BBC Radio Cymru

Y Coridor Ansicrwydd

Sports CY ↓ 60 episodes

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.

Author

BBC Radio Cymru

Category

Sports

Podcast website

www.bbc.co.uk

Latest episode

Jul 7, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Ffwlbri Fifa, paffwyr Paraguay a tactegau Tuchel 07.07.2026

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n pori dros wythnos o ddigwyddiadau rhyfeddol yng Nghwpan y Byd. Mae'r tri hefyd yn crynhoi perfformiadau Cymru ym Mhencampwriaeth dan19 Ewrop ac yn ystyried pa fath o reolwr fyddai'n fodlon gweithio o dan Huw Jenkins yng Nghasnewydd.

Blerwch Burnley Bellamy 01.07.2026

Fydd Craig Bellamy ddim yn gadael Cymru am Burnley wedi'r cyfan... ddim am y tro beth bynnag. Ar ôl edrych mai mater o amser oedd hi cyn i reolwr Cymri adael am Turf Moor, daeth y trafodaethau i ben yn sydyn, gan adael sawl cwestiwn i'w hateb. Pa effaith fydd yr helynt yn ei gael ar ei berthynas gyda chefnogwyr a chwaraewyr Cymru? Ydi'r Gymdeithas Bêl-droed yn sicr mai Bellamy ydi'r rheolwr cywir...

Yr Oval ar ei newydd wedd 25.06.2026

Sgwrs gyda rheolwr Caernarfon Richard "Fish" Davies wrth i'r Oval baratoi i gynnal gemau Ewropeaidd am y tro cyntaf erioed yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £1.3m. Ac ydi, ac y tro cyntaf yn hanes y stadiwm enwog, mae'r cae yn wastad! Ond cyn hynny, mae'r criw yn trafod stori fawr yr wythnos wrth i Craig Bellamy gynnal trafodaethau gyda Burnley er mwyn ymuno fel rheolwr. Ar ben hynny, mae Aaron Ram...

Mae Cwpan y Byd yn plesio! 18.06.2026

Er absenoldeb Cymru yng Ngogledd America, mae 'na gynnwrf mawr ymysg y criw wedi'r wythnos gyntaf o gemau. O hat-tric Messi i sgiliau Olise, mae digwyddiadau ar y cae wedi gorchfygu'r pesimistiaeth a'r amheuon yn arwain at y gystadleuaeth. Dim ond dwy gêm tydi Malcolm heb wylio... ydi'r diffyg cwsg yn dechrau dangos? Ond cyn hynny, rhown deyrnged i gyn chwarae Cymru a chyn reolwr Abertawe Kenny Ja...

Edrych mlaen i Gwpan y Byd? 11.06.2026

Ma Dylan, Owain a Malcolm yn edrych nol dros gemau diweddar timau dynion a merched Cymru, ac ar drothwy Cwpan y Byd 2026, ma'r tri yn dewis tim ma nhw am ei gefnogi.

Bellamy yn agor y drws i Koumas 04.06.2026

Ar ôl sgorio ei gôl ryngwladol gyntaf yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Ghana, ydi'r amser wedi dod i Lewis Koumas hawlio ei le fel prif ymosodwr Cymru? Does gan Craig Bellamy ddim amheuaeth mai dyfodol fel rhif 9 sydd ganddo, ond ydi'r criw yn rhannu'r un farn am chwaraewr sydd fel arfer ar yr asgell? A beth am y perfformiad yn y gêm gyfartal nos Fawrth? Mae 'na glod mawr haeddiannol i Malcolm ar ôl p...

Her newydd Ben Davies a Harry Wilson 27.05.2026

Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n ystyried pa opsiynau fydd gan Ben Davies a Harry Wilson i'w hystyried pan ddaw eu cytundebau i ben fis nesaf gyda'u clybiau presenol. Ac mae hi'n ddiwedd cyfnod yn Uwch Gynghrair Lloegr wrth i sawl wyneb cyfarwydd a dylanwadol iawn adael.

Gohebwr Spygate, cyfarfod Roberto & sbeit Salah 19.05.2026

Yn y rhan gyntaf, sgwrs gyda'r newyddiadurwr George Rees-Julian sydd wedi bod yng nghanol stori Spygate wrth weithio i'r Southern Daily Echo yn Southampton. Ac yn yr ail ran, hanes taith Ows i gyfarfod Roberto Martinez ym Mhortiwgal, ymateb i eiriau mileinig Mo Salah cyn gadael Lerpwl ac atgofion hoff rowndiau terfynol Cwpan FA Lloegr.

