Mimosa Cymru

Yr Hen Iaith

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.

Author

Mimosa Cymru

Category

Education

Podcast website

podcasts.apple.com

Latest episode

Jul 9, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Pennod 11 - Y Traddodiad Arthuraidd: Rhodd fwyaf Cymru i’r Byd? 25.05.2023

O ystyried holl gynnyrch diwylliannol yr iaith Gymraeg trwy’r canrifoedd, beth, tybed, a gafodd y dylanwad mwyaf ar ddiwylliannau ieithoedd eraill a gwledydd eraill? Awgrymwn yn y bennod hon mai straeon am y brenin arwrol Arthur yw’r ateb. Erbyn diwedd yr Oesau Canol, byddai’r chwedloniaeth hon wedi teithio ar draws Ewrop ac esgor ar lenyddiaeth Arthuraidd mewn llawer o wahanol ieithoedd, ac mae’r...

Pennod 10 - Llais Heledd 18.05.2023

Yn y bennod hon trafodwn ‘Ganu Heledd’, y farddoniaeth ganoloesol sy’n gysylltiedig â stori tywysoges o hen deyrnas Powys a dystiodd i farwolaeth ei theulu a chwalfa’i chymdeithas. Ond yn hytrach nag adrodd y stori, mae’r cerddi telynegol hyn yn canolbwyntio ar ymateb emosiynol Heledd. Dyma lenyddiaeth sy’n trafod colled, galar a hiraeth mewn modd ingol o gofiadwy. Dyma hefyd lais benywaidd prin s...

Pennod 9 - Wyt ti’n cofio Macsen? 04.05.2023

disgrifiad

Pennod 8 - Dau Frawd a Thair Gormes 27.04.2023

Cyfranc Lludd a Llefelys sydd dan sylw yn y bennod hon. Er ei bod hi’n chwedl fer iawn, mae’n stori fawr, ac mae’n bosib ei gweld hi fel pont rhwng chwedloniaeth Gymreig a hanesyddiaeth Gymreig. Wrth fwrw golwg ffantasïol ar hanes, mae’n mynd i’r afael â’r thema honno sy’n ganolog i hunaniaeth Gymreig, sef y ffaith bod y Cymry’n ddisgynyddion i drigolion gwreiddiol yr ynys cyn i genhedloedd estron...

Pennod 7 - Trafferthion Teuluol Math 20.04.2023

Trafodwn yn y bennod hon yr olaf o Bedair Cainc y Mabinogi, sef chwedl ‘Math fab Mathonwy’. Edrychwn ar realiti hyll Cymru’r Oesau Canol a nodi bod aelodau o’i deulu’i hun yn gymaint o fygythiad i dywysog Cymreig na gelynion posibl y tu hwnt i ffiniau’i deyrnas. Er gwaethaf holl hud a lledrith y stori hon, awgrymwn y gellir ei dadansoddi yng nghyd-destun y realiti hyll hwnnw; mae Math fab Mathonwy...

Pennod 6 - Manawydan a Seiliau Cymdeithas 13.04.2023

Trafodwn Drydedd Gainc y Mabinogi yn y bennod hon, chwedl ‘Manawydan fab Llŷr’, stori sy’n wrthbwynt i’r ceinciau eraill ac sydd â gwrthgyferbyniadau trawiadol mewnol. Yn hytrach na brwydrau mawr epig a champau arwrol, yr hyn a gawn yn y stori hon yw myfyrdodau ynghylch seiliau cymdeithas a hanfod gwareiddiad. Mae’r testun hwn yn hollbwysig hefyd er mwyn deall mai cyfanwaith yw Pedair Cainc y Mabi...

Pennod 5 - Chwedl Branwen 06.04.2023

Awgrymwn yn y bennod hon ei bod hi’n bosib darllen yr Ail Gainc fel beirniadaeth gymdeithasol radicalaidd. Ar ddechrau Chwedl Branwen ferch Llŷr daw Matholwch, Brenin Iwerddon, i ‘erchi’ Branwen, gan feddwl y bydd y briodas frenhinol yn sylfaen i gynghrair gwleidyddol a all wneud y ddwy ynys yn ‘gadarnach’. Ond yn hytrach na heddwch a chynnydd, mae uniad Branwen a Matholwch yn esgor ar ryfel apoca...

Pennod 4 - Chwedl Pwyll Pendefig Dyfed 30.03.2023

Yn y bennod hon trafodwn gainc gyntaf ‘Pedair Cainc y Mabinogi’, Chwedl Pwyll Pendefig Dyfed. Er bod Pwyll ‘yn arglwydd ar saith cantref Dyfed’, fel y dywed brawddeg gyntaf y chwedl , nid oes ganddo lawer o ddoethineb. Yn wir, mae’n bosibl ei gweld hi fel stori am sut mae Pwyll yn dysgu bod yn bwyllog. Mae’n ymddwyn mewn modd byrbwyll nifer o weithiau ac mae’n rhaid i gymeriadau eraill – Arawn, br...

Pennod 3 - Y Chwedlau Brodorol 23.03.2023

Y Mabinogion sydd dan sylw yn y bennod hon, ond rhaid egluro’n gyntaf nad dyna’r gair gorau i ddisgrifio’r straeon Cymraeg canoloesol hyn! Mae’n debyg mai William Owen Pughe (1759-1835) a fathodd y label, ond oherwydd cyfieithiadau Saesneg yr Arglwyddes Charlotte Guest (1812-1895) y daeth yn arferol i bobl led-led y byd gyfeirio at y chwedlau hyn fel The Mabinogion. Mae felly’n arfer Saesneg ddiwe...

Pennod 2 - Y Llawysgrif Gymraeg gyntaf (sydd wedi goroesi!) 16.03.2023

Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, hanes ysgrifennu Cymraeg a natur llawysgrifau: Dechreua’r bennod hon drwy ystyried rhai o’r enghreifftiau cynharaf o ysgrifen Gymraeg sydd wedi goroesi, a nodi bod yr iaith wastad wedi bod yn gyfrwng i drafod dysg o wahanol fathau, gan gynnwys gwyddoniaeth. Trafodwn dechnoleg ysgrifennu’r cyfnod canoloesol, gan bwysleisio bod y llawysgrifau’n bethau prin, breg...

Pennod 1 - Yn y dechreuad yr oedd... Y Gododdin (wel, efallai...) 09.03.2023

Yn y bennod gyntaf hon trafodwn y gerdd (neu’r casgliad o gerddi cysylltiedig) a briodolir i’r bardd Aneirin, gan archwilio dadleuon sy’n cefnogi – ac sy’n herio – y gred gyffredin mai’r farddoniaeth hon yw’r testun llenyddol Cymraeg cynharach sydd wedi goroesi. A yw’n bosib bod gwaith llenyddol am frwydr a ymladdwyd tua’r flwyddyn 600 yn yr Hen Ogledd (sef de’r Alban a gogledd Lloegr) wedi’i gadw...

Treilyr Yr Hen Iaith 28.02.2023

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: https://twitter.com/YrHenIaith Ac hefyd, os dych ch...

Listen to the Yr Hen Iaith podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.