Mari Beard and Meilir Rhys Williams
Siarad Siop efo Mari a Meilir
Podlediad sgyrsiol arobryn || Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Weithiau ni'n cytuno a weithiau ni ddim 08.11.2021 1:05:40
Mi fyddwch chi'n falch o glywed fod Mari a Meilir wedi mwynhau'r bennod ddiwethaf o Rupaul's Drag Race UK yn ofnadwy. ac wedi maddau i Rupaul am y 'double elimination' yna. Mae'r dasg newydd sbon, ymddangosiad Charity Shop Sue a brwdfrydedd y beirniad gwadd, Alesha Dixon yn gwneud hon yn bennod i'w chofio a'i dathlu (diolch byth). Ond un peth fedrith Mari na Meilir gytuno arno,,,yw Krystal Versace...
Diweddglo dadleuol pennod chwech 01.11.2021 1:02:48
Dydi Mari na Meilir yn hapus ar ôl un o benodau fwyaf dadleuol y gyfres. Wedi Snatch Game gymharol lwyddiannus, doedd neb yn disgwyl i bethau fynd o chwith fel y gwnaeth hi ar y runway. Doedden ni methu aros i drafod y bennod yma er mwyn rhyddhau ychydig o stêm. Ydych chi'n cytuno efo penderfyniad Ru?
DYNA sut ti'n 'tuckio'? 25.10.2021 1:03:51
Ar ôl pennod...ddiddorol arall, mae ganddom ni lawer iawn i'w drafod. Sut hysbyseb fyse ti wedi ei wneud? Pwy yw Miranda Preistley? Oedd gan Mama Ru reswm i fod mor flin? Heb anghofio, mae Meilir yn datgelu dirgelwch y 'tuck' i Mari, unwaith ac am byth. Not for the faint hearted.
Pa Spice wyt ti? 18.10.2021 1:02:23
Roedd y bennod ddiweddaraf o Rupaul's Drag Race yn llawn nostalgia o oes aur y grwpiau pop. Fe lwyddodd un grwp o cwins i serennu, ond gafodd y lleill dipyn o 'tragedy' ar y llwyfan... Sori am y jôc, odd rhaid i ni! Heb anghofio, y categori runway gorau eto sef 'A Night of a Thousand Spice Girls'. Felly ewch i wisgo'ch platfforms, popper tracksuits a'ch Walkman's a mwynhewch y bennod yma o Cwins.
Gwnïo, gwersylla a gigyls. 11.10.2021 1:05:31
Fel ddywedodd Mari, mae'r sialens wnïo yn dueddol o ddatgelu pa cwins sydd efo doniau creadigol a pha rai sydd ddim, a dyna'n union ddigwyddodd. Tylluan mewn top hat, cwningen arswydus a barcud bob lliw... Pennod anhygoel arall o Drag Race!
Beth sy'n digwydd? 04.10.2021 1:01:59
Roedden ni angen cwsg a phaned gryf i ddadebru ar ôl gwylio'r bennod ddiweddaraf o Rupaul's Drag Race UK. Cymaint i'w drafod, cymaint o ddryswch a lot fawr o drag queens. Barod? Ffwrdd â ni!
Ar eich marciau, barod, EWCH! 27.09.2021 1:09:47
Wel, am bennod anferth i ddechrau'r gyfres! Dau gategori ar y 'runway' a dau lipsync. Mae ganddom ni ddigon i'w ddweud am y cwîns newydd yn y bennod (ychydig hirach na'r arfer) yma. Tybed ydych chi'n cytuno efo ni?
Yn y dechreuad... 17.09.2021 36:13
Croeso i bennod gyntaf ein podlediad newydd ni! Bob wythnos, mi fyddwn ni'n trafod a mwydro am bob dim i'w wneud â'r gyfres fyd-enwog, 'Rupaul's Drag Race'. A lle gwell i ddechrau na gyda'n argraffiadau cyntaf o 'line-up' brenhinesau newydd cyfres 3 o 'Rupaul's Drag Race UK'?
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.