BBC Radio Cymru

Y Coridor Ansicrwydd

Sports CY ↓ 60 episodes

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.

Author

BBC Radio Cymru

Category

Sports

Podcast website

www.bbc.co.uk

Latest episode

Jul 7, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Aduniad cyn llinell flaen Watford 20.08.2025

Mae Dylan Griffiths a Malcolm Allen yn cael cwmni Iwan Roberts. Mae yna atgofion am ganu gyda Elton John, ac wedi’r dechrau da mae o wedi ei gael gyda Chaerdydd y tymor yma fydd clybiau yn cadw golwg ar Rubin Colwill?

'Pan o'n i'n tŷ Kevin Keegan ddoe...' 14.08.2025

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n asesu perfformiadau a chanlyniadau cynnar pedwar prif glwb Cymru, a'r safleoedd sydd angen eu cryfhau yn y garfan. Ac yn ddigon lwcus i Mal, ddoth sefyllfa Alexander Isak yn Newcastle United i fyny yn y sgwrs... cyfle perffaith felly i ddangos bod o dal yn cymysgu yn yr un cylchoedd â rhai o'r mawrion!

Gobaith, gwynt a glaw ar faes Eisteddfod Wrecsam 05.08.2025

Cyn hir, mi fydd Wrecsam yn chwarae yn ail haen pêl-droed Lloegr am y tro cyntaf mewn 43 o flynyddoedd. Lle gwell, felly, i drafod gobeithion a disgwyliadau'r clwb nag ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam? Ac er gwaetha'r gwynt a'r glaw, mae Dylan, Mal ac Ows yn cael cwmni tri aelod o'r clwb. Yn gyntaf, sgwrs efo Huw Birkhead, sydd yn dysgu Cymraeg i chwaraewyr, staff a chefnogwyr y clwb. Ac yn...

Cychwyn newydd, gobaith newydd? 29.07.2025

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n pwyso a mesur sut dymor fydd hi i Gaerdydd a Chasnewydd o dan eu rheolwyr newydd. A pham bod cefnogwyr Abertawe yn dechrau troi ar gefnogwyr Wrecsam..?

Diwedd yr antur ond cychwyn y daith 15.07.2025

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod sut all Cymru adeiladu ar ei ymddangosiad hanesyddol cyntaf yn rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol. Colli tair, chwarae tair ydi'r ffeithiau moel. Ond y gobaith yw fydd effaith cyrraedd Y Swistir i'w deimlo am flynyddoedd i ddod. A pham yn y byd bod y rapiwr Snoop Dogg yn hyrwyddo crys newydd Abertawe..?!

Dim ond mis sydd i fynd o'r tymor! 03.04.2025

Mwyaf sydyn, mae'r tymor wedi cyrraedd y pedwar wythnos olaf. Ac mi fydd hi'n ddiweddglo llawn tensiwn i Gaerdydd a Wrecsam, wrth iddyn nhw frwydro am bwyntiau gwerthfawr ar resymau gwahanol iawn. Mae Wrecsam yn parhau tri phwynt yn glir o Wycombe yn y ras am yr ail safle yn Adran Un, ond wedi chwarae un gêm yn fwy. Be sydd orau adeg yma o'r tymor felly? Pwyntiau ar y bwrdd ta tynged yn nwylo eich...

Haway Cymru! 19.03.2025

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n 'dathlu' buddugoliaeth Newcastle United yn erbyn Lerpwl yng Nghwpan y Gynghrair ac yn ysu i weld Cymru yn cychwyn eu hymgyrch yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.

Dwi ddim isho clod! 06.03.2025

Mae Dylan Griffiths yn chwarae gêm beryglus. Nid yn unig ydi o'n penderfynu beirniadu Malcolm Allen am safon ei broffwydo, ond mae o hefyd yn mynd mor bell â dweud wrtho am ymddiheuro. Eithaf hawdd proffwydo pa fath o ymateb cafodd o i hyn... Mae Owain Tudur Jones yn ei chael hi hefyd, ac mae hwnnw yn ychwanegu cefnogwyr Aberystwyth arall i'w restr (hirfaith erbyn hyn) o bethau sy'n mynd "ar ei ny...

Craig ar grwydr drwy Gymru 07.11.2024

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n asesu pedwar mis cyntaf Craig Bellamy wrth y llyw fel rheolwr Cymru - y canlyniadau ar y cae, ei berthynas gyda'r wasg â'i ymweliadau i glybiau lleol ar hyd a lled Cymru.

Croeso cynnes i Steve Cooper yn Abertawe? 09.12.2021

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried sut groeso geith Steve Cooper wrth ddychwelyd i Abertawe yn rheolwr Nottingham Forest, ac yn trafod cyflogau mawr chwaraewyr ifanc.

Listen to the Y Coridor Ansicrwydd podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.