Mimosa Cymru
Yr Hen Iaith
Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.
Author
Mimosa Cymru
Category
Podcast website
Latest episode
Jul 9, 2026
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Pennod 60 - ‘Ar ryw brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog’: Gweledigaethau’r Bardd Cwsg (rhan 1) 27.02.2025 35:05
Dyma ni’n dathlu recordio trigeinfed bennod y podlediad trwy drafod un o glasuron Cymraeg y cyfnod modern cynnar, Gweledigaethau’r Bardd Cwsg, llyfr a gyhoeddwyd gan Ellis Wynne yn 1703. Er bod y gwaith rhyfeddol hwn ar un wedd yn drosiad o lyfrau Saesneg a oedd yn eu tro yn gyfieithiadau o destun Sbaeneg, mae’n gyfansoddiad gwreiddiol iawn gan i’r awdur fynd ati i Gymreigio’i ddeunydd yn drylwyr...
Pennod 59 - Mae’r Ysgrifbin yn Rymusach na’r Cleddyf: Ysgrifennu ac Ideoleg ar ôl y Rhyfeloedd 12.02.2025 31:26
Edrychwn yn y bennod hon ar lendyddiaeth Gymraeg ar ddwy ochr y rhwyg ideolegol ar ôl i’r rhyfeloedd rhwng y Senedd a’r Brenin ddod i ben. Cewch glywed Rolant Fychan yn cyfaddef na lwyddodd gyda’i ‘gleddyf coch’ i ladd bygythiadau radicalaidd i’r drefn yn ystod y rhyfeloedd, ac yntau’n ceisio gwneud fel awdur yr hyn y methodd ei wneud fel milwr. Ceir cipolwg hefyd ar ddrama Gymraeg sy’n dathlu adf...
Pennodau 58 - ‘Rhyfedd, Rhyfedd, Rhyfedd’: Morgan Llwyd rhan 3 29.01.2025 31:11
Yn y bennod hon ystyriwn dau lyfr a gyhoeddwyd gan Morgan Llwyd yn ystod ei flynyddoedd olaf, gan ddechrau â Gwyddor Uchod, cerdd hir sy’n trafod y sêr a’r planedau, gan gyfuno gwyddoniaeth a chyfriniaeth Gristnogol. Rydym ni’n diffinio ‘cyfriniaeth’ hefyd wrth fynd heibio a nodi’i bod yn ffenomen a geir mewn gwahanol grefyddau ar draws y byd. Edrychwn hefyd ar Gair o’r Gair neu Sôn am Sŵn, llyfr...
Pennod 57 - Tri Aderyn a Dau Fyd: Morgan Llwyd rhan 2 16.01.2025 27:43
A Richard Wyn Jones bellach ymysg ffans Morgan Llwyd ers y bennod ddiwethaf, dyma gyfle i drafod campwaith y cyfrinydd o awdur, ‘Llyfr y Tri Aderyn.’ Eglurwn yn gyntaf nad dyna yw teitl go iawn y llyfr hwn, a bod Morgan Llwyd ei hun wedi’i ddisgrifio fel ‘dirgelwch i rai i’w ddeall ac i eraill i’w watwar’; ac yntau’n Biwritan a oedd yn wahanol iawn i’r rhan fwyaf o’i gyd-Gymry, gwyddai’n iawn y by...
Pennod 56 - ‘O Bobl Cymru! Atoch chi y mae fy llais!’: Morgan Llwyd rhan 1 08.01.2025 40:25
‘Dwi rŵan yn dallt y ffys’ yw geiriau Richard Wyn Jones ar ôl cael cyflwyniad i ryddiaith Morgan Llwyd yn y bennod hon. Ac yntau’n Biwritan a geisiai gyflwyno math o Brotestaniaeth a oedd yn fygythiol o estron i’r rhan fwyaf o’i gyd-Gymry, manteisiai Morgan Llwyd ar ei brofiad fel pregethwr a’i ddoniau llenyddol syfrdanol i gyrraedd calonnau a meddyliau darllenwyr Cymraeg. Trafodwn y cymysgedd o s...
Pennod 55 - Barddoniaeth y Brenhinwyr 20.12.2024 31:02
Edrychwn yn y bennod hon ar ddetholiad o gerddi a gyfansoddwyd gan frenhinwyr yn ystod ‘rhyfeloedd cartref’ yr ail ganrif ar bymtheg. Gwelwn fod beirdd wedi addasu hen ddulliau a themâu er mwyn trafod datblygiadau cyfoes a oedd yn ysgwyd eu byd nhw. Yn ddiddorol ddigon, mae’n bosibl awgrymu bod ceidwadaeth wleidyddol a chrefyddol wedi esgor ar arloesi celfyddydol hynod egnïol. Nodwn fod ffrydiau t...
