Mimosa Cymru

Yr Hen Iaith

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.

Author

Mimosa Cymru

Category

Education

Podcast website

podcasts.apple.com

Latest episode

Jul 9, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Pennod 36 - Elis Gruffydd (Rhan 1) 14.03.2024

Pennod 36 - (cyfres 2, pennod 3) Dyma gyflwyniad i awdur Cymraeg rhyfeddol, Elis Gruffydd, Cymro o sir y Fflint a fu’n filwr ym myddin Harri VIII ac yn aelod o warchodlu Calais. Yno ar y cyfandir yr ysgrifennodd ei gronicl hirfaith, hanes y byd o’r Creu Beiblaidd hyd at ddechrau’r 1550au, y testun naratifol hwyaf a ysgrifennwyd erioed yn yr iaith Gymraeg. A’i fywyd yn rhychwantu hanner cyntaf oes...

Pennod 35 -Gwydnwch Hen Draddodiad 29.02.2024

Pennod 35 (cyfres 2, pennod 2) Roedd y bennod ddiwethaf yn amlinellu’r newidiadau mawr a ddaeth yn ystod oes y Tuduriaid. Mae’r bennod hon yn ystyried effaith rhai o’r newidiadau hyn ar y traddodiad barddol Cymraeg. Ond er gwaethaf yr holl drawsffurfiadau, gwelwn wrth graffu ar ychydig o ganu mawl o ddechrau’r cyfnod fod nifer o agweddau hynafol ar y traddodiad yn parhau wrth i’r traddodiad hwnnw...

Pennod 34 - Cyfnod Newydd? 15.02.2024

Dyma bennod gyntaf ail gyfres ‘Yr Hen Iaith’! Dechreuwn drafod llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg trwy ystyried y datblygiadau hynny sy’n ein galluogi i wahaniaethu rhwng yr Oesau Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar. Un o’r pethau sydd mor ddiddorol am y cyfnod hwn yw’r modd y gwelwn feirdd ac awduron Cymraeg yn ymaddasu ac yn ymateb wrth i gymdeithas newid yn ystod hanner cyntaf yr unfed...

Pennod 33 -Cyflwyno’r Ail Gyfres 01.02.2024

Dyma edrych ymlaen at yr ail gyfres a fydd yn canolbwyntio ar lenyddiaeth y cyfnod modern cyntaf, gan ddechrau gyda’r trawsffurfiadau heriol a ddaeth yn oes y Tuduriaid. Introducing our second series Here’s looking forward to the second series, which will concentrate on literature of the early modern period, starting with challenging transformations that came in the Tudor period.

Pennod 32 - Diwedd yr Oesau Canol 18.01.2024

Dyma ni’n cloi’r gyfres gyntaf a chlywed bod llênbaras Richard Wyn Jones wedi lleihau erbyn. Hefyd, er ein bod ni wedi gorffen trafod yr Oesau Canol, mae Jerry Hunter yn pwysleisio bod hanes llenyddiaeth Gymraeg yn unigryw ac wedi datblygu mewn modd unigryw. / The End of the Middle Ages Here we reach the end of our first series and hear that Richard Wyn Jones's llên-barrassment has reduced a bit....

Pennod 31 - Yr Eisteddfodau Cynharaf ac Addysg y Beirdd 04.01.2024

Dyma bennod fyw arbennig a recordiwyd ym Mhabell Lên Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, a pha beth gwell i’w drafod ar y maes ym Moduan na hanes yr eisteddfodau cynharaf?! A yw’n bosib gweld ‘Gwledd Arbenning’ a gynhaliwyd gan yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi yn 1176 fel yr eisteddfod gyntaf a gofnodwyd? Ac wrth drafod eisteddfod a gynhaliwyd tua chanol y 15fed ganrif, rydym ni’n archwilio’r...

Pennod 30 - ‘Gwledd hyd y gogledd o gig’: Y Cywyddau Brud 21.12.2023

Ar wahân i bennod arbennig a recordiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac a gaiff ei darlledu nesaf, hon yw pennod olaf cyfres gyntaf Yr Hen Iaith. Rydym ni’n gorffen trafod llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a daw llawer o themâu’r gyfres ynghyd wrth i ni ystyried cywyddau brud yn gysylltiedig â ‘Rhyfel y Rhos’. Ystyr ‘brud’ yw proffwydodliaeth, a chawn gyfle i egluro bod gan yr hen Gymry ddull arbenni...