Spygate, ffars VAR a Tîm y Flwyddyn 14.05.2026

Ydi Southampton wir wedi gyrru aelod o staff i wylio Middlesbrough yn ymarfer cyn gemau ail-gyfle y Bencampwriaeth? Be nesa'? Ac ar ôl i VAR beidio caniatáu gôl hwyr i West Ham yn erbyn Arsenal, mae Malcolm yn cynnig rheolau newydd er mwyn rhoi diwedd i'r holl dynnu a gafael o giciau cornel. Gawn ni hefyd glywed pa chwaraewyr o bedwar clwb EFL Cymru sydd wedi cael eu dewis gan Dylan, Owain a Malco...

Siom Wrecsam, rhyddhad Casnewydd 07.05.2026

Fydd 'na ddim pedwerydd dyrchafiad yn olynol i Wrecsam ond roedd hi'n ddychrynllyd o agos. Dau bwynt oedd y gwahaniaeth rhyngddyn nhw a'r safleoedd ail-gylfe yn y pendraw ar ôl gorffen y tymor gyda gêm gyfartal yn erbyn Middlesbrough ar y Cae Ras. Ond mi gafodd y Dreigiau ddau gyfle mawr i ennill y gêm a chipio'r chweched safle oddi wrth Hull City. Be fydd y rheolwr Phil Parkinson wedi ei ddysgu o...

Mae hi'n Happy Hour yma! 29.04.2026

Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n cael modd i fyw wrth i'r tymor ddod i ben llawn tensiwn a drama i Wrecsam a Chasnewydd. Fydd y Dreigiau yn cyrraedd gemau ail-gyfle y Bencampwriaeth? Yn rhyfeddol, mae pob canlyniad posib yn golygu fydda nhw'n llwyddo, ond hefyd yn gallu golygu bod nhw'n methu. Ond un peth sy'n sicr, fydd 'na "cool head" gan Phil Parkinson. Brywdro am eu byw...

Cywion Caerdydd yn dathlu dyrchafiad 23.04.2026

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n llawn clod i reolwr Caerdydd Brian Barry-Murphy am arwain y garfan ifanc yn ôl i'r Bencampwriaeth ar y cynnig cyntaf. Mae gobeithion Wrecsam o gyrraedd y gemau ail-gyfle yn sicr am fynd i gêm ola'r tymor, tra bod gan Gasnewydd ddwy gêm i achub eu croen yn yr Ail Adran.

Colli'r plot! 16.04.2026

Mae tensiwn diwedd tymor yn creu cynnwrf ymysg y criw wrth i Mal wneud un tro pedol yn ormod. Ac mae Ows yn synnu pawb drwy roi clod i Gaernarfon am ennill Cwpan Cymru... ond wedyn yn dod at ei hun drwy atgoffa pawb bod nhw dal yn bell tu ôl i gyfanswm Fangor!

Ffarwel i Aaron Ramsey 09.04.2026

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn trafod gyrfa Aaron Ramsey, gobeithion Wrecsam o gyrraedd y gemau ail gyfle a record sgorio Zan Vipotnik.

Dysgu gwersi a chadw'r ffydd 02.04.2026

Ar ôl wythnos llawn emosiwn a siom enfawr wrth beidio â chyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2026, mae'r criw yn asesu be ddaw nesaf i Gymru o dan Craig Bellamy. Ac i ychwanegu at y straen, mae Dylan yn gwneud smonach lwyr o'r tabl proffwydo (eto!).

Dim Cwpan y Byd i Gymru 27.03.2026

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n asesu beth aeth o'i le i Gymru wrth golli i Bosnia-Herzegovina ar giciau o'r smotyn mewn gêm ail-gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd 2026. Wel am bodlediad ddigalon!

Dwy gêm o gyrraedd Cwpan y Byd 24.03.2026

Wedi pedwar mis hir o aros, mae gemau ail-gyfle Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026 wedi cyrraedd o'r diwedd. Mae yna densiwn, mae yna bili-pala yn y stumog ac mae yna ychydig o anghytuno ar bwy fydd y rheolwr Craig Bellamy yn ei ddewis i gychwyn yn erbyn Bosnia-Herzegovina nos Iau. Ond mae yna un peth yn sicr, mae'r criw i gyd yn hyderus fydd Cymru yn symud ymlaen i'r rownd derfynol i w...

