BBC Radio Cymru
Beti a'i Phobol
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Edwin Humphreys 07.12.2025 48:51
Beti George yn holi y cerddor a'r cyn nyrs Edwin Humphreys. Nid yn aml mae Beti yn cael gwestai sydd wedi cael gyrfa mor amrywiol â hynny mewn meysydd mor wahanol i'w gilydd. Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 mlwydd oed fe aeth Edwin Humphreys i'r fyddin a bu'n aelod o Fand Pres Catrawd Hussars. Yna bu'n gerddor yn chwarae gyda sawl band Cymraeg ac wedyn fe aeth i'r Brifysgol yn 30 mlwydd oed i astudio...
Sioned Fôn Jones 30.11.2025 41:46
Sioned Fôn Jones, gwyddonwraig ifanc o bentref Waunfawr, Gwynedd yw gwestai Beti George. Mae wedi creu cwmni Booby Biome yn Llundain. " Ni oedd y cwmni cyntaf o'i fath yn y maes yma" meddai Sioned. Maen nhw'n creu llaeth sydd yn debyg i laeth y fron, "mae'n cocktail o facteria perffaith i fabi" tebyg i probiotic sydd wedi ei ddylunio o laeth y fron gan griw o wyddonwyr ifanc. Y gobaith ydi y bydd...
Dr Brython Hywel. 23.11.2025 49:00
Beti George yn holi Dr Brython Hywel. Bod yn ddeintydd oedd ei uchelgais cyntaf ond ar ôl profiad gwaith yn ysbyty Glan Clwyd fe newidiodd ei feddwl, er bod meddyg ifanc yn fanno wedi dweud wrtho beidio mynd yn feddyg. Ond tydi o ddim wedi difaru anwybyddu cyngor y doctor ifanc ac erbyn hyn wedi blynyddoedd lawer o astudio a hyfforddi mae wedi cyrraedd y brig ac yn arbenigo mewn maes Niwroleg a Ni...
Jâms Powys 16.11.2025 44:03
Beti George sydd yn holi'r peilot Jâms Powys. Ar hyn o bryd mae'n gweithio i gwmni awyrennau British Airways ac mae'n cyfarch y teithwyr yn Gymraeg. Ers yn blentyn bach doedd dim byd arall yn apelio fel gyrfa, ac fe ddechreuodd hedfan cyn iddo yrru car. Cawn glywed ei hanesion yn hedfan i Efrog Newydd, Nigeria a Mecsico. Mae'n sôn am gyfnod Covid ac effaith hynny ar y diwydiant, ac am newidiadau s...
Jane Richardson 02.11.2025 47:47
Beti George sy'n holi Jane Richardson - Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru. Fe gafodd Jane ei geni a'i magu yn Lloegr. Cymraes oedd ei mam, ac i Gymru y bydden nhw'n dod fel teulu ar eu gwyliau. Wedi graddio yn Rhydychen ac yna priodi, fe ddaeth i Ben Llŷn i fyw, a chael gwaith gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac fe ddysgodd Gymraeg. Ddwy flynedd yn ôl fe'i penodwyd yn Brif Weithredwr yr Amgueddf...
Mari Huws 26.10.2025 48:32
Beti George yn holi Mari Huws - warden ar Ynys Enlli. Fe gafodd Mari ei magu yng Nghaernarfon a Phenygroes, ac fe gafodd brofiad yn ifanc o deithio hefo'r teulu, gan gynnwys mynd i Ynys Enlli. Treuliodd gyfnodau yn gwirfoddoli a gweithio yn Costa Rica, Nicaragua, Siapan ac Indonesia. Mae hi wedi cynhyrchu ffilmiau dogfen, a Mari oedd yn gyfrifol am y prosiect 'Olew Drwg' sy'n trafod y diwydiant ol...
Nolwenn Korbell 19.10.2025 48:03
Beti George yn holi Nolwenn Korbell. Llydawes wnaeth syrthio mewn cariad hefo'r Gymraeg ydi Nolwenn, a hynny ers pan oedd hi'n blentyn yn mynd gyda'i mam bob blwyddyn i'r Gyngres Geltaidd. Fe dreuliodd gyfnod yng Nghymru, a bu'n canu gyda Bob Delyn a'r Ebillion. Ar ôl mynd yn ôl i Lydaw aeth ei gyrfa fel cantores o nerth i nerth gan gyrraedd y brig. Mae hi wedi rhyddhau saith albym hyd yn hyn.
Marcus Whitfield 12.10.2025 45:39
A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae Beti George yn holi Marcus Whitfield. Mae Marcus yn siaradwr newydd sydd mor frwd dros yr iaith nes iddo fynd ati i agor canolfan yn Llanbedr Pont Steffan i ddod â dysgwyr at ei gilydd i ymarfer yr iaith, a chodi eu hyder. Wedi sawl ymdrech ar ddysgu'r iaith, yr ysgogiad mawr i Marcus ail afael ynddi oedd mynd i Euro 2016 a glanio yng nghanol cymaint o...