Pennod 29 - Gwin, Arch a Diwedd Oes: Guto’r Glyn 07.12.2023

Trafodwn un o feirdd Cymraeg pwsicaf y 15fed ganrif yn y bennod hon. Cafodd Guto’r Glyn oes hir, ac yntau wed’i eni ychydig o flynddoedd ar ôl diwedd gwrthryfel Glyndŵr ac wedi marw rai blynyddoedd ar ôl i Harri Tudur gipio coron Lloegr yn 1485. Roedd yn filwr proffesiynol ar adegau hefyd, ac agweddau ar ei waith yn dangos mor gyfarwydd ydoedd â rhyfela’r oes. Yn arbenigo ar y cywydd mawl, mae dro...

Pennod 28 - ‘Bawddyn!’: Ymrysonau’r Cywyddwyr 23.11.2023

Er mwyn dyfnhau’n dealltwriaeth o waith ‘Beirdd yr Uchelwyr’ neu’r Cywyddwyr, edrychwn yn y bennod hon ar rai o’u hymrysonau. Wrth ystyried cywyddau yr oedd beirdd yn eu cyfnewid, rydym ni’n archwilio cysylltiadau posib rhwng y farddoniaeth hon a chyd-destunau cymdeithasol coll. Mae’n debyg bod beirdd yn ymrysona am wahanol resymau yn y cyfnod – er mwyn cystadlu am nawdd, er mwyn sefydlu neu gadar...

Pennod 27 - Llais Cymraes: Gwerful Mechain 09.11.2023

Mae’n hen bryd i ni ganolbwyntio ar lenyddiaeth gan Gymraes. Gan ein bod wedi dechrau trafod cyfnod y cywydd, rydym ni’n neidio ymlaen ryw ganrif ac ychydig o oes Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon er mwyn ystyried gwaith Gwerful Mechain, bardd benywaidd a oedd yn byw ac yn cyfansoddi yn ystod ail hanner y 15fed ganrif. Mae hefyd yn fodd i ni ystyried y modd y mae ‘canonau’ llenyddol Cymraeg – megis...

Pennod 26 - Dychan, Hiwmor a Grym Celf: Dafydd ap Gwilym (rhan 3) 26.10.2023

Dywed Richard Wyn Jones rywbeth yn y bennod hon sydd, er ei fod yn sylw ffwrdd-a-hi, efallai’n dweud mwy am afiaith y farddoniaeth hon na holl draethu’i gyd-gyflwynydd. Dywed y byddai wedi astudio’r Gymraeg yn y brifysgol yn hytrach na Gwleidyddiaeth Ryngwladol, o bosib, pe bai wedi cael darllen y cerddi hyn yr ysgol! Dyna ddigon i awgrymu bod y cerddi dychanol doniol hyn gan Ddafydd ap Gwilym yn...

Pennod 25 - Caru yn y Coed: Dafydd ap Gwilym (rhan 2) 12.10.2023

Rydym ni’n parhau i drafod ffresni rhyfeddol barddoniaeth Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, gan bwysleisio bod newydd-deb ei gyfansoddiadau wedi’i greu gyda deunydd crai traddodiadol i ryw raddau. Ystyriwn ychydig o ganu serch Dafydd, gan ddechrau â’r cywydd ‘Morfudd fel yr Haul’, cyn craffu ar y modd y mae dwy thema fawr, serch a natur, wedi’u plethu ynghyd yn ei waith. Trafodwn yr ‘oed yn y coed...

Pennod 24 - Meddwi’n Niwbwrch: Dafydd ap Gwilym (rhan 1) 28.09.2023

Dechreuwn drafod bardd Cymraeg enwocaf yr Oesau Canol y bennod hon – Dafydd ap Gwilym. Nid yw hanes ei fywyd yn gwbl sicr, ond tybir iddo gael ei eni tua 1315 a marw o gwmpas y flwyddyn 1350 – o bosibl oherwydd y Pla Du. Ond mae’n sicr bod oes a gwaith Dafydd yn cydfynd â dechrau oes y cywydddwyr – a chewch beth o hanes y cywydd yn y bennod hon hefyd felly. Mae gwaith Dafydd ap Gwilym yn arwyddo c...

