Mari Beard and Meilir Rhys Williams
Siarad Siop efo Mari a Meilir
Podlediad sgyrsiol arobryn || Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Oes gen ti "ick"? 18.10.2023 1:05:54
Yn y bennod yma, mae'r dasg grwp pop yn codi nifer o atgofion i Mari a Meilir. Y platforms, y posters a'r girl power! Ond pa grwp roddod yr "ick" i "yum" y ddau? 'Sgwn i pa cwîn ddeniadol sydd wedi rhoi dipyn o benbleth i Meilir, a beth sy'n achosi i'r ddau ddweud "weithiau ni'n cytuno a weithiau ni ddim" am y tro cyntaf y gyfres yma?
Gwin..Sori, Cwîns efo Mari a Meilir 11.10.2023 1:07:42
Mae'r drincs yn llifo bron cymaint a barn Mari a Meilir. Mae yna hen ddigon i'w ddweud am wisgoedd amrywiol y Cwîns, ffrae Tomara a Cara, y gwestai Yasmin Finney...a sgwrs sydyn am atgyfodiad Big Brother!
BONWS British Podcast Awards 05.10.2023 20:57
Pennod fach fer yn sôn am bob dim British Podcast Awards. Mi wnawn ni gau'n cegau am y digwyddiad ar ôl hwn, GADDO!
Dechrau'r râs i cwîns cyfres 5 05.10.2023 1:04:07
Mae Rupaul's Dragrace UK yn ei ôl... sy'n golygu ein bod ni nol! Da ni methu aros i ddod i adnabod y criw newydd yma o CWÎNS.
Coroni Cwîn Cyfres Pedwar! 28.11.2022 1:21:50
Da ni wedi cyrraedd y ffeinal - ac am ffeinal oedd hi hefyd. Gwisgoedd, aduniadau, dagrau, megamix a'r lipsync i guro POB lipsync. Gwisgwch eich gwregys, mae hi'n dipyn o rollercaster!
Da ni bron dros y linell derfyn! 21.11.2022 1:06:21
O ystyried ei bod hi'n bennod gyn-derfynol, doedd na fawr o dân yn yr her gomedi yma yn anffodus. Yng ngeiriau'r anfarwol Trinity the Tuck, "where are the jokes?" Ond roedd na well siap ar y runway wrth i'r cwîns arddangos eu giwsgoedd punk fwyaf pwreus. Ydych chi'n hapus efo'r bedair sydd yn mynd i'r ffeinal?
Mae Mama Ru yn ei hôl! 14.11.2022 1:06:53
Er mor braf oedd gweld Mother Ru yn ôl yn ei sedd, doedd hynny dal ddim yn ddigon i dynnu sylw oddi wrth y sgript ofnadwy ar gyfer y dasg yr wythnos yma. Llanast llwyr! Ydi'r cwîns eraill yn dechrau cornelu Jonbers? Oedd Pixie wir yn crïo? Ydych chi'n cytuno efo canlyniad y lipsync? Oedd y looks yna'n anhygoel? 'Sgwn i os ydych chi'n cytuno efo Mari neu Meilir...?
Dirgelwch diflaniad Rupaul! 07.11.2022 1:10:39
Ble'r aeth y Cwîn RuPaul ei hun? Pwy ddewisodd y gân lipsync yna? A ddyliai Boy George fod ar y panel beirniadu? Rhain yw rhai o'r cwestiynnau mae Mari a Meilir yn YSU i'w trafod yr wythnos yma. Sgwn i os fyddwch chi'n cytuno efo barn Meilir neu Mari am y Cwîn fuddugol yr wythnos yma? Wel, i ffwrdd a chi!
Calan Gaeaf Cwîns 31.10.2022 7:19
Gan ei bod hi'n Galan Gaeaf, dyma ddarn ychwanegol gafodd ei dorri o'r bennod ddiwethaf i chi ei fwynhau tra'n cerfio eich pwmpen neu'n paratoi eich hysgyb. Mwahahaha!
Dyma hi! YYYY Snatchgame! 29.10.2022 1:14:45
Ma'n gwallt ni di gwynnu ar ôl y Snatchgame yna! Diolch byth bod Cwîn Elizabeth y Cyntaf yn eu plith nhw i achub y llong. Ydi Pixie rhy hunan-dosturiol? Pwy enillodd y lipstink? Nath Danny gynllwynio i newid ei gymeriad? Be sy di hollti barn Mari a Meilir? Wel, cliciwch play a gwrandewch.
Pennod orau RPDR UK erioed? 24.10.2022 1:09:26
Ma'r bennod yma o Cwîns yn jam packed ac yn fwy amrywiol na paced o Rowntree's Randoms. O Liz Truss i Jane McDonald, o lipsync legendary i ymadawiad ysgytwol ac o sioeau radio i sioeau cerdd. Barod amdani? AWÊ!
Gwell hwyr na hwyrach! 19.10.2022 1:10:44
Moelni, mwng, Michelle Visage, ymddiheuriad i T. H. Parry Williams, Hocus Pocus 2... Ma na dipyn bach o bob dim yn y bennod yma. Gan gynnwys y twerk exit fwyaf eiconig erioed. Mwynhewch!
Be ddigwyddodd i'r bingo? 10.10.2022 1:06:55
Da ni wir yn cael dod i nabod y cwins bellach ac mae ganddo ni ein ffefrynnau hyd yma. Be oeddech chi'n feddwl o'r sialens yma? Oes na ffasiwn beth a high fashion mewn bingo hall? Faint ohono chi sy di ffeindio cariad ar app? Hyn i gyd ar y bennod yma o Cwins!