Pennod 54 - ‘Y ddaear a grynodd’: cyflwyniad i lenyddiaeth Gymraeg y ‘Rhyfeloedd Cartref’ 06.12.2024 31:03
Mae llawer o lenyddiaeth Gymraeg wedi goroesi sy’n gysylltiedig â’r ‘Rhyfeloedd Cartref’ rhwng y Senedd a’r Brenin Charles I. Nodwn yn y bennod hon fod awdur Cymraeg enwocaf y cyfnod, Morgan Llwyd, yn Biwritan a gefnogai’r Senedd, gan ddyfynnu cerdd ganddo sy’n disgrifio’r rhyfela fel daeargryn yn ysgwyd ei fyd. Eto, roedd y rhan fwyaf o Gymry’r ail ganrif ar bymtheg ar ochr y brenin, a thrafodwn...
Pennod 53 - Pechod yn Llanymddyfri: Y Ficer Prichard 21.11.2024 32:51
Trafodwn yn y bennod hon y modd yr aeth Rhys Prichard (c.1579-1644), ficer Llanymddyfri, ati i ddefnyddio barddoniaeth rydd seml i ledaenu gwersi crefyddol. Yn ogystal ag ystyried ei agenda gyffredinol, craffwn ar un gerdd sy’n dangos ei fod yn poeni’n fawr am y bywyd pechadurus a welai yn ei blwyf ei hun ac sy’n darlunio Llanymddyfri fel rhyw Sodom a Gamora. Dim ond ar ôl iddo farw y cyhoeddwyd e...
Pennod 52 - ‘Cyfaill ac Anwylddyn’: Beibl Bach 1630 07.11.2024 34:25
Er mwyn deall datblygiad llenyddiaeth Gymraeg yn yr ail ganrif ar bymtheg, rhaid trafod y Beibl eto. Yn dilyn cyhoeddi Beibl William Morgan yn 1588, cyhoeddwyd fersiwn diwygiedig yn 1620. ‘Beiblau pulpud’ oedd y cyfrolau hyn, llyfrau mawr a ddefnyddid yn yr eglwys ond a oedd yn rhy ddrud i’r rhan fwyaf o’r Cymry eu prynu. Ond cyhoeddwyd un tra gwahanol yn 1630, y ‘Beibl Bach’, un a oedd dipyn yn l...
Pennod 51 - ‘Hoff Rediad ei Phriodi’: Cyngor Mam a Galar Gŵr 24.10.2024 36:40
Ar ôl nodi bod llwyth o ganu caeth Cymraeg o’r cyfnod ac enwi rhai o feirdd pwysig nad oes gennym amser i’w trafod, canolbwyntiwn ar ddwy gerdd gaeth o ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg sy’n cynnig mewnwelediad i fywyd un teulu uchelwrol – Dafydd Llwyd a’i wraig Catrin Owen o’r Henblas, Llangristiolus, Môn. Edrychwn yn gyntaf ar gywydd a gyfansoddwyd Dafydd pan fu farw Catrin yn 1602, cerdd sy’n my...
Pennod 50 - Bardd Mewn Dau Fyd:Richard Hughes, Cefnllanfair 10.10.2024 36:06
A ninnau wedi recordio 50 o benodau, rydym ni’n dathlu’r garreg filltir trwy drafod un o feirdd mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, Richard Hughes o Gefnllanfair yn Llŷn. Nodwn ei fod yn un o nifer o feirdd Cymraeg a oedd yn treulio llawer o amser yn Llundain yn oes Elizabeth I. Roedd Richard Hughes yn ffwtman, yn was a wasanaethai’r frenhines ei hun, ond yn ogystal â threulio amser yn y llys y...
Pennod 49 - Cariad, Protest ac Ideoleg Mesur: Y Canu Rhydd 26.09.2024 45:42
Dechreuwn yn y bennod hon drwy ystyried rhywbeth y mae llawer ohonom yng Nghymru’n ei gymryd yn ganiataol, sef y gwahaniaeth rhwng canu caeth Cymraeg a chanu rhydd. Awgrymwn fod agweddau cymdeithasol ac ideolegol ar y gwahaniaeth mydryddol sylfaenol hwn. Canolbwyntiwn ar farddoniaeth rydd a gyfansoddwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac ar ddechrau’r ganrif nesaf ac mae trafod dau fath o fesur rhyd...
