BBC Radio Cymru

Beti a'i Phobol

Society CY ↓ 661 episodes

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Author

BBC Radio Cymru

Category

Society

Podcast website

www.bbc.co.uk

Latest episode

Jul 6, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Mandy Watkins 04.05.2025

Mandy Watkins, cynllunydd cartref a chyflwynwraig ar gyfres S4C Dan Do, Hen Dŷ Newydd a 'BBC Wales’ Home of the Year' yw gwestai Beti George. Cafodd ei magu yn y Fali, ar Ynys Môn mewn tŷ o’r enw Graceland, a hynny gan fod ei rhieni yn hoff iawn o'r canwr Elvis, ac mae ganddi atgofion hapus iawn o blentyndod yn gwylio ffilmiau Elvis ar y teledu gyda'i theulu. Doedd bod yn gynllunydd cartrefi ddim...

Iwan Steffan 27.04.2025

Beti George sydd yn holi Iwan Steffan, cyflwynydd a dylanwadawr ar wefannau cymdeithasol, er nad ydi Iwan yn rhy hoff o'r term dylanwadwr. Yn wreiddiol o bentref Rhiwlas, tu allan i Fangor, ond mae bellach yn byw yn Lerpwl, ac yn cael ei adnabod gan bobol y ddinas oherwydd ei bresenoldeb ar Tik Tok, sydd yn ei gyflogi fel llysgennad swyddogol, mae dros 52 o filiynau o bobol wedi gweld ei fideos am...

Dr Llinos Roberts 13.04.2025

Roedd Dr Llinos Roberts yn feddyg teulu yn y Tymbl am flynyddoedd, cyn gorfod orfod cau yn 2024 oherwydd problemau recriwtio. Mae'n trafod sefyllfa'r NHS, yn sôn nad oes angen A* yn y lefel A i fod yn feddyg da. Mae sgiliau empathi a chyfathrebu yn holl bwysig, tydi rhain ddim yn cael eu mesur, ac mae angen meddygon o bob math o gefndir cymdeithasol. Mae’r iaith Gymraeg hefyd yn ganolog i gynnal y...

Kathy Gittins 06.04.2025

Kathy Gittins, artist a gwraig fusnes yw gwestai Beti George. Cawn hanesion difyr ei magwraeth ar fferm fynydd Penrhos, uwchben Pontrobert a Meifod yn Sir Drefaldwyn. Roedd y capel mor bwysig i fagwraeth Kathy, i Gapel Gad yr oedd hi’n mynd bob dydd Sul gyda’i theulu. Y capel drws nesa, rhyw filltir i fyny’r lon oedd Capel Penllys, sef lle sefydlwyd Aelwyd Penllys gan y diweddar Parch Elfed Lewis,...

Rhian Bowen-Davies 30.03.2025

Beti George sydd yn sgwrsio gyda Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Yn wreiddiol o Aberpennar ger Aberdâr, dechreuodd Rhian ei gyrfa fel swyddog heddlu, bu gyda nhw am 7 mlynedd ond y 3 mlynedd ola yn gweithio gyda aml asiantaeth efo trais yn y cartref. Penodwyd hi’n Gynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer mynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhyw...

Dr Eurfyl ap Gwilym 23.03.2025

Dr Eurfyl ap Gwilym yr economegydd yw gwestai Beti George. Daeth un digwyddiad yn 2010 ag ef i sylw mawr pan fentrodd herio Jeremy Paxman, un o'r newyddiadurwyr uchaf ei barch ym Mhrydain. Drannoeth 'roedd y gwefannau ar dân. Mi ddaru Eurfyl elwa o’r ffaith fod o ddim yn cyfadde’ ei fod o’n anghywir ac mi ddaliodd arno. Mae o di cael pobol yn dod ato yn ei adnabod o’r teledu - yng Nghaerdydd a Llu...

Mark Williams 16.03.2025

Mae Mark Williams yn gyn-nofiwr Paralympaidd, fe yw sylfaenydd LIMB-art - cwmni sy'n cynhyrchu cloriau unigryw a hwyliog ar gyfer coesau prosthetig. Newidiodd bywyd Mark Williams o’r Rhyl un diwrnod ym Mehefin 1982 pan gollodd ei goes chwith mewn damwain ffordd wrth seiclo adref o’r ysgol. Roedd Mark yn 10 mlwydd oed. Mae’r ddamwain wedi siapio ei fywyd a’i yrfa mewn nifer o ffyrdd ac wedi arwain...

Teleri Wyn Davies. 09.03.2025

"Mae bywyd yn rhy fyr" meddai Teleri Wyn Davies mewn cyfweliad arbennig gyda Beti George. "Mae beth sydd wedi digwydd i Dad wedi siapio fi, ac wedi neud i fi edrych ar fywyd mewn ffordd wahanol". Mae Teleri yn un o gyn-chwaraewyr tîm rygbi Cymru, ac wedi derbyn gwahoddiad i gael chwarae a hyfforddi’r gamp yn Tsieina. Mae hi'n byw yn ninas Shenzen sydd wedi ei lleoli yn ne-ddwyrain Tsieina, dinas g...

