The WRRAP network
Podcast Rygbi Cymru
Eich diweddariad Rygbi Cymru wythnosol, sy'n cwmpasu'r pedwar rhanbarth, y tîm cenedlaethol a gêm y merched - yn eich mamiaith.
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Hir yw pob aros! 19.11.2026 41:56
Ar ôl 73 mlynedd o siom, da ni’n edrych yn ôl ar fuddugoliaeth hanesyddol Cymru dros y Crysau Duon. Ac mae Andrew’n gallu dweud ei fod o yno ond mae o’n dal i ddathlu! Nick a Dafydd yn trafodwch ganlyniad anhygoel. All Cymru wneud yr un peth yn erbyn y Wallabies nos Sadwrn? #Podlediad Rygbi Cymru #WRRAP #URC #Welsh Rugby Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Ar ôl fuddugoliaeth dros Japan, rydyn ni’n troi ein sylw troi at y Crysau Duon! 12.11.2026 21:32
Mae Andrew a Nick edrych yn ôl ar fuddugoliaeth Cymru dros Japan, cyn troi ein sylw at y Crysau Duon, o Seland Newydd, sy’n dod i Gaerdydd, dydd Sadwrn nesaf. Be’ fyddai llwyddiant i Gymru? #Podlediad Rygbi Cymru #WRRAP #URC #Welsh Rugby Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
O’r URC i Gymru - Y Da, y Drwg a’r Gobeithion! - Podlediad Rygbi Cymru 05.11.2026 47:03
Mae Dafydd, Andrew a Nick yn ymuno ag Iestyn o’r Argus i edrych yn ôl ar rownd ddiweddaraf gemau’r URC ac i drafod sut mae’r tymor wedi mynd hyd yma i bob un o’r pedwar tîm o' Gymru. A gyda’r sylw nawr yn troi at y gemau rhyngwladol, beth allwn ni eiddisgwyl gan Gymru? #Podlediad Rygbi Cymru #WRRAP #URC #Welsh Rugby Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Mae’r hiraeth drosodd – mae’r Gweilch yn ôl yn San Helen! 29.10.2026 48:00
Ar ôl noson hanesyddol yn Abertawe, mae’r pod yn edrych yn ôl ar benwythnos o rygbi’r URC. Mae Dafydd, Andrew a Nick hefyd yn edrych ymlaen at Rownd 5 ar calan gaeaf. Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Pod Bach - Y Gorllewin sydd orau, tybed? 15.10.2026 8:21
Nick ar ei ben ei hun tro hwn, yn edrych yn ôl a fuddugoliaethau'r Gweilch a'r Scarlets, tra bod Caerdydd a'r Dreigiau wedi blasu colled am y tro cyntaf tymor hwn. Gyda rygbi Ewrop yn cymryd y llwyfan y penwythnos yma, beth sydd o flaen y pedwar tîm o Gymru? #Podlediad Rygbi Cymru #WRRAP #Welsh Rugby Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Canwch Pan Dach Chi'n Ennill ! 08.10.2026 46:53
Mae Andrew a Owen gyda ni heno hefyd. Sgwrs am yr URC. Dafydd a Owen yn dodo hyd i dir cyffredin .... wel, falle ddim! #Podlediad Rygbi Cymru #WRRAP #Cymreag Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Trwyn ar y maen 01.10.2026 29:02
Rownd un yr URC ar ben! Dafydd a Nick yn edrych yn ôl ar ganlyniadau’r pedwar tîm o Gymru ac ymlaen at gemau’r penwythnos hwn. Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Mae’r tymor newydd bron yma! 24.09.2026 44:15
Nick a Dafydd yn edrych ar y pedwar tîm Cymreig, yn trafod sut mae pob un yn siapio cyn y tymor newydd, a beth allwn ni ei ddisgwyl dros y misoedd nesaf. Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Bron Yna! | Pod Rygbi Cymru 14.05.2026 51:15
Mae'r Carwyn, Gareth a Nick yn trafod pythefnos olaf tymor y gynghrair URC ac rhoi eu barn ar garfan Steve Tandy. #Rygbi #Cymraeg #PodCymru #WelshRugby Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Pa mor uchelgeisiol bydd y Dreigiau penwythnos hon? 30.04.2026 58:06
Gareth, Owen, Dafydd a Nick yn trafod lwyddiannau i’r Dreigiau yn erbyn Zebre a Chaerdydd yn ‘darbi’ Y11. Ac yn edrych ymlaen i gêm allweddol y Dreigiau yn rownd y 4 olaf Cwpan Her Ewrop #Cymraeg #Welshrugby Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
A fo ben byd pont! | Pod Rygbi Cymru 23.04.2026 39:41
Mae Andrew, Dafydd, a Nick yn trafod newyddion mawr oddi ar y cae. Mae’n nhw'n cael siarad am rygbi hefyd! #PodCymru #RygbiCymru #Cymraeg Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Dreigau yn anygoel! | Pod Rygbi Cymru 16.04.2026 24:34