Pennod Arbennig: Ysgrifennu am ryfel yn Gymraeg . . . yn America! 12.09.2024 37:52
Dyma bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn siop lyfrau Storyville, Pontypridd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2024. Ac yntau newydd orffen ei ddarllen, roedd Richard Wyn Jones am drafod llyfr diweddaraf ei gyd-gyflwynydd, Dros Gyfiawnder a Rhyddid. Mae’n gyfrol sy’n darlunio hanes cymuned Gymraeg benodol yn ystod Rhyfel Cartref America, gan ganolbwyntio mewn dull storïol ar y dynion yn y...
Pennod 48 - Coblyn o Ddadl: Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal 29.08.2024 37:57
Yr ymryson a gynhelid rhwng Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal yn y 1580au yw’r ddadl farddol hwyaf yn holl hanes yr iaith Gymraeg. Mae’n cynnwys 53 o gywyddau a thros 4,000 o linellau, a marwolaeth yr hen fardd Wiliam Cynwal yw’r unig beth a ddaeth â’r ymrafael i ben. Trafodwn yr ymryson rhyfeddol hwn yn y bennod hon, gan egluro’r dechrau cyn craffu ar hanfod y ddadl. Roedd Edmwnd Prys wedi derbyn ei ad...
Pennod 47 - 'Swydd y Beirdd sydd heb Urddas’: Beirdd, Dyneiddwyr a Karl Marx 15.08.2024 35:05
Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y ffactorau a oedd yn tanseilio’r gyfundrefn farddol Gymraeg yn ystod ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg. Trafodwn dair her yn benodol, gan ddechrau gyda’r ffaith bod pwll nawdd yn crebachu gan ei gwneud yn anos i fardd ennill bywoliaeth trwy ganu mawl. Ystyriwn her syniadau ac agweddau’r dyneiddwyr hefyd a’r ymrafael rhwng dau fath o ddysg yn y cyfnod. Ac yn...
Pennod 46 - Llenyddiaeth Gymraeg yr Eidal a Gwasg Anghyfreithlon yng Nghymru 01.08.2024 42:04
Gan ein bod ni wedi edrych ar y berthynas rhwng dyneiddiaeth, Protestaniaeth a’r iaith Gymraeg yn ddiweddar, dyma gyfle i ystyried ochr arall ceiniog y Diwygiad. Trafodwn ychydig o lenyddiaeth Gymraeg Gatholig yr unfed ganrif ar bymtheg yn y bennod, gan ganolbwyntio ar ddau gyfaill rhyfeddol, Morris Clynnog a Gruffudd Robert. Bu’n rhaid i’r ddau ddyn yma o ogledd-orllewin Cymru ffoi i’r cyfandir o...
Pennod 45 - ‘Cymraeg iawn i’r Cymry i gyd’: Beibl 1588 18.07.2024 35:00
Yn y bennod hon trafodwn gamp ryfeddol William Morgan, Beibl Cymraeg 1588. Bid a fo am ei harwyddocâd crefyddol amlwg, canolbwyntiwn ar arwyddocâd y garreg filltir hon o safbwynt hanes yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth. Un o’r pethau sy’n gwneud y Gymraeg yn iaith mor anhygoel o gyfoethog yw’r amrywiaeth o gyweiriau sydd ar gael i awduron, a Bebil 1588 yn anad dim a sicrhaodd fod ganddi gywair lle...
Pennod 44 - Yr Hen a’r Newydd, Y Gwir a’r Gau: Rhagymadrodd Richard Davies 04.07.2024 29:52
‘Dwi wir wedi fy llorio gan hyn’ yw un o’r pethau a ddywed Richard Wyn Jones ar ôl clywed am ragymadrodd syfrdanol yr Esgob Richard Davies i Destament Newydd 1567. Dyma ysgrif lenyddol fywiog sy’n hynod ddiddorol – ac yn hynod arwyddocoal – o safbwynt hunaniaeth Gymreig y cyfnod. Mae hefyd yn ddarn o bropanda Brotestannaidd sy’n troi’r gwirionedd y tu chwith allan gan ddarlunio’r Hen Frytaniaid fe...
