Ymbweru Bro
Plannu hedyn
Yn aml, bydd pethau mawr yn dechrau fel hedyn syniad dros beint neu baned. Ond sut mae tyfu’r hedyn? Yn gyfres hon gan Ymbweru Bro, Catrin Angharad sy’n darganfod sut mae pobol o wahanol fröydd yn taclo’r heriau sy’n codi wrth gynnal ein diwylliant a’n ffordd o fyw. Gwefan Ymbweru Bro: https://bro.360.cymru/pwnc/bro/
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Gohebu, gweithio â'r gymuned a newid cwrs bywyd 20.03.2026 23:48
Dyma’r ail bennod o Plannu Hedyn sy’n bwrw golwg ar siwrnau aelodau aelodau Academi Newyddiaduraeth Golwg360. Mae Regan Dodd, Benjamin Withers, Joshua Romain, Lowri Rees-Roberts a Mabli Hampson yn edrych nôl dros brofiad llawn uchafbwyntiau, ac yn trafod sut mae’r academi wedi newi cwrs eu bywyd.
Canfod ffyrdd newydd o ohebu 02.02.2026 10:33
Mewn pennod arbennig o Plannu Hedyn, Cadi Dafydd sy’n sgwrsio gyda rhai o aelodau Academi Newyddiaduraeth golwg360. Mae Regan Dodd, Benjamin Withers, Joshua Romain a Mabli Hampson wrthi’n treulio rhai wythnosau’n gohebu ar straeon sy’n bwysig i’w cymunedau. Dyma nhw’n trafod eu straeon cyntaf, sut aethant ati a’r hyn mae’n nhw’n ei ddysgu trwy’r broses.
Prysuro defnydd adeilad 23.12.2024 30:39
Ble fyddai ein bröydd heb y neuaddau pentref? Ers cyd-godi neuaddau, capeli, festrioedd ac adeiladau eraill a ddatblygodd yn galon ein cymunedau, mae pethau wedi newid. Mae’r gost o gadw’r drysau’n agored wedi cynyddu, ac mewn nifer o ardaloedd mae llai o bobol yn defnyddio’r adeiladau yma. Yn y bennod hon o Plannu Hedyn ry’n ni’n clywed gan bobol sydd wedi gweithredu’n greadigol a meddwl am synia...
Lledu straeon lleol 17.12.2024 33:37
Mae’r papur bro yn ei chael hi’n anodd denu cyfranwyr newydd ac mae’r incwm yn leihau wrth i’r costau argraffu gynyddu. Ydy hyn yn swnio’n gyfarwydd i chi? Yn y bennod hon o Plannu Hedyn rydym yn cael cwmni pobol sy’n meddwl am ffyrdd newydd o rannu straeon lleol - trwy ddatblygu’r papur bro traddodiadol, trwy fanteisio ar blatfformau digidol, a thrwy feddwl yn greadigol am ffyrdd o leihau costau...
Cadw’r lle ar agor 25.11.2024 48:02
Pan mae busnes sy’n golygu llawer yn lleol yn mynd ar werth, oes ffordd o’i gadw ar agor? Mae’n drist gweld tafarndai a siopau bach yn cau. Ond mae sawl cymuned wedi ymateb yn gadarnhaol a mynd ati i brynu adeiladau a’u rhedeg fel mentrau cymunedol. Yn y bennod hon o Plannu Hedyn mae Gwenlli a chymuned Manod angen cyngor am sut i fynd ati i godi arian, dod â’r gymuned ar y daith a pharhau i ddatbl...
Croeso i’r ŵyl 14.11.2024 41:03
Sut gallwn ni greu gŵyl neu ddigwyddiad lleol sy'n gynaliadwy? Dyna’r cwestiwn sy’n cael ei holi gan griw Clotas yng Nghribyn, ar drothwy cynnal gŵyl newydd sbon yn y pentre i ddathlu arwr lleol. Bydd trefnwyr gwyliau bach a mawr yn ymuno â Catrin Angharad i geisio ymateb i’r her – o Ŵyl Cynhaeaf Arall yng Nghaernarfon, Gŵyl y Castell yn Aberystwyth, a Gŵyl Cefni a Gŵyl Gogogoch ar Ynys Môn.
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.