Malcolm, tania'r mower 'na! 19.03.2026

Mae 'na gyffro ymysg y criw! Nid yn unig oherwydd bod cyfle o'r diwedd i nôl y peiriant torri gwair allan o'r sied, ond mae gêm anferth Cymru yn erbyn Bosnia-Herzegovina yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd ar y gorwel. Sut fydd Cymru yn delio heb Kieffer Moore? Oes 'na ddigon o opsiynau amddiffynnol yn dilyn anafiadau Ben Davies, Chris Mepham a Connor Roberts? A pham bod ambell gwestiwn yn y gynhad...

Abertawe llawn hyder wrth anelu am Wrecsam 12.03.2026

Ydi canlyniadau da Abertawe yn golygu bod nhw wedi ymuno yn y ras am gemau ail-gyfle y Bencampwriaeth? Pum pwynt ydi'r bwlch bellach rhwng y ddau glwb, ac fe all hynny leihau i ddau gyda buddugoliaeth i'r Elyrch ar y Cae Ras nos Wener. Mae hi wedi bod yn dipyn o wythnos i Wrecsam yn dilyn amser ychwanegol yn erbyn Chelsea ac yna colled gartref yn erbyn Hull City. A chyda rhagor o anafiadau - gan g...

Ydi pêl-droed yn ddiflas? 05.03.2026

Oes 'na ormod o basio a dim digon o gyffro yn y gêm fodern? Ydi ciciau cornel wedi mynd dros ben llestri go iawn? Ydi Malcolm wedi clywed gan Snoop Dogg ers ei rap bythgofiadwy? Oes, mae 'na gwestiynau dyrys i'w hateb ar y bennod yma... Mae'r criw yn cychwyn gyda'r pwynt gwerthfawr lwyddodd Cymru i gipio wrth agor y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2027 gyda gêm gyfartal yn y Weriniaeth Siec....

Syrcas Snoop yn cynhyrfu Abertawe 26.02.2026

Welsoch chi erioed olygfa mwy swrreal na Snoop Dogg - un o rapwyr enwoca'r byd - yn cyfarch cefnogwyr Abertawe tra bod rai o'i ganeuon yn bloeddio o uchelseinydd cartref yr Elyrch? Go brin. Roedd hi'n anodd i Dyl, Ows a Mal wybod lle i gychwyn efo'r holl firi - ond mi fydd y digwyddiad yn sicr yn aros yn hir yn y cof. Ac wrth gwrs, mi oedd rhaid i Mal roi gynnig ar rap bach ei hun... Mi oedd 'na y...

OTJ - Pencampwr fflipio Llanelli 19.02.2026

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod gem Wrecsam yn erbyn Chelsea yn Nghwpan Lloegr a gobeithion y pedwar clwb tan ddiwedd y tymor. Ma Ows hefyd yn dathlu fod yn Bencampwr Ras Crempog Llanelli, heb cael anaf!

Dwyn dreifar Alan Shearer 12.02.2026

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n gofyn os ydi Abertawe wedi ymuno yn y ras i gyrraedd y gemau ail-gyfle yn y Bencampwriaeth. Ac mae'r criw yn trafod rai o syniadau am reolau newydd gan ddisgyblion Ysgol y Creuddyn.

Wrecsam yn cryfhau ac Abertawe yn clicio 05.02.2026

Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n asesu'r ffenestr drosglwyddo i glybiau Cymru ac yn dadlau dros leoliad rownd derfynol Cwpan Cymru.

Taniwch y sigârs... mae Caerdydd i fyny yn barod! 29.01.2026

Ar ôl buddugoliaeth swmpus ganol wythnos i Gaerdydd, mae'r criw yn dechrau meddwl bod dyrchafiad yn ôl i'r Bencampwriaeth yn anochel yn barod. Maen nhw ar "lefel uwch" yn ôl Malcolm Allen, tra bod Owain Tudur Jones yn credu bod popeth "rhy hawdd" i'r Adar Gleision ar hyn o bryd. Y rheolwr Brian Barry-Murphy sy'n cael y clod i gyd am drawsnewid canlyniadau'r clwb... ond ydi'r llwyddiant yma yn pery...

Listen to the Y Coridor Ansicrwydd podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.