BBC Radio Cymru

Y Coridor Ansicrwydd

Sports CY ↓ 60 episodes

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.

Author

BBC Radio Cymru

Category

Sports

Podcast website

www.bbc.co.uk

Latest episode

Jul 7, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Moore, Vipotnik ta Salech? 22.01.2026

Mae ymosodwr da yn gallu bod gwerth y byd i unrhyw glwb. Tymor yma, mae gan dri phrif glwb Cymru streicar sy'n tanio. Zan Vipotnik o Abertawe yw prif sgoriwr y Bencampwriaeth gyda 13 gôl, tra bod 10 gôl Kieffer Moore wedi helpu Wrecsam i aros o fewn gafael i'r safleoedd ail-gyfle. Ac yn yr Adran Gyntaf, mae Yousef Salech wedi serennu wrth godi Caerdydd i frig yr adran. Ond pwy mae'r criw yn ystyri...

Dydi Wali Tomos ddim yn rhedeg y lein 15.01.2026

Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n asesu hanner cyntaf tymor y Cymru Premier ac yn gofidio bod VAR ar y ffordd i'r gynghrair cyn hir.

Mae Wrecsam wedi clicio! 08.01.2026

Ar ôl colli'n flêr i Abertawe cyn y Nadolig, prin fyddai rheolwr Wrecsam Phil Parkinson wedi gofyn am ymateb gwell gan eu chwaraewyr. Pedair buddugoliaeth yn olynol - gan godi'r Cochion o fewn chwe phwynt i'r ail safle yn y Bencampwriaeth. Ydi cyfnod perffaith yma yn cynnig gobaith am ddyrchafiad awtomatig? Digon derbyniol oedd canlyniadau a pherfformiadau Abertawe hefyd, gan berswadio Owain mai m...

Teyrnged i Terry Yorath 08.01.2026

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n cofio cyn chwaraewr a rheolwr Cymru Terry Yorath, fu farw yn 75 oed.

Tair Gêm Bwysicaf 27.12.2025

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dewis y tair gêm fwyaf arwyddocaol yn eu gyrfa bêl-droed. The crew discuss matches which have a special meaning for them.

Anrhegion y tri gŵr doeth 23.12.2025

Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones yw'r tri gŵr doeth sy’n edrych yn ôl ar fuddugoliaeth Abertawe yn erbyn Wrecsam ac yn edrych ymlaen at gemau dros gyfnod y Nadolig. Bydd Dylan yn gofyn beth fydd rheolwyr timau Cymru eisiau fel anrhegion Nadolig, ac mae yna gwis arbennig - ond nid pawb sy’n hapus...mae ffrij Dylan Griffiths wedi torri!

Mae 'na hufen iâ hyfryd ym Mae Trearddur 18.12.2025

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod perfformiad Caerdydd yn erbyn Chelsea, y darbi rhwng Abertawe a Wrecsam, cyfweliad syfrdanol rheolwr Penybont Rhys Griffiths a'r clybiau annisgwyl sydd wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Cymru.

Mo llyncu mul a Diego Wilson 10.12.2025

Oes gan y criw unrhyw gydymdeimlad tuag at Mo Salah yn dilyn ei gyfweliad tanllyd yn erbyn rheolwr Lerpwl Arne Slot? Ydi blaenwr anhapus Lerpwl wedi torri'r rheol euraidd drwy beidio cadw ei gwynion o fewn yr ystafell newid? Go brin fod Malcolm wedi pwdu fel hyn pan gafodd o ei adael allan o'r tîm... Dim ond clod sydd i Harry Wilson yn dilyn gôl wych arall i Fulham dros y penwythnos, gydag ambell...

Dwy gêm anferth i Abertawe, Lawlor yn denu sylw a rhyddhad Wilkinson 04.12.2025

Gemau all ddiffinio gweddill y tymor. Dyna sut mae'r criw yn gweld dwy gêm nesaf Abertawe - y ddwy adref ac yn erbyn timau o'u cwmpas ger gwaelodion y Bencampwriaeth. A tydi'r arwyddion ddim yn wych ar ôl i'r Elyrch ildio mantais o ddwy gôl wrth golli yn West Brom. Parhau i godi'r tabl mae Wrecsam, gan ddangos yr "ysbryd a'r cymeriad" i sgorio gôl hwyr i osgoi colli yn erbyn Blackburn. A daeth rhe...