Pennod 23 - Seintiau a Phechaduriaid 14.09.2023

Er ein bod ni wedi crybwyll y ffaith bod cymdeithas y Gymru ganoloesol yn drywadl Gristnogol, ac er ein bod wedi nodi agweddau creffyddol ar rai testunau llenyddol wrth fynd heibio, yn y bennod hon rydym ni’n canolbwyntio ar lenyddiaeth Gristnogol – ac yn bennaf, gwahanol draddodiadau’n ymwneud â’r seintiau Cymreig. Nodwn fod y Cymry yn weddol unigryw yn eu hoffter o lunio ‘bonedd’ neu ‘achau’ sei...

Pennod 22 - Calon Oer dan Fron o Fraw 31.08.2023

Cawn drafod un o gerddi enwocaf yr iaith yn y bennod hon, cerdd sy’n gysylltiedig ag un o drobwyntiau mwyaf yn hanes Cymru. Wrth i ni ddadansoddi Marwnad Llywelyn, ystyriwn y modd y gall llenyddiaeth fod yn danwydd i ddychymyg cenedl, a’r dychymyg hwnnw’n allweddol i allu cenedl i oroesi ar ôl iddi gael ei goresgyn. Trafodwn yr hyn a wyddys am fywyd y dyn a gyfansoddodd y gerdd eiconig hon hefyd,...

Pennod 21 - Dyrchafu, Caru ac Ymladd: Barddoniaeth yn gysylltiedig ag Owain Gwynedd a’i deulu 17.08.2023

Rydym ni’n parhau i drafod Beirdd y Tywysogion yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar farddoniaeth sy’n gysylltiedig ag Owain Gwynedd a’i deulu. Wedi’i enwi’n ‘gyfaill y pod’ gennym yn barod, mae’n rhaid cyfrif Owain Gwynedd (c.1100-1170) ymysg y tywysogion pwysicaf. Yn wir, ef oedd y cyntaf i ddefnyddio’r teitl ‘Tywysog Cymru’ ac ef hefyd oedd Brenin Gwynedd yn ei ddydd. Edrychwn ar waith Cynddelw...

Pennod 20 - Canu Gwleidyddol: Beirdd y Tywysogion 03.08.2023

Dechreuwn drafod Beirdd y Tywysogion yn y bennod hon gan agor cil y drws ar gorff sylweddol o farddoniaeth Gymraeg hynod gain sydd hefyd yn hynod bwysig o safbwynt astudio hanes Cymru. Cawn gyfle i ystyried arwyddocâd Llawysgrif Hendregadredd (y llawysgrif sydd wedi diogelu’r rhan fwyaf o’r cerddi hyn), gwaith rhyfeddol o ddiddorol gan ei fod yn ffrwyth ymdrech i gofnodi barddoniaeth oes y Tywysog...

Pennod 19 - ‘Iarlles y Ffynnon’, nid ‘Owain’ 21.07.2023

Yn y bennod hon trafodwn yr olaf o’r ‘chwedlau brodorol’ wrth i ni graffu ar saernïaeth gelfydd ‘Iarlles y Ffynnon’. Nodwn y duedd i ddefnyddio enw prif gymeriad gwrywaidd y chwedl hon, ‘Owain’, fel teitl gan fynnu mai’r teitl a geir yn Llyfr Coch Hergest sy’n gywir, ‘Iarlles y Ffynnon’. Ynghyd â Gwenhwyfar a’r forwyn Luned, mae’r Iarlles yn un o driawd o gymeriadau benywaidd cryf a byw a geir yn...

Pennod 18 - Marchocffordd Peredur 13.07.2023

Trafodwn y chwedl ‘Historia Peredur fab Efrog’ yn y bennod hon gan awgrymu’i bod yn disgrifio perthynas Peredur a’i fam mewn modd hynod ddynol a thyner. Mae gwrthgyferbyniad amlwg rhwng bydolwg gwrywaidd treisgar tad Peredur a doethineb ei fam. Ond er i’w fam geisio’i fagu mewn byd benywaidd yn bell o unrhyw sôn am arfau a rhyfel, ac er iddi ddweud wrtho mai ‘angylion’ yw’r marchogion a wêl un diw...

