Mimosa Cymru

Yr Hen Iaith

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.

No dejes de visitar la web del podcast y apoyar a su creador: podcasts.apple.com

Autor

Mimosa Cymru

Categoría

Education

Web del podcast

podcasts.apple.com

Último episodio

5 de nov. de 2026

¿Dónde escuchar?

Podcasts en la app Replaio Radio Muy pronto

Los podcasts llegarán muy pronto a la app. Instálala ahora y sé el primero en descubrir una forma totalmente nueva de vivir los podcasts

Descárgala en Google Play Instálala gratis Android casi 10 M de descargas · valoración de 4,7+ iOS muy pronto

Episodios

Pennod 99 - Breuddwyd Cenedlaetholwr wrth ei Ewyllys: Emrys ap Iwan 05.11.2026

Gan barhau â’n pwyslais diweddar ar lenyddiaeth y 1890au a’r cysylltiad rhwng llenorion Cymraeg y cyfnod hwnnw a gwleidyddiaeth genedlaetholgar, edrychwn ar Emrys ap Iwan y tro hwn. Byddai T. Gwynn Jones ysgrifennu cofiant iddo yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, ac byddai’r llyfr hwnnw’n dylanwadu’n drwm ar y genhedlaeth nesaf o genedlaetholwyr Cymreig, ond canolbwyntiwn ar waith llenyddol Emrys ap...

Pennod 98 - O. M. Edwards 22.10.2026

Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y...

Pennod 97 - Iwtopia Bardd a Beirniadaeth Ysgolhaig: John Morris-Jones 08.10.2026

Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â...

Pennod 96 - Fflangell Elphin: Barddoniaeth a Beirniadaeth Lenyddol yn y 1890au 24.09.2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895. Ystyriwn feirniadaeth afieithus Elphin wrth iddo fflangellu’r ‘Bardd Newydd’ a nodi bod ganddo bwyntiau difrifol iawn er gwaethaf ei ormodiaeth ddychanol. Cydymdeimlwn â dwy ochr y ddadl lenyddol hon ac awgrymwn ei bod yn fodd i bwyso a mesur cyflwr barddoniaeth Gymra...

Pennod 95 - ‘A Natur sy’n canu ei hanthem i mi’: Islwyn a’i ‘Storm’ 10.09.2026

Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’. Yn ôl Glyn Tegai Hughes, hwn oedd bardd Cymraeg gorau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond er i Islwyn ennill enw fel bardd o bwys yn ystod ei oes trwy gystadlu’n aml mewn eisteddfodau ac ati, nid oes llawer sy’n arbennig am yr holl farddoniaeth eisteddfodol hon. Mae’r bardd hwn yn haeddu lle anrhydeddus yn h...

Pennod 94 - Profedigaethau Enoc Huws: Daniel Owen (rhan 2) 27.08.2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws. Dechreuwn gyda brawddeg agoriadol y nofel – o bosibl y frawddeg enwocaf yn holl hanes ffuglen Gymraeg – ac ystyried arwyddocâd y feirniadaeth gymdeithasol y mae’n gerbyd iddi. Dyma’r nofelydd o’r Wyddgrug ar ei orau, ac yntau’n awdur a oedd yn ddigon dewr ac yn ddigon hyderus i edrych yn feirniadol ar e...

Pennod 93 - ‘Cymreigrwydd ei Gymeriadau’: Daniel Owen (rhan 1) 13.08.2026

Wedi ystyried gwrthwynebiad rhai Cymry Ymneilluol i’r nofel mewn ambell bennod ddiweddar, cawn yn y bennod hon gyfle i ddechrau trafod Daniel Owen, nofelydd Cymraeg mwyaf llwyddiannus y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nodwn fod ei waith wedi’i wreiddio yng nghymdeithas ddiwydiannol sir y Fflint a bod Methodistiaeth Galfinaidd yn ddylanwad mawr arno hefyd, er iddo ysgrifennu ffuglen ddychanol sy’n fei...