Tipyn o her i Matos a Fuchs 27.11.2025

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried y dasg sy'n wynebu rheolwyr newydd Abertawe a Chasnewydd. Ond go brin fod hi'n anoddach na'r cwestiwn cwis yr wythnos yma...

Does unman yn debyg i gartref 21.11.2025

Ar noson berffaith yng Nghaerdydd, gwelwyd perfformiad syfrdanol gan Gymru wrth sgorio saith gol heibio Gogledd Macedonia er mwyn gorffen yn ail yn y grŵp rhagbrofol. A'r wobr am wneud hynny ydi gêm gartref yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn rownd gynderfynol y gemau ail-gyfle, a'r sicrwydd o gêm gartref yn y rownd derfynol os nawn nhw ennill. Gan fod Owain ar ei wyliau, cyn gapten Cymru Kath Morgan...

Sheehan allan ac anafiadau Cymru 13.11.2025

Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n trafod yr enwau yn y ffrâm i gymryd swydd rheolwr Abertawe ar ôl i'r clwb ddiswyddo Alan Sheehan, ac yn gofyn os fydd diffyg goliau yn brifo Cymru wrth i ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2026 gyrraedd y ddwy gêm olaf.

Dechrau'r daith i Frasil, Y Cas Ras yn bownsio & Celtic yn llygadu Bellamy 04.11.2025

Ar ôl creu hanes drwy gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2025, y targed amlwg nesaf i ferched Cymru yw cyrraedd Cwpan y Byd yn 2027. Mae'r llwybr i Frasil ychydig cliriach bellach wrth i garfan Rhian Wilkinson ddysgu pwy fydd ei gwrthwynebwyr cyntaf yn y rowndiau rhagbrofol. Roedd Dylan Griffiths ar Y Cae Ras nos Wener i weld "gêm orau'r tymor hyd yma" wrth i Wrecsam guro Coventry City, gan helpu chw...

Ani Glass: Troedigaeth bêl-droed 30.10.2025

Y gantores Ani Glass sy'n trafod ei chariad at y bêl gron, a sut ddysgodd hi am hoffter cyn seren Croatia Davor Suker at siocled. Yn yr ail ran, buddugoliaeth Caerdydd yn erbyn Wrecsam yng Nghwpan y Gynghrair ar y Cae Ras sy'n cael y prif sylw, wrth i'r criw drafod y gwahaniaeth amlwg rhwng dulliau hyfforddi'r ddau dîm.

Joe Morrell, Lerpwl mewn picil ac Wrecsam angen ennill 21.10.2025

Yn 28 oed, bu'n rhaid i Joe Morrell dderbyn bod ei yrfa fel chwaraewr proffesiynol ar ben oherwydd anaf i'w ben-glin. Dau sy'n gallu uniaethu gystal â neb gyda'r ergyd enfawr hynny ydy Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones. Am y tro cyntaf ers dros i ddegawd, mae Lerpwl wedi colli pedair gem yn olynol. Manchester United, o bawb, oedd y diweddaraf i gael o gorau o dîm Arne Slot. Be sydd wedi digwydd i...

Diolch Jess 16.10.2025

Dylan, Owain a Mal sy'n ymateb i’r newyddion bod Jess Fishlock - un o sêr mwyaf hanes pêl-droed Cymru - wedi ymddeol o’r gêm ryngwladol. Bydd digon o drafod hefyd ar berfformiad Cymru ar ôl y golled yn erbyn Gwlad Belg nos Lun. Mae cwestiynau’n codi am y tîm ac am yr arddull, ond dyw Bellamy ddim am newid.

Gwers? Oedd hyn yn ddynion yn erbyn hogiau. 10.10.2025

Wedi’r wers bêl-droed yn Wembley nos Iau, lle mae hyn yn gadael tîm Craig Bellamy, sydd yn wynebu her arall enfawr nos Lun - yn erbyn Gwlad Belg, un o gewri pêl-droed y byd - mewn gêm y mae’n rhaid ei hennill os oes unrhyw obaith o orffen ar frig y grŵp ac ennill lle yn Nghwpan y Byd 2026. Hefyd, pwt o werthfawrogiad i’r capten Ben Davies, fydd yn cyrraedd ei 100fed cap dros Gymru nos Lun.

