Mimosa Cymru

Yr Hen Iaith

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.

Author

Mimosa Cymru

Category

Education

Podcast website

podcasts.apple.com

Latest episode

Jul 9, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Pennod 66 - Bardd Diofal?: Williams Pantycelyn (rhan 3) 17.07.2025

Rydym ni’n gorffen trafod yr emynydd mawr yn y bennod hon trwy ofyn cwestiwn a fydd o bosib yn annisgwyl i’r rhan fwyaf o’n dilynwyr, sef a oedd Pantycelyn yn fardd diofal? Dyfynnwn nifer o ysgolheigion o’r ugeinfed ganrif sy’n awgrymu hyn, gan gynnwys Saunders Lewis a ddywedodd nad oedd William Williams yn parchu geiriau o gwbl. Ac wrth ystyried perthynas y bardd â’r iaith Gymraeg awn ni i drafod...

Pennod 65 - ‘Pererin Wyf’: Williams Pantycelyn (rhan 2) 03.07.2025

Ymdreiddiwn ychydig yn ddyfnach i emynau Pantycelyn yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar un thema. Ar ôl trafod yr emyn poblogaidd sy’n dechrau ‘Pererin wyf mewn anial dir’, nodwn nad dyna oedd yr unig dro na’r tro cyntaf i Williams ddechrau cyfansoddiad gyda’r ddau air hyn. Ar ôl dangos y modd y bu iddo ailgylchu elfennau o’i waith ei hun trwy gydol ei yrfa lenyddol faith, awn ati i ystyried ysty...

Pennod 64 - ‘Williams biau’r Emyn’: Williams Pantycelyn (rhan 1) 19.06.2025

Yn y bennod hon, dechreuwn drafod prifardd y mudiad Methodistaidd Cymraeg, William Williams, Pantycelyn (1717-1791). Er ein bod ni’n crybwyll ychydig o hanes ei fywyd (gan gynnwys ei dröedigaeth), oedwn i bwysleisio arwyddocâd ei waith llenyddol a chydsynio â’r rhai sy’n gweld emynau cynnar Pantycelyn fel dechrau pennod newydd yn hanes barddoniaeth Gymraeg. Dyma fath cwbl newydd o ganu mawl! Craff...

Pennod 63 - Dechrau Cyfnod Newydd: Y Diwygiad Methodistaidd 12.06.2025

Croeso i gyfres 3 Yr Hen Iaith! Agorwn y gyfres newydd hon trwy drafod dechreuadau’r Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, mudiad a fyddai’n cael effaith anferthol ar y traddodiad llenyddol Cymraeg. Nodwn fod y mudiad crefyddol wedi dod i Gymru ar yr union adeg ag yr oedd yn troi’n fudiad trawsatlantig, gydag un o’r arweinwyr Seisnig, George Whiftield, yn cael ei gofio gan rai fel ‘tad ysbrydol Amer...

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Branwen ferch Llŷr 01.05.2025

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod ‘Ail Gainc y Mabinogi’, sef y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’. Rydym ni’n ystyried nifer o agweddau ar y stori gyffrous hon, gan ofyn cwestiynau diddorol am ei pherthynas â’r gymdeithas ganoloesol yr oedd yn perthyn iddi. Nodwn ei bod yn ei hanfod yn stori am briodas frenhinol, ac awgrymwn ei bod yn bosib ei darllen fel testun radicalaidd sy’n mynd i’r afael â’r w...

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Llyfr Gwyn Rhydderch 01.05.2025

Mae’r bennod nesaf yn canolbwyntio ar y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’ (neu ‘Ail Gainc y Mabinogi’). Rydym ni’n paratoi ar gyfer y drafodaeth honno yn y bennod hon trwy edrych ar y llawysgrif gynharaf sy’n cynnwys copi cyflawn o’r chwedl, sef Llyfr Gwyn Rhydderch. Crëwyd y llawysgrif hon tua’r flwyddyn 1350 gan nifer o fynaich a oedd yn cydweithio ym mynachdy Ystrad Fflur yng Ngheredigion, a hynny, m...

