Williams - cyn Brif Weithredwr Cymdeithas Dai 'Adra'. Fe'i magwyd ym Mangor. Fe astudiodd Ffrancon Beirianneg Electroneg yn y brifysgol, ond penderfynodd newid maes ar ôl sylweddoli ei fod eisiau gweithio yng nghanol pobl, ac eisiau gwneud gwahaniaeth i'w bywydau. Treuliodd gyfnod yn gweithio i British Standards, cyn mynd i weithio i gwmni preifat oedd yn ymwneud...

Mel Owen 17.08.2025

Beti George yn holi Mel Owen - cyflwynydd, awdur a digrifwr. Fe'i magwyd yng Nghapel Seion ger Aberystwyth, ac aeth i Brifysgol Caerdydd. Wedi iddi weithio yn y maes gwleidyddol pan yn ifanc, mae Mel Owen bellach yn gyflwynydd ar y cyfryngau Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys y rhaglen 'Ffermio' ar S4C. Mae hi hefyd i'w gweld ar lwyfannau comedi stand up, a llynedd fe gafodd gryn lwyddiant yng Ngŵyl C...

Llŷr Williams 03.08.2025

Beti George sydd yn holi'r pianydd sydd yn adnabyddus trwy'r byd, Llŷr Williams. Cafodd ei fagu yn Pentre Bychan, Wrecsam ac mae dal i fyw yno. Mae wedi perfformio mewn neuaddau megis Carnegie Hall, Efrog Newydd, ac wedi llenwi neuadd fawr yn y Moscow Conservatory, Rwsia. Mae wedi teithio i berfformio'n Tokyo a Mecsico ac yn rhannu eu straeon difyr. Mynychodd Ysgol Gynradd ID Hooson yn Rhosllanner...

Llinos Roberts 27.07.2025

Llinos Roberts o Rosllannerchrugog yw gwestai Beti George, mae hi'n Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025. Yn wreiddiol o’r ardal, mae hi wedi byw a gweithio yn y sir fwy neu lai ar hyd ei hoes, ac mae'n Bennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a'r Gymraeg yng Ngholeg Cambria. Mae 3 mlynedd wedi pasio ers i Aled Roberts ei gŵr farw yn sobor o ifanc yn 59 mlwydd oed. Bu Aled Rob...

Wyn Davies 18.07.2025

Beti George yn sgwrsio gyda chyn-ymosodwr Cymru, Wyn Davies. Darlledwyd y rhaglen yn wreiddiol yn 2003.

Ouça o podcast Beti a'i Phobol no Replaio

Rádio e podcasts em um só app - grátis e sem cadastro. Instale hoje e não perca o lançamento

Baixe no Google Play

O Replaio não é o publicador dos podcasts; os nomes dos programas, as capas e o áudio pertencem aos seus autores e são distribuídos por feeds RSS públicos