Mae gan y Dreigiau rownd gynderfynol cwpan i edrych ymlaen ato. Mae'r bechgyn hefyd yn drafod ddarbi Cymreig gyda dychweliad yr URC. #PodCymru #Rygbi #Cymraeg Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Mae haul yn codi dros y bryn. Wir! 19.03.2026 57:34
Mae Dafydd, Owen a Nick yn dathlu buddugoliaeth o’r diwedd yn y Chwe Gwlad a hefyd edrych ymlaen at benwythnos prysur i’r timau rhanbathol. #RygbiCymru #Welshrugby Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Os na haul ar fryn cyn bo hir? 12.03.2026 32:09
Andrew, Carwyn a Nick trafod colli eto yn Iwerddon. Maen nhw'n gofyn a ydyn ni o'r diwedd yn gallu ennill gêm Chwe Gwlad ddydd Sadwrn yma yng Nghaerdydd? #RygbiCymru #WelshRugby Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Oes ‘na obaith yn Nulyn? | Pod Rygbi Cymru 05.03.2026 52:55
Nick, Carwyn a Dafydd sy’n trafod llwyddiannau rhanbarthol, buddugoliaeth dan 20 a pherfformiad addawol yn erbyn Yr Alban. Ond oes mwy i ddod gan Gymru? #PodCymru #Cymreag #Rygbi Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Colled enfawr yn erbyn Les Bleus 19.02.2026 1:11:17
Nick, Gareth a Dafydd sy’n trafod colled penwythnos diwethaf ond perfformuad da gyda’r tîm dan 20. A fydd newidiadau i’r tîm yn arwain at lwyddiant yn erbyn Yr Alban? #RygbiCymru #Rygbi #WRU #DysguCymraeg Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Colled unwaith eto i’r hen Gelyn 12.02.2026 1:02:37
Andrew a Dafydd sy’n trafod colled trwm eto i Loegr ond peth gobaith gyda’r tîm dan 20. Oes gobaith yn erbyn Ffrainc dydd Sul? #Cymraeg #PodCymru #RygbiCymru #Welshrugby Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Diwedd y daith i’r Gweilch?! 22.01.2026 57:36
Nick, Andrew, Dafydd, Gareth ac Owain sy’n trafod penderfyniadau dadleuol dyfodol y Gweilch a Chaerdydd…ychydig am gemau URC hefyd. #Gweilch #PodCymru #Podlediad Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Caerdydd yn bownsio nôl, ond y gweddill yn colli yn Ewrop. 15.01.2026 52:11
Nick, Dafydd ac Andrew yn croesawi Gareth wrth drafod gemau Ewrop gyda gobeithion i bawb y penwythnos yma. #RygbiCymru Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Y Gweilch a’r Dreigiau yn dathlu dros yr ŵyl 08.01.2026 1:07:00
Nick, Dafydd ac Owain sy’n trafod gemau ‘darbi’ yr ŵyl ac yn edrych ymlaen i gemau pwysig Ewrop. #Cymru #RygbiCymru #URC Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Y Gweilch yn unig sy’n ennill…ar y cae! 11.12.2025 39:38
Nick a Dafydd sy’n trafod y Rhanbarthau yn Ewrop ac yn obeithiol am fwy o lwyddiant dros y penwythnos i ddod. #RygbiCymru #Cymraeg #Welshrugby #WRU Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Efe’r Gobaith sy’n eich lladd? 27.11.2025 1:09:53
Mae'r criw yn croesawu Owen i'r podlediad. Cipolwg yn ôl ar y Crysau Duon, pencampwyr y byd De Affrica sydd nesaf a dychweliad y gynghrair i'r Dreigiau, Caerdydd, y Gweilch a'r Scarlets. #RygbiCymru #WRU #Cymraeg Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Dim lot o obaith erbyn y crysau duon. 20.11.2025 1:06:14
Andrew, Dafydd, Nick a Carwyn sy’n edrych yn ôl ar fuddigoliaeth cyntaf Cymru yng Nghaerdydd ers dros 800 diwrnod ac yn trafod be yw’r gobeithion wrth i’r crysau duon gyrraedd #RygbiCymru #CymvSNW #WalvNZL Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Nawr yw’r amser i ennill 13.11.2025 53:32
Dafydd a Carwyn sy’n edrych yn ôl dros ambell i beth aeth o’i le yn erbyn yr Ariannin a be sydd angen gwella cyn herio Siapan. #RygbiCymru #WelshRugby #WalvJap Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Dechrau newydd, gobaith newydd? 06.11.2025 44:05
Nick a Carwyn sy’n edrych mlaen yn obeithiol at gêm gyntaf Cymru yng nghyfres yr Hydref. #PodCymru #Cymraeg #Cymru #CymvArg #WRU Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.