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Trafferth mewn Tafarn 24.04.2025

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod cywydd hunan-ddychanol enwog Dafydd ap Gwilym. Dyma gerdd storïol ddoniol sy’n disgrifio ymdrech aflwyddiannus i gyfarfod â merch yn hwyr yn y nos, ac wrth adrodd y stori hon mae Dafydd yn dychanu’r union bersona barddol sy’n ganolog i gymaint o’i gywyddau. Ond nodwn fod themâu difrifol yma hefyd, er gwaethaf yr holl hwyl; mae’n bosibl dadlau bod y cywydd hwn...

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Mis Mai a Mis Tachwedd 24.04.2025

‘Mis Mai a Mis Tachwedd’ Trafodwn un o gerddi natur Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, sef y cywydd enwog sy’n cyferbynnu mis Mai a’r mis ‘dig du’. Gan ystyried dwy thema gysylltiedig sy’n ganolog i waith Dafydd, cariad a natur, nodwn fod y bardd yn croesawu dyfodiad mis Mai gan ei fod yn arwyddo dechrau haf – tymor sy’n caniatáu iddo gyfarfod â’i gariad(on). Craffwn ar y modd y mae Dafydd yn perso...

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Yr Wylan 24.04.2025

Edrychwn yn y bennod hon ar un o gywyddau llatai Dafydd ap Gwilym gan egluro ystyr y gair hwnnw – ‘llatai’ – a thrafod patrwm arferol cywyddau o’r fath. Dyma fath o gerdd sy’n cyfuno dwy hoff thema Dafydd, cariad a natur, gan roi rhwydd hynt i ddychymyg bardd wrth iddo bersonoli’r wylan a’i gwenieithu. Gwerthfawrogwn ddisgrifiadau hudolus Dafydd o’r aderyn a cheisiwn ddyfalu pa dref gastellog y cy...

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Marwnad Owain ab Urien 17.04.2025

Edrychwn yn y bennod hon ar un arall o gerddi Taliesin. Roedd y traddodiad mawl yn cynnwys canu clodydd i arweinwyr a fu farw, a dyma a gawn yn y gerdd bwerus hon. Nodwn fod ‘Marwnad Owain’ yn cyfeirio at y fuddugoliaeth sy’n cael ei dathlu yn y gerdd ‘Gwaith Argoed Llwyfain’; teimlir bod campau go iawn dyn go iawn yn cael eu coffáu yma. Yn ogystal â’i allu milwrol, mae’r bardd yn canmol haelioni...

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Gwaith Argoed Llwyfain 17.04.2025

Mae’r bennod hon yn trafod un o’r cerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin. Ystyr y gair ‘gwaith’ yw ‘brwydr’, ac er nad ydym yn gwybod ble yn union oedd Argoed Llwyfain, mae’n sicr bod y lleoliad yn yr Hen Ogledd a bod y frwydr hon wedi digwydd tua diwedd y chweched ganrif. Roedd yn fuddugoliaeth i’r Brythoniaid ac mae’r bardd yn canmol eu harweinwyr, Urien a’i fab, Owain. Trafodwn y wedd...

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Llyfr Taliesin 17.04.2025

Dyma ni’n cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o gerddi Taliesin, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy edrych ar Lyfr Taliesin ei hun, un o’r trysorau a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Crëwyd y llawysgrif ryfeddol hon yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond mae’n cynnwys casgliad o gerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin a oedd yn canu mawl i arweinwyr ei gymdeithas yn yr H...

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Canu Aneirin, Awdl 24 10.04.2025

Dyma ni’n trafod marwnad i un arall o ryfelwyr y Gododdin, Buddfan fab Bleiddfan. Nodwn mai ‘arwr’ yw’r gair cyntaf, gan grynhoi’n effeithiol y darlun a gawn yn y llinellau sy’n dilyn. Nodwn hefyd fod y gair olaf, ‘dihafarch’ (‘dewr’) yn crynhoi prif neges y farwnad. Yn debyg i’r awdl gyntaf, disgrifir marwolaeth mewn brwydr yma fel ‘bwydo brain’. Dyma farddoniaeth sy’n ein cymell i weld yr olygfa...

