Mimosa Cymru
Yr Hen Iaith
Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.
Author
Mimosa Cymru
Category
Podcast website
Latest episode
Jul 9, 2026
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Pennod 91 - Cranogwen 09.07.2026 42:34
Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar Sarah Jane Rees (1839-1916), y fenyw amryddawn o Langrannog a fabwysiadodd yr enw Cranogwen. Trafodwn ychydig o’i hanes rhyfeddol, gan gynnwys ei hymwneud â diwydiant morwrol Cymru, a’r ffaith iddi herio a goresgyn rhagfarn yn sawl maes mewn cymdeithas a oedd yn rhywiaethol iawn. Edrychwn ar ddetholiad o’i cherddi, gan ddechrau â’r bryddest ‘Y Fodrwy Briodoasol’...
Pennod 90 - Aelwyd F’Ewythr Robert 25.06.2026 39:29
Dyma ni’n parhau i drafod Gwilym Hiraethog yn y bennod hon, gan graffu ar garreg filltir o lyfr a gyhoeddodd yn 1853, Aelwyd F’Ewythr Robert neu Hanes Caban F’Ewythr Tomos. Byddai rhyw wyth trosiad Cymraeg o nofel wrthgaethiwol ddylanwadol Harriet Beecher Stowe, Uncle Tom’s Cabin, yn ymddangos erbyn canol y 1850au, ond cyfrol Gwilym Hiraethog yw’r mwyaf diddorol o safbwynt llenyddoldeb, uchelgais...
Pennod 89 - Gwilym Hiraethog 11.06.2026 34:04
Pe bai’n rhaid dewis un llenor yn unig wrth drafod holl lenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Jerry Hunter yn dweud y byddai’n dewis Gwilym Hiraethog (1802-1883). Ganed William Rees mewn teulu o amaethwyr cymharol dlawd ym mhlwyf Llansannan, sir Ddinbych. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd, ond eto byddai’r dyn rhyfeddol hwn yn cyfrannu mewn llawer iawn o wahanol ffyrdd at fy...
Pennod 88 - ‘Chwaeth bresennol y Bobl’: Ceiriog 29.05.2026 26:45
Trafodwn John Ceiriog Hughes (1832-1887) yn y bennod hon. Ceiriog o bosib oedd y bardd Cymraeg mwyaf poblogaidd yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wrth graffu ar y modd yr aeth ati i greu a chyflwyno delweddau ‘derbynol’ o Gymru a’r Cymry, nodwn fod ei waith yn enghraifft dda o’r effaith andwyol a gafodd ‘y Llyfrau Gleision’ ar y traddodiad llenyddol Cymraeg. Dyfynnwn Hywel Teifi E...
Pennod 87 - ‘Pur fel y Dur’: Y Llyfrau Gleision a Llên Benywod 14.05.2026 24:14
Dyma ni’n parhau i drafod effaith y ‘Llyfrau Gleision’ ar lenyddiaeth Gymraeg, gan ganolbwynio’n benodol ar lais llenyddol y Gymraes y tro hwn. Mae teitl y bennod hon yn deyrnged i astudiaeth ardderchog Jane Aaron, Pur fel y Dur[:] Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, cyfrol sydd, yng ngeiriau’i hawdur, yn archhwilio’r modd yr ‘ymrithiodd arwres newydd’ ‘o burdan enllib y Sais’...
Pennod 86 - R. J. Derfel a Brad y Llyfrau Gleision (neu ‘Ffeithiau Ffrwydrol am Landderfel’!) 30.04.2026 37:01
(neu, a defnyddio teitl arall a awgrymodd Richard Wyn Jones, ‘Ffeithiau Ffrwydrol am Landderfel’!) Trafodwn yn gyntaf hanes y ‘Llyfrau Gleision’ a gyhoeddwyd y 1847. Teitl Saesneg cywir yr adroddiadau hyn yw The Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales. Dyma’r cyfrolau drwgenwog sy’n pardduo iaith, moesau a diwylliant Cymru. Canolbwyntiwn wedyn ar waith y bardd...