Dafydd Roberts 05.10.2025 48:35
Dafydd Roberts yw gwestai Beti George. Mae'n gerddor ac yn gynhyrchydd, ac yn aelod o'r grwp gwerin poblogaidd Ar Log, sy'n hanner cant oed flwyddyn nesaf. Pan yn ifanc, roedd Dafydd a'i fryd ar fod yn feddyg, ond Seicoleg oedd ei bwnc ym Mhrifysgol Bangor. Mae wedi protestio ac ymgyrchu dros yr iaith, ac yn ddiweddarach dros chwarae teg i gerddorion. Bu'n gynhyrchydd teledu ac yn brif weithredwr...
Dr Celyn Kenny 28.09.2025 48:22
A hithau'n Fis Ymwybyddiaeth Canser Plant, mae Beti George yn holi Dr Celyn Kenny. Meddyg sydd yn gweithio gyda phlant sy'n dioddef o ganser yw Celyn. Doedd hi ddim yn hawdd iddi gael lle ar y cwrs Oncoleg Plant gan fod 'na gyfyngu ar y nifer, ond llwyddodd i ddod yn gyntaf drwy Brydain. Mae hi newydd dreulio chwe mis yn Ysbyty Great Ormond Street, a bellach mae hi'n ôl yn gweithio ar Ward Arch No...
Dr Gareth Evans-Jones 21.09.2025 48:13
Beti George yn holi Dr Gareth Evans-Jones. Mae Gareth yn awdur, bardd a dramodydd ac wedi ennill Y Fedal Ddrama ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe gafodd fagwraeth gymhleth, ac fe wahanodd ei rieni pan oedd yn bump oed. Aeth i Brifysgol Bangor, a chael gradd meistr a doethuriaeth, ac ennill sawl gwobr hefyd. Mae Gareth bellach yn gweithio fel darlithydd yn Adran Grefydd ac Athroniaeth Pri...
Beth Winter 14.09.2025 48:44
Beth Winter cyn aelod seneddol dros Gwm Cynon yw cwmni Beti George. Fe dreuliodd ei phlentyndod yn Aberdâr, ac roedd ymgyrchu dros achosion gwahanol yn ganolog i'r teulu. Fe gafodd ei hethol i Senedd San Steffan yn 2019 wedi Ann Clwyd benderfynu peidio sefyll. Fe unwyd Cwm Cynon a Merthyr Tudful ac o ddau aelod seneddol, hi gollodd y dydd yn etholiad 2024. Fe aeth Beth i’r brifysgol ym Mryste i as...
Ffrancon Williams 24.08.2025 47:53
Beti George sydd yn holi Ffrancon Williams - cyn Brif Weithredwr Cymdeithas Dai 'Adra'. Fe'i magwyd ym Mangor. Fe astudiodd Ffrancon Beirianneg Electroneg yn y brifysgol, ond penderfynodd newid maes ar ôl sylweddoli ei fod eisiau gweithio yng nghanol pobl, ac eisiau gwneud gwahaniaeth i'w bywydau. Treuliodd gyfnod yn gweithio i British Standards, cyn mynd i weithio i gwmni preifat oedd yn ymwneud...
Mel Owen 17.08.2025 48:15
Beti George yn holi Mel Owen - cyflwynydd, awdur a digrifwr. Fe'i magwyd yng Nghapel Seion ger Aberystwyth, ac aeth i Brifysgol Caerdydd. Wedi iddi weithio yn y maes gwleidyddol pan yn ifanc, mae Mel Owen bellach yn gyflwynydd ar y cyfryngau Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys y rhaglen 'Ffermio' ar S4C. Mae hi hefyd i'w gweld ar lwyfannau comedi stand up, a llynedd fe gafodd gryn lwyddiant yng Ngŵyl C...
Llŷr Williams 03.08.2025 46:54
Beti George sydd yn holi'r pianydd sydd yn adnabyddus trwy'r byd, Llŷr Williams. Cafodd ei fagu yn Pentre Bychan, Wrecsam ac mae dal i fyw yno. Mae wedi perfformio mewn neuaddau megis Carnegie Hall, Efrog Newydd, ac wedi llenwi neuadd fawr yn y Moscow Conservatory, Rwsia. Mae wedi teithio i berfformio'n Tokyo a Mecsico ac yn rhannu eu straeon difyr. Mynychodd Ysgol Gynradd ID Hooson yn Rhosllanner...
Llinos Roberts 27.07.2025 49:03
Llinos Roberts o Rosllannerchrugog yw gwestai Beti George, mae hi'n Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025. Yn wreiddiol o’r ardal, mae hi wedi byw a gweithio yn y sir fwy neu lai ar hyd ei hoes, ac mae'n Bennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a'r Gymraeg yng Ngholeg Cambria. Mae 3 mlynedd wedi pasio ers i Aled Roberts ei gŵr farw yn sobor o ifanc yn 59 mlwydd oed. Bu Aled Rob...
