Joe Morgan
Sŵntrack gyda Joe
Yn bob pennod, mae Joe yn cael sgwrs hamddenol gyda artistiaid, DJiaid, cynhyrchwyr a phobl sy’n rhan o’r byd cerddoriaeth Gymraeg. O enwau newydd i wynebau cyfarwydd. Trafodir popeth o ysbrydoliaeth a gigs i ganeuon newydd a'r daith greadigol. Wedi’i greu fel platfform i ddathlu a rhannu miwsig Cymraeg mewn ffordd onest a chroesawgar, mae’r podlediad yn agored i bawb – boed yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu’n ddysgwyr brwd.
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Pennod 9 - Awni 24.04.2026 21:03
Yn yr episod hwn o Sŵntrack , dwi’n eistedd lawr gyda Jona o Awni - y platfform newydd sy’n gwneud hi’n haws nag erioed i ddod o hyd i gigs Cymraeg ledled Cymru. Gyda lansiad eu ap newydd, mae popeth rwyt ti angen mewn un lle 👀 Da ni’n sgwrsio am y sin gigs Cymraeg dros yr haf, ein dream line-ups, a jyst yn trafod popeth o gerddoriaeth i Y Llais 😂 Os wyt ti’n caru gigs, neu eisiau dechrau mynd...
Pennod 8 - Dydd Miwsig Cymru gyda Cati & Cadi 13.02.2026 22:06
Pennod arbennig ar gyfer Dydd Miwsig Cymru! Yn y bennod yma dwi’n cael sgwrs ysgafn a hwyliog gyda Cati a Cadi - yn gyfarwydd i lawer ohonoch chi o Cyw a Stwnsh, ac hefyd yn canu cefndir i Tara Bandito. Ni’n sgwrsio am bopeth o’u cefndir gyda cherddoriaeth Gymraeg, gigs gorau, artistiaid maen nhw’n caru, at pam mae cerddoriaeth Cymraeg mor bwysig heddiw. Mae’n bennod glên, chwerthinllyd, a llawn...
Pennod 7 | Nadolig gyda Bronwen Lewis 23.12.2025 36:32
Wrth gloi Season 1 o Sŵntrack, dyma’n arbennig Nadolig gyda Bronwen Lewis! Rydyn ni’n sgwrsio am gerddoriaeth, ei thraddodiadau Nadolig, a chymryd cipolwg y tu ôl i’r llen ar Y Llais. Ffordd gynnes a hwyliog o gloi’r tymor cyntaf - diolch am wrando, a Nadolig Llawen!
Pennod 6 | Dawns Rhyngol 28.11.2025 28:44
Penod arbennig o Sŵntrack wedi’i recordio yn fyw o Ddawns Rhyngol yn Aber! Diolch enfawr i UMCA ,yn enwedig Nanw, am fy helpu i wneud hyn ddigwydd ac am drefnu penwythnos mor anhygoel. Sgyrsiau cyflym, llawn hwyl gyda’r tri act oedd yn perfformio: Buddug, Maes Parcio, a’r prif sêr Bwncath. Lot o vibes da, tipyn o sŵn cefndir (c’mon, roedd pawb yn dawnsio), a digon o gariad at gerddoriaeth Gymraeg...
Pennod 5 | Ellis Lloyd Jones a Mel Owen 07.11.2025 42:19
Yn y bennod ‘ma, mae’n chaotic mewn ffordd hyfryd! Mae Ellis Lloyd Jones a Mel Owen yn ymuno i sgwrsio am bopeth o dyfu i fyny’n siarad Cymraeg, i sut maen nhw’n defnyddio’r iaith yn eu bywydau creadigol - boed hynny ar lwyfan, ar-lein neu ar y radio. Wrth gwrs, mae pethau’n mynd ar drywydd Drag Race UK Season 7, mae ambell gân wych yn cael ei argymell, a digonedd o chwerthin ar hyd y ffordd.
Pennod 4 | Calan Gaeaf | Mike Simmonds-Dickens + Cerys 24.10.2025 33:41
Mae’n bennod arbennig o’r podlediad i ddathlu Calan Gaeaf! Yn ymuno â fi mae Michael Simmons-Dickens, a berfformiodd ar Y Llais, a Cerys, sy’n creu cynnwys dysgu Cymraeg ar TikTok. Mae’r tri ohonom ni i gyd wedi dysgu Cymraeg - felly mae hon yn bennod 100% dysgwyr! Rydyn ni’n siarad am sut wnaethon ni ddechrau dysgu’r iaith, ein hoff bethau am ddiwylliant Cymraeg, ac wrth gwrs… ambell stori arswyd...
Pennod 3 | Endaf 09.10.2025 41:03
Er mai hon yw’r drydedd bennod i ddod allan, hon oedd y gyntaf i fi recordio - a gyda neb llai na Endaf! Ni’n sgwrsio am bopeth o’r Royal Welsh i’w amser ar Y Llais , a’r holl brosiectau cyffrous mae o’n gweithio arno nawr. Sgwrs reit onest, chilled ac ysbrydoledig am gerddoriaeth a bod yn artist Cymraeg heddiw. Even though this is the third episode to come out, it was actually the first one I re...
Pennod 2 | Efan o Dadleoli 26.09.2025 30:11
Yn y bennod hon, mae Joe yn eistedd i lawr gyda Efan , prif ganwr y band Cymraeg sy’n codi’n gyflym, Dadleoli . Maen nhw’n trafod dechreuadau’r band, eu haf llawn gigs gan gynnwys Maes B, a rhyddhau eu sengl ddiweddaraf Casanova . Mae Efan hefyd yn rhannu ei hoff draciau Cymraeg, ei gydweithrediadau breuddwydiol, ac yn rhoi cipolwg ar beth sydd nesaf i Dadleoli.
Pennod 1 | Iestyn Gwyn Jones + Elen Evans 19.09.2025 35:41
Croeso i bennod gyntaf Sŵntrack gyda Joe! 🎶 Gyda fi mae Elen o’r Gym Gym yn Abertawe a’r cerddor Iestyn Gwyn Jones (Ble?, Cadog). Ni’n sgwrsio am gigs, gwyliau, a cherddoriaeth Gymraeg. Welcome to the first episode of Sŵntrack with Joe! 🎶 Joining me are Elen from Swansea Uni’s Welsh Society and musician Iestyn Gwyn Jones (Ble?, Cadog). We chat about gigs, festivals, and Welsh music.👉 Gwrandewch...
Cyflwyno | Intro 11.08.2025 0:30
Croeso i Sŵntrack gyda Joe - y podlediad sy’n taflu goleuni ar gerddoriaeth Gymraeg heddiw. O’r artistiaid mwyaf i’r rhai sy’n newydd ar y sîn, bydda i’n rhannu’r traciau, y sgwrsiau a’r straeon sy’n siapio sŵn Cymru. Os ti’n siarad Cymraeg yn rhugl neu’n dysgu, dyma dy cyfle i ddysgu am y byd cerddorol Cymraeg. Welcome to Sŵntrack with Joe - the podcast that shines a light on today’s Welsh mus...
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.