Pennod 17 - Breuddwyd Rhyfeddol Rhonabwy 06.07.2023

Yn y bennod hon, trafodwn chwedl gwbl ryfeddol sy’n llunio fersiwn unigryw o fyd arwrol Arthur er mwyn tynnu sylw at ddiffygion gwleidyddol y byd go iawn. Y Gymru ganoloesol yw’r byd go iawn hwnnw, ac mae ymrafael rhwng tywysog a’i frawd yn bygwth heddwch y deyrnas. Mae’r negesydd Rhonabwy yn ceisio’i orau i helpu ond mae’n syrthio i gysgu – mewn tŷ sy’n ysglyfaethus o fudr! – a thrwy gyfrwng ei f...

Pennod 16 - Geraint a’i shorts sidan 29.06.2023

Trafodwn y chwedl ‘Ystoria Geraint fab Erbin’ yn y bennod hon gan ystyried ei pherthynas â cherdd storïol y bardd Ffrangeg Chrétien de Troyes. A yw’n bosibl mai trosiad o’r testun Ffrangeg yw’r chwedl Gymraeg, mewn gwirionedd? A yw’n iawn cynnwys ‘Geraint’ ymysg y ‘chwedlau brodorol’? Awgrymwn fod awdur Cymraeg wedi cymryd stori Chrétien a’i gwisgo mewn gwisg Gymreig. Wedi’r cwbl, mae toreth o enw...

Pennod 15 - Roc-an-Rôl a’r Arthur Cymreig-Ewropeaidd 22.06.2023

Mae’r bennod hon yn gyfle i ni fyfyrio ynghylch y berthynas rhwng llenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth gyfandirol wrth i ni drafod y cam nesaf yn natblygiad y chwedloniaeth Arthuraidd. Beth am y chwedlau ‘brodorol’ Cymraeg hynny sy’n dangos dylanwad llenyddiaeth Ffrangeg? Sut mae canfod creadigaethau artistig sydd wedi’u hadeiladu ar sylfeini Cymreig traddodiadol ond sydd hefyd yn ddyledus mewn mod...

Pennod 14 - O’r Apocalyps Arthuraidd i Fashion Casualties: Hanes Cryno Cad Gamlan 15.06.2023

Pwnc ychydig yn wahanol sydd gennym y tro hwn, un a gododd yn y penodau diwethaf wrth drafod llenyddiaeth Arthuraidd Gymraeg gynnar. Yn y bennod hon, rydym ni’n olrhain cyfeiriadau llenyddol at gad Gamlan trwy ganrifoedd o lenyddiaeth Gymraeg. Brwydr fawr olaf yr arweinydd enwog oedd cad Gamlan, cyflafan a chwalodd deyrnas ac oes aur Arthur. Awgrymwn fod traddodiadau’n ymwneud â’r ‘Apocalyps Arthu...

Pennod 13 - Ennill Olwen 08.06.2023

Rydym ni’n gorffen trafod y chwedl ‘Culhwch ac Olwen’ yn y bennod hon, gan ddechrau gyda’r chwech arwr y mae Arthur yn eu dewis i helpu Culhwch gael hyd i ferch Ysbaddaden Pencawr. (Ac felly, ynghyd â’r darpar briodfab ei hun, dyma fersiwn Cymraeg canoloesol o’r ‘Saith Samauri’ neu’r ‘Magnificent Seven’!) Mae Olwen yn ymddangos o’r diwedd – a chawn ddisgrifiad trawiadol a chofiadwy ohoni – ac wedy...

Pennod 12 - Arthur y Barbwr 01.06.2023

Gan fod ‘Culhwch ac Olwen’ yn chwedl mor fawr a mor bwysig, rydym wedi neilltuo dwy bennod gyfan i’w thrafod hi. Eglurwn yn y bennod hon pam fod y stori ganoloesol hon mor ddiddorol a pham bod y testun llenyddol hwn mor bwysig. Dyma gyfle i weld yr Athur Cymreig a Chymraeg cynhenid ar ei orau, yng nghanol camp a rhemp llys sy’n llawn cymeriadau rhyfeddol. Ond mae hefyd yn stori am ymgais Culhwch i...

Listen to the Yr Hen Iaith podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.