Pennod 92 - Dechreuadau Llenyddiaeth Gymraeg Patagonia 24.07.2026

A ninnau wedi rhoi sylw i lenyddiaeth Gymraeg Gogledd America mewn cwpl o benodau cynharach, dyma gyfle i ehangu’r drafodaeth ac ystyried y modd yr ehangodd y ‘diaspora’ Cymraeg wrth i’r Wladfa – neu’r ‘Wladychfa’ – ym Mhatagonia gael ei chreu. Ond dechreuwn trwy bwysleisio’r cysylltiad rhwng y profiadau Cymreig a Chymraeg yng Ngogledd America a hanes cynnar Y Wladfa trwy graffu ar gyfnod Michael...

Pennod 91 - Cranogwen 09.07.2026

Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar Sarah Jane Rees (1839-1916), y fenyw amryddawn o Langrannog a fabwysiadodd yr enw Cranogwen. Trafodwn ychydig o’i hanes rhyfeddol, gan gynnwys ei hymwneud â diwydiant morwrol Cymru, a’r ffaith iddi herio a goresgyn rhagfarn yn sawl maes mewn cymdeithas a oedd yn rhywiaethol iawn. Edrychwn ar ddetholiad o’i cherddi, gan ddechrau â’r bryddest ‘Y Fodrwy Briodoasol’...

Pennod 90 - Aelwyd F’Ewythr Robert 25.06.2026

Dyma ni’n parhau i drafod Gwilym Hiraethog yn y bennod hon, gan graffu ar garreg filltir o lyfr a gyhoeddodd yn 1853, Aelwyd F’Ewythr Robert neu Hanes Caban F’Ewythr Tomos. Byddai rhyw wyth trosiad Cymraeg o nofel wrthgaethiwol ddylanwadol Harriet Beecher Stowe, Uncle Tom’s Cabin, yn ymddangos erbyn canol y 1850au, ond cyfrol Gwilym Hiraethog yw’r mwyaf diddorol o safbwynt llenyddoldeb, uchelgais...

Pennod 89 - Gwilym Hiraethog 11.06.2026

Pe bai’n rhaid dewis un llenor yn unig wrth drafod holl lenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Jerry Hunter yn dweud y byddai’n dewis Gwilym Hiraethog (1802-1883). Ganed William Rees mewn teulu o amaethwyr cymharol dlawd ym mhlwyf Llansannan, sir Ddinbych. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd, ond eto byddai’r dyn rhyfeddol hwn yn cyfrannu mewn llawer iawn o wahanol ffyrdd at fy...

Pennod 88 - ‘Chwaeth bresennol y Bobl’: Ceiriog 29.05.2026

Trafodwn John Ceiriog Hughes (1832-1887) yn y bennod hon. Ceiriog o bosib oedd y bardd Cymraeg mwyaf poblogaidd yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wrth graffu ar y modd yr aeth ati i greu a chyflwyno delweddau ‘derbynol’ o Gymru a’r Cymry, nodwn fod ei waith yn enghraifft dda o’r effaith andwyol a gafodd ‘y Llyfrau Gleision’ ar y traddodiad llenyddol Cymraeg. Dyfynnwn Hywel Teifi E...

Pennod 87 - ‘Pur fel y Dur’: Y Llyfrau Gleision a Llên Benywod 14.05.2026

Dyma ni’n parhau i drafod effaith y ‘Llyfrau Gleision’ ar lenyddiaeth Gymraeg, gan ganolbwynio’n benodol ar lais llenyddol y Gymraes y tro hwn. Mae teitl y bennod hon yn deyrnged i astudiaeth ardderchog Jane Aaron, Pur fel y Dur[:] Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, cyfrol sydd, yng ngeiriau’i hawdur, yn archhwilio’r modd yr ‘ymrithiodd arwres newydd’ ‘o burdan enllib y Sais’...