Gareth Parry 23.02.2025

Yr arlunydd o Flaenau Ffestiniog, Gareth Parry, yw gwestai Beti George. Magwyd yn y tŷ lle ganwyd ei Fam a’i Nain yn Manod, Blaenau Ffestiniog. Cawn hanesion difyr ei fagwraeth yn ogystal â'i hanes yn denig o Blaenau ar drên gyda'i ffrind ysgol am "fywyd gwell" yn Llundain a hynny yn ei arddegau. Wedi gadael ysgol, fe aeth i’r coleg celf ym Manceinion, cyfnod y mods a’r rocers a’r gerddoriaeth sou...

Georgia Ruth 16.02.2025

Georgia Ruth, y gantores a'r gyflwynwraig yw gwestai Beti George. Mae wedi rhyddhau 4 albwm, ac yn ystod y cyfnod clo, mi ddechreuodd sgwennu ychydig bob dydd. Mi ddaru hunan gyhoeddi ei nofel gyntaf “Tell Me Who I am”. Cafodd gynnig wedyn i sgwennu yn Gymraeg – Casglu Llwch, sef casgliad o fyfyrdodau ganddi. Roedd llynedd yn dipyn o flwyddyn rhwng popeth! Roedd ganddi albwm allan mis Mehefin. Roe...

Lowri Hedd 09.02.2025

Mae Lowri yn gweithio gyda GwyrddNi, mudiad gweithredu ar newid hinsawdd yn Dyffryn Peris, sy'n rhoi'r gymuned wrth galon y cynllun. "Dwi'n actifydd, yn amgylcheddwr, yn drwsiwr ac yn ail-bwrpaswr. Mae prynwriaeth a siopau tsiaen yn fy ngwylltio a fydda’i ddim yn hedfan, o ran egwyddor." Yn Fardd, yn Wrach Fodern ac yn aelod o Urdd Derwyddon Môn, yn fam i 3 o fechgyn ac yn Nain i un. Mae hi'n wyre...

Glenda Jones-Williams 02.02.2025

Glenda Jones-Williams Is lywydd pobol a diwylliant Gogledd Ewrop ac Asia a’r Môr Tawel gyda Coca Cola yw gwestai Beti George. Yn wreiddiol o Frynaman fe gafodd gyfnod yn gweithio ym myd y gyfraith ac wedyn cwympo mewn i’r byd corfforaethol ac i fyd adnoddau dynol (Human Resources neu Personnel gynt neu People and Culture fel maen nhw'n cael eu hadnabod yn Coca Cola). Mae wedi gweithio gyda Coca Co...

Daf James 26.01.2025

Daf James, y dramodydd, cerddor, cyfansoddwr, perfformiwr ac awdur yw gwestai Beti George. Fe gafodd lwyddiant ysgubol diweddar gyda'i gyfres deledu Lost Boys and Fairies, ac mae'n trafod yr heriau sydd yn dod yn sgil ysgrifennu. Mae yn rhannu ei brofiad o fabwysiadu dau fachgen a merch fach gyda'i ŵr, Hywel, ac yn trafod sut mae hynny wedi newid eu byd. Fe ddaeth yn rhiant yn fuan ar ôl colli ei...

Heledd Wyn 19.01.2025

Heledd Wyn yw gwestai Beti George mae'n ymchwilio i ddyfodol ein gwlad wrth i'r byd gynhesu. Mae hi'n credu bod rhaid i ni feddwl yn wahanol am y ffordd i ni'n cynhyrchu bwyd. Mae hi'n cyfarwyddo a chynhyrchu yn y byd ffilm a theledu, ac mae'n angerddol am y maes. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn barddoni a chynganeddu a chanu, ac fe gawn glywed hi'n canu cân hyfryd mae hi wedi ei ysgrifennu gyda'i me...

Noel Thomas a Siân Thomas: Rhaglen 2 12.01.2025

Dyma’r ail raglen lle mae Beti George yn sgwrsio gyda’r cyn is-bostfeistr Noel Thomas a'i ferch Siân am hanes eu brwydr yn erbyn y Swyddfa Bost. Cafodd Noel ei gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon a’i garcharu am naw mis yn 2006. Yn y rhaglen hon cawn ei hanes yn y carchar a'r ymdrechion yn dilyn hynny i glirio ei enw.

Noel Thomas a Siân Thomas: Rhaglen 1 05.01.2025

Yn y gyntaf o ddwy raglen, Beti George sydd yn sgwrsio gyda Noel Thomas, cyn is-bostfeistr a'i ferch Siân am fagwraeth a gyrfa'r ddau yn Ynys Môn ac fel yr oedd Swyddfa Bost Gaerwen yn mynd yn dda tan Hydref y 5ed 2005, pam ddaeth rhai o swyddogion ariannol y Swyddfa Bost a chnocio ar ei ddrws ac yna mynd a Noel i swyddfa'r heddlu yng Nghaergybi a'i gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug. Cafodd Noel...