Ew, mai'n mynd yn dda yma! 03.10.2022 1:05:23
Ma rhaid dweud - ma cwîns y gyfres yma wir wedi'n cyffroi ni a wnaeth pennod 2 ddim siomi. Be sy'n cyfri fel neon? Less is more? Be ma'r beirniaid ma isho? Pwy di Cathy Dennis? Dyma grafu'r wyneb ar rai o gwestiynnau da ni'n eu trafod yn y bennod yma. Oes gennych chi ffefryn hyd yma?
Haleliwia, da ni nol! 26.09.2022 1:23:10
Da ni mor falch fod y gyfres yn ei hôl yn dilyn holl ddigywddiadau'r haf. Da ni'n dechrau cyfres 3 o'n podlediad efo pennod hirach na'r arfer gan fod CYMAINT i'w drafod. Ma hi'n braf bod nol!
Enillydd DU vs Y Byd yw... 11.03.2022 1:10:06
Da ni wedi cyrraedd y ffeinal ac mae'n gyfle i ni adlweyrchu ar gyfres arall o Rupaul's Dragrace. Cytuno neu beidio, mae Ru wedi dewis 'Brenhines y Byd' gyntaf y gyfres ac mae gan Mari a Meilir ddigonedd i'w ddweud am y mater.
Y bennod gyn-derfynol! 04.03.2022 1:30:37
Yn y bennod yma, mae'r cwîns yn cwffio am y cyfle i gael canu cân efo Rupaul...drwy ganu cân efo Rupaul! Pwy fydd y bedair wnaiff oroesi i'r ffeinal?! A be ydi diffiniad 'Darn o Gelf'...?
Brad lipstick Blu 25.02.2022 1:32:18
Rhaid dweud mai hon oedd un o benodau fwyaf dramatig a chofiadwy o Dragrace ers amser maith. Mae ymateb y ffans wedi adlewyrchu hynny ac mae'r dadlau rhwng Mari a Meilir yr un mor danllyd. A wnaeth Blu y peth iawn? Ydych chi'n cytuno hefo'r fformat 'Allstars'?
Ail gynnig ar bennod 3! 21.02.2022 1:10:20
Ar ôl anffawd technegol, da ni o'r diwedd wedi llwyddo i ail-recordio ein adolygiad o bennod 3. Llond llwyfan o Westend Wendys a gwisgoedd smotiog, heb sôn am yr elimination controversial arall na!
Y categori yw... 11.02.2022 1:34:52
Pwy sydd ddim yn hoff o 'ball'? Yn enwedig pan mae na 3 chategori. Wel, dim Baga Chipz yn ôl pob golwg! A be am ddewis dadleuol Ru o'r ddwy cwîn yn y safle gwaelod yr wythnos yma? Cliciwch 'play' ac mi gewch chi wybod yn union be da ni'n feddwl.
O bedwar ban byd! 04.02.2022 1:24:06
Mae'r cwins rhyngwladol wedi cyrraedd a dydi Ru ddim am roi eiliad iddyn nhw orffwys wrth ofyn iddyn nhw gyflwyno eu talentau mewn sioe arbennig. Efallai bod ambell un wedi llwyddo yn well na'i gilydd... Gwrandewch i glywed pwy oedd ffefryn pennod 1 Mari a Meilir.
Cwîns yn erbyn y byd... 28.01.2022 52:37
A oes heddwch? No chance. Cyfres arall y Dragrace ar y BBC yn golygu un peth...CYFRES ARALL O CWINS! A ma hi mor braf bod nol. Yn y bennod yma, da ni'n trafod y line-up o frenhinesau byd-enwog sydd am gystadlu ar gyfer coron Brenhines y Byd. Mwynhewch!
Ac enillydd y drydedd gyfres yw... 29.11.2021 1:34:11
Wel, ma rhaid bod yn onest, doedd Mari na Meilir wedi rhagweld y byddai'r bennod olaf yn gorffen fel hyn. Da chi'n cytuno efo pwy wnaeth Rupaul ddewis fel enillydd? Gan fod cymaint i'w drafod am y ffeinal, dyma bennod arbennig ychydig hirach na'r arfer i ddathlu diwedd y gyfres gyntaf o Cwîns. Mwynhewch a diolch am wrando, Cwîns!
Pwy sydd am fynd i'r ffeinal? 22.11.2021 1:02:42
Da ni wedi cyrraedd y bennod gyn-derfynol o gyfres 3 ac mae'n amser i'r cwîns ddangos eu doniau 'stand-up'. Pwy oedd y gorau? Oedd rhagdybiaethau Mari a Meilir am y dair cwîn derfynol yn gywir? A'r limpstink (lipsync) yna - gwefreiddiol!
Nid Dragrace cyffredin mohono ond...Bra Wars? 15.11.2021 1:07:42
Heblaw am y sgript ofnadwy ac outfit...gwahanol Ru, mae yna lawer i'w ddathlu am y bennod yma. O sesiwn gastio Kitty i Yolo Vanity! Ond mae Mari a Meilir yn meddwl fod llaw gynhyrchu yn parhau i wyro ein barn am y cwîns. Ond am ffordd i orffen pennod efo lipsync for your life a hanner. Pwy sydd ddim isho 'chydig o deathdrops ac ambell split?
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.