Pennod 86 - R. J. Derfel a Brad y Llyfrau Gleision (neu ‘Ffeithiau Ffrwydrol am Landderfel’!) 30.04.2026

(neu, a defnyddio teitl arall a awgrymodd Richard Wyn Jones, ‘Ffeithiau Ffrwydrol am Landderfel’!) Trafodwn yn gyntaf hanes y ‘Llyfrau Gleision’ a gyhoeddwyd y 1847. Teitl Saesneg cywir yr adroddiadau hyn yw The Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales. Dyma’r cyfrolau drwgenwog sy’n pardduo iaith, moesau a diwylliant Cymru. Canolbwyntiwn wedyn ar waith y bardd...

Pwnnod 85 - Rhannu ‘Trysorau Gwerthfawr’: Dechreuadau gwasg gyfnodol Gymraeg America 16.04.2026

Dyma’r ail bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn ystod cynhadledd NAASWCH yn Rio Grande, Ohio. Trafodwn hanes cynnar gwasg gyfnodol Gymraeg yr Unol Daleithiau (ac wrth nodi ymlyniadau crefyddol rhai o’r cyfnodolion hyn mae Richard Wyn Jones yn amlygu enwadaeth annisgwyl!). Awn ati wedyn i ganolbwyntio ar y cyfnodolyn Cymraeg Americanaidd cyntaf i lwyddo, Y Cyfaill o’r Hen Wlad, gan edrych...

Pennod 84 - Yr Hen Bersoniaid Llengar, Ieuan Glan Geirionydd ac Alun 02.04.2026

Wrth i ni barhau i ystyried barddoniaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nodwn yn gyntaf fod barn ysgolheigion diweddarach yn negyddol iawn amdani ar y cyfan. Cawn gyfle felly i ofyn cwestiwn cyffredinol: ai sothach sentimental a gwaith gorgrefyddol sych yw swmp barddoniaeth y cyfnod? Awn ymlaen i drafod ‘yr hen bersoniaid llengar’, Anglicaniaid a oedd yn hyrwyddo diwylliant Cymraeg yn egnï...

Pennod 83 - Awdl Eisteddfodol a Phroto-Nofel: Cawrdaf 19.03.2026

Trafodwn William Ellis Jones (1795-1848) yn y bennod hon. Ac yntau’n frodor o Abererch, Eifionydd, cymerodd enw’r sant y mae’r eglwys leol wedi’i chysegru iddo – Cawrdaf – yn enw barddol. Gweithiai fel argraffydd ac arlunydd, ond canolbwyntiwn wrth reswm ar ei weithgareddau llenyddol. Cyfansoddai nifer o awdlau ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol, gan gynnwys ‘Hiraeth Cymro am ei Wlad’. Er na lwyd...

Pennod 82 - Eben Fardd 05.03.2026

Canolbwyntiwn ar Ebenezer Thomas (1802-1863) yn y bennod hon. Mae trafod dechrau’i yrfa lenyddol gynnar yn gyfle i ni ystyried diwylliant barddol Cymraeg hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyffredinol. Bu rhwydwaith o gymdeithasau Cymraeg yn ei fro enedigol, Eifionydd, yn fodd i’r Ebenezer ifanc hogi’i grefft, dod i adnabod beirdd adnabyddus yr ardal megis Robert ap Gwilym Ddu a Dewi W...

Pennod 81 - ‘Gwybodaeth yn amlhau’: Y Wasg Gyfnodol Gymraeg ar ddechrau’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’ 19.02.2026

A ninnau wedi cyrraedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuwn drafod rhai o’r trawsffurfiadau a effeithiai ar ddiwylliant Cymraeg y cyfnod. Diwydiannu, tŵf y boblogaeth, datblygiadau technolegol, balchder yn yr ymerodraeth Brydeinig – byddai’r holl ffactorau hyn yn cyflyru llenyddiaeth Gymraeg wrth i’r ganrif fynd rhagddi. Ond canolbwyntiwn yn y bennod hon ar un peth sydd o’r pwys mwyaf i’r rhai...