Lisabeth Miles 22.12.2024

Yr actores Lisabeth Miles sy’n actio Megan Harris ar Pobol y Cwm yw gwestai Beti George. Mae hi'n flwyddyn fawr i’r opera sebon eleni wrth iddi ddathlu’r 50! Mae’n wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, a cafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Caernarfon. Aeth ymlaen wedyn i’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Wedi gadael y coleg, cychwynodd ei gyrfa efo’r Welsh Theatr Company, ac efo adain Gymraeg y...

Eurgain Haf 15.12.2024

Daw Eurgain o Benisa’r-waun yn Eryri ond mae hi'n byw ym Mhontypridd erbyn hyn gyda'i gwr a'u dau o blant. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau, ac wedi ennill sawl gwobr am lenydda gan gynnwys Coron Eisteddfod yr Urdd. Eurgain oedd enillydd y fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2024 gyda ' Y Morfarch Arian' . Mae hi'n gweithio fel Uwch Reolwr y Cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru.

Owain Gwynfryn 08.12.2024

Owain Gwynfryn yw gwestai Beti George. Fe gafodd Owain ei fagu yng Nghaerdydd, ac yna ym Mhrestatyn. Wedi sefydlu gyrfa lwyddiannus iddo'i hun fel ceiropractydd, fe benderfynodd Owain newid cyfeiriad a mynd i astudio'r llais yng Ngholeg y Guildhall yn Llundain. Graddiodd y llynedd, ac yntau yn ddeugain oed. Mae'n parhau gyda'i yrfa fel ceiropractydd yn ei glinig yn Llundain, pan fo amser yn caniat...

Anthony Matthews Jones 24.11.2024

Anthony Matthews Jones yw gwestai Beti George. Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae'n byw yn Iwerddon ers dros bum mlynedd ar hugain. Mae'n gweithio fel ymgynghorydd ariannol, ac wedi sefydlu ei gwmni ei hun. Ei ddiddordeb mawr yw canu, a hynny ers pan oedd yn ifanc. Mae'n teithio'r byd yn annerch mewn cynhadleddau, ac yn canu ynddynt hefyd.

Meirion MacIntyre Huws 10.11.2024

Meirion MacIntyre Huws yw gwestai Beti George. Mae'n gyfarwydd iawn i ni fel bardd, ac ef oedd Prifardd Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd 1993. Mae Mei Mac yn un sy'n barod i fentro a wynebu heriau newydd. Bu'n gweithio i'r Bwrdd Dŵr cyn ac ar ôl bod yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, cyn ymhel â sawl maes arall fel cartwnydd, dylunydd, rhedeg safle glampio, a gwesty. Bellach mae ganddo gwmni paneli...

Yr Athro Angharad Puw Davies 03.11.2024

Yr Athro Angharad Puw Davies yw gwestai Beti George. Fe'i magwyd yn Yr Wyddgrug, ond mae hi bellach yn byw yn Abertawe Mae hi'n arbenigo mewn microbioleg feddygol a heintiau, ac yn ystod y rhaglen fe fydd yn trafod y diciâu, gwaith ymchwil mewn carchar yn Llundain, ymweliad â Siberia, a cryptosporidiosis. Mae ganddi ddiddordeb mewn llenyddiaeth ac mae'n cynganeddu.

Richard Jones-Parry 27.10.2024

Richard Jones-Parry yw gwestai Beti George. Mab fferm Bryn Bachau rhwng Abererch a Chwilog yw Richard. Mae'n gyn athro Cemeg yn Ysgol Breswyl Marlborough, ac wedi bod yn dysgu yn Awstralia hefyd. Fe dreuliodd gyfnod hefo'i deulu yn gwirfoddoli yn Ghana. Mae'n treulio pedwar mis o'r flwyddyn yng Nghymru a'r gweddill yn Adelaide, Awstralia.

Aled Lewis 20.10.2024

Aled Lewis yw gwestai Beti George. Mae'n gynllunydd a saer dodrefn, sydd wedi sefydlu ei fusnes ei hun ers pum mlynedd ar hugain. Cafodd ei fagu ar fferm ger Machynlleth gan ddod dan ddylanwad ei dad - oedd yn grefftwr da. Yn 16 oed fe aeth i Goleg Rycotewood yn Rhydychen i astudio gwaith coed a dylunio dodrefn cyn mynd draw i America i weithio. Mae wedi treulio cyfnod yn Ne Affrica hefyd yn y cyf...

Malachy Owain Edwards 13.10.2024

Beti George yn sgwrsio gyda'r awdur Malachy Owain Edwards. Cafodd Malachy ei fagu yn Ffynnon Taf. Saesneg oedd iaith yr aelwyd, ond fe aeth ei dad ati i ddysgu Cymraeg. Mae'n trafod y ffaith ei fod eisiau bod yn awdur, ac fe gafodd ei fagu yng nghanol llyfrau. Fe wnaeth ei hunangofiant 'Y Delyn Aur' gyrraedd rhestr fer Llyfr Ffeithiol Greadigol 'Llyfr y Flwyddyn' eleni. Wrth drafod ei hunaniaeth m...

Listen to the Beti a'i Phobol podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.