Wyn Davies 18.07.2025 40:15
Beti George yn sgwrsio gyda chyn-ymosodwr Cymru, Wyn Davies. Darlledwyd y rhaglen yn wreiddiol yn 2003.
Leisa Mererid 13.07.2025 49:02
Beti George sydd yn holi'r actores a'r hyfforddwraig yoga Leisa Mererid. Mae'n disgrifio ei phlentyntod fel hogan fferm ym mhentref Betws Gwerfyl Goch fel un 'eidylig' ac roedd yn treulio ei hamser sbâr i gyd allan yn chwarae. Astudiodd Ddrama yn Ysgol Theatr Fetropolitan Manceinion lle enillodd radd mewn actio, cyn hyfforddi ymhellach yn Ysgol Ryngwladol Meim, Theatr a Symudiad Jacques LeCoq ym M...
Gethin Evans 29.06.2025 49:15
Gwestai Beti George yw Gethin Evans, mae'n ddigrifwr stand-up, mae ei lais yn gyfarwydd i ni ar Radio Cymru, yn cyflwyno gigs comedi ac yn aelod o Fand Pres Llanreggub, ac mae'n dad i ddau o blant. Ond mae ei waith bob dydd yn heriol, mae'n gweithio llawn amser i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn ymwneud â digido holl fanylion y gwasanaeth iechyd meddwl. Daw yn wreiddiol o Dremadog, ac fe aeth o i Y...
Manon Awst 22.06.2025 48:37
Yr artist Manon Awst yw gwestai Beti George. Mae hi'n arbenigo mewn celf gyhoeddus ac yn gwneud cerfluniau, gosodiadau a pherfformiadau sy'n archwilio themâu lle, hunaniaeth a thirwedd. Mae ei gwaith diweddar yn ymwneud â chorsydd a mawndiroedd. Fe gafodd wobr i artistiaid gan yr Henry Moore Foundation (2022-23) a Chymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol (2023-2025) fel rhan o raglen Natur Greadigol Cyngor...
Bethan Sayed 15.06.2025 49:23
Yn rhan o dymor Merthyr BBC Cymru mae Beti George yn holi Bethan Sayed, gwleidydd gafodd ei hethol i’r Cynulliad yn 2007 pan oedd hi’n 25 mlwydd oed. Roedd hi'n bach o rebel yn yr ysgol gynradd ac yn y cynulliad yn adnabyddus am draethu'n blwmp ac yn blaen, ac yn barod iawn i herio'r drefn. Fe benderfynodd beidio sefyll yn etholiad 2021, gan nad oedd yn hapus gyda'r hyn oedd yn digwydd yn ei phlai...
Jess Davies 08.06.2025 48:54
Beti George sy'n cael cwmni Jess Davies sydd wedi ymddangos mewn cylchgronau Nuts a ZOO fel 'glamour model' ond sydd bellach yn ymgyrchu dros hawliau merched a'i diogelwch ar y we. Mae hi ar hyn o bryd yn gweithio gyda gwleidyddion yn San Steffan ar fesur sydd yn mynd drwy'r senedd i wella diogelwch ar y we. Mae hi wedi cael profiadau gwael ei hun, mae lluniau o'r model a'r cyflwynydd o Aberystwyt...
Ian Keith Jones 25.05.2025 48:32
Ian Keith, sydd newydd ymddeol fel Prifathro yw gwestai Beti George. Fe adawodd y byd addysg llynedd ar ôl bod yn Bennaeth ysgol San Siôr, Llandudno. Fe enillodd sawl gwobr, gan gynnwys Pennaeth y Flwyddyn gyda'r Daily Express a'r Daily Post; gwobr David Bellamy am ysgol oedd yn gwneud gymaint gyda byd natur; a gwobr werdd y World Wildlife Fund. Roedden nhw'n cadw ieir a gwenyn ac yn gwerthu'r cyn...
Iona Roberts 18.05.2025 48:51
Iona Roberts, neu Iona Pen Ffridd i bawb sy’n ei hadnabod yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae Iona yn ffarmwraig ac yn gadwraethwr, mae'n hyfforddwr yoga, yn gyn warden gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn fam i 3 o blant (Nel, Nedw a Joe) a gwraig i John. Mae hi hefyd yn rhedeg rasys Iron Man. Ganwyd ar fferm Pen Ffridd, Penmachno (pentref ger Betws y Coed, yn Sir Conwy). Cafodd ei magu gyda'i...
Welsh Whisperer - Andrew Walton 11.05.2025 48:56
Y canwr gwlad Andrew Walton o Gwmfelin Mynach yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel y Welsh Whisperer, ac mae'n dathlu 10 mlynedd eleni ers dechrau perfformio. Mi fydd y caneuon 'Ni'n Beilo Nawr' a 'Bois y JCB' yn gyfarwydd i'w ffans. Cafodd ei fagu yng Nghwmfelin Mynach yn Sir Gaerfyrddin. Mae bellach yn byw yng Nghaernarfon, Gwynedd. Graddiodd mewn newyddiaduraeth ym Mhrif...
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.