Pennod 80 - Ann Griffiths (1776-1805) 06.02.2026

Tan yn ddiweddar, Ann Griffiths oedd yr unig fardd benywaidd a welid mewn canonau llenyddol Cymraeg. Nid yw’n syndod felly i Richard Wyn Jones ddweud ei fod yn lled gyfarwydd â hi wrth i ni ddechrau trafod yr emynyddes enwog yn y bennod hon. Ond mae Richard yn dysgu’n fuan fod agweddau syfrdanol ar hanes y brydyddes ryfeddol hon nad oedd yn gwybod amdanynt – gan gynnwys hanes ei henw! Trafodwn gyd...

Pennod 79 - Bardd Rhyddid ac Arch-ffugiwr: Iolo Morganwg 22.01.2026

Edrychwn yn y bennod hon ar un o gymeriadau mwyaf enigmatig y traddodiad llenyddol Cymraeg (ac efallai un o gymeriadau mwyaf enigmatig hanes Cymru yn gyffredinol), sef Edward Williams neu Iolo Morganwg (1747-1826). Ystyriwn ei radicaliaeth wleidyddol gan ei chysylltu â rhai o’i gerddi gwreiddiol. Talwn deyrnged i’w gyfraniadau diwylliannol a’i allu ysgolheigiaidd. Ond, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni...

Pennod 78 - Jac Glan-y-Gors 08.01.2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod John Jones (1766-1821), cymeriad amryddawn a adwaenir yn well heddiw fel Jac Glan-y-Gors. Yn wreiddiol o Gerrigydrudion, sir Ddinbych, treuliodd Jac y rhan fwyaf o’i oes yn Llundain. Aeth yn rheolwr ac efallai’n berchennog ar sawl tafarn yn y ddinas ac roedd yn chwarae rhan amlwg mewn dwy o gymdeithasau Cymreig Llundain – y Gwyneddigion a’r Cymreigyddion. Roed...

Pennod 77 - Marged Dafydd (c.1700-c.1785) 18.12.2025

Cawn gyfle yn y bennod hon i ystyried dwy wedd ar yrfa lenyddol Marged Dafydd. Yn enedigol o’r Coetgae-du ym mhlwyf Trawsfynydd, cafodd fywyd hir a chysegrodd lawer iawn o’i hamser i ddiogelu ac astudio barddoniaeth Gymraeg. Creodd nifer o lawysgrifau swmpus sy’n dangos ôl meddwl ysgolheigiaidd, a diolch iddi hi mae rhai cerddi Cymraeg gan ferched eraill wedi goroesi. Roedd hefyd yn fardd yn ei ha...

Pennod 76 - Angharad James 04.12.2025

Mae crybwyll y cysylltiadau rhwng Angharad James a Marged Dafydd yn fodd i ni ystyried y ffaith mai dim ond yn ystod y degawdau diwethaf y mae’r byd academaidd Cymraeg wedi dechrau rhoi’r sylw dyledus i farddoniaeth Gymraeg gan ferched. Canolbwyntiwn wedyn ar waith Angharad James (1677- 1749), Cymraes amryddawn o Ddyffryn Nantlle a enillodd enw iddi’i hun fel telynores, bardd a chopïydd llawysgrif...

Pennod 75 - ‘Bro coedydd, gelltydd gwylltion’: Dechreuadau Llenyddiaeth Gymraeg America 20.11.2025

Bydd dilynwyr Yr Hen Iaith yn gyfarwydd iawn â’r modd y mae Richard Wyn Jones yn agor pob pennod trwy sôn am ‘hogyn o Ohio’ sy’n dysgu ‘hogyn o sir Fôn’ am hanes llenyddiaeth ei iaith ei hun. Dyma bennod a recordiwyd yn Ohio, a hynny o flaen cynulleidfa fyw fel rhan o gynhadledd NAASWCH eleni. Gan ein bod ni wedi gorffen y bennod ddiwethaf trwy sôn am ddiwedd oes Goronwy Owen yn Virginia, ailgydiw...

Escucha el podcast Yr Hen Iaith en Replaio

Radio y podcasts en una sola app - gratis y sin registro. Instálala hoy y no te pierdas el estreno

Descárgala en Google Play

Replaio no es editor de podcasts; los nombres de los programas, las portadas y el audio pertenecen a sus autores y se distribuyen a través de canales RSS públicos