Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Beth yw ystyr bywyd?
Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill Dyma bodlediad yn y Gymraeg sydd ychydig yn wahanol i’r arfer, a sydd - fel mae’r teitl yn ei awgrymu - yn mynd i’r afael â rhai o gwestiynau mawr bywyd. Ariennir y podlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chyflwynir y gyfres gan Dr Huw Williams, darllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn cynnal sgyrsiau bywiog a ffraeth â chyfeillion amrywiol, gan gynnwys arbenigwyr a rhai academyddion blaenllaw Cymraeg. Rhagdybiaeth y gyfres yw bod pob un ohonom yn hel meddyliau ar faterion dwys sy’n rhan o fywyd pob dydd, ac mae trafod a...
Author
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Category
Podcast website
Latest episode
Feb 4, 2026
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Pennod 1 - Beth yw ystyr bywyd? 04.02.2026 1:09:39
Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Mirain Rhys, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd yn uwch-ddarlithydd mewn Seicoleg a hefyd yn gwnselydd. Mae ei harbenigedd academaidd a’i phrofiad ymarferol yn cynnig safbwynt unigryw ar y cwestiwn dan sylw, ac yn sail i ddehongliadau difyr a chraff ynghylch pwysigrwydd ceisio ateb y pos tragwyddol hwn. Nid yw’r bennod agoriadol hon...
Pennod 2 - Pam crefydd? 04.02.2026 1:11:01
Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Gareth Evans-Jones, Prifysgol Bangor, sydd yn ddarlithydd mewn Athroniaeth a Chrefydd (ymysg pethau eraill!). Cyfyd sawl thema a safbwynt ar y cwestiwn, gan drafod tarddiad crefydd, ei ‘phwrpas’, a phaham y bu’n rhan mor greiddiol o fywyd y ddynoliaeth. Mae’r ddau hefyd yn myfyrio ar oblygiadau’r ffaith nad yw crefydd mor ganolog ag y...
Pennod 3 - Pam fod tlodi’n bodoli? 04.02.2026 1:11:18
Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Sam Parry, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd yn ddarlithydd mewn Busnes ac yn arbenigwr ar ddatblygiad economaidd – yn enwedig o’r safbwynt hanesyddol. Mae Sam yn helpu esbonio’r ffactorau sy’n gyfrifol am hirhoedledd tlodi , a chan edrych ar y cwestiwn o safbwynt lleol a byd-eang. Trafodir sut y mae deall a diffinio tlodi, a pha...
Pennod 4 - Pa angen sydd am wladwriaeth? 04.02.2026 1:05:16
Yn y bennod hon mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Huw Rees, ei gyd-weithiwr yn gyd-ddarlithydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Huw (Rees!) yn arbenigwr mewn Athroniaeth Wleidyddol ac yn y bennod hon mae’n trafod y gwahanol safbwyntiau a dadleuon a geir mewn perthynas â’r wladwriaeth. Cychwynnir gyda’r cwestiwn sylfaenol ynghylch yr angen am wladwriaeth, gyda Huw yn esboni...
Pennod 5 - Pam fod hiliaeth yn bodoli? 04.02.2026 1:08:25
Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gydag Emily Pemberton, arbenigwr ym maes cydraddoldebau, ac yn bennaf ym maes gwrth-hiliaeth. Mae Emily yn galw ar ei gwaith fel ymarferydd a hefyd ei hymchwil academaidd i ateb rhai o’r cwestiynau sylfaenol ynghylch tarddiad hiliaeth, ei datblygiad, a’i heffeithiau ar y gymdeithas ddynol yn hanesyddol, ac yn y dydd sydd ohoni. Trafodir y ber...
Pennod 6 - A Oes Heddwch? 04.02.2026 59:17
Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda’r Athro Howard Williams, arbenigwr ar athroniaeth gwleidyddol ac awdur cyfrol sydd yn mynd i’r afael â’r cwestiwn o heddwch tragwyddol. Yn y sgwrs hon, mae Howard a Huw yn trafod y gwahanol safbwyntiau sydd wedi ymddangos yn y traddodiad gorllewinol mewn perthynas â’r thema o heddwch, gan bwyso a mesur sut y gwnaeth gwahanol feddylwyr dde...
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.