Joe Morgan

Sŵntrack gyda Joe

Music CY ↓ Odcinki: 10

Yn bob pennod, mae Joe yn cael sgwrs hamddenol gyda artistiaid, DJiaid, cynhyrchwyr a phobl sy’n rhan o’r byd cerddoriaeth Gymraeg. O enwau newydd i wynebau cyfarwydd. Trafodir popeth o ysbrydoliaeth a gigs i ganeuon newydd a'r daith greadigol. Wedi’i greu fel platfform i ddathlu a rhannu miwsig Cymraeg mewn ffordd onest a chroesawgar, mae’r podlediad yn agored i bawb – boed yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu’n ddysgwyr brwd.

Koniecznie odwiedź stronę podcastu i wesprzyj twórcę: podcasters.spotify.com

Autor

Joe Morgan

Kategoria

Music

Strona podcastu

podcasters.spotify.com

Ostatni odcinek

24 kwi 2026

Gdzie słuchać?

Podcasty w aplikacji Replaio Radio Już wkrótce

Podcasty trafią do aplikacji już wkrótce. Zainstaluj teraz i jako pierwszy zobacz nowe podejście do podcastów

Pobierz z Google Play Zainstaluj za darmo Android 5 mln+ pobrań · ocena 4,8 iOS niedługo

Odcinki

Pennod 9 - Awni 24.04.2026

Yn yr episod hwn o  Sŵntrack , dwi’n eistedd lawr gyda Jona o Awni - y platfform newydd sy’n gwneud hi’n haws nag erioed i ddod o hyd i gigs Cymraeg ledled Cymru. Gyda lansiad eu ap newydd, mae popeth rwyt ti angen mewn un lle 👀 Da ni’n sgwrsio am y sin gigs Cymraeg dros yr haf, ein dream line-ups, a jyst yn trafod popeth o gerddoriaeth i  Y Llais 😂 Os wyt ti’n caru gigs, neu eisiau dechrau mynd...

Pennod 8 - Dydd Miwsig Cymru gyda Cati & Cadi 13.02.2026

Pennod arbennig ar gyfer Dydd Miwsig Cymru! Yn y bennod yma dwi’n cael sgwrs ysgafn a hwyliog gyda Cati a Cadi  - yn gyfarwydd i lawer ohonoch chi o Cyw a Stwnsh, ac hefyd yn canu cefndir i Tara Bandito. Ni’n sgwrsio am bopeth o’u cefndir gyda cherddoriaeth Gymraeg, gigs gorau, artistiaid maen nhw’n caru, at pam mae cerddoriaeth Cymraeg mor bwysig heddiw. Mae’n bennod glên, chwerthinllyd, a llawn...

Pennod 7 | Nadolig gyda Bronwen Lewis 23.12.2025

Wrth gloi Season 1 o Sŵntrack, dyma’n arbennig Nadolig gyda Bronwen Lewis! Rydyn ni’n sgwrsio am gerddoriaeth, ei thraddodiadau Nadolig, a chymryd cipolwg y tu ôl i’r llen ar Y Llais. Ffordd gynnes a hwyliog o gloi’r tymor cyntaf - diolch am wrando, a Nadolig Llawen!

Pennod 6 | Dawns Rhyngol 28.11.2025

Penod arbennig o Sŵntrack wedi’i recordio yn fyw o Ddawns Rhyngol yn Aber!  Diolch enfawr i UMCA ,yn enwedig Nanw, am fy helpu i wneud hyn ddigwydd ac am drefnu penwythnos mor anhygoel. Sgyrsiau cyflym, llawn hwyl gyda’r tri act oedd yn perfformio: Buddug, Maes Parcio, a’r prif sêr Bwncath. Lot o vibes da, tipyn o sŵn cefndir (c’mon, roedd pawb yn dawnsio), a digon o gariad at gerddoriaeth Gymraeg...