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Canu Aneirin, Awdl 1 10.04.2025

Trafodwn awdl gyntaf Y Gododdin yn y bennod hon, sef marwnad i Ywain, rhyfelwr a ddisgrifir fel ‘unig fab Marro’. Nodwn fod yr arddull yn foel iawn ond yn hynod bwerus; dyma fardd sy’n gwneud llawer gydag ychydig o eiriau. Dysgwn nifer o bethau am Ywain: roedd yn filwr dewr, bu farw yn y frwydr, ac roedd yn ifanc iawn pan fu farw. * We discuss the first of the Gododdin’s awdlau in this episode, na...

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Llyfr Aneirin 10.04.2025

Mae’r bennod hon yn cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o awdlau Canu Aneirin. Dyma ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn edrych ar Lyfr Aneirin ei hun! Ysgrifennwyd y llawysgrif hon rhwng tua 1250 a 1300. Gan ei bod yn debyg mai yn ystod blynyddoedd olaf ‘y Gymru annibynnol’ yr ysgrifennwyd hi, tybed a oes cysylltiad rhwng y cyd-destun gwleidyddol hwnnw a chynnwys y llawysgrif?! Trafodwn Y Gododd...

Yr Hen Iaith (Lefel A): Y Gŵr sydd ar y Gorwel gan Gerallt Lloyd Owen 03.04.2025

Canolbwyntia’r bennod hon ar gywydd Gerallt Lloyd Owen, ‘Y Gŵr sydd ar y Gorwel’. Yn ogystal â chraffu ar grefft y bardd, rydym ni’n egluro’r cyd-destun gwleidyddol ac ystyried pam yr aeth Gerallt Lloyd Owen ati i drafod Saunders Lewis yn y modd hwn. Nodwn arwyddocâd y gair ‘gorwel’ ei hun ac awgrymwn fod y gerdd fodern hon yn amlygu rhai agweddau hynafol ar y traddodiad barddol Cymraeg. * This ep...

Yr Hen Iaith (Lefel A): Aneirin gan Iwan Llwyd 03.04.2025

Edrychwn yn y bennod hon ar y gerdd ‘Aneirin’ gan Iwan Llwyd, gan graffu ar y modd y mae’n cymharu – neu’n cymathu – swydd y bardd a swydd y newyddiadurwr. Trafodwn hefyd y modd y mae’r gerdd yn cymathu rhyfeloedd o wahanol gyfnodau hanesyddol a nodwn fod gan Iwan Llwyd syniadau pendant iawn ynglŷn â swyddogaeth y bardd Cymraeg trwy’r oesau. Eglurwn y cyd-destun hanesyddol a’r berthynas rhwng y ma...

Yr Hen Iaith (Lefel A): Sul y Mamau yn Greenham, 1984 gan Menna Elfyn 03.04.2025

Trafodwn ‘Sul y Mamau yn Greenham, 1984’ gan Menna Elfen yn y bennod hon. Mae Jerry Hunter yn craffu ar strwythur ac arddull y gerdd, gan nodi’r modd y mae’r bardd yn manteisio ar hyblygrwydd y mesur rhydd. Trafoda’r delweddau sy’n ganolog iddi hefyd. Esbonia Richard Wyn Jones y cyd-destun hanesyddol a gwleidyddol, gan egluro rhan ganolog benywod Cymreig yn y protestiadau a geid ger safle milwrol...

Yr Hen Iaith (Lefel A): Gwenllian gan Myrddin ap Dafydd 03.04.2025

Ystyriwn y cywydd ‘Gwenllian’ gan Myrddin ap Dafydd yn y bennod hon, gan egluro’r ddau gyd-destun hanesyddol perthnasol – diwedd llinach tywysogion Cymru yn 1282 a hanes ymgyrch yn y 1990au i greu cofeb i ferch Llywelyn ap Gruffudd, Gwenllian. Awgrymwn fod y gerdd hon yn gofeb hynod drawiadol yn ei hawl ei hun. Wrth bwysleisio bod Myrddin ap Dafydd wedi dewis mesur caeth traddodiadol, y cywydd, no...