Pennod 43 - Testament Newydd 1567 20.06.2024 31:57
Yn y bennod hon, dechreuwn hoelio sylw ar bwnc sydd o’r pwys mwyaf i hanes yr Hen Iaith a’i llenyddiaeth – cyhoeddi’r Beibl yn Gymraeg. Dechreuwn y tro hwn gyda’r Testament Newydd a gyhoeddwyd yn 1567, gan egluro bod rhaid deall y cyd-destun gwleidyddol yn ogystal â’r cyd-destun crefyddol er mwyn deall y garreg filltir hon o ddatblygiad. Er bod rhai’n hoffi gweld y Beibl Cymraeg fel ‘iawndal’ Eliz...
Pennod 42 - Bromance William Salesbury a Gruffudd Hiraethog 06.06.2024 21:05
Gwelwyd yn y bennod ddiwethaf fod y dyneiddiwr William Salesbury yn talu teyrned i’r bardd Gruffudd Hiraethog yn ei ragymadrodd i’r llyfr Oll Synnwyr Pen Cymro. Edrychwn ar ochr arall y geiniog yn y bennod hon, a hynny wrth i ni ddarllen cywydd o fawl a gyfansoddodd Gruffudd Hiraethog i’r dyneiddiwr. Er ein bod ni weithiau yn gweld y beirdd Cymraeg proffesiynol a’r dyneiddwyr fel dwy garfan o Gymr...
Pennod 41 - Maniffesto William Salesbury 23.05.2024 52:49
Trafodwn destun hynod gyffrous yn y bennod hon, sef rhagymadrodd William Salesbury i lyfr a gyhoeddwyd yn 1547, Oll Synnwyr Pen. Awgrymwn y gellid gweld y rhagymadrodd hwn fel maniffesto dyneiddiol Cymraeg, galwad sy’n cyflwyno agenda er mwyn diogelu a mireinio’r iaith. Defnyddiodd William Salesbury yr addysg a gafodd yn Rydychen a’i allu fel awdur i ddeffro darllenwyr a’u gwneud yn ymwybodol o’r...
Pennod 40 - Dyneiddiaeth Gymreig 09.05.2024 30:20
Mae’r bennod hon yn cyflwyno pwnc a fydd yn ganolog i’r penodau nesaf hefyd, sef dyneiddiaeth yr unfed ganrif ar bymtheg. Gan fod gwrthryfel Glyndŵr wedi methu, nid oedd gan Gymru brifysgolion yn y cyfnod ac felly bu’n rhaid i’r Cymry breintieidig a oedd â digon o foddion i gael addysg prifysgol fentro y tu hwnt i ffiniau’u gwlad enedigol. Eglurwn ystyr y termau ‘dyneiddiaeth’ a’r ‘Dadeni Dysg’ (a...
Pennod 39 - Y Gymraeg a Byd Newydd Print 25.04.2024 37:22
Pennod 39 (cyfres 2, pennod 6) Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y datblygiad technolegol hollbwysig hwnnw, y wasg argraffu. O gofio mai trafod hanes llenyddiaeth Gymraeg yw nod y podlediad hwn, dylid gweld dyfodiad y cyfrwng hwn fel carreg filltir ryfeddol o drawsffurfiannol o safbwynt cynhyrchu a lledaenu llenyddiaeth. Argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf yn 1546, ac eglurwn y teitl-nad-yw’n deit...
Pennod 38 - Alis Wen 11.04.2024 40:51
Pennod 38 (cyfres 2, pennod 5) Trafodwn fardd benywaidd hynod ddiddorol yn y benod hon – Alis ferch Gruffudd neu ‘Alis Wen’, a fu’n canu yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Dynion oedd beirdd proffesiynol y cyfnod, ond dysgodd Alis grefft barddoni a chyfansoddodd nifer o gerddi gan ddefnyddio un o’r hen fesurau caeth, yr englyn unodl uniawn. Mae’n debyg iawn mai ei thad, Gruffudd ab Ieuan ap Llyw...
Pennod 37 - Hen Chwedlau Cymraeg a Phropaganda’r Tuduriaid: Elis Gruffydd (Rhan 2) 28.03.2024 35:52
Pennod 37 (cyfres 2, pennod 4) Wedi trafod natur ac arwyddocâd cronicl mawr Elis Gruffydd yn y bennod ddiwethaf, edrychwn y tro hwn ar nifer o straeon a gynhwyswyd yn y gwaith sydd o ddiddordeb neilltuol. Mae’n bosibl edrych ar y straeon hyn fel chwedlau gwerin Cymraeg nas cofnodwyd mewn unman arall – hanesion a glywodd Elis ar lafar pan oedd yn blentyn yn sir y Fflint a/neu straeon a welodd mewn...
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.