Pennod 5 | Ellis Lloyd Jones a Mel Owen 07.11.2025

Yn y bennod ‘ma, mae’n chaotic mewn ffordd hyfryd! Mae Ellis Lloyd Jones a Mel Owen yn ymuno i sgwrsio am bopeth o dyfu i fyny’n siarad Cymraeg, i sut maen nhw’n defnyddio’r iaith yn eu bywydau creadigol - boed hynny ar lwyfan, ar-lein neu ar y radio. Wrth gwrs, mae pethau’n mynd ar drywydd Drag Race UK Season 7, mae ambell gân wych yn cael ei argymell, a digonedd o chwerthin ar hyd y ffordd.

Pennod 4 | Calan Gaeaf | Mike Simmonds-Dickens + Cerys 24.10.2025

Mae’n bennod arbennig o’r podlediad i ddathlu Calan Gaeaf! Yn ymuno â fi mae Michael Simmons-Dickens, a berfformiodd ar Y Llais, a Cerys, sy’n creu cynnwys dysgu Cymraeg ar TikTok. Mae’r tri ohonom ni i gyd wedi dysgu Cymraeg - felly mae hon yn bennod 100% dysgwyr! Rydyn ni’n siarad am sut wnaethon ni ddechrau dysgu’r iaith, ein hoff bethau am ddiwylliant Cymraeg, ac wrth gwrs… ambell stori arswyd...

Pennod 3 | Endaf 09.10.2025

Er mai hon yw’r drydedd bennod i ddod allan, hon oedd y gyntaf i fi recordio - a gyda neb llai na Endaf! Ni’n sgwrsio am bopeth o’r Royal Welsh i’w amser ar  Y Llais , a’r holl brosiectau cyffrous mae o’n gweithio arno nawr. Sgwrs reit onest, chilled ac ysbrydoledig am gerddoriaeth a bod yn artist Cymraeg heddiw. Even though this is the third episode to come out, it was actually the first one I re...

Pennod 2 | Efan o Dadleoli 26.09.2025

Yn y bennod hon, mae Joe yn eistedd i lawr gyda  Efan , prif ganwr y band Cymraeg sy’n codi’n gyflym,  Dadleoli . Maen nhw’n trafod dechreuadau’r band, eu haf llawn gigs gan gynnwys Maes B, a rhyddhau eu sengl ddiweddaraf  Casanova . Mae Efan hefyd yn rhannu ei hoff draciau Cymraeg, ei gydweithrediadau breuddwydiol, ac yn rhoi cipolwg ar beth sydd nesaf i Dadleoli.

Pennod 1 | Iestyn Gwyn Jones + Elen Evans 19.09.2025

Croeso i bennod gyntaf Sŵntrack gyda Joe! 🎶 Gyda fi mae Elen o’r Gym Gym yn Abertawe a’r cerddor Iestyn Gwyn Jones (Ble?, Cadog). Ni’n sgwrsio am gigs, gwyliau, a cherddoriaeth Gymraeg. Welcome to the first episode of Sŵntrack with Joe! 🎶 Joining me are Elen from Swansea Uni’s Welsh Society and musician Iestyn Gwyn Jones (Ble?, Cadog). We chat about gigs, festivals, and Welsh music.👉 Gwrandewch...

Cyflwyno | Intro 11.08.2025

Croeso i  Sŵntrack gyda Joe - y podlediad sy’n taflu goleuni ar gerddoriaeth Gymraeg heddiw. O’r artistiaid mwyaf i’r rhai sy’n newydd ar y sîn, bydda i’n rhannu’r traciau, y sgwrsiau a’r straeon sy’n siapio sŵn Cymru. Os ti’n siarad Cymraeg yn rhugl neu’n dysgu, dyma dy cyfle i ddysgu am y byd cerddorol Cymraeg. Welcome to  Sŵntrack with Joe  - the podcast that shines a light on today’s Welsh mus...

Słuchaj podcastu Sŵntrack gyda Joe w Replaio

Radio i podcasty w jednej aplikacji - za darmo, bez zakładania konta. Zainstaluj już dziś i nie przegap premiery

Pobierz z Google Play

Replaio nie jest wydawcą podcastów; nazwy audycji, okładki i audio należą do ich autorów i są rozpowszechniane przez publiczne kanały RSS