Gall Cymru gladdu 'hoodoo' Lloegr? 08.10.2025

Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n asesu gobeithion Cymru i guro Lloegr am y tro cyntaf mewn wyth gêm, a'r tro cyntaf yn Wembley ers 1977. Fydd y rheolwr Craig Bellamy yn dewis ei dîm cryfaf wrth ystyried yr her 'bwysicach' i ddilyn yn erbyn Gwlad Belg? Ai dyma garfan gwanaf Lloegr ers tro? Ac ar ôl i Russell Martin gael ei ddiswyddo gan Rangers, mae Ows yn rhoi blas o'r drin...

Dwrn gan Jan Molby 02.10.2025

Wrth i Abertawe nesu at safleoedd ail-gyfle y Bencampwriaeth diolch i fuddugoliaeth oddi cartref yn Blackburn, mae'r criw yn trafod os ydi dal yn rhy gynnar yn y tymor i gymryd unrhyw sylw o safleoedd ein clybiau yn y tabl. Wedi pedair gêm gartref, dal i ddisgwyl am fuddugoliaeth ar y Cae Ras mae Wrecsam - fydd hynny'n newid gydag ymweliad Birmingham nos Wener? A sôn am ganlyniadau siomedig gartre...

Gwalia United ar garlam i gyrraedd y brig 24.09.2025

Mae gan Gwalia United gynlluniau uchelgeisiol iawn. Stadiwm newydd, chwaraewyr yng ngharfan Cymru ac, yn bennaf oll, cyrraedd prif adran clybiau Lloegr, y Women's Super League. Hyn oll o fewn y pum mlynedd nesaf. Dau yng nghanol y prosiect ydi Trystan Bevan a Casi Gregson. Tra bod Trystan yn defnyddio ei brofiad helaeth ym myd rygbi proffesiynol i geisio gosod y sylfaen am gynnydd a llwyddiant odd...

Cymru'n symud cartref a Parky dan bwysau 18.09.2025

Mae bron i saith mlynedd bellach wedi mynd heibio ers i Gymru chwarae yn Stadiwm Principality, ond fydd hynny'n newid cyn hir o dan gynllun Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Ymateb cymysg sydd wedi bod gan y cefnogwyr, ond mae Ows a Mal yn gweld synnwyr y syniad er mwyn paratoi at y posibilrwydd o chwarae gemau yn y stadiwm yn Ewro 2026...cyn belled bod gemau rhagbrofol ddim yn symud o Stadiwm Dinas Cae...

Cip i'r dyfodol wrth i Ganada danio Bellamy 11.09.2025

Roedd 'na gyfle i gael cip o'r dyfodol yn Abertawe wrth i rai o chwaraewyr ifanc Cymru wynebu tîm graenus Canada mewn gêm gyfeillgar. Ac er colli 1-0, mi welodd y criw ddigon i gredu bod 'na genhedlaeth newydd yn barod i dorri drwodd. Digon i'r rheolwr Craig Bellamy - doedd ddim rhy hapus gyda dathliadau'r ymwelwyr - asesu cyn y ddwy her enfawr i ddod yn erbyn Lloegr a Gwlad Belg fis nesaf. Nôl i'...

Cymru yn crafu buddugoliaeth yn erbyn Kazakhstan 05.09.2025

Roedd hi'n bell o fod yn gyfforddus, ond llwyddodd Cymru i adael Kazakhstan gyda thri phwynt hollbwysig yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd - tri phwynt sydd yn mynd â nhw i frig y grŵp. Rhoddodd gôl Kieffer Moore y sylfaen berffaith i Gymru yn yr hanner cyntaf, ond siomedig oedd yr ail hanner. Tarodd y tîm cartref y trawst ddwywaith - gydag un o'r ergydion hynny yn dod gyda chic ola'r gêm. Oes 'na...

Dwi'n licio'r positifrwydd 'ma! 03.09.2025

Am y tro cyntaf ers sbel, mae gan y criw ddigon o reswm i deimlo'n obeithiol am obeithion clybiau Cymru. Yn ogystal â chanlyniadau addawol, mae Abertawe wedi cryfhau'r garfan gan wario'n sylweddol ar chwaraewyr newydd am y tro cyntaf ers tro. Ac er nad ydi canlyniadau Wrecsam wedi bod cystal, does dim posib cwestiynu’r uchelgais wrth i'w gwariant nhw dros yr haf fynd heibio £30m. Mae Caerdydd hefy...

Crwydro draw i Kazakhstan 28.08.2025

Owain Llyr sy’n ymuno ag OTJ a Mal i edrych ymlaen at gêm Cymru yn Kazakhstan

Listen to the Y Coridor Ansicrwydd podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.