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Martha, Jac, a Sianco 23.03.2025

Trafodwn Martha, Jac a Sianco yn y bennod hon, gan graffu ar y modd y mae’r nofel yn darlunio ochr dywyll bywyd gwledig. Dadleuwn fod hyd yn oed yr agweddau mwyaf ysgytwol ar y nofel yn adlewyrchu realiti a bod y gwaith dewr hwn yn mynd yn groes i ffrwd o lenyddiaeth Gymraeg sy’n dyrchafu, rhamantu a delfrydu bywyd yr amaethwr. Rhyfeddwn at grefft Caryl Lewis wrth i ni graffu ar y cymeriadu a’r st...

Yr Hen Iaith (Lefel A): Un Nos Ola Leuad 23.03.2025

Trafodwn Un Nos Ola Leuad yn y bennod hon. A ninnau yn ffilmio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cewch weld llyfr nodiadau Caradog Prichard ei hun gydag un o’i gynlluniau gwreiddiol ar gyfer y nofel a drafft o bennod. Rydym ni’n ystyried arddull y gwaith rhyfeddol hwn a’r modd y mae’n symud rhwng cywair tafodieithol a chywair ffurfiol. Archwiliwn nifer o agweddau ar y nofel, gan gynnwys ei hymdrini...

Hynt Yr Hen Iaith: neges ar gyfer ein dilynwyr 21.03.2025

Fel y gwyddoch os ydych chi wedi bod yn dilyn Yr Hen Iaith, y bennod ddiwethaf oedd pennod olaf Cyfres 2. Bydd ychydig o seibiant cyn i ni ddechrau Cyfres 3, ond ni fydd tîm Yr Hen Iaith yn segur! Yn wir, rydym ni wedi dechrau recordio cyfres arbennig ar gyfer disgyblion lefel A. Mae’r gyfres fer hon yn canolbwyntio ar destunau sydd ar y sylabws lefel A Cymraeg, ond mae’n debyg iawn y byddwch chi,...

Yr Hen Iaith (Lefel A): Podlediad ar gyfer Disgyblion Lefel A Cymraeg 21.03.2025

Dyma gyfres arbennig o’r podlediad poblogaidd, Yr Hen Iaith – un sydd wedi’i chreu ar gyfer pobl sy’n astudio Cymraeg Lefel A. Mae pob pennod yn y gyfres yn ymwneud ag agwedd ar y maes llafur. Cewch wrando ar ddau hen ffrind yn trafod llenyddiaeth Gymraeg, y naill yn arbenigwr yn y maes a’r llall yn awyddus i ddysgu mwy, a’r ddau’n cael llawer o hwyl wrth graffu ar rai o drysorau llenyddol pwysica...

Pennod 62 - Hanesyddiaeth a Hunaniaeth: Drych y Prif Oesoedd 20.03.2025

Gyda’r bennod hon rydym yn dirwyn ail gyfres Yr Hen Iaith i ben, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy drafod llyfr hynod ddylanwadol a gyhoeddwyd gan Theophilus Evans yn y flwyddyn 1740. Cyhoeddwyd Drych y Prif Oesoedd gyntaf yn 1716 ond aeth yr awdur ati i ehangu’r gwaith yn sylweddol a’i ailgyhoeddi 24 o flynyddoedd yn ddiweddarach, a dyma’r fersiwn sy’n cael ei ystyried yn glasur. Ystyr y gair ‘prif...

Pennod 61 - Taliesin yng Ngwlad Angau: Gweledigaethau’r Bardd Cwsg (rhan 2) 12.03.2025

Edrychwn yn y bennod hon ar y modd y mae Ellis Wynne yn trafod y traddodiad barddol Cymraeg yn Gweledigaethau’r Bardd Cwsg. Mae gan enw prif gymeriad y gwaith wreiddiau llenyddol hynafol, a gwelwn fod agweddau eraill ar y llyfr rhyfeddol hwn sy’n dychanu’r hen draddodiad hwnnw. Pam bod Ellis Wynne yn cysylltu barddoniaeth Gymraeg â phechod? A sut mae’n gwneud hynny? A pham poeni cymaint am yr canu...

Listen to the Yr Hen Iaith podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.