Dan Williams a Gruffudd ab Owain
Pen y Pass
Pen y Pass – Trafodaeth hynod anffurfiol am newyddion a digwyddiadau ym myd seiclo yng Nghymru a thu hwnt! Fydda i’n trafod pynciau megis enwogion y World Tour, trafod y dechnoleg a'r ffasiwn newydd sydd yn ymddangos ar y lôn, ac yn sgwrsio gyda Chymry ledled y byd a'u hanturiaethau ar olwynion.
Author
Dan Williams a Gruffudd ab Owain
Category
Podcast website
Latest episode
Dec 31, 2024
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Pennod 8 - Sparky, Cyw a Seiclo Hynangynhaliol 31.12.2024 1:32:07
Yn y bennod hon o Pen y Pass byddwn ni'n cael sgwrs hefo Huw Owen am ei yrfa ar deledu S4C yn Cyw a Tekkers, cychwyn seiclo yn ystod y cyfnod clo a dablo yn fwy diweddar i fyd seiclo hynangynhaliol.
Pennod 7 - BMX, Sgïo...a Chamu i'r Copa 27.11.2024 1:55:57
Yn y bennod hon o Pen y Pass byddwn ni'n cael sgwrs hefo Tim Lloyd o gwmni digwyddiadau Always Aim High ac yn dysgu am hanes sefydlu'r cwmni. Clwb BMX Caerdydd fydd Clwb y Mis, a bydd Dan a Gruff yn trafod y newyddion diweddaraf o gwmpas Cymru a thu hwnt ar ddwy olwyn! (00:00:00)(Intro) (00:00:25)(Sgwrs Dan a Gruff) (00:39:00)(Clwb y Mis) (00:59:59)(Tim Lloyd) (01:55:29)(Outro)
Pennod 6 - Data, Velodrome a'r Flyers. 03.08.2024 1:44:56
Yn y bennod hon o Pen y Pass byddwn ni'n cael sgwrs hefo Rhys James o Seiclo Prydain cyn iddo headio i Paris am y Gemau Olympaidd. Clwb Maindy Flyers o Gaerdydd fydd Clwb y Mis, a gawn ni ymgeisydd arall i ddarganfod olwynion mwyaf swnllyd Cymru!
Pennod 5 - Mecanydd, Egni a'r Tour! 29.06.2024 1:14:51
Yn y bennod hon o Pen y Pass byddwn ni'n cael mewnwelediad i fyd mecanydd tîm World Tour; Rich Smith o dîm hollbwysig Team dsm-firmenich PostNL fydd yn ymuno â ni. Clwb Beicio Egni Eryri o Wynedd fydd Clwb y Mis y pod yma. Byddwn ni'n cael golwg ar newyddion o'r byd World Tour, a gawn ni ymgeisydd arall i ddarganfod olwynion mwyaf swnllyd Cymru. (00:00:00)(Intro) (00:00:48)(Sgwrs efo G...
Pennod 4 - Gruffudd Lewis, Ystywth a Pinc Poggi. 27.05.2024 2:40:43
Gruffudd Lewis ydi eni gwestai arbennig ni'r pod yma! Dewch i glywed am hanes ei yrfa yn y peloton proffesiynol, S4C a hanes Tour of Britain 2021. Clwb Beicio Ystwyth ydi clwb yr wythnos, a byddwn ni'n siarad hefo Dewi Hughes o’r clwb. A hefo'r Giro bellach wedi dod i ben, byddwn ni yn gwneud round-up sydyn o'r ' Pogačar. Show' . 📷 SWPix.com Cerddoriaeth Eidaleg - Music f...
Pennod 3 - King, Roubaix a'r coblau. 16.04.2024 1:58:00
Wythnos yma ar Pen y Pass. Mae Gruff yn ôl fel cyd-gyflwynydd! Sgwrs hefo Eluned King o dîm Lifeplus Wahoo ar ôl iddi orffen ras Paris Roubaix. Clwb Towy Riders ydi ein Clwb yr Wythnos ac fe gawni ein hail ymgeisydd i ddarganfod olwynion mwyaf swnllyd Cymru! Yn ogystal a be sydd wedi bod yn digwydd ar y World Tour yn cynnwys newyddion cyffrous am Tour Prydain y Merched! 📷 SWPix.com
Pennod 2 - Aero, Ajax, Nice a Egan! 14.03.2024 1:13:33
Wythnos yma ar Pen y Pass. Sgwrs hefo Gruffudd ab Owain o flog Y Ddwy Olwyn, Ajax Caerdydd ydi Clwb yr Wythnos ac fe gawni ein hymgeisydd cyntaf i ddarganfod olwynion mwyaf swnllyd Cymru! Yn ogystal o cymryd golwg ar fyd y World Tour wrth ir Clasuron ddechrau poethi!
Pen y Pass - Y Cyflwyniad 28.02.2024 7:57
Croeso i Pen y Pass – y podlediad newydd drwy gyfrwng y Gymraeg am fyd seiclo yng Nghymru a thu hwnt! Yn y bennod gyntaf, mi fydda i'n rhoi cyflwyniad bach am y podlediad yma, yn sôn am be fyddai'n trafod yn y pods sydd i ddod ac yn trafod bach o newyddion o'r peleton proffesiynol. (00:00:00)(Intro) (00:00:39)(Pam podcast am seiclo?) (00:01:50)(Newyddion World Tour) (00:05:33)(Digwyddi...
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.