Pwnnod 85 - Rhannu ‘Trysorau Gwerthfawr’: Dechreuadau gwasg gyfnodol Gymraeg America 16.04.2026 36:56
Dyma’r ail bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn ystod cynhadledd NAASWCH yn Rio Grande, Ohio. Trafodwn hanes cynnar gwasg gyfnodol Gymraeg yr Unol Daleithiau (ac wrth nodi ymlyniadau crefyddol rhai o’r cyfnodolion hyn mae Richard Wyn Jones yn amlygu enwadaeth annisgwyl!). Awn ati wedyn i ganolbwyntio ar y cyfnodolyn Cymraeg Americanaidd cyntaf i lwyddo, Y Cyfaill o’r Hen Wlad, gan edrych...
Pennod 84 - Yr Hen Bersoniaid Llengar, Ieuan Glan Geirionydd ac Alun 02.04.2026 29:54
Wrth i ni barhau i ystyried barddoniaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nodwn yn gyntaf fod barn ysgolheigion diweddarach yn negyddol iawn amdani ar y cyfan. Cawn gyfle felly i ofyn cwestiwn cyffredinol: ai sothach sentimental a gwaith gorgrefyddol sych yw swmp barddoniaeth y cyfnod? Awn ymlaen i drafod ‘yr hen bersoniaid llengar’, Anglicaniaid a oedd yn hyrwyddo diwylliant Cymraeg yn egnï...
Pennod 83 - Awdl Eisteddfodol a Phroto-Nofel: Cawrdaf 19.03.2026 31:54
Trafodwn William Ellis Jones (1795-1848) yn y bennod hon. Ac yntau’n frodor o Abererch, Eifionydd, cymerodd enw’r sant y mae’r eglwys leol wedi’i chysegru iddo – Cawrdaf – yn enw barddol. Gweithiai fel argraffydd ac arlunydd, ond canolbwyntiwn wrth reswm ar ei weithgareddau llenyddol. Cyfansoddai nifer o awdlau ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol, gan gynnwys ‘Hiraeth Cymro am ei Wlad’. Er na lwyd...
Pennod 82 - Eben Fardd 05.03.2026 33:33
Canolbwyntiwn ar Ebenezer Thomas (1802-1863) yn y bennod hon. Mae trafod dechrau’i yrfa lenyddol gynnar yn gyfle i ni ystyried diwylliant barddol Cymraeg hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyffredinol. Bu rhwydwaith o gymdeithasau Cymraeg yn ei fro enedigol, Eifionydd, yn fodd i’r Ebenezer ifanc hogi’i grefft, dod i adnabod beirdd adnabyddus yr ardal megis Robert ap Gwilym Ddu a Dewi W...
Pennod 81 - ‘Gwybodaeth yn amlhau’: Y Wasg Gyfnodol Gymraeg ar ddechrau’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’ 19.02.2026 30:14
A ninnau wedi cyrraedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuwn drafod rhai o’r trawsffurfiadau a effeithiai ar ddiwylliant Cymraeg y cyfnod. Diwydiannu, tŵf y boblogaeth, datblygiadau technolegol, balchder yn yr ymerodraeth Brydeinig – byddai’r holl ffactorau hyn yn cyflyru llenyddiaeth Gymraeg wrth i’r ganrif fynd rhagddi. Ond canolbwyntiwn yn y bennod hon ar un peth sydd o’r pwys mwyaf i’r rhai...
Pennod 80 - Ann Griffiths (1776-1805) 06.02.2026 28:03
Tan yn ddiweddar, Ann Griffiths oedd yr unig fardd benywaidd a welid mewn canonau llenyddol Cymraeg. Nid yw’n syndod felly i Richard Wyn Jones ddweud ei fod yn lled gyfarwydd â hi wrth i ni ddechrau trafod yr emynyddes enwog yn y bennod hon. Ond mae Richard yn dysgu’n fuan fod agweddau syfrdanol ar hanes y brydyddes ryfeddol hon nad oedd yn gwybod amdanynt – gan gynnwys hanes ei henw! Trafodwn gyd...
Pennod 79 - Bardd Rhyddid ac Arch-ffugiwr: Iolo Morganwg 22.01.2026 32:17
Edrychwn yn y bennod hon ar un o gymeriadau mwyaf enigmatig y traddodiad llenyddol Cymraeg (ac efallai un o gymeriadau mwyaf enigmatig hanes Cymru yn gyffredinol), sef Edward Williams neu Iolo Morganwg (1747-1826). Ystyriwn ei radicaliaeth wleidyddol gan ei chysylltu â rhai o’i gerddi gwreiddiol. Talwn deyrnged i’w gyfraniadau diwylliannol a’i allu ysgolheigiaidd. Ond, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni...
Pennod 78 - Jac Glan-y-Gors 08.01.2026 27:21
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod John Jones (1766-1821), cymeriad amryddawn a adwaenir yn well heddiw fel Jac Glan-y-Gors. Yn wreiddiol o Gerrigydrudion, sir Ddinbych, treuliodd Jac y rhan fwyaf o’i oes yn Llundain. Aeth yn rheolwr ac efallai’n berchennog ar sawl tafarn yn y ddinas ac roedd yn chwarae rhan amlwg mewn dwy o gymdeithasau Cymreig Llundain – y Gwyneddigion a’r Cymreigyddion. Roed...
Pennod 77 - Marged Dafydd (c.1700-c.1785) 18.12.2025 35:15
Cawn gyfle yn y bennod hon i ystyried dwy wedd ar yrfa lenyddol Marged Dafydd. Yn enedigol o’r Coetgae-du ym mhlwyf Trawsfynydd, cafodd fywyd hir a chysegrodd lawer iawn o’i hamser i ddiogelu ac astudio barddoniaeth Gymraeg. Creodd nifer o lawysgrifau swmpus sy’n dangos ôl meddwl ysgolheigiaidd, a diolch iddi hi mae rhai cerddi Cymraeg gan ferched eraill wedi goroesi. Roedd hefyd yn fardd yn ei ha...
Pennod 76 - Angharad James 04.12.2025 30:01
Mae crybwyll y cysylltiadau rhwng Angharad James a Marged Dafydd yn fodd i ni ystyried y ffaith mai dim ond yn ystod y degawdau diwethaf y mae’r byd academaidd Cymraeg wedi dechrau rhoi’r sylw dyledus i farddoniaeth Gymraeg gan ferched. Canolbwyntiwn wedyn ar waith Angharad James (1677- 1749), Cymraes amryddawn o Ddyffryn Nantlle a enillodd enw iddi’i hun fel telynores, bardd a chopïydd llawysgrif...
Pennod 75 - ‘Bro coedydd, gelltydd gwylltion’: Dechreuadau Llenyddiaeth Gymraeg America 20.11.2025 29:25
Bydd dilynwyr Yr Hen Iaith yn gyfarwydd iawn â’r modd y mae Richard Wyn Jones yn agor pob pennod trwy sôn am ‘hogyn o Ohio’ sy’n dysgu ‘hogyn o sir Fôn’ am hanes llenyddiaeth ei iaith ei hun. Dyma bennod a recordiwyd yn Ohio, a hynny o flaen cynulleidfa fyw fel rhan o gynhadledd NAASWCH eleni. Gan ein bod ni wedi gorffen y bennod ddiwethaf trwy sôn am ddiwedd oes Goronwy Owen yn Virginia, ailgydiw...
Pennod 74 - Hiraeth am Fôn: Goronwy Owen 06.11.2025 35:54
Caiff Richard Wyn Jones ragor o hanes llenyddol ei fro enedigol yn y bennod hon wrth i ni drafod Goronwy Owen, bardd enwocaf Ynys Môn. Awgrymwn fod delfrydau llenyddol cylch y Morrisiaid i’w gweld ar eu mwyaf eglur ym marddoniaeth ‘Goronwy Ddu’, gan fod ei feistrolaeth ar y mesurau caeth wedi gwireddu i raddaeth health yr awydd i ailafael yn safonau’r beirdd Cymraeg canoloesol. Ac wrth esbonio’r e...
Pennod 73 - Morrisiaid Môn 23.10.2025 31:25
Ac yntau’n hogyn o sir Fôn, mae Richard Wyn Jones yn ebychu ar ddechrau’r bennod hon na chlywodd ‘un sill’ am y brodyr llengar hyn o’r Ynys pan oedd yn yr ysgol. Dyma gyfle felly i unioni’r cam wrth i ni drafod y pedwar brawd o Bentrerianell, Llanfihangel Tre’r Beirdd. Yn ogystal â Lewis, Richard, William a Siôn Morris, nodwn fod cylch ehangach y Morrisiaid yn cynnwys cymeriadau fel Evan Evans (Ie...
Pennod 72 - Y Ffŵl a’r Pregethwr: Yr Anterliwt (rhan 4) 09.10.2025 26:12
Yn bell o fod yn unffurf, roedd llenyddiaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrif yn faes ymrafael. Rydym ni’n archwilio’r canfyddiad hwnnw yn y bennod hon wrth gloi ein trafodaeth estynedig ar yr anterliwt a’i chyd-destun(au). A ninnau wedi ystyried ymosodiadau’r diwygwyr crefyddol ar y diwylliant traddodiadol hwn mewn pennod gynharach, dyma gyfle i weld yr anterliwtwyr yn taro’n ôl. Craffwn ar ddwy anter...
Pennod 71 - Ffŵl heb Ffiniau: Yr Anterliwt (rhan 3) 25.09.2025 31:39
Cewch gyfle yn y bennod hon i gyfarfod â Gwagsaw, Syr Caswir, Ffowcyn Gnuchlyd a rhai o ffyliaid eraill yr anterliwtiau. Wrth graffu ar rôl y ffŵl, nodwn fod ganddo nifer o swyddogaethau mewn anterliwt draddodiadol. Yn gyntaf, mae’n agor y chwarae â’i gastiau doniol a’i eiriau dychanol er mwyn ceisio denu cynulleidfa. Awn ati’n fwy athronyddol i awgrymu y gellid gweld gwaith y ffŵl ar ddechrau ant...
Pennod 70 - ‘Dynion dawnus yn dilyn chw’ryddiaeth’: Yr Anterliwt (rhan 2) 11.09.2025 26:48
Canolbwyntiwn yn y bennod hon ar yr actorion a oedd yn perfformio mewn anterliwtiau, gan graffu ar nifer o destunau llenyddol sy’n taflu goleuni ar eu gwaith a’u hunaniaeth. Yn debyg i gwmni drama heddiw, roedd cwmni anterliwt yn y ddeunawfed ganrif yn teithio o le i le ac yn llwyfannu perfformiadau mewn nifer o wahanol gymunedau. Dengys y dystiolaeth mai ‘llanciau’ oedd yr actorion hyn, dynion if...
Pennod 69 - Maswedd a Moeswers: Yr Anterliwt ( rhan 1) 28.08.2025 28:05
Dyma’r gyntaf mewn cyfres o benodau sy’n archwilio gwahanol agweddau ar draddodiad yr anterliwt. Mae Jerry Hunter newydd orffen ysgrifennu llyfr am y pwnc ac “yn llosgi am y stwff `ma”, chwedl ei gyd-gyflwynydd, ac erbyn diwedd y bennod hon mae Richard Wyn Jones yntau’n “ysgwyd ei gynffon” gyda chyffro. Awn ati i ddiffinio’r anterliwt yn fras, gan egluro’i bod hi’n ddrama fydryddol gyda cherddoria...
Pennod 68 - Baledi’r Ddeunawfed Ganrif 14.08.2025 28:01
Cewch gyflwyniad yn y bennod hon i faledi’r ddeunawfed ganrif, un o ffurfiau llenyddol Cymraeg mwyaf poblogaidd y cyfnod. Yn wir, o ystyried y nifer uchel ohonynt sydd wedi goroesi, mae’n bosib dadlau mai’r faled oedd ffurf fwyaf poblogaidd y ddeunawfed ganrif. Ar ôl ymgodymu ychydig â’r diffiniad, awgrymwn mai’r cysylltiad rhwng y math hwn o gerdd a’r wasg argraffu yw’r ffordd orau o ddiffinio’r...
Pennod 67 - Ochr Arall y Geiniog 31.07.2025 28:36
Mae’r penodau diwethaf wedi canolbwyntio ar y Diwygiad Methodistiaidd a’r hyn a enillwyd yn sgil y trawsffurfiad crefyddol, cymdeithasol a llenyddol hwnnw, gan edrych yn benodol ar waith William Williams, Pantycelyn. Edrychwn yn y bennod hon ar yr hyn a gollwyd wrth i Ymneilltuaeth Gymreig wthio rhai agweddau traddodiadol ar ddiwylliant a llenyddiaeth Cymru i’r cysgodion. Awgrymwn